Skip to main content

5. Mwynhad

Mae’r weledigaeth yn canolbwyntio ar greu ystod eang o brofiadau cadarnhaol, fel bod pawb yn gallu mwynhau chwaraeon a gweithgarwch.

Mae’r adran hon yn canolbwyntio ar edrych ar y ‘Galw’ a’r ‘Galw Heb ei Fodloni’ am chwaraeon a gweithgarwch corfforol ymhlith oedolion. Mae'r ffigurau hyn yn dangos lle mae gan weithgareddau y potensial i gynyddu ac, yn ei dro, darparu mwy o gyfleoedd i oedolion eu mwynhau.

5.1 Galw Cenedlaethol

Mae oedolion â ‘Galw’ yn cyfeirio at y rhai a ddywedodd eu bod eisiau gwneud mwy o chwaraeon a / neu weithgarwch. Efallai bod yr oedolion hyn eisoes yn cymryd rhan mewn chwaraeon a / neu weithgarwch corfforol.

Ar draws y 2.5 miliwn o oedolion yng Nghymru, dywedodd 685,000 bod ganddynt alw i gymryd rhan mewn o leiaf un gamp neu weithgaredd corfforol, sef 27% o’r holl oedolion yn 2022-23.

Mae’r ffigur hwn wedi gostwng 4 pwynt canran ers 2021-22, pryd dywedodd 31% o oedolion bod ganddynt alw am fwy o chwaraeon a / neu weithgarwch. Mae hyn yn cynrychioli 87,000 yn llai o oedolion â galw.

Mae'r gostyngiad hwn wedi'i sbarduno'n bennaf gan lai o alw am weithgareddau ffitrwydd (Graff 8).

Graff 8: Cyfran yr oedolion sydd â galw am o leiaf un math o weithgaredd dros amser.

Graff gyda 6 bar fertigol, wedi'i rannu'n 3 chategori.  Y categorïau yw Gweithgareddau Ffitrwydd, Chwaraeon a Gemau, a Gweithgareddau Awyr Agored.  O fewn pob categori, mae dau far. Mae un bar yn cynrychioli data o flwyddyn arolygu flaenorol, 2021-2022, ac mae'r ail far yn cynrychioli data o'r flwyddyn arolygu gyfredol, 2022-2023.  Ar gyfer y categori gweithgareddau ffitrwydd, mae'r bar cyntaf yn cynrychioli data o 2021-22, ac mae'n dangos bod gan 20 y cant o oedolion alw am y math hwn o weithgarwch. Mae’r ail far yn cynrychioli data o 2022-23, ac yn dangos bod gan 16 y cant o oedolion alw am y math hwn o weithgarwch.  Ar gyfer y categori Chwaraeon a Gemau, mae'r bar cyntaf yn cynrychioli data o 2021-22, ac mae'n dangos bod gan 10 y cant o oedolion alw am y math hwn o weithgarwch. Mae’r ail far yn cynrychioli data o 2022-23, ac yn dangos bod gan 10 y cant o oedolion alw am y math hwn o weithgarwch.  Ar gyfer y categori Gweithgareddau Awyr Agored, mae'r bar cyntaf yn cynrychioli data o 2021-22, ac mae'n dangos bod gan 5 y cant o oedolion alw am y math hwn o weithgarwch. Mae’r ail far yn cynrychioli data o 2022-23, ac yn dangos bod gan 5 y cant o oedolion alw am y math hwn o weithgarwch.

Ar draws y grwpiau gweithgarwch eang¹⁸, roedd gan 16% (403,000 o oedolion) alw am o leiaf un ‘Gweithgaredd Ffitrwydd’, roedd gan 10% (248,000 o oedolion) alw am o leiaf un gweithgaredd ‘Chwaraeon a / neu Gêm’, ac roedd gan 5% (126,000 o oedolion) alw am o leiaf un ‘Gweithgaredd Awyr Agored’ yn 2022-23.

Mae hyn yn cyfateb i tua thri chwarter miliwn o gyfleoedd ychwanegol ar gyfer cyfranogiad ar draws y boblogaeth o oedolion.

 

Tabl 9: Cyfran a nifer yr oedolion sydd â galw am fwy o weithgarwch, yn ôl amledd y cyfranogiad.

 Canran o oedoloionNifer yr oedolion
Wedi cymryd rhan deirgwaith neu fwy yr wythnos49%337,000
Wedi cymryd rhan 2 waith yr wythnos9%61,000
Wedi cymryd rhan 1 waith yr wythnos9%61,000
Wedi cymryd rhan llai nag unwaith yr wythnos33%222,000

Ymhlith oedolion oedd â galw, cymerodd 49% ran, ar gyfartaledd, deirgwaith neu fwy yr wythnos yn ystod y pedair wythnos flaenorol. Mae hwn yn gynnydd o 7 pwynt canran o gymharu â 2021-22.

I'r gwrthwyneb, roedd 33% o oedolion oedd â galw wedi cymryd rhan lai nag unwaith yr wythnos ar gyfartaledd, neu ddim o gwbl, yn ystod y pedair wythnos flaenorol. Mae hwn yn ddirywiad o 4 pwynt canran o gymharu â 2021-22.


¹⁸Mae Atodiad 7.I yn darparu manylion am y mathau o weithgareddau sydd wedi’u dosbarthu yn y grwpiau eang. Sylwer: gallai oedolion adrodd am weithgarwch mewn grwpiau eang lluosog.

 

5.2  Daearyddiaeth

Tabl 10: Cyfran a nifer yr oedolion sydd â galw am fwy o chwaraeon / gweithgarwch corfforol, yn ôl Ardal Partneriaeth Chwaraeon Ranbarthol a Dwysedd Poblogaeth.

Ardal Partneriaeth Chwaraeon Ranbarthol 19Canran o oedolionNifer yr oedolion
Gogledd Cymru30%169,000
Canolbarth Cymru29%50,000
Gorllewin Cymru31%178,000
Canolbarth y De25%188,000
Gwent21%100,000
Dwysedd Poblogaeth 20  
'Trefol'26%434,000
'Gwledig'29%251,000
Cyfanswm Cymru 2127%685,000

 

Roedd cyfran yr oedolion â galw yng Ngogledd Cymru, Canolbarth Cymru a Gorllewin Cymru yn uwch na chyfran yr oedolion â galw yng Nghanolbarth y De a Gwent.

Ymhellach, roedd cyfran yr oedolion â galw yng Ngwent yn is na'r cyfartaledd cenedlaethol, tra oedd y galw yng Ngogledd Cymru, Canolbarth Cymru, Gorllewin Cymru, a Chanolbarth y De yn debyg i'r cyfartaledd cenedlaethol.

O gymharu â chanfyddiadau 2021-22, gwelwyd y galw yng Nghanolbarth y De a Gwent yn lleihau, ond arhosodd y galw yng Ngogledd, Canolbarth a Gorllewin Cymru yn debyg.

Yn ogystal, roedd cyfran yr oedolion oedd â galw am o leiaf un math o chwaraeon / gweithgarwch corfforol mewn ardaloedd ‘Gwledig’ yn debyg i'r hyn a geir mewn ardaloedd ‘Trefol’. Mae hyn yn wahanol i ganfyddiadau Arolwg Cenedlaethol 2021-22 lle’r oedd y bobl mewn ardaloedd ‘Trefol’ yn fwy tebygol o fod â galw o gymharu â’r bobl mewn ardaloedd ‘Gwledig’. Mae hyn yn golygu bod y newid wedi’i sbarduno gan lai o alw mewn ardaloedd ‘Trefol’.

 

19 Mae gwybodaeth am y Partneriaethau Chwaraeon Rhanbarthol ar gael yma. Mae Atodiad 7.2 yn darparu manylion yr Awdurdodau Lleol ym mhob Partneriaeth Chwaraeon Ranbarthol.

20 Mae diffiniad o Ddwysedd Poblogaeth ar gael yma..

21 Mae gwybodaeth am ddehongli’r cyfansymiau ar gael yn y cyflwyniad

Tabl 11: Cyfran a nifer yr oedolion sydd â galw am fwy o chwaraeon a / neu weithgarwch corfforol, yn ôl Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru (MALlC):

 

Mynegai Amddifadedd Lluosog CymruCanran o oedolionNifer yr oedolion
Cwintel 1 (20% mwyaf difreintiedig)25%107,000
Cwintel 225%119,000
Cwintel 329%152,000
Cwintel 428%155,000
Cwintel 5 (20% lleiaf difreintiedig)27%152,000
Cyfanswm Cymru 2227%685,000

Mae Tabl 11 yn dangos cyfran a nifer yr oedolion oedd â galw am fwy o chwaraeon a / neu weithgarwch corfforol yn ôl cwintelau Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru (MALlC). Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru (MALlC) yw mesur swyddogol Llywodraeth Cymru o amddifadedd cymharol ar gyfer ardaloedd bychain yng

Nghymru. Mae gan bob cwintel boblogaeth debyg o ran maint, ac felly gellir cymharu cyfran a nifer yr oedolion sydd â galw am fwy o chwaraeon a / neu weithgarwch corfforol yn erbyn ei gilydd.

Roedd cyfran yr oedolion â galw am fwy o chwaraeon a / neu weithgarwch corfforol yn debyg rhwng y rhai sy’n byw yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig o gymharu â’r rhai sy’n byw yn yr ardaloedd lleiaf difreintiedig yng Nghymru.

Mae hyn yn wahanol i ganfyddiadau 2021-22, lle gwelwyd gwahaniaeth o 7 pwynt canran rhwng y cymunedau mwyaf a lleiaf difreintiedig. At hynny, arhosodd y ffigurau galw yn debyg rhwng 2021-22 a 2022-23 ar gyfer y rhai yng Nghwintel 1 (mwyaf difreintiedig), Cwintel 2, Cwintel 3 a Chwintel 4. Fodd bynnag, bu gostyngiad yn y galw ymhlith y rhai yng Nghwintel 5 (lleiaf difreintiedig).

 

22 Mae gwybodaeth am ddehongli’r cyfansymiau ar gael yn y cyflwyniad

 

5.3  Oedrannau

Graff 9: Cyfran a nifer yr oedolion sydd â galw am fwy o chwaraeon a / neu weithgarwch corfforol, yn ôl Grŵp Oedran.

Graff gydag 14 bar fertigol, wedi'i rannu'n 7 categori.  Mae'r categorïau’n cynrychioli grwpiau oedran. Y categorïau yw 16 i 24, 25 i 34, 35 i 44, 45 i 54, 55 i 64, 65 i 74, 75 a hŷn.  O fewn pob categori, mae dau far. Mae un bar yn cynrychioli data o flwyddyn arolygu flaenorol, 2021-2022, ac mae'r ail far yn cynrychioli data o'r flwyddyn arolygu gyfredol, 2022-2023.  Ar gyfer y categori 16 i 24, mae’r bar cyntaf yn cynrychioli data o 2021-22, ac mae’n dangos bod gan 38 y cant o oedolion yn y grŵp oedran hwn alw am fwy o chwaraeon a gweithgarwch. Mae’r ail far yn cynrychioli data o 2022-23, ac yn dangos bod gan 33 y cant o oedolion yn y grŵp oedran hwn alw am fwy o chwaraeon a gweithgarwch.  Ar gyfer y categori 25 i 34, mae’r bar cyntaf yn cynrychioli data o 2021-22, ac mae’n dangos bod gan 36 y cant o oedolion yn y grŵp oedran hwn alw am fwy o chwaraeon a gweithgarwch. Mae’r ail far yn cynrychioli data o 2022-23, ac yn dangos bod gan 34 y cant o oedolion yn y grŵp oedran hwn alw am fwy o chwaraeon a gweithgarwch.  Ar gyfer y categori 35 i 44, mae’r bar cyntaf yn cynrychioli data o 2021-22, ac mae’n dangos bod gan 39 y cant o oedolion yn y grŵp oedran hwn alw am fwy o chwaraeon a gweithgarwch. Mae’r ail far yn cynrychioli data o 2022-23, ac yn dangos bod gan 32 y cant o oedolion yn y grŵp oedran hwn alw am fwy o chwaraeon a gweithgarwch.  Ar gyfer y categori 45 i 54, mae’r bar cyntaf yn cynrychioli data o 2021-22, ac mae’n dangos bod gan 35 y cant o oedolion yn y grŵp oedran hwn alw am fwy o chwaraeon a gweithgarwch. Mae’r ail far yn cynrychioli data o 2022-23, ac yn dangos bod gan 29 y cant o oedolion yn y grŵp oedran hwn alw am fwy o chwaraeon a gweithgarwch.  Ar gyfer y categori 55 i 64, mae’r bar cyntaf yn cynrychioli data o 2021-22, ac mae’n dangos bod gan 30 y cant o oedolion yn y grŵp oedran hwn alw am fwy o chwaraeon a gweithgarwch. Mae’r ail far yn cynrychioli data o 2022-23, ac mae’n dangos bod gan 26 y cant o oedolion yn y grŵp oedran hwn alw am fwy o chwaraeon a gweithgarwch.  Ar gyfer y categori 65 i 74, mae’r bar cyntaf yn cynrychioli data o 2021-22, ac mae’n dangos bod gan 23 y cant o oedolion yn y grŵp oedran hwn alw am fwy o chwaraeon a gweithgarwch. Mae’r ail far yn cynrychioli data o 2022-23, ac yn dangos bod gan 21 y cant o oedolion yn y grŵp oedran hwn alw am fwy o chwaraeon a gweithgarwch.  Ar gyfer y categori 75 oed a hŷn, mae’r bar cyntaf yn cynrychioli data o 2021-22, ac mae’n dangos bod gan 13 y cant o oedolion yn y grŵp oedran hwn alw am fwy o chwaraeon a gweithgarwch. Mae’r ail far yn cynrychioli data o 2022-23, ac yn dangos bod gan 12 y cant o oedolion yn y grŵp oedran hwn alw am fwy o chwaraeon a gweithgarwch.  Yn olaf, mae llinell lorweddol yn dangos y cyfartaledd cenedlaethol ar 27 y cant.

Yn gyffredinol, roedd cyfran yr oedolion oedd â galw am fwy o chwaraeon a / neu weithgarwch corfforol yn gostwng gydag oedran; roedd y rhai rhwng 16 a 24 oed, 25 a 34 oed, 35 a 44 oed, 45 a 54 oed, a 55 a 64 oed yn fwy tebygol o adrodd bod ganddynt alw am fwy o chwaraeon a / neu weithgarwch o gymharu ag oedolion 65 i 74 oed a 75+ oed.

O gymharu â 2021-22, gostyngodd cyfran yr oedolion â galw o fewn grwpiau oedran 35 i 44, a 45 i 54, ond arhosodd cyfran yr oedolion â galw mewn grwpiau oedran eraill yn debyg.

5.4  Demograffeg

Tabl 12: Cyfran a nifer yr oedolion sydd â galw i wneud mwy o un math o leiaf o chwaraeon neu weithgarwch corfforol.

 

RhywCanran o oedolionNifer yr oedolion
Benywod26%340,000
Gwrywod28%345,000
Ethnigrwydd  

Gwyn

(Cymreig, Seisnig, Albanaidd, Gwyddelig o Ogledd Iwerddon a Phrydeinig)

 

26%

 

620,000

Gwyn Arall

(Gwyddelig, Sipsi neu Deithiwr Gwyddelig, neu unrhyw gefndir Gwyn arall)

 

34%

 

22,000

Unrhyw Grŵp Ethnig Arall

(Du, Du Cymreig, Du Prydeinig, Caribïaidd, neu Affricanaidd, Asiaidd, Asiaidd Cymreig, Asiaidd Prydeinig, grwpiau ethnig Cymysg neu Luosog)

 

34%

 

43,000

Salwch, Anabledd neu Lesgedd  
 salwch, anabledd neu lesgedd hirsefydlog28%335,000
Dim salwch, anabledd neu lesgedd hirsefydlog27%346,000
Amddifadedd  
Byw mewn amddifadedd materol33%129,000
Ddim yn byw mewn amddifadedd materol26%556,000
Yr Iaith Gymraeg  
Pobl sy’n defnyddio’r Gymraeg yn eu bywyd bob dydd (FG36)32%85,000
Pobl nad ydynt yn defnyddio’r Gymraeg yn eu bywyd bob dydd26%600,000
Cyfanswm Cymru²³27%685,000

23 Mae gwybodaeth am ddehongli’r cyfansymiau ar gael yn y cyflwyniad

 

Mae Tabl 12 yn dangos cyfran yr oedolion a ddywedodd bod ganddynt alw am fwy o chwaraeon a / neu weithgarwch corfforol, yn ôl nodweddion demograffig.

Roedd y rhai a oedd yn byw mewn amddifadedd materol yn fwy tebygol o adrodd am alw am fwy o chwaraeon a / neu weithgarwch corfforol o gymharu â’r rhai nad oeddent yn byw mewn amddifadedd materol. Yn 2022-23, arhosodd y cyfraddau galw yn debyg i’r ffigurau a adroddwyd yn 2021-22 ar gyfer y rhai sy’n byw mewn amddifadedd materol (31% yn 2021-22). Fodd bynnag, gwelwyd gostyngiad o 5 pwynt canran yn y cyfraddau galw ymhlith y rhai nad ydynt yn byw mewn amddifadedd materol (31% yn 2021-22).

Ymhellach, roedd y rhai sy’n defnyddio’r Gymraeg mewn bywyd bob dydd yn fwy tebygol o adrodd am alw am o leiaf un gamp neu weithgaredd corfforol o gymharu â’r rhai nad ydynt yn defnyddio’r iaith Gymraeg mewn bywyd bob dydd.

O gymharu â 2021-22, arhosodd y cyfraddau galw yn debyg ymhlith defnyddwyr yr iaith Gymraeg (33% yn 2021-22). Fodd bynnag, gostyngodd y cyfraddau galw 4 pwynt canran ymhlith y rhai nad ydynt yn defnyddio’r Gymraeg mewn bywyd bob dydd (30% yn 2021-22).

Yn gyson â chanfyddiadau 2021-22, ni chanfuwyd unrhyw wahaniaethau mewn cyfraddau galw rhwng Gwrywod a Benywod.

Fodd bynnag, mewn cyferbyniad â 2021-22, ni chanfuwyd unrhyw wahaniaethau rhwng Grwpiau Ethnig eang, na rhwng y rhai â salwch, anabledd neu lesgedd hirsefydlog a heb salwch, anabledd neu lesgedd o’r fath yn 2022-23.

5.5  Iechyd a Lles a Hunanadroddir

Tabl 13: Cyfran a nifer yr oedolion sydd â galw am fwy o chwaraeon a / neu weithgarwch corfforol, yn ôl ymatebion i gwestiynau iechyd a lles.

Iechyd CyffredinolCanran o oedolionNifer yr oedolion
Da iawn neu dda28%485,000
Gweddol26%148,000
Gwael neu wael iawn25%51,000
Unigrwydd  
Ddim yn unig24%242,000
Unig weithiau27%331,000
Unig34%107,000
Boddhad gyda bywyd  
Mawr iawn25%183,000
Mawr28%359,000
Canolig27%101,000
Isel30%38,000
Hapusrwydd Cyffredinol  
Mawr iawn26%236,000
Mawr27%272,000
Canolig27%104,000
Isel33%69,000
Gorbryder Cyffredinol  
Isel iawn24%250,000
Isel28%144,000
Canolig28%112,000
Mawr32%173,000
Graddfa gyffredinol y teimlad bod y pethau a wneir mewn bywyd yn werth chweil  
Mawr iawn27%243,000
Mawr27%322,000
Canolig28%87,000
Isel27%28,000
Cyfanswm Cymru 2427%685,000

Mae Tabl 13 yn dangos sut ymatebodd oedolion sydd â galw am fwy o chwaraeon a / neu weithgarwch corfforol i gwestiynau iechyd a lles a hunanadroddir.

Yn gyson â chanfyddiadau 2021-22, roedd y rhai a ddywedodd bod lefel eu ‘Hapusrwydd Cyffredinol’ yn ‘Isel’ yn fwy tebygol o adrodd am alw am fwy o chwaraeon a / neu weithgarwch corfforol o gymharu â’r rhai a ddywedodd bod lefel eu ‘Hapusrwydd Cyffredinol’ yn ‘Uchel iawn’.

Hefyd yn gyson â chanfyddiadau 2021-22, roedd y rhai a ddywedodd bod lefel eu ‘Gorbryder Cyffredinol’ yn ‘Isel iawn’ yn fwy tebygol o adrodd am alw am fwy o

chwaraeon a / neu weithgarwch corfforol o gymharu â’r rhai a ddywedodd bod lefel eu gorbryder yn ‘Uchel’.

Fodd bynnag, yn wahanol i ganfyddiadau 2021-22, nid oedd unrhyw wahaniaethau rhwng grwpiau ar gyfer mesurau ‘Iechyd Cyffredinol’, ‘Unigrwydd’, a ‘Graddfa gyffredinol y teimlad bod y pethau a wneir mewn bywyd yn werth chweil’.

24 Mae gwybodaeth am ddehongli’r cyfansymiau yn y cyflwyniad

5.6  Fforddiadwyedd Bwyd, Sefyllfa Byw, a Mynediad i Gerbydau.

Graff 10: Canran yr oedolion sydd â galw am fwy o chwaraeon a / neu weithgarwch corfforol, yn ôl Fforddiadwyedd Bwyd.

Graff gydag 8 bar llorweddol, wedi'i rannu'n 4 categori.  Mae'r categorïau’n cynrychioli fforddiadwyedd bwyd. Y categorïau yw Wedi defnyddio banc bwyd yn ystod y 12 mis diwethaf, wedi cael prydau bwyd llai neu wedi hepgor prydau bwyd, unrhyw ddiwrnod yn ystod y pythefnos diwethaf pan na chafwyd unrhyw brydau bwyd sylweddol, ac wedi cael pryd bwyd gyda chig neu opsiwn llysieuol cyfatebol bob yn ail ddiwrnod o leiaf.  O fewn pob categori, mae dau far. Mae un bar yn cynrychioli data o flwyddyn arolygu flaenorol, 2021-2022, ac mae'r ail far yn cynrychioli data o'r flwyddyn arolygu gyfredol, 2022-2023.  Ar gyfer y categori wedi defnyddio banc bwyd yn ystod y 12 mis diwethaf, mae'r bar cyntaf yn cynrychioli data o 2021-22, ac mae'n dangos bod gan 33 y cant o oedolion a ddefnyddiodd fanc bwyd yn ystod y 12 mis diwethaf hefyd alw am fwy o chwaraeon a gweithgarwch. Mae'r ail far yn cynrychioli data o 2022-23, ac mae'n dangos bod gan 27 y cant o oedolion a ddefnyddiodd fanc bwyd yn ystod y 12 mis diwethaf hefyd alw am fwy o chwaraeon a gweithgarwch.  Ar gyfer y categori wedi cael prydau bwyd llai neu wedi hepgor prydau bwyd, mae'r bar cyntaf yn cynrychioli data o 2021-22, ac mae'n dangos bod gan 43 y cant o oedolion a oedd wedi cael prydau bwyd llai neu wedi hepgor prydau bwyd hefyd alw am fwy o chwaraeon a gweithgarwch. Mae'r ail far yn cynrychioli data o 2022-23, ac mae'n dangos bod gan 37 y cant o oedolion oedd wedi cael prydau bwyd llai neu wedi hepgor prydau bwyd hefyd alw am fwy o chwaraeon a gweithgarwch. Ar gyfer y categori unrhyw ddiwrnod yn ystod y pythefnos diwethaf pan na chafwyd unrhyw brydau bwyd sylweddol, mae’r bar cyntaf yn cynrychioli data o 2021-22, ac mae’n dangos bod gan 40 y cant o oedolion na chafodd unrhyw brydau bwyd sylweddol yn ystod y pythefnos diwethaf hefyd alw am fwy o chwaraeon a gweithgarwch. Mae’r ail far yn cynrychioli data o 2022-23, ac mae’n dangos bod gan 35 y cant o oedolion na chafodd unrhyw brydau bwyd sylweddol yn ystod y pythefnos diwethaf hefyd alw am fwy o chwaraeon a gweithgarwch.  Ar gyfer y categori wedi cael pryd bwyd gyda chig neu opsiwn llysieuol cyfatebol bob yn ail ddiwrnod o leiaf, mae'r bar cyntaf yn cynrychioli data o 2021-22, ac mae'n dangos bod gan 31 y cant o oedolion oedd wedi cael pryd bwyd gyda chig neu opsiwn llysieuol cyfatebol bob yn ail ddiwrnod o leiaf hefyd alw am fwy o chwaraeon a gweithgarwch. Mae'r ail far yn cynrychioli data o 2022-23, ac mae'n dangos bod gan 27 y cant o oedolion oedd wedi cael pryd bwyd gyda chig neu opsiwn llysieuol cyfatebol bob yn ail ddiwrnod o leiaf hefyd alw am fwy o chwaraeon a gweithgarwch.

Mae Graff 10 yn cyflwyno cyfran yr oedolion sydd â galw am fwy o chwaraeon / gweithgarwch corfforol yn ôl cwestiynau fforddiadwyedd bwyd

Roedd y rhai a ddywedodd eu bod wedi cael pryd o fwyd gyda chig neu opsiwn llysieuol cyfatebol bob yn ail ddiwrnod o leiaf yn llai tebygol o adrodd bod ganddynt alw am fwy o chwaraeon a / neu weithgarwch corfforol o gymharu â’r rhai a oedd wedi cael prydau llai neu wedi hepgor prydau bwyd, neu wedi cael diwrnod yn ystod y pythefnos blaenorol heb unrhyw bryd bwyd sylweddol.

 

Graff 11: Canran yr oedolion sydd â galw am chwaraeon a / neu weithgarwch corfforol, yn ôl Mynediad i Gerbydau.

Graff gyda 4 bar llorweddol, wedi'i rannu'n 2 gategori.  Mae'r categorïau’n cynrychioli mynediad at ddefnydd o gerbyd. Y categorïau yw Dim car neu fan ar gael i'w defnyddio, a Char neu Fan ar gael i'w defnyddio.  O fewn pob categori, mae dau far. Mae un bar yn cynrychioli data o flwyddyn arolygu flaenorol, 2021-2022, ac mae'r ail far yn cynrychioli data o'r flwyddyn arolygu gyfredol, 2022-2023.  Ar gyfer y categori Dim car neu fan ar gael i'w defnyddio, mae'r bar cyntaf yn cynrychioli data o 2021-22, ac mae'n dangos bod gan 26 y cant o oedolion heb fynediad at gerbyd hefyd alw am fwy o chwaraeon a gweithgarwchd. Mae’r ail far yn cynrychioli data o 2022-23, ac yn dangos bod gan 23 y cant o oedolion nad oedd ganddynt gar na fan i’w defnyddio hefyd alw am fwy o chwaraeon a gweithgarwch.  Ar gyfer y categori car neu fan ar gael i'w defnyddio, mae'r bar cyntaf yn cynrychioli data o 2021-22, ac mae'n dangos bod gan 31 y cant o oedolion a oedd â mynediad i gerbyd hefyd alw am fwy o chwaraeon a gweithgarwch. Mae'r ail far yn cynrychioli data o 2022 -23, ac mae'n dangos bod gan 28 y cant o oedolion oedd â mynediad i gerbyd hefyd alw am fwy o chwaraeon a gweithgarwch.

Fel y dangosir yng Ngraff 11, roedd y rhai sydd â defnydd o gar neu fan yn fwy tebygol o adrodd bod ganddynt alw am chwaraeon / gweithgarwch corfforol o gymharu â’r rhai nad oes ganddynt ddefnydd o gerbyd.

5.7  Galw Heb ei Fodloni²⁵

At ddibenion yr adroddiad hwn, mae’r rhai sydd â ‘Galw Heb ei Fodloni’ yn cyfeirio’n benodol at y rhai nad oeddent wedi cymryd rhan mewn camp / gweithgaredd eisoes, ond a ddywedodd yr hoffent wneud hynny yn y dyfodol.

Yn 2022-23, dywedodd 40% neu 998,000 o oedolion nad oeddent wedi cymryd rhan mewn unrhyw chwaraeon neu weithgarwch corfforol yn ystod y pedair wythnos flaenorol. Fodd bynnag, dywedodd 18% o'r oedolion hyn eu bod eisiau cymryd rhan mewn o leiaf un math o chwaraeon neu weithgarwch corfforol. Mae hyn yn cynrychioli 183,000 o bobl, neu 7% o gyfanswm y boblogaeth o oedolion yng Nghymru.

O gymharu â 2021-22, bu gostyngiad o 2 bwynt canran yng nghyfran yr oedolion â galw heb ei fodloni, sy’n cyfateb i wahaniaeth o 41,000 o oedolion.

 

Graff 12: Nifer yr oedolion nad ydynt eto'n cymryd rhan mewn Gweithgareddau Ffitrwydd, Chwaraeon a Gemau a / neu Weithgareddau Awyr Agored, ond sy'n dweud yr hoffent wneud hynny²⁶.

Graff gyda 6 bar fertigol, wedi'i rannu'n 3 chategori.  Y categorïau yw Gweithgareddau Ffitrwydd, Chwaraeon a Gemau, a Gweithgareddau Awyr Agored.  O fewn pob categori, mae dau far. Mae un bar yn cynrychioli data o flwyddyn arolygu flaenorol, 2021-2022, ac mae'r ail far yn cynrychioli data o'r flwyddyn arolygu gyfredol, 2022-2023.  Ar gyfer y categori gweithgareddau ffitrwydd, mae’r bar cyntaf yn cynrychioli data o 2021-22, ac mae’n dangos bod gan 183,000 o oedolion alw heb ei fodloni am y math hwn o weithgarwch. Mae’r ail far yn cynrychioli data o 2022-23, ac mae’n dangos bod gan 140,000 o oedolion alw heb ei fodloni am y math hwn o weithgarwch.  Ar gyfer y categori Chwaraeon a Gemau, mae'r bar cyntaf yn cynrychioli data o 2021-22, ac mae'n dangos bod gan 191,000 o oedolion alw heb ei fodloni am y math hwn o weithgarwch. Mae’r ail far yn cynrychioli data o 2022-23, ac mae’n dangos bod gan 171,000 o oedolion alw heb ei fodloni am y math hwn o weithgarwch.  Ar gyfer y categori Gweithgareddau Awyr Agored, mae'r bar cyntaf yn cynrychioli data o 2021-22, ac mae'n dangos bod gan 101,000 o oedolion alw heb ei fodloni am y math hwn o weithgarwch. Mae’r ail far yn cynrychioli data o 2022-23, ac yn dangos bod gan 104,000 o oedolion alw heb ei fodloni am y math hwn o weithgarwch.

Mae Graff 12 yn dangos bod 140,000 o oedolion yn 2022-23 na chymerodd ran mewn unrhyw ‘Weithgaredd Ffitrwydd’ ond a ddywedodd yr hoffent wneud hynny.

Ymhellach, dywedodd 171,000 o oedolion nad oeddent wedi cymryd rhan mewn unrhyw ‘Chwaraeon neu Gemau’ ond yr hoffent wneud hynny. Yn olaf, dywedodd 104,000

o oedolion nad oeddent yn cymryd rhan mewn Gweithgaredd Awyr Agored, ond yr hoffent wneud hynny.

Yn gyffredinol, mae hyn yn cyfateb i tua 415,000 o gyfleoedd mewn chwaraeon ymhlith oedolion, oedd eto i’w cyflawni yn ystod 2022-23.

²⁵ Sylwer: gall y diffiniad ar gyfer ‘Galw Heb ei Fodloni’ fod yn wahanol yn yr Adroddiad Cyflwr y Genedl ar gyfer yr Arolwg Chwaraeon Ysgol.

²⁶ Sylwer: gall cyfranogwyr ymddangos mewn grwpiau eang lluosog, ond dim ond unwaith y cânt eu cyfrif o fewn pob grŵp.

O gymharu â 2021-22, bu gostyngiad o 2 bwynt canran yng nghyfran yr oedolion â galw heb ei fodloni am ‘Weithgareddau Ffitrwydd’, tra bo’r galw heb ei fodloni am ‘Chwaraeon a Gemau’ a ‘Gweithgareddau Awyr Agored’ wedi aros yn debyg.

 

Tabl 14: Cyfran a nifer yr oedolion sydd â galw heb ei fodloni am weithgarwch, yn ôl Ardal Partneriaeth Chwaraeon Ranbarthol.

Ardal Partneriaeth Chwaraeon Ranbarthol 27Canran o oedolionNifer yr oedolion
Gogledd Cymru8%45,000
Canolbarth Cymru9%16,000
Gorllewin Cymru8%45,000
Canolbarth y De6%48,000
Gwent6%29,000
Dwysedd Poblogaeth 28  
'Trefol'7%120,000
'Gwledig'7%63,000
Cyfanswm Cymru 297%183,000

Canolbarth Cymru oedd â'r gyfran uchaf o oedolion â galw heb ei fodloni am chwaraeon a / neu weithgarwch corfforol. I’r gwrthwyneb, Gwent oedd â’r gyfran isaf o oedolion â galw heb ei fodloni am chwaraeon a / neu weithgarwch corfforol.

Ers 2021-22, mae nifer yr oedolion â galw heb ei fodloni yng Nghanolbarth y De wedi haneru bron yn 2022-23 ac, yn ei dro, roedd gan Ganolbarth y De gyfran is o oedolion â galw heb ei fodloni o gymharu â Gogledd, Canolbarth a Gorllewin Cymru.

At hynny, nododd cyfran uwch o oedolion o ardaloedd ‘Gwledig’ alw heb ei fodloni am chwaraeon a / neu weithgarwch corfforol nag mewn ardaloedd ‘Trefol’. Fodd bynnag, mae bron i ddwywaith y nifer o oedolion â galw heb ei fodloni yn byw mewn ardaloedd ‘Trefol’ o gymharu ag ardaloedd ‘Gwledig’.

Ers 2021-22, mae cyfran yr oedolion mewn ardaloedd ‘Trefol’ sydd â galw heb ei fodloni wedi gostwng 2.5 pwynt canran, tra bo cyfran yr oedolion mewn ardaloedd ‘Gwledig’ sydd â galw heb ei fodloni wedi aros yn debyg.

 

27 Mae gwybodaeth am y Partneriaethau Chwaraeon Rhanbarthol ar gael yma. Mae Atodiad 7.2 yn darparu manylion yr Awdurdodau Lleol ym mhob Partneriaeth Chwaraeon Ranbarthol.

28 Mae diffiniad o Ddwysedd Poblogaeth ar gael yma.

29 Mae gwybodaeth am ddehongli’r cyfansymiau ar gael yn y cyflwyniad.