Skip to main content

4. Gydal Oes

Mae'r weledigaeth am oes. Mae'n ymateb i anghenion pobl mewn gwahanol gyfnodau yn eu bywyd.

Mae’r adran hon yn edrych ar gyfranogiad mewn chwaraeon a gweithgarwch corfforol yn ôl oedran, ynghyd â ffactorau bywyd ychwanegol a all effeithio ar wahanol bobl yn ystod gwahanol gyfnodau o’u bywyd.

4.1  Oedran

Graff 3: Cyfranogiad mewn o leiaf un Gamp neu Weithgaredd Corfforol yn ystod y Pedair Wythnos Flaenorol, yn ôl Grwpiau Oedran.

Graff gyda phedwar ar ddeg bar fertigol wedi'u rhannu'n saith categori.  Mae'r categorïau’n cynrychioli grwpiau oedran. Y categorïau yw 16 i 24, 25 i 34, 35 i 44, 45 i 54, 55 i 64, 65 i 74, 75 a hŷn.  O fewn pob categori, mae dau far. Mae un bar yn cynrychioli data o flwyddyn arolygu flaenorol 2021-2022, ac mae'r ail far yn cynrychioli data o'r flwyddyn arolygu gyfredol, 2022-2023.  Ar gyfer y categori 16 i 24 oed, mae’r bar cyntaf yn cynrychioli data o 2021-22, sy’n dangos bod 73 y cant o oedolion yn y grŵp oedran hwn wedi cymryd rhan mewn chwaraeon unwaith o leiaf yn ystod y pedair wythnos flaenorol.  Mae’r ail far yn y categori hwn yn cynrychioli data o 2022-23, sy’n dangos bod 82 y cant o oedolion yn y grŵp oedran hwn wedi cymryd rhan mewn chwaraeon unwaith o leiaf yn ystod y pedair wythnos flaenorol. Y grŵp oedran hwn sydd â’r gyfran uchaf o oedolion a gymerodd ran yn ystod y pedair wythnos ddiwethaf yn 2022-23.  Ar gyfer y categori 25 i 34 oed, mae’r bar cyntaf yn cynrychioli data o 2021-22, sy’n dangos bod 70 y cant o oedolion yn y grŵp oedran hwn wedi cymryd rhan mewn chwaraeon unwaith o leiaf yn ystod y pedair wythnos flaenorol.  Mae’r ail far yn y categori hwn yn cynrychioli data o 2022-23, sy’n dangos bod 73 y cant o oedolion yn y grŵp oedran hwn wedi cymryd rhan mewn chwaraeon unwaith o leiaf yn ystod y pedair wythnos flaenorol.  Ar gyfer y categori 35 i 44 oed, mae’r bar cyntaf yn cynrychioli data o 2021-22, sy’n dangos bod 69 y cant o oedolion yn y grŵp oedran hwn wedi cymryd rhan mewn chwaraeon unwaith o leiaf yn ystod y pedair wythnos flaenorol.  Mae’r ail far yn y categori hwn yn cynrychioli data o 2022-23, sy’n dangos bod 70 y cant o oedolion yn y grŵp oedran hwn wedi cymryd rhan mewn chwaraeon unwaith o leiaf yn ystod y pedair wythnos flaenorol.  Ar gyfer y categori 45 i 54 oed, mae’r bar cyntaf yn cynrychioli data o 2021-22, sy’n dangos bod 63 y cant o oedolion yn y grŵp oedran hwn wedi cymryd rhan mewn chwaraeon unwaith o leiaf yn ystod y pedair wythnos flaenorol.  Mae’r ail far yn y categori hwn yn cynrychioli data o 2022-23, sy’n dangos bod 67 y cant o oedolion yn y grŵp oedran hwn wedi cymryd rhan mewn chwaraeon unwaith o leiaf yn ystod y pedair wythnos flaenorol.  Ar gyfer y categori 55 i 64 oed, mae’r bar cyntaf yn cynrychioli data o 2021-22, sy’n dangos bod 53 y cant o oedolion yn y grŵp oedran hwn wedi cymryd rhan mewn chwaraeon unwaith o leiaf yn ystod y pedair wythnos flaenorol.  Mae’r ail far yn y categori hwn yn cynrychioli data o 2022-23, sy’n dangos bod 56 y cant o oedolion yn y grŵp oedran hwn wedi cymryd rhan mewn chwaraeon unwaith o leiaf yn ystod y pedair wythnos flaenorol.  Ar gyfer y categori 65 i 74 oed, mae’r bar cyntaf yn cynrychioli data o 2021-22, sy’n dangos bod 40 y cant o oedolion yn y grŵp oedran hwn wedi cymryd rhan mewn chwaraeon unwaith o leiaf yn ystod y pedair wythnos flaenorol.  Mae’r ail far yn y categori hwn yn cynrychioli data o 2022-23, sy’n dangos bod 47 y cant o oedolion yn y grŵp oedran hwn wedi cymryd rhan mewn chwaraeon unwaith o leiaf yn ystod y pedair wythnos flaenorol.  Ar gyfer y categori 75 oed a hŷn, mae’r bar cyntaf yn cynrychioli data o 2021-22, sy’n dangos bod 17 y cant o oedolion yn y grŵp oedran hwn wedi cymryd rhan mewn chwaraeon unwaith o leiaf yn ystod y pedair wythnos flaenorol.  Mae’r ail far yn y categori hwn yn cynrychioli data o 2022-23, sy’n dangos bod 23 y cant o oedolion yn y grŵp oedran hwn wedi cymryd rhan mewn chwaraeon unwaith o leiaf yn ystod y pedair wythnos flaenorol.  Yn olaf, mae llinell lorweddol yn dangos y cyfartaledd cenedlaethol ar 60 y cant.

Mae Graff 3 yn dangos cyfran yr oedolion ym mhob grŵp oedran a gymerodd ran mewn o leiaf un gamp neu weithgaredd corfforol yn ystod y pedair wythnos flaenorol yn 2021-22 a 2022-23. Dangosir y cyfartaledd cenedlaethol ar gyfer 2022-23 hefyd.

Yn 2022-23, mae cyfran yr oedolion a gymerodd ran mewn chwaraeon a / neu weithgarwch corfforol unwaith yn ystod y pedair wythnos flaenorol o leiaf yn gostwng wrth i grŵp oedran yr ymatebwyr gynyddu.

Cymerodd cyfran uwch o oedolion yn y grwpiau oedran 16 i 24 oed, 25 i 34 oed, 35 i 44 oed, a 45 i 54 oed ran unwaith o leiaf yn ystod y pedair wythnos flaenorol o gymharu â’r cyfartaledd cenedlaethol (60%), ac â grwpiau oedran hŷn.

I’r gwrthwyneb, cymerodd cyfran is o oedolion ran unwaith o leiaf yn ystod y pedair wythnos flaenorol ymhlith y rhai 55 i 64 oed, 65 i 74 oed, a 75+ oed o gymharu â’r cyfartaledd cenedlaethol (60%), ac â grwpiau oedran iau.

O gymharu â 2021-22, cynyddodd cyfran y bobl ifanc 16 i 24 oed a gymerodd ran unwaith o leiaf yn ystod y pedair wythnos ddiwethaf 9 pwynt canran, gan gynrychioli 29,000 o oedolion ychwanegol yn y grŵp oedran hwn a gymerodd ran. Ymhellach, cynyddodd cyfran yr oedolion 65 oed a hŷn a gymerodd ran unwaith o leiaf yn ystod y pedair wythnos ddiwethaf 6 phwynt canran, gan gynrychioli 43,000 o oedolion ychwanegol yn y grŵp oedran hwn a gymerodd ran. Fodd bynnag, arhosodd cyfran y

rhai a gymerodd ran yn y grwpiau oedran 25 i 34 oed, 35 i 44 oed, 45 i 54 oed, a 55 i 64 oed yn debyg i’r ffigurau a adroddwyd yn 2021-22.

 

Graff 4: Cyfranogiad mewn Chwaraeon a / neu Weithgarwch Corfforol Deirgwaith neu Fwy yr Wythnos, yn ôl Grwpiau Oedran.

Graff gyda phedwar ar ddeg bar fertigol wedi'u rhannu'n saith categori.  Mae'r categorïau’n cynrychioli grwpiau oedran. Y categorïau yw 16 i 24, 25 i 34, 35 i 44, 45 i 54, 55 i 64, 65 i 74, 75 a hŷn.  O fewn pob categori, mae dau far. Mae un bar yn cynrychioli data o’r flwyddyn arolygu flaenorol, 2021-2022, ac mae'r ail far yn cynrychioli data o'r flwyddyn arolygu gyfredol, 2022-2023.  Ar gyfer y categori 16 i 24 oed, mae’r bar cyntaf yn cynrychioli data o 2021-22, sy’n dangos bod 42 y cant o oedolion yn y grŵp oedran hwn wedi cymryd rhan mewn chwaraeon deirgwaith neu fwy yr wythnos.  Mae’r ail far yn y categori hwn yn cynrychioli data o 2022-23, sy’n dangos bod 57 y cant o oedolion yn y grŵp oedran hwn wedi cymryd rhan mewn chwaraeon deirgwaith neu fwy yr wythnos. Y grŵp oedran hwn sydd â’r gyfran uchaf o oedolion a gymerodd ran deirgwaith neu fwy yr wythnos yn 2022-23.  Ar gyfer y categori 25 i 34 oed, mae’r bar cyntaf yn cynrychioli data o 2021-22, sy’n dangos bod 42 y cant o oedolion yn y grŵp oedran hwn wedi cymryd rhan mewn chwaraeon deirgwaith neu fwy yr wythnos.  Mae’r ail far yn y categori hwn yn cynrychioli data o 2022-23, sy’n dangos bod 48 y cant o oedolion yn y grŵp oedran hwn wedi cymryd rhan mewn chwaraeon deirgwaith neu fwy yr wythnos.  Ar gyfer y categori 35 i 44 oed, mae’r bar cyntaf yn cynrychioli data o 2021-22, sy’n dangos bod 42 y cant o oedolion yn y grŵp oedran hwn wedi cymryd rhan mewn chwaraeon deirgwaith neu fwy yr wythnos.  Mae’r ail far yn y categori hwn yn cynrychioli data o 2022-23, sy’n dangos bod 45 y cant o oedolion yn y grŵp oedran hwn wedi cymryd rhan mewn chwaraeon deirgwaith neu fwy yr wythnos.  Ar gyfer y categori 45 i 54 oed, mae’r bar cyntaf yn cynrychioli data o 2021-22, sy’n dangos bod 38 y cant o oedolion yn y grŵp oedran hwn wedi cymryd rhan mewn chwaraeon deirgwaith neu fwy yr wythnos.  Mae’r ail far yn y categori hwn yn cynrychioli data o 2022-23, sy’n dangos bod 42 y cant o oedolion yn y grŵp oedran hwn wedi cymryd rhan mewn chwaraeon deirgwaith neu fwy yr wythnos.  Ar gyfer y categori 55 i 64 oed, mae’r bar cyntaf yn cynrychioli data o 2021-22, sy’n dangos bod 32 y cant o oedolion yn y grŵp oedran hwn wedi cymryd rhan mewn chwaraeon deirgwaith neu fwy yr wythnos.  Mae’r ail far yn y categori hwn yn cynrychioli data o 2022-23, sy’n dangos bod 36 y cant o oedolion yn y grŵp oedran hwn wedi cymryd rhan mewn chwaraeon deirgwaith neu fwy yr wythnos.  Ar gyfer y categori 65 i 74 oed, mae’r bar cyntaf yn cynrychioli data o 2021-22, sy’n dangos bod 24 y cant o oedolion yn y grŵp oedran hwn wedi cymryd rhan mewn chwaraeon deirgwaith neu fwy yr wythnos.  Mae’r ail far yn y categori hwn yn cynrychioli data o 2022-23, sy’n dangos bod 29 y cant o oedolion yn y grŵp oedran hwn wedi cymryd rhan mewn chwaraeon deirgwaith neu fwy yr wythnos.  Ar gyfer y categori 75 oed a hŷn, mae’r bar cyntaf yn cynrychioli data o 2021-22, sy’n dangos bod 9 y cant o oedolion yn y grŵp oedran hwn wedi cymryd rhan mewn chwaraeon deirgwaith neu fwy yr wythnos.  Mae’r ail far yn y categori hwn yn cynrychioli data o 2022-23, sy’n dangos bod 13 y cant o oedolion yn y grŵp oedran hwn wedi cymryd rhan mewn chwaraeon deirgwaith neu fwy yr wythnos.  Yn olaf, mae llinell lorweddol yn dangos y cyfartaledd cenedlaethol ar 39 y cant.

Mae Graff 4 yn edrych ar y gwahaniaethau mewn grwpiau oedran yn ôl amledd y cyfranogiad.

Fel uchod, gostyngodd cyfran yr oedolion a gymerodd ran mewn chwaraeon a/neu weithgarwch corfforol deirgwaith neu fwy yr wythnos wrth i oedran yr ymatebwyr gynyddu.

Cymerodd cyfran uwch o oedolion 16 i 24 oed, 25 i 34 oed, 35 i 44 oed, a 45 i 54 oed ran deirgwaith neu fwy yr wythnos o gymharu â’r cyfartaledd cenedlaethol (39%), ac â grwpiau oedran hŷn.

I’r gwrthwyneb, roedd cyfran is o oedolion yn cymryd rhan deirgwaith neu fwy yr wythnos ymhlith y rhai 55 i 64 oed, 65 i 74 oed, a 75+ oed o gymharu â’r cyfartaledd cenedlaethol (39%), ac â grwpiau oedran iau.

O gymharu â’r ffigurau a adroddwyd yn 2021-22, cynyddodd cyfran y bobl ifanc 16 i 24 oed a gymerodd ran deirgwaith neu fwy yr wythnos 15 pwynt canran, gan gynrychioli 47,000 o oedolion ychwanegol yn y grŵp oedran hwn a gymerodd ran mor aml. Ymhellach, cynyddodd cyfran yr oedolion 65 oed a hŷn sy’n cymryd rhan mewn chwaraeon a / neu weithgarwch corfforol deirgwaith neu fwy yr wythnos 4 pwynt canran, gan gynrychioli 29,000 o oedolion ychwanegol yn y grŵp oedran hwn a gymerodd ran mor aml â hyn.

O gymryd y ffigurau a gyflwynir yng Ngraff 3 a Graff 4 gyda’i gilydd, mae’r canfyddiadau’n awgrymu nid yn unig bod mwy o oedolion 16 i 24 oed yn cymryd rhan yn gyffredinol o gymharu â 2021-22, ond bod amledd y cymryd rhan hefyd wedi gwella o fewn y grŵp oedran hwn. Gellir dangos hyn gan y ffaith, er bod 29,000 yn fwy o oedolion 16 i 24 oed yn cymryd rhan o leiaf unwaith yn ystod y pedair wythnos ddiwethaf, bu tuedd lawer fwy o 47,000 o bobl ifanc 16 i 24 oed yn cymryd rhan deirgwaith neu fwy yr wythnos.

Fodd bynnag, mae'r gwrthwyneb yn wir am oedolion 65 oed a hŷn; er bod 43,000 yn fwy o oedolion 65+ oed yn cymryd rhan unwaith o leiaf yn ystod y pedair wythnos ddiwethaf, dim ond 29,000 yn fwy o oedolion sy'n cymryd rhan deirgwaith neu fwy yr wythnos.

Yn gyffredinol, mae hyn yn awgrymu bod oedolion 65 oed a hŷn yn fwy tebygol o fod wedi dechrau neu ailddechrau camp neu weithgaredd newydd, a’r rhai 16 i 24 oed i’w gweld yn cynyddu’r nifer maent yn cymryd rhan ynddynt.

4.2  lechyd a Lles a Hunanadroddir

Mae’r tabl canlynol yn dangos sut mae cyfran yr oedolion a gymerodd ran deirgwaith neu fwy yr wythnos yn amrywio yn ôl iechyd cyffredinol, unigrwydd, boddhad â bywyd, hapusrwydd, a lefelau gorbryder.

Tabl 7: Nifer a chanran yr oedolion a gymerodd ran mewn chwaraeon / gweithgarwch corfforol deirgwaith neu fwy yr wythnos, yn ôl ymatebion i gwestiynau iechyd a lles.

 

Iechyd CyffredinolCanran o oedolionNifer yr oedolion
Da iawn neu dda46%811,000
Gweddol25%145,000
Gwael neu wael iawn14%30,000
Unigrwydd  
Ddim yn unig42%408,000
Unig weithiau40%477,000
Unig30%93,000
Boddhad gyda bywyd  
Mawr iawn42%313,000
Mawr41%521,000
Canolig32%117,000
Isel22%27,000
Hapusrwydd Cyffredinol  
Mawr iawn41%378,000
Mawr40%394,000
Canolig37%139,000
Isel32%66,000
Gorbryder Cyffredinol  
Isel iawn39%407,000
Isel44%220,000
Canolig38%148,000
Mawr37%203,000
Graddfa gyffredinol y teimlad bod y pethau a wneir mewn bywyd yn werth chweil  
Mawr iawn42%377,000
Mawr41%477,000
Canolig34%102,000
Isel20%20,000
Cyfanswm Cymru 1539%986,000

 

Mae Tabl 7 yn dangos sut ymatebodd oedolion a gymerodd ran mewn chwaraeon a gweithgarwch corfforol deirgwaith neu fwy yr wythnos i gwestiynau iechyd a lles a hunanadroddir.

Roedd y rhai a ddywedodd bod eu hiechyd cyffredinol yn ‘Da Iawn neu dda’ yn fwy tebygol o gymryd rhan deirgwaith neu fwy yr wythnos na’r rhai a nododd bod eu hiechyd yn ‘Gweddol’ neu ‘Gwael neu wael iawn’. I’r gwrthwyneb, roedd 86% (177,000) o oedolion ag iechyd ‘Gwael neu wael iawn’ yn cymryd rhan mewn chwaraeon a / neu weithgarwch corfforol lai na thair gwaith yr wythnos.

Yn yr un modd, roedd y rhai a ddywedodd eu bod yn cael boddhad cyffredinol ‘Mawr iawn’ neu ‘Mawr’ â bywyd, ochr yn ochr â’r rhai a nododd hapusrwydd cyffredinol ‘Mawr iawn’ neu ‘Mawr’, yn fwy tebygol o gymryd rhan deirgwaith neu fwy yr wythnos o gymharu â’r rhai a ddywedodd Boddhad bywyd a hapusrwydd cyffredinol 'Canolig' neu 'Isel'. Yn eu tro, roedd 68% (142,000) o oedolion a nododd hapusrwydd ‘Isel’, a 78% (97,000) o oedolion a ddywedodd bod eu boddhad mewn bywyd yn ‘Isel’, yn cymryd rhan mewn chwaraeon a / neu weithgarwch corfforol lai na theirgwaith yr wythnos.

Ymhellach, roedd y rhai a ddywedodd eu bod yn ‘Unig’ yn llai tebygol o adrodd eu bod yn cymryd rhan deirgwaith neu fwy yr wythnos o gymharu â’r rhai a ddywedodd eu bod yn ‘Unig weithiau’ neu ‘Ddim yn unig’. Yn eu tro, roedd 70% (220,000) o oedolion a ddywedodd eu bod yn ‘Unig’ yn cymryd rhan mewn chwaraeon a / neu weithgarwch corfforol lai na theirgwaith yr wythnos.

Roedd cyfran yr oedolion a gymerodd ran deirgwaith neu fwy yr wythnos yn debyg ar draws y gwahanol lefelau o orbryder a hunanadroddwyd.

4.3 Cyflogaeth a Chymwysterau

Mae'r adran hon yn edrych ar yr amrywiad yng nghyfran yr oedolion a gymerodd ran deirgwaith neu fwy yr wythnos yn ôl statws cyflogaeth presennol ac yn ôl y cymhwyster uchaf yr oedd y person hwnnw wedi'i ennill yn ystod ei oes.

Tabl 8: Nifer a chanran yr oedolion a gymerodd ran mewn chwaraeon / gweithgarwch corfforol deirgwaith neu fwy yr wythnos, yn ôl Statws Cyflogaeth ac Addysg

Cyflogaeth 16Canran o oedolionNifer yr oedolion
Mewn cyflogaeth47%669,000
Di-waith45%22,000
Economaidd anweithgar28%294,000
Cymhwyster Uchaf a Sicrhawyd  
Lefel Gradd48%393,000
HNC, HND, BTEC Uwch, neu gyfatebol43%150,000
Safon Uwch neu Uwch Gyfrannol neu gyfatebol49%152,000
Prentisiaeth31%25,000
Graddau Lefel O / TGAU A i C, neu gyfatebol36%134,000
Graddau Lefel O / TGAU D i G, neu gyfatebol25%25,000
Cymwysterau eraill29%60,000
Dim cymwysterau16%45,000
Cyfanswm Cymru 1739%986,000

Mae Tabl 8 yn dangos sut adroddodd oedolion a gymerodd ran mewn chwaraeon a gweithgarwch corfforol deirgwaith neu fwy yr wythnos ar eu cyflogaeth a’u cymhwyster addysg uchaf.

Roedd y rhai mewn cyflogaeth a phobl ddi-waith yn fwy tebygol o adrodd eu bod yn cymryd rhan mewn chwaraeon a / neu weithgarwch corfforol deirgwaith neu fwy yr wythnos o gymharu â’r rhai a ddywedodd eu bod yn economaidd anweithgar.

Roedd y rhai a adroddodd eu bod wedi ennill Gradd, Safon Uwch / Uwch Gyfrannol, neu HNC / HND / BTEC Uwch (neu gyfatebol) yn fwy tebygol o adrodd eu bod yn cymryd rhan deirgwaith neu fwy yr wythnos o gymharu â’r rhai yr oedd eu cyrhaeddiad uchaf yn Brentisiaeth, TGAU / Lefel O neu Arall. Y rhai nad oedd ganddynt unrhyw gymwysterau oedd leiaf tebygol o gymryd rhan deirgwaith neu fwy yr wythnos.

16 Mae enghreifftiau o bobl Economaidd Anweithgar yn cynnwys pobl sydd wedi ymddeol, myfyrwyr llawn amser neu bobl sy'n cael eu hatal rhag gweithio oherwydd salwch hirdymor neu anabledd, ac mae di-waith yn cynrychioli'r rhai sy'n chwilio am waith.

 

4.4  Fforddiadwyedd Bwyd, Sefyllfa Byw, a Mynediad i Gerbydau.

Mae’r adran hon yn edrych ar sut mae cyfran y bobl sy’n cymryd rhan deirgwaith neu fwy yr wythnos yn amrywio yn ôl defnydd bwyd, deiliadaeth tai a pherchnogaeth cerbydau.

Graff 5: Canran yr oedolion a gymerodd ran mewn chwaraeon deirgwaith neu fwy yr wythnos, yn ôl fforddiadwyedd bwyd.

Graff gydag 8 bar llorweddol, wedi'i rannu'n 4 categori.  Mae'r categorïau’n cynrychioli fforddiadwyedd bwyd. Y categorïau yw Wedi defnyddio banc bwyd yn ystod y 12 mis diwethaf, wedi cael prydau bwyd llai neu wedi hepgor prydau bwyd, unrhyw ddiwrnod yn ystod y pythefnos diwethaf pan na chafwyd unrhyw brydau bwyd sylweddol, ac wedi cael pryd bwyd gyda chig neu opsiwn llysieuol cyfatebol bob yn ail ddiwrnod o leiaf.  O fewn pob categori, mae dau far. Mae un bar yn cynrychioli data o flwyddyn arolygu flaenorol, 2021-2022, ac mae'r ail far yn cynrychioli data o'r flwyddyn arolygu gyfredol, 2022-2023.  Ar gyfer y categori wedi defnyddio banc bwyd yn ystod y 12 mis diwethaf, mae'r bar cyntaf yn cynrychioli data o 2021-22, ac mae'n dangos bod 28 y cant o oedolion a ddefnyddiodd fanc bwyd hefyd wedi cymryd rhan mewn chwaraeon deirgwaith neu fwy yr wythnos. Mae'r ail far yn cynrychioli data o 2022-23, ac yn dangos bod 24 y cant o oedolion a ddefnyddiodd fanc bwyd yn ystod y 12 mis diwethaf wedi cymryd rhan mewn chwaraeon deirgwaith neu fwy yr wythnos.  Ar gyfer y categori wedi cael prydau bwyd llai neu wedi hepgor prydau bwyd, mae'r bar cyntaf yn cynrychioli data o 2021-22, ac mae'n dangos bod 30 y cant o oedolion a gafodd brydau bwyd llai neu a oedd wedi hepgor prydau bwyd hefyd yn cymryd rhan mewn chwaraeon deirgwaith neu fwy yr wythnos. Mae'r ail far yn cynrychioli data o 2022-23, ac mae'n dangos bod 34 y cant o oedolion a gafodd brydau bwyd llai neu a oedd wedi hepgor prydau bwyd hefyd wedi cymryd rhan mewn chwaraeon deirgwaith neu fwy yr wythnos.  Ar gyfer y categori unrhyw ddiwrnod yn ystod y pythefnos diwethaf pan na chafwyd unrhyw brydau bwyd sylweddol, mae’r bar cyntaf yn cynrychioli data o 2021-22, ac mae’n dangos bod 25 y cant o oedolion na chafodd unrhyw bryd bwyd sylweddol hefyd wedi cymryd rhan mewn chwaraeon deirgwaith neu fwy yr wythnos. Mae’r ail far yn cynrychioli data o 2022-23, ac yn dangos bod 33 y cant o oedolion na chafodd unrhyw bryd bwyd sylweddol hefyd wedi cymryd rhan mewn chwaraeon deirgwaith neu fwy yr wythnos.  Ar gyfer y categori wedi cael pryd bwyd gyda chig neu opsiwn llysieuol cyfatebol bob yn ail ddiwrnod o leiaf, mae'r bar cyntaf yn cynrychioli data o 2021-22, ac mae'n dangos bod 34 y cant o oedolion a oedd wedi cael prydau bwyd cig neu lysieuol rheolaidd hefyd wedi cymryd rhan mewn chwaraeon deirgwaith neu fwy yr wythnos. Mae'r ail far yn cynrychioli data o 2022-23, ac mae'n dangos bod 39 y cant o oedolion oedd wedi cael prydau bwyd cig neu lysieuol rheolaidd hefyd wedi cymryd rhan mewn chwaraeon deirgwaith neu fwy yr wythnos.

Mae Graff 5 yn cyflwyno cyfran yr oedolion a gymerodd ran mewn chwaraeon / gweithgarwch corfforol deirgwaith neu fwy yr wythnos yn ôl cwestiynau fforddiadwyedd bwyd.

Roedd y rhai a brofodd un diwrnod neu fwy yn ystod y pythefnos diwethaf heb unrhyw brydau bwyd sylweddol neu a oedd wedi cael prydau bwyd llai neu wedi hepgor prydau bwyd yn llai tebygol o gymryd rhan mewn chwaraeon / gweithgarwch corfforol deirgwaith neu fwy yr wythnos, o gymharu â'r rhai a oedd wedi cael pryd o fwyd gyda chig neu opsiwn llysieuol cyfatebol bob yn ail ddiwrnod o leiaf.

I’r gwrthwyneb, roedd y rhai a oedd wedi defnyddio banc bwyd yn ystod y 12 mis diwethaf yn llai tebygol o gymryd rhan mewn gweithgareddau cysylltiedig â chwaraeon deirgwaith neu fwy yr wythnos.

Mae cyfran yr oedolion a gafodd bryd o fwyd gyda chig neu opsiwn llysieuol cyfatebol bob yn ail ddiwrnod o leiaf ac a gymerodd ran deirgwaith neu fwy yr wythnos wedi cynyddu ers y ffigurau a adroddwyd yn 2021-22, gyda 131,000 o oedolion ychwanegol yn cymryd rhan mor aml â hyn. 

 

Graff 6: Canran yr oedolion a gymerodd ran mewn chwaraeon deirgwaith neu fwyyr wythnos, yn ôl Sefyllfa Byw.

Graff gyda 6 bar llorweddol, wedi'i rannu'n 3 chategori.  Mae'r categorïau’n cynrychioli sefyllfa byw. Y categorïau yw Rhentu Preifat, Tai Cymdeithasol, a Pherchnogion Preswyl.  O fewn pob categori, mae dau far. Mae un bar yn cynrychioli data o flwyddyn arolygu flaenorol, 2021-2022, ac mae'r ail far yn cynrychioli data o'r flwyddyn arolygu gyfredol, 2022-2023.  Ar gyfer y categori Rhentu Preifat, mae'r bar cyntaf yn cynrychioli data o 2021-22 ac mae'n dangos bod 34 y cant o oedolion sy'n rhentu'n breifat hefyd wedi cymryd rhan deirgwaith neu fwy yr wythnos. Mae'r ail far yn cynrychioli data o 2022-23 ac yn dangos bod 44 y cant o oedolion sy'n rhentu'n breifat hefyd wedi cymryd rhan deirgwaith neu fwy yr wythnos.  Ar gyfer y categori Tai Cymdeithasol, mae’r bar cyntaf yn cynrychioli data o 2021-22 ac mae’n dangos bod 19 y cant o oedolion a oedd yn byw mewn tai cymdeithasol hefyd wedi cymryd rhan mewn chwaraeon deirgwaith neu fwy yr wythnos. Mae’r ail far yn cynrychioli data o 2022-23, ac yn dangos bod 29 y cant o oedolion a oedd yn byw mewn tai cymdeithasol hefyd wedi cymryd rhan mewn chwaraeon deirgwaith neu fwy yr wythnos.  Ar gyfer y categori Perchennog Preswyl, mae'r bar cyntaf yn cynrychioli data o 2021-22 ac yn dangos bod 36 y cant o oedolion sy'n berchen ar eu heiddo eu hunain hefyd wedi cymryd rhan mewn chwaraeon deirgwaith neu fwy yr wythnos. Mae'r ail far yn cynrychioli data o 2022-23, ac yn dangos bod 40 y cant o oedolion a oedd yn berchen ar eu heiddo eu hunain hefyd wedi cymryd rhan mewn chwaraeon deirgwaith neu fwy yr wythnos.

Fel y dangosir yng Ngraff 6, roedd y rhai a oedd yn rhentu’n breifat neu’n byw mewn eiddo yr oeddent yn berchen arno yn fwy tebygol o gymryd rhan mewn chwaraeon / gweithgarwch corfforol deirgwaith neu fwy yr wythnos o gymharu â’r rhai a oedd yn byw mewn tai cymdeithasol. Mae’r patrwm hwn yn debyg i’r ffigurau a adroddwyd yn 2012-22.

Roedd canran yr oedolion a oedd yn byw mewn tai cymdeithasol ac yn cymryd rhan deirgwaith neu fwy yr wythnos (29%) yn sylweddol is na’r cyfartaledd cenedlaethol (39%).

 

Graff 7: Canran yr oedolion a gymerodd ran mewn chwaraeon deirgwaith neu fwy yr wythnos, yn ôl Mynediad i Gerbyd.

Graff gyda 4 bar llorweddol, wedi'i rannu'n 2 gategori.  Mae'r categorïau’n cynrychioli mynediad at ddefnydd o gerbyd. Y categorïau yw Dim car neu fan ar gael i'w defnyddio, a Char neu Fan ar gael i'w defnyddio.  O fewn pob categori, mae dau far. Mae un bar yn cynrychioli data o flwyddyn arolygu flaenorol, 2021-2022, ac mae'r ail far yn cynrychioli data o'r flwyddyn arolygu gyfredol, 2022-2023.  Ar gyfer y categori Dim car neu fan ar gael i'w defnyddio, mae'r bar cyntaf yn cynrychioli data o 2021-22, ac yn dangos bod 19 y cant o oedolion heb fynediad i gerbyd hefyd wedi cymryd rhan mewn chwaraeon deirgwaith neu fwy yr wythnos. Mae'r ail far yn cynrychioli data o 2022-23, ac yn dangos bod 28 y cant o oedolion nad oedd ganddynt gar neu fan i'w defnyddio hefyd yn cymryd rhan mewn chwaraeon deirgwaith neu fwy yr wythnos.  Ar gyfer y categori car neu fan ar gael i'w defnyddio, mae'r bar cyntaf yn cynrychioli data o 2021-22, ac mae'n dangos bod 35 y cant o oedolion a oedd â mynediad i gerbyd hefyd yn cymryd rhan mewn chwaraeon deirgwaith neu fwy yr wythnos. Mae'r ail far yn cynrychioli data o 2022-23, ac yn dangos bod 40 y cant o oedolion oedd â mynediad i gerbyd hefyd yn cymryd rhan mewn chwaraeon deirgwaith neu fwy yr wythnos.

Fel y dangosir yng Ngraff 7, roedd y rhai sydd â defnydd o gar neu fan yn fwy tebygol o gymryd rhan mewn chwaraeon / gweithgarwch corfforol deirgwaith neu fwy yr wythnos. Mae’r patrwm hwn yn debyg i’r ffigurau a adroddwyd yn 2012-22.

Roedd canran yr oedolion nad oedd ganddynt gar neu fan ac a oedd yn cymryd rhan mewn chwaraeon / gweithgarwch corfforol deirgwaith neu fwy yr wythnos yn is na'r cyfartaledd cenedlaethol o 39%.