Skip to main content

Cymuned Fwslimaidd yn mwynhau criced hanner nos yn ystod Ramadan

  1. Hafan
  2. Newyddion, Straeon a Digwyddiadau
  3. Newyddion, Erthyglau ac Ymgyrchoedd
  4. Cymuned Fwslimaidd yn mwynhau criced hanner nos yn ystod Ramadan

Dechreuodd hoffter Mojeid Ilyas o griced fel gêm pan oedd yn blentyn, yn chwarae pêl tâp yn y parciau lleol gyda'i frodyr am oriau di-baid. 

Mae bellach wedi defnyddio’r angerdd hwnnw a’i droi’n gynghrair Pêl Tâp Ramadan i ddod â phobl o bob rhan o’r gymuned at ei gilydd, gyda’r gobaith o wneud criced yn gêm fwy cynhwysol yng Nghymru.

Yn dilyn yr helyntion diweddar yn y byd criced yn y DU, penderfynodd Ilyas, sydd bellach yn gwasanaethu fel Swyddog Datblygu Cymunedau Amrywiol Criced Cymru, sefydlu ‘Gŵyl Griced Ramadan’, sef twrnamaint pêl tâp pedair wythnos ar gyfer y rhai sy’n ymprydio ar gyfer Ramadan.

Mae Ramadan yn ŵyl grefyddol Fwslimaidd, sy'n cynnwys ymprydio rhwng codiad haul a machlud haul am fis cyfan fel ffordd o fyfyrio a thyfu'n ysbrydol.

Mae Criced Cymru wedi bod yn cymryd camau pwysig yn y maes hwn yn ystod y blynyddoedd diwethaf.

Roedd sefydlu sesiynau am ddim yn hwyr y nos ym mis Ebrill yng Ngerddi Sophia yn caniatáu i Fwslimiaid a oedd yn cadw at Ramadan chwarae criced ar ôl torri eu hympryd.

Yr ymrwymiad yw datblygu cysylltiadau â'r gymuned leol gyfan a chymryd y camau cyntaf at feithrin ymddiriedaeth.

Yn ei dro, y gobaith yw y bydd mwy a mwy o bobl yn dechrau cymryd rhan yn y gêm yng Nghymru.

Wrth siarad am yr ŵyl newydd, dywedodd Ilyas: “Rydw i’n meddwl ei bod yn llwyddiant mawr.

“Fe gawsom ni tua 45 i 50 o bobl yn dod draw, o bob ethnigrwydd a diwylliant gwahanol. Roedd pobl sydd ddim yn dod o'r gymuned Fwslimaidd yn helpu ac yn gwirfoddoli i ni hyd yn oed.

“Pan mae pobl yn ymprydio, dydyn nhw ddim yn disgwyl triniaeth arbennig. Ond mae'n braf i bobl o'u cwmpas nhw wybod am eu sefyllfa, fe fydd yn cyfrif llawer i'r bobl yma.

“Mae llawer o’r problemau yn deillio o anwybodaeth, ddim yn ymwybodol o ddiwylliannau a chrefyddau gwahanol bobl.

“Yr ymwybyddiaeth yna o’r rhesymau y tu ôl i’r penderfyniadau yma fydd yn helpu i alluogi i griced ddod yn gêm fwy cydlynol wrth symud ymlaen.”

Mae Ilyas wedi gwirioni ar griced ers chwarae ar gaeau Grangetown yng Nghaerdydd.

Dechreuodd chwarae yng Nghlwb Criced Asiaid Cymru, sydd bellach yn cael ei alw yn Glwb Criced Llandaf, cyn mynd ymlaen i gynrychioli Siroedd Lleiaf Cymru ac MCCU Caerdydd.

Mae batiwr yn derbyn bowlen tra bod wicedwr yn aros y tu ôl i'r bonion.
Cynhaliwyd 'Gŵyl Griced Ramadan' yng Ngerddi Sophia ym mis Ebrill
Pan mae pobl yn ymprydio, dydyn nhw ddim yn disgwyl triniaeth arbennig. Ond mae'n braf i bobl o'u cwmpas nhw wybod am eu sefyllfa, fe fydd yn cyfrif llawer i'r bobl yma.
Mojeid Ilyas

Nid Gŵyl Griced Ramadan Ilyas yw’r digwyddiad cyntaf o’i fath. Mewn gwirionedd, mae prosiectau tebyg yn cael eu cynnal eisoes mewn ardaloedd fel Manceinion a Birmingham lle mae llawer o ddiddordeb mewn criced.

Mae Ilyas yn gobeithio y bydd posib efelychu’r digwyddiadau hyn yng Nghaerdydd i feithrin gwell cysylltiadau rhwng y cymunedau lleol a Chriced Cymru.

“Fe ddeilliodd hyn o drafodaethau a gawsom ni gyda’r gymuned leol. Mae'n eithaf anodd bod yn actif yn ystod y dydd wrth ymprydio, yn enwedig gyda gwaith hefyd.

“Felly, yn debyg i’r rhaglen a welwyd yn Birmingham, fe wnaethon ni benderfynu rhoi cynnig arni yma yng Nghaerdydd,” eglurodd. 

“Roedd yn braf iawn gweld bod y dyhead am y gêm yn dal i fodoli; i ddod mor hwyr yn y nos, er bod rhaid iddyn nhw weithio drannoeth.”

Hyd yma, mae’r prosiect wedi bod yn llwyddiannus ac wedi annog aelodau o’r gymuned leol i ddod at ei gilydd a dathlu rhywbeth maen nhw’n ei hoffi heb gyfyngiad.

“Mae Criced Cymru a Chriced Morgannwg wedi cymryd cam enfawr ymlaen yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf wrth wneud y gêm yn llawer mwy hygyrch i wahanol grwpiau o bobl.

“Rydych chi eisiau i bobl ddod i wylio a chwarae criced yng Nghymru a theimlo eu bod nhw’n perthyn a dathlu eu Cymreictod a'u mwynhad o griced.”

Mae Ilyas, cyn chwaraewr 2il un ar ddeg gyda Morgannwg a ddaeth drwy academi Morgannwg a Chriced Cymru ar lefel gradd oedran ochr yn ochr â chwaraewyr fel Prem Sisodiya a Kiran Carlson, bellach yn hyrwyddo cynhwysiant yn Criced Cymru ac yn ymdrechu i ddod â’r genhedlaeth nesaf o chwaraewyr Morgannwg a Chymru drwodd, beth bynnag yw eu cefndir.

“Pan mae pobl ifanc yn y gymuned yn gweld bod Prem Sisodiya a Kiran Carlson yn chwarae i Forgannwg, mae’n rhoi cymhelliant aruthrol iddyn nhw geisio gwneud yr un peth.

“Mae’r ddau chwaraewr wedi bod yn wych hefyd, yn rhoi dosbarthiadau meistr ac yn cynnig dod i helpu yn y gymuned.

“Rydych chi'n gweld y modelau rôl fel Sisodiya a Carlson a'r cynnydd yn y cymunedau yng nghanol y ddinas nawr, ac rydw i'n meddwl y byddwch chi'n gweld llawer mwy o chwaraewyr, nid yn unig o gefndiroedd De Asiaidd ond o gefndiroedd economaidd-gymdeithasol is hefyd, o bob ethnigrwydd, yn torri i mewn i’r llwybr.”

Newyddion Diweddaraf

Y clybiau chwaraeon yng Nghymru sy’n dod yn fwy amgylcheddol gyfeillgar

Mae llawer o bethau y gall clybiau chwaraeon eu gwneud i fod yn fwy amgylcheddol gyfeillgar.

Darllen Mwy

Sut mae pêl fasged cadair olwyn yn dod â'r gorau allan yn Phil Pratt

Bydd Phil Pratt yn y Gemau Paralympaidd, ond fe allai fod wedi bod yn chwarae yn Wimbledon yn lle hynny.

Darllen Mwy

80 o glybiau chwaraeon cymunedol yn cael cefnogaeth gan y Grant Arbed Ynni

Bydd pob clwb neu brosiect yn defnyddio eu grant i wneud gwelliannau ecogyfeillgar i'w heiddo.

Darllen Mwy