Skip to main content

Arolwg Cenedlaethol Cymru 2022-23

Mae Arolwg Cenedlaethol Cymru (ACC) yn arolwg cenedlaethol gynrychioliadol o aelwydydd sydd wedi'i dargedu at oedolion (16 oed a hŷn).

Mae ACC yn cynnwys tua 12,000 o bobl bob blwyddyn ac yn ymdrin ag ystod eang o bynciau. Mae'n weithrdol drwy'r flwyddyn, ledled Cymru gyfan. Defnyddir y canlyniadau gan Lywodraeth Cymru i helpu i wneud Cymru yn lle gwell i fyw ynddo. Ers 2019-20 mae’r arolwg wedi cael ei weinyddu fel arolwg dros y ffôn. Er bod hynny’n sicrhau parhad a chanlyniadau ystadegol gywir, mae angen gofal wrth gymharu canlyniadau 2019-20 gyda 2021-22 oherwydd y newid anochel hwn mewn methodoleg a chynllun y cwestiynau.

Mae Arolwg Cenedlaethol Cymru yn cynnwys adran ar Chwaraeon a Ffyrdd Actif o Fyw.

I gael rhagor o wybodaeth am y fethodoleg, edrychwch ar y Cyflwyniad

Prif Ganfyddiadau:

Cyfranogiad:

  • Cymerodd 60% o oedolion yng Nghymru ran mewn chwaraeon a gweithgarwch corfforol (o leiaf unwaith yn ystod y pedair wythnos ddiwethaf).
  • Roedd 39% o oedolion yng Nghymru yn cymryd rhan mewn chwaraeon a gweithgarwch corfforol deirgwaith neu fwy yr wythnos (Dangosydd Cenedlaethau'r Dyfodol Rhif 38).
  • Dywedodd mwy o oedolion eu bod yn cymryd rhan mewn ‘Gweithgareddau Ffitrwydd’ (56%), o gymharu â ‘Chwaraeon a Gemau’ (16%) a Gweithgareddau Awyr Agored (6%). (Sylwer – gallai oedolion adrodd eu bod yn cymryd rhan mewn gweithgareddau niferus).
  • Roedd oedolion yn fwyaf tebygol o gymryd rhan mewn ‘Gweithgareddau Ffitrwydd’ yn wythnosol; roedd 52% o oedolion yn cymryd rhan yn y math hwn o weithgaredd unwaith yr wythnos o leiaf, tra bo 11% o oedolion yn cymryd rhan mewn ‘Chwaraeon a Gemau’, a 2% o oedolion yn cymryd rhan mewn ‘Gweithgareddau Awyr Agored’ unwaith yr wythnos o leiaf.
  • Roedd oedolion yn fwyaf tebygol o gymryd rhan mewn 'Gweithgareddau Ffitrwydd' sawl gwaith yr wythnos; roedd 36% o oedolion a gymerodd ran yn y math hwn o weithgaredd yn cymryd rhan deirgwaith neu fwy yr wythnos. O gymharu, cymerodd 3% o'r rhai a gymerodd ran mewn 'Chwaraeon a Gemau', ac 1% o'r rhai a gymerodd ran mewn 'Gweithgareddau Awyr Agored', ran yn y mathau hyn o weithgareddau deirgwaith neu fwy yr wythnos.

Galw:

  • Yn gyffredinol, dywedodd 27% o'r holl oedolion eu bod eisiau cymryd rhan mewn mwy o chwaraeon a / neu weithgarwch corfforol.
  • Roedd mwy o alw am ‘Weithgareddau Ffitrwydd’ na ‘Chwaraeon a Gemau’ a ‘Gweithgareddau Awyr Agored’; dywedodd 16% o oedolion eu bod eisiau gwneud mwy o ‘Weithgareddau Ffitrwydd’, o gymharu â 10% o oedolion a adroddodd am alw am ‘Chwaraeon a Gemau’, a 5% am Weithgareddau Awyr Agored. (Sylwer – gallai oedolion adrodd am alw am weithgareddau niferus).
  • O blith y rhai sydd â galw am fwy o chwaraeon a / neu weithgarwch corfforol, mae 49% eisoes yn cymryd rhan deirgwaith neu fwy yr wythnos.
  • Dywedodd 18% o oedolion nad ydynt eisoes yn cymryd rhan mewn chwaraeon neu weithgarwch corfforol yr hoffent gymryd rhan mewn o leiaf un gamp neu weithgaredd corfforol. Mae hyn yn cynrychioli 183,000 o bobl, ac yn cyfateb i 7% o gyfanswm y boblogaeth o oedolion yng Nghymru.
39% o bobl yn dweud eu bod yn cymryd rhan mewn gweithgareddau chwaraeon deirgwaith neu fwy yr wythnos.
Logo Gweledigaeth ar gyfer Chwaraeon

Cynnwys: Y Weledigaeth ar gyfer Chwaraeon yng Nghymru

Mae'r adroddiad hwn wedi'i strwythuro o amgylch y Weledigaeth ar gyfer Chwaraeon yng Nghymru. Y Weledigaeth yw’r llwyfan ar gyfer ymgysylltu traws-sector mewn chwaraeon a gweithgarwch corfforol, ac mae’n ceisio trawsnewid Cymru yn genedl actif, lle gall pawb fwynhau chwaraeon a gweithgarwch corfforol am oes.

Cafodd y weledigaeth ei llunio ar y cyd ag ystod eang o randdeiliaid ac mae’n cynrychioli llais pobl Cymru. Bydd ymdrech gydweithredol i weithio tuag at y Weledigaeth yn cyflawni’r canlynol:

  • Gwella iechyd a lles y boblogaeth
  • Rhoi'r sgiliau i bobl Cymru gyrraedd eu potensial
  • Cefnogi cymunedau i ffynnu
  • Creu cyfleoedd i bawb ymuno
  • Hyrwyddo Cymru i'r byd drwy ein hagwedd at chwaraeon