Skip to main content

6. Data Penodol i Chwaraeon

Yn gyffredinol, y gweithgaredd mwyaf cyffredin yr adroddodd oedolion eu bod yn cymryd rhan ynddo oedd ‘Cerdded (mwy na 2 filltir)’; dywedodd 41% o oedolion eu bod wedi cymryd rhan yn y gweithgaredd hwn o leiaf unwaith yn ystod y pedair wythnos flaenorol, sy'n cyfateb i 1,050,000 o oedolion.

 

Graff 13: Y Tri Phrif Weithgaredd Cyfranogiad, yn ôl Grŵp Eang.

Graff gyda 9 bar llorweddol, wedi'i rannu'n 3 chategori.  Y categorïau yw Gweithgareddau Ffitrwydd, Chwaraeon a Gemau, a Gweithgareddau Awyr Agored.  Ar gyfer y categori Gweithgareddau Ffitrwydd, mae'r bar mwyaf yn dangos bod 1,050,000 o oedolion wedi cerdded mwy na dwy filltir yn ystod y pedair wythnos ddiwethaf, ac wedyn 398,000 o oedolion wedi gweithio neu ymarfer gartref, ac yn olaf, 315,000 o oedolion a aeth i'r gampfa.  Ar gyfer y categori Chwaraeon a Gemau, mae'r bar mwyaf yn dangos bod 293,000 o oedolion wedi cymryd rhan mewn athletau, rhedeg neu loncian yn ystod y pedair wythnos ddiwethaf, ac wedyn 94,000 o oedolion wedi chwarae pŵl, ac yn olaf, 87,000 o oedolion wedi chwarae pêl droed.  Ar gyfer y categori Gweithgareddau Awyr Agored, mae'r bar mwyaf yn dangos bod 28,000 o oedolion wedi canŵio neu gaiacio yn ystod y pedair wythnos ddiwethaf, ac wedyn 26,000 o oedolion wedi mynd i bysgota neu enweirio, ac yn olaf, 24,000 o oedolion wedi mynd i ddringo neu fynydda.

Mae Graff 13 yn dangos y tri gweithgaredd ym mhob grŵp eang a oedd â'r nifer uchaf o oedolion yn cymryd rhan ynddynt yn ystod y pedair wythnos flaenorol.

O fewn gweithgareddau ffitrwydd, y gweithgaredd mwyaf cyffredin a wnaed oedd Cerdded (mwy na 2 filltir), gyda 1,050,000 o oedolion wedi cymryd rhan yn ystod y pedair wythnos flaenorol. Yn dilyn hyn, dywedodd 398,000 o oedolion eu bod wedi gweithio neu ymarfer gartref, a dywedodd 315,000 o oedolion eu bod wedi mynd i’r gampfa i wneud gwaith cardio, pwysau neu hyfforddiant cryfder arall (nid ar gyfer dosbarthiadau ffitrwydd).

O fewn Gemau a Chwaraeon, y categori cyfun o ‘Athletau, Rhedeg a / neu Loncian’³⁰ oedd y gweithgaredd mwyaf cyffredin yr adroddodd oedolion eu bod wedi cymryd rhan ynddo; roedd 293,000 o oedolion wedi cymryd rhan o leiaf unwaith yn ystod y pedair wythnos flaenorol. Yn dilyn hyn, roedd 94,000 o oedolion wedi chwarae Pŵl yn ystod y pedair wythnos flaenorol, a chymerodd 87,000 o oedolion ran mewn Pêl Droed.

 

³⁰Sylwer: Mae ‘Rhedeg neu Loncian’ yn cael ei gategoreiddio fel ‘Gweithgaredd Ffitrwydd’ fel rheol, fodd bynnag, mae wedi’i grwpio gydag ‘Athletau’ at ddibenion buddsoddi, ac felly mae wedi’i gyfrif yn y categori ‘Chwaraeon a Gemau’ yma.

 

O fewn y categori Gweithgareddau Awyr Agored, y gweithgaredd Canŵio a / neu Gaiacio oedd y mwyaf cyffredin; cymerodd 28,000 o oedolion ran unwaith o leiaf yn ystod y pedair wythnos flaenorol yn y math hwn o weithgaredd. Yn dilyn hyn, cymerodd 26,000 o oedolion ran mewn Pysgota a / neu Enweirio, a chymerodd 24,000 o oedolion ran mewn Dringo / Mynydda.

 

Graff 14: Y Tri Phrif Weithgaredd y mae gan Oedolion Alw Amdanynt, yn ôl Grŵp Eang.

Graff gyda 9 bar llorweddol, wedi'i rannu'n 3 chategori.  Y categorïau yw Gweithgareddau Ffitrwydd, Chwaraeon a Gemau, a Gweithgareddau Awyr Agored.  Ar gyfer y categori Gweithgareddau Ffitrwydd, mae'r bar mwyaf yn dangos bod gan 172,000 o oedolion alw am nofio, ac wedyn bod gan 78,000 o oedolion alw am ddosbarthiadau ffitrwydd, ac yn olaf, bod gan 65,000 o oedolion alw am feicio.  Ar gyfer y categori Chwaraeon a Gemau, mae'r bar mwyaf yn dangos bod gan 46,000 o oedolion alw am Bêl Droed, ac wedyn bod gan 35,000 o oedolion alw am golff, ac yn olaf, bod gan 33,000 o oedolion alw am athletau, rhedeg neu loncian.  Ar gyfer y categori Gweithgareddau Awyr Agored, mae'r bar mwyaf yn dangos bod gan 29,000 o oedolion alw am farchogaeth ceffylau, ac wedyn bod gan 20,000 o oedolion alw am ddringo neu fynydda, ac yn olaf, bod gan 19,000 o oedolion alw am Ganŵio neu gaiacio.

Mae Graff 14 yn dangos y tri phrif weithgaredd yr oedd oedolion eisiau gwneud mwy ohonynt, o fewn pob grŵp eang.

O fewn Gweithgareddau Ffitrwydd, y gweithgaredd mwyaf cyffredin yr adroddodd oedolion alw amdano oedd Nofio, gyda 172,000 o oedolion yn dweud eu bod eisiau gwneud mwy. Gostyngodd y galw am nofio o tua 62,000 o bobl rhwng 2021-22, ond roedd hyn wedi’i wrthbwyso i raddau gan fod niferoedd y cyfranogiad wedi cynyddu 60,000 yn ystod yr un cyfnod. Yn dilyn hyn, dywedodd 78,000 o oedolion eu bod eisiau cymryd rhan mewn mwy o Ddosbarthiadau Ffitrwydd, a dywedodd 65,000 o oedolion eu bod eisiau cymryd rhan mewn mwy o Feicio.

O fewn Gemau a Chwaraeon, y gweithgaredd mwyaf cyffredin yr adroddodd oedolion alw amdano oedd Pêl Droed, gyda 46,000 o oedolion yn dweud eu bod eisiau gwneud mwy. Yn dilyn hyn, dywedodd 35,000 o oedolion eu bod eisiau chwarae mwy o Golff, a dywedodd 33,000 o oedolion eu bod eisiau cymryd rhan mewn mwy o Athletau a / neu Redeg neu Loncian³¹.

 

³¹Sylwer: Mae ‘Rhedeg neu Loncian’ yn cael ei gategoreiddio fel ‘Gweithgaredd Ffitrwydd’ fel rheol, fodd bynnag, mae wedi’i grwpio gydag ‘Athletau’ at ddibenion buddsoddi, ac felly mae wedi’i gyfrif yn y categori ‘Chwaraeon a Gemau’ yma.

 

O fewn Gweithgareddau Awyr Agored, y gweithgaredd mwyaf cyffredin yr adroddodd oedolion alw amdano oedd Marchogaeth Ceffylau gyda 29,000 o oedolion yn dweud eu bod eisiau gwneud mwy. Yn dilyn hyn, dywedodd 20,000 o oedolion eu bod eisiau cymryd rhan mewn mwy o Ddringo neu Fynydda a dywedodd 19,000 o oedolion eu bod eisiau gwneud mwy o Ganŵio neu Gaiacio.

O gymharu â 2021-22, mae’r tri Gweithgaredd Ffitrwydd sydd â’r galw mwyaf amdanynt wedi aros yn gyson, ond mae cyfran yr oedolion sydd â galw am y gweithgareddau hyn wedi gostwng. Mae hyn hefyd yn wir am y gweithgareddau Chwaraeon a Gemau mwyaf poblogaidd. Fodd bynnag, Marchogaeth Ceffylau bellach yw’r gweithgaredd y mae’r galw mwyaf amdano ar gyfer Gweithgareddau Awyr Agored, gan fod nifer yr oedolion â galw wedi cynyddu o 9,000 o oedolion ers 2021-22.