Main Content CTA Title

Y cynllun beicio cymunedol sy’n cael mwy o ferched ar gefn beic

  1. Hafan
  2. Newyddion, Straeon a Digwyddiadau
  3. Newyddion, Erthyglau ac Ymgyrchoedd
  4. Y cynllun beicio cymunedol sy’n cael mwy o ferched ar gefn beic

Ledled Cymru, mae merched yn darganfod hoffter at neidio ar eu beic a tharo’r ffordd gyda'i gilydd.

Mae'r cyfan diolch i Breeze Cycling – rhaglen ledled y DU sy'n cynnig beicio hwyliog, am ddim a chynhwysol i ferched o bob gallu. Wedi'i lansio yn 2011 gyda chymorth Y Loteri Genedlaethol, mae Breeze yn anelu at gau'r bwlch rhwng y rhywiau mewn beicio.

O ddieithriaid i ffrindiau ar ddwy olwyn

Harddwch Breeze yw nad oes unrhyw feiciwr yn cael ei adael ar ôl. Mae taith feicio syml wedi esblygu i gymunedau o ferched ledled Cymru a'r DU sy'n cefnogi ac yn deall ei gilydd.

Yng Nghiliau Aeron, mae Hyrwyddwr gwirfoddol Breeze, Nia Richards, wedi arwain 386 o deithiau dros y degawd diwethaf. Yn ystod y cyfnod hwnnw, mae hi wedi croesawu cymuned o feicwyr benywaidd o bob oedran a gallu, gan eu helpu i ddianc rhag eu heriau mewn bywyd.

Stori Karen: Newid gêr at iechyd

I Karen Davies (53), mae Breeze wedi ei helpu i reoli cyflyrau iechyd, gan gynnwys arthritis a gorbryder.

Ar ôl cael hysterectomi yn 2018 a sbardunodd fenopos cynnar, roedd Karen yn teimlo bod pethau'n anodd. Ers hynny, mae hi wedi brwydro yn erbyn heriau iechyd gan gynnwys cefn gwael, arthritis difrifol yn ei thraed, yn ogystal â gorbryder.

Gan nad oedd hi'n gallu rhedeg mwyach, fe brynodd feic trydan ac ymuno â theithiau beicio Breeze fel ffordd effaith isel o gadw'n heini. Ac er bod Karen wedi teimlo'n hunanymwybodol o'i phwysau erioed, dydi hi byth yn teimlo ei bod hi'n cael ei barnu gan y beicwyr eraill.

Mae beicio’r ffyrdd gyda'r merched yn lleihau ei lefelau gorbryder ac mae hi'n mwynhau’r teimlad da mae’n ei greu, ymhell ar ôl iddi roi'r beic yn ôl yn y garej.

Karen yn beicio
Rydw i'n teimlo'n bryderus am fy mhwysau yn aml, rydw i'n faint 22 ac er nad ydw i’n gallu gwisgo'r hyn mae'r merched eraill yn ei wisgo, dydw i byth yn teimlo'n rhy drwm ar y beic. Does byth unrhyw farnu, a dydw i byth yn teimlo allan o le. Drwy Breeze, rydw i wedi cwrdd â merched sy'n deall heriau iechyd fel y menopos. Heb y teithiau yma, rydw i'n llawer mwy pryderus.” Karen Davies.
Karen Davies

Stori Siara: Creu cyswllt wrth feicio 

Nid yw Siara Lloyd yn dangos unrhyw arwyddion o arafu. Mae hi'n 66 oed ac fe wnaeth hi ddarganfod hoffter at feicio tua deng mlynedd yn ôl. Ar ôl ymuno â chlwb lleol gyda'i gŵr, mae hi wedi clocio milltiroedd di-ri yn beicio ledled y DU ac ar wyliau yn Sbaen ers hynny.

Ond ar ôl ymddeol yn ddiweddar i Geinewydd a gadael ei chlwb annwyl ar ôl, roedd Siara yn awyddus i gwrdd â ffrindiau newydd ac archwilio Ceredigion. Roedd hynny chwe mis yn ôl, ac mae hi bellach yn mynd allan gyda'i 'merched Breeze' unwaith neu ddwywaith yr wythnos, gan ychwanegu cyfarfodydd beicio a chinio gyda'i chylch newydd o ffrindiau yn aml.

Siara yn beicio.
Mae ymddeol i le newydd yn gallu teimlo'n eithaf ynysig ond drwy Breeze, rydw i wedi cwrdd â phobl wych. Rydw i'n dweud wrth bawb mai dyma fy narganfyddiad gorau i yng Ngheinewydd. Rydw i'n teimlo'n rhan o'r gymuned, mae'r milltiroedd yn berffaith ac rydyn ni'n stopio am goffi a sgwrs ar y ffordd. Mae'n rhywbeth y gallaf i ei wneud ar fy mhen fy hun heb fy ngŵr. Mae'n rhoi annibyniaeth i mi” Siara Lloyd.
Siara Lloyd

Pam mae Breeze yn gweithio

Dim ond 57% o ferched yng Nghymru gymerodd ran mewn chwaraeon neu weithgarwch corfforol yn ystod y pedair wythnos diwethaf, o gymharu â 64% o ddynion (Arolwg Cenedlaethol Cymru 2022-23). ​​Mae'r bwlch hwn yn dangos pam ei bod hi'n bwysig creu mwy o gyfleoedd i ferched fod yn actif. 

A dyna'n union beth mae Breeze yn ei wneud. Mae Breeze wedi cael ei greu ar gyfer merched ac mae’n cael ei arwain gan ferched. Mae creu cyfleoedd lle gall merched fod gyda merched tebyg iddyn nhw yn golygu y gallant deimlo'n ddiogel ac yn gyfforddus yn cymryd rhan mewn chwaraeon.

Mae pob un o deithiau beicio Breeze:

  • Am ddim i gymryd rhan ynddyn nhw ac ar agor i bob menyw, dim ots beth yw eu profiad.
  • Yn ffordd hwyliog a chymdeithasol heb unrhyw bwysau o gymryd rhan mewn chwaraeon.
  • Dan arweiniad gwirfoddolwyr benywaidd cymwys sy'n deall heriau dyddiol merched
  • Mwy na chwaraeon – lle diogel i ferched wneud ffrindiau, meithrin hyder a chymdeithasu

Meddai Ffion Morgan, Rheolwr Datblygu, Beicio Cymru: “Mae llwyddiant rhaglen Breeze yn cael ei yrru gan ei gwirfoddolwyr anhygoel ledled y wlad - merched sy'n angerddol am helpu eraill i feicio ac sy'n deall yn iawn yr heriau maen nhw’n eu hwynebu. 

Menywod yn beicio i lawr ffordd wledig.
Wrth galon Breeze mae cymuned a chysylltiad - dwy elfen bwerus sy'n gwneud i ferched ddod yn ôl wythnos ar ôl wythnos.
Ffion Morgan, Beicio Cymru

“Mae'r rhaglen yn hyblyg iawn, wedi'i llunio o amgylch anghenion y gwirfoddolwyr a’r cyfranogwyr. Mae pob grŵp ychydig yn wahanol, boed yn deithiau oddi ar y ffordd neu ar y ffordd, pellteroedd hir neu fyr, sesiynau yn ystod y dydd neu gyda'r nos, mae Breeze yn cynnig yr hyblygrwydd y mae merched yn ei werthfawrogi fwyaf.

“Gallai chwaraeon eraill gael eu hysbrydoli gan y model yma, gan ddefnyddio ei gynhwysion craidd o gymuned, cysylltiad, hyblygrwydd, cefnogaeth ac ysbrydoliaeth i ddylunio mentrau tebyg,” . 

Beth all eich clwb neu eich sefydliad chi ei wneud?

Os ydych chi eisiau cael mwy o ferched i gymryd rhan mewn chwaraeon, gallwch greu sesiynau, yn union fel Breeze, sydd wedi'u creu’n arbennig ar eu cyfer nhw.

Fe allwch chi wneud y canlynol:

  • Gofyn i ferched beth maen nhw ei eisiau
  • Hyfforddi gwirfoddolwyr benywaidd
  • Siarad â chlybiau neu sefydliadau eraill, fel Beicio Cymru, sy'n cynnal rhaglenni llwyddiannus i ferched

Gyda'n gilydd, fe allwn ni greu mwy o gyfleoedd mewn chwaraeon i ferched.

Newyddion Diweddaraf

Cadw pawb yn y gêm yn ddiogel: Y tu mewn i ymdrechion diogelu’r byd chwaraeon yng Nghymru

Rydyn ni’n rhannu pum enghraifft o arfer da sy'n dangos sut mae sefydliadau ledled Cymru yn rhoi diogelwch…

Darllen Mwy

Prosiect Casnewydd Fyw yn rhoi'r hyder i ferched fod yn actif

Girls Takeover yn brosiect sy'n annog merched i symud, rhoi cynnig ar bethau newydd a theimlo'n dda.

Darllen Mwy

O ymyl y dibyn i ddatblygiad – y clwb tennis sy’n gwasanaethu adfywiad cymunedol

Y mis yma, bydd Gogledd Cymru’n dyst i dennis o'r radd flaenaf am y tro cyntaf wrth i Daith Tennis y…

Darllen Mwy