Skip to main content

1. Cyflwyniad

Mae’r Adroddiad Cyflwr y Genedl yn edrych ar ganfyddiadau’r adran ‘Chwaraeon a Ffyrdd o Fyw Actif’ yn Arolwg Cenedlaethol Cymru, 2022-2023.

Mae Arolwg Cenedlaethol Cymru (ACC) yn arolwg o sampl ar hap o aelwydydd o oedolion (16 oed a hŷn) o bob rhan o Gymru. Gweithredir yr arolwg hwn gan Lywodraeth Cymru ar ran cyrff cyhoeddus yng Nghymru.

Cyn 2016, roedd Chwaraeon Cymru yn cynnal arolwg annibynnol o’r enw ‘Yr Arolwg Oedolion Actif’. Ers hynny, mae arolygon cyrff cyhoeddus ar raddfa fawr wedi’u dwyn ynghyd i wella effeithlonrwydd wrth gasglu data ledled Cymru, gan ffurfio Arolwg Cenedlaethol Cymru fel y mae heddiw.

Ers 2016, mae Chwaraeon Cymru wedi bod â chwestiynau am gyfranogiad chwaraeon a’r galw amdanynt wedi’u hymgorffori yn ACC. Gelwir y cwestiynau hyn bellach yn adran ‘Chwaraeon a Ffyrdd o Fyw Actif’ yr arolwg a dyma ffocws yr adroddiad hwn.

Methodoleg Arolwg Cenedlaethol Cymru

Mae Arolwg Cenedlaethol Cymru yn arolwg blynyddol. Mae data’n cael eu casglu’n barhaus drwy gydol y flwyddyn, o fis Ebrill i’r mis Mawrth dilynol. Bob gwanwyn, mae cylch newydd yn dechrau, a dadansoddir data o'r 12 mis blaenorol i gynhyrchu

crynodeb blynyddol o ymddygiad oedolion yng Nghymru. Wedyn caiff y data eu pwysoli i gynrychioli nodweddion y boblogaeth gyffredinol yng Nghymru, sef tua 2.5 miliwn o oedolion. Cyhoeddir y prif ganlyniadau am y tro cyntaf gan Lywodraeth Cymru yn ystod misoedd yr haf (mis Gorffennaf fel rheol).

Daw’r contract presennol ar gyfer darparu Arolwg Cenedlaethol Cymru i ben gyda chanlyniadau arolwg 2022-23. Er mwyn caniatáu i'r contract newydd ddechrau, bydd bwlch yn y data a gyhoeddir ar gyfer Arolwg Cenedlaethol Cymru yn 2024. Yn ystod y cyfnod hwn, bydd y gwaith sefydlu, y profi a’r gwaith maes ar gyfer yr arolwg yn cael ei wneud. Bydd cyhoeddi data felly yn ailddechrau fel arfer yn haf 2025, a bydd yn parhau i fod yn weithredol yn flynyddol am gyfnod contract yr arolwg. Bydd data yn eu tro ar gael ar gyfer cylchoedd blynyddol 2024-25; 2025-26; 2026-27; a 2027-28.

Mae’r prif ganfyddiadau a gwybodaeth gefndir ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru

Gwybodaeth Allweddol:

  • Yn 2022-23, cymerodd 11,000 o oedolion (16+ oed) ledled Cymru gyfan ran yn yr arolwg.
  • Roedd adran “Chwaraeon a Ffyrdd o Fyw Actif” yr arolwg yn canolbwyntio ar gyfranogiad a galw mewn “Chwaraeon a Gweithgarwch Corfforol”. Mae’r cwestiynau hyn o’r arolwg ar gael ar Tudalennau 170-184.
  • Yn yr adroddiad hwn, mae'r term “Chwaraeon a / neu Weithgarwch Corfforol” yn cyfeirio at y gweithgareddau a restrir yn Atodiad 7.1
  • Er mwyn casglu ffigurau cyfranogiad, gofynnwyd i’r ymatebwyr am eu hymddygiad chwaraeon a gweithgarwch corfforol yn ystod y “…pedair wythnos flaenorol”, gan fod hyn yn rhoi syniad o ymddygiad nodweddiadol yr unigolyn hwnnw.
  • Drwy’r adroddiad cyfan, mae “Amledd y cyfranogiad” yn cyfeirio at gyfanswm yr achlysuron y cymerodd oedolyn ran mewn chwaraeon a / neu weithgarwch corfforol yn ystod y pedair wythnos flaenorol, ar gyfartaledd, i roi amcangyfrif o’r cyfranogiad wythnosol.
  • Mae gwaith maes yr arolwg yn weithredol yn barhaus drwy gydol y flwyddyn sy'n sicrhau, yn gyffredinol, bod yr ymatebion blynyddol yn cyfrif am amrywiadau tymhorol mewn lefelau gweithgarwch.
  • Mae'r cwestiynau yn yr adran hon yn yr arolwg yn galluogi adrodd ar “Canran y bobl sy'n cymryd rhan mewn gweithgareddau chwaraeon deirgwaith neu fwy yr wythnos”. Mae hwn yn Ddangosydd Cenedlaethol (Rhif 38) ar gyfer Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.

Dehongli'r Data:

  • Mae pob adran o'r adroddiad yn darparu ystadegau disgrifiadol o'r adran Chwaraeon a Ffyrdd o Fyw Actif yn ACC 2022-23.
  • Yn ogystal, mae bellach yn bosibl cymharu â chanlyniadau blaenorol ACC 2021-22, ac felly cyfeirir at newidiadau dros amser drwy gydol yr adroddiad.
  • Mae gwahaniaethau y tynnwyd sylw atynt rhwng grwpiau poblogaeth, ac mewn newid dros amser, wedi'u hamlygu lle mae newid ystadegol arwyddocaol wedi'i nodi.
  • Mae adegau drwy gydol yr adroddiad lle gall cyfansymiau tablau amrywio er gwaethaf adrodd ar yr un pwnc. Gall hyn ddigwydd pan fydd ymatebion sy’n cael eu dosbarthu fel data coll, er enghraifft, ymateb ‘ddim yn gwybod’. Enghraifft arall o ble gallai hyn ddigwydd yw pan ofynnir cwestiwn penodol i is-sampl cynrychioliadol o'r arolwg.
  • Mae’r canrannau wedi'u talgrynnu i'r ganran agosaf, a’r ffigurau poblogaeth i’r mil agosaf.

Strwythur yr Adroddiad

Mae'r adroddiad hwn wedi'i strwythuro'n adrannau sy'n ymwneud â'r Weledigaeth ar gyfer Chwaraeon yng Nghymru. Yr adrannau hyn yw:

  • Cenedl Actif: adran sy’n cynnwys prif wybodaeth am ymddygiadau cyfranogiad.
  • Pawb: adran sy’n archwilio ymddygiadau cyfranogiad gwahanol fathau o oedolion yng Nghymru.
  • Gydol Oes: adran sy’n canolbwyntio ar wahaniaethau yn ôl grwpiau oedran poblogaeth a ffactorau ffordd o fyw eraill.
  • Mwynhad: mae’r adran hon yn canolbwyntio ar y galw am wneud mwy o chwaraeon ledled Cymru a faint o’r galw hwn sy’n cael ei fodloni.
  • Chwaraeon: mae'r adran hon yn cyflwyno'r gweithgareddau sydd fwyaf poblogaidd yng Nghymru ar hyn o bryd. Darperir gwybodaeth ar gyfer cyfranogiad a galw am wahanol fathau o weithgareddau chwaraeon.