Skip to main content

2. Cenedl Actif

Y weledigaeth yw creu cenedl actif gyda chymaint o bobl â phosibl wedi’u hysbrydoli i fod yn actif drwy chwaraeon.

Mae’r adran hon yn edrych ar gyfranogiad cyffredinol ac amledd y cyfranogiad mewn chwaraeon a gweithgarwch corfforol ymhlith oedolion yng Nghymru. Mae'r ffigurau hyn yn ein galluogi i edrych ar y cynnydd tuag at y Weledigaeth ar gyfer Chwaraeon yng Nghymru.

2.1  Cyfranogiad Cenedlaethol

Mae poblogaeth Cymru tua 3.1 miliwn o bobl, y mae 2.5 miliwn ohonynt yn oedolion (pawb 16+ oed)¹.

Ar draws y 2.5 miliwn o oedolion yng Nghymru, cymerodd 1,528,000 ran mewn o leiaf un gamp neu weithgaredd corfforol yn ystod y pedair wythnos flaenorol, sef 60% o’r holl oedolion. Yn eu tro, cymerodd tua 123,000 yn fwy o oedolion ran mewn gweithgareddau cysylltiedig â chwaraeon yn 2022-23 o gymharu â 2021-22 (56% yn 2021-22).

Gellir dosbarthu gweithgareddau chwaraeon a chorfforol yn grwpiau eang. Mae’r adroddiad hwn yn categoreiddio ymddygiadau cyfranogiad yn dri grŵp eang²: ‘Gweithgareddau Ffitrwydd’, ‘Chwaraeon a Gemau’ a ‘Gweithgareddau Awyr Agored’.

Cymerodd 56% (1,430,000) o oedolion ran mewn ‘Gweithgaredd Ffitrwydd’, cymerodd 16% (412,000) o oedolion ran mewn ‘Chwaraeon a Gemau’, a chymerodd 6% (148,000) o oedolion ran mewn ‘Gweithgaredd Awyr Agored’ yn ystod y pedair wythnos flaenorol.

Cymerodd cyfran uwch o oedolion ran mewn ‘Gweithgareddau Ffitrwydd’ a ‘Chwaraeon a Gemau’ yn 2022-23 o gymharu â 2021-22, tra bo cyfran yr oedolion a gymerodd ran mewn ‘Gweithgareddau Awyr Agored’ yn parhau’n debyg.

2.2  Amledd y Cyfranogiad Cenedlaethol

Cymerodd 39% o oedolion ran mewn chwaraeon a / neu weithgarwch corfforol deirgwaith neu fwy yr wythnos³ yn ystod y pedair wythnos flaenorol. Mae hyn yn cyfateb i 986,000 o oedolion yn fras.

I’r gwrthwyneb, cymerodd 44% o oedolion ran mewn chwaraeon a / neu weithgarwch corfforol lai nag unwaith yr wythnos, neu ddim o gwbl, yn ystod y pedair wythnos flaenorol (Graff 1). Mae hyn yn cyfateb i 1,120,000 o oedolion.

 

1 Amcangyfrifon Poblogaeth ac Aelwydydd yng Nghymru.

2 Mae Atodiad 7.I yn darparu manylion am y mathau o weithgareddau sydd wedi’u dosbarthu yn y grwpiau eang. Sylwer: gallai oedolion adrodd am weithgarwch mewn grwpiau eang lluosog.

3 Dangosydd Cenedlaethau’r Dyfodol Rhif 38

 

Graff 1: Amledd Cenedlaethol Cyfranogiad Oedolion yn yr holl Chwaraeon a / neu Weithgarwch Corfforol, Cymhariaeth Dros Amser.

Graff gydag wyth bar fertigol, wedi'u rhannu'n bedwar categori.  Mae’r categorïau’n cynrychioli’r nifer cyfartalog o weithiau mae oedolion yn cymryd rhan mewn chwaraeon a gweithgarwch bob wythnos.  Y categorïau yw teirgwaith neu fwy yr wythnos, dwywaith yr wythnos, unwaith yr wythnos, a llai nag unwaith yr wythnos.  O fewn pob categori, mae dau far. Mae un bar yn cynrychioli data o flwyddyn arolygu flaenorol 2021-2022, ac mae'r ail far yn cynrychioli data o'r flwyddyn arolygu gyfredol, 2022-2023.  Ar gyfer cyfranogiad deirgwaith neu fwy yr wythnos, mae’r bar cyntaf yn cynrychioli data o 2021-22, sy’n dangos bod 34 y cant o oedolion wedi cymryd rhan mewn chwaraeon a gweithgarwch mor aml â hyn. Mae’r ail far yn y categori hwn yn cynrychioli data o 2022-23, sy’n dangos bod 39 y cant o oedolion yn cymryd rhan ar hyn o bryd mewn chwaraeon a gweithgarwch mor aml â hyn.  Mae hyn yn dangos gogwydd o 5 pwynt canran yng nghyfran yr oedolion sy'n cymryd rhan mewn chwaraeon a gweithgarwch deirgwaith neu fwy yr wythnos eleni o gymharu â'r llynedd.  Ar gyfer cyfranogiad ddwywaith yr wythnos, mae'r bar cyntaf a'r ail far yn dangos bod 8 y cant o oedolion yn cymryd rhan mewn chwaraeon a gweithgarwch mor aml â hyn.  Ar gyfer cyfranogiad unwaith yr wythnos, mae'r bar cyntaf a'r ail far yn dangos bod 9 y cant o oedolion yn cymryd rhan mor aml â hyn.  Mae hyn yn dangos bod cyfran yr oedolion sy'n cymryd rhan unwaith a dwywaith yr wythnos wedi aros yn gyson rhwng y blynyddoedd arolygu.   Yn olaf, ar gyfer cyfranogiad llai nag unwaith yr wythnos, mae’r bar cyntaf yn cynrychioli data o 2021-22, sy’n dangos bod 50 y cant o oedolion wedi cymryd rhan mewn chwaraeon a gweithgarwch lai nag unwaith yr wythnos. Mae’r ail far yn y categori hwn yn cynrychioli data o 2022-23, sy’n dangos bod 44 y cant o oedolion yn cymryd rhan mewn chwaraeon a gweithgarwch lai nag unwaith yr wythnos ar hyn o bryd.  Mae hyn yn dangos gostyngiad o 6 pwynt canran yng nghyfran yr oedolion sy’n cymryd rhan mewn chwaraeon a gweithgarwch lai nag unwaith yr wythnos rhwng y blynyddoedd arolygu

Mae Graff 1 yn dangos y nifer cyfartalog o weithiau y cymerodd oedolion yng Nghymru ran mewn chwaraeon a gweithgarwch bob wythnos yn 2021-22 a 2022-23.

Cymerodd cyfran uwch o oedolion ran mewn chwaraeon a / neu weithgarwch corfforol deirgwaith neu fwy yr wythnos yn 2022-23 o gymharu â 2021-22, tra bo cyfran y bobl a gymerodd ran unwaith neu ddwywaith yr wythnos yn parhau’n debyg. I’r gwrthwyneb, cymerodd cyfran is o oedolion ran mewn chwaraeon a / neu weithgarwch corfforol lai nag unwaith yr wythnos yn 2022-23 o gymharu â 2021-22.
 

Graff 2: Amledd Cyfranogiad Oedolion, yn ôl Math o Weithgaredd Eang yn 2022-23.

Graff gyda 12 bar fertigol, wedi'i rannu'n bedwar categori. Mae’r categorïau’n cynrychioli’r nifer cyfartalog o weithiau mae oedolion yn cymryd rhan mewn chwaraeon a gweithgarwch bob wythnos. Y categorïau yw teirgwaith neu fwy yr wythnos, dwywaith yr wythnos, unwaith yr wythnos, a llai nag unwaith yr wythnos.  O fewn pob categori, mae tri bar. Mae pob bar yn cynrychioli math gwahanol o weithgarwch. Y mathau yw Gweithgareddau Ffitrwydd, Chwaraeon a Gemau, a Gweithgareddau Awyr Agored.  Ar gyfer cyfranogiad deirgwaith neu fwy yr wythnos, mae'r bar talaf yn cynrychioli Gweithgareddau Ffitrwydd, gyda 36 y cant o oedolion yn cymryd rhan yn y math hwn o weithgarwch mor aml â hyn bob wythnos.  Yn ogystal, ar gyfer cyfranogiad deirgwaith neu fwy yr wythnos, dangosir bod 3 y cant o oedolion yn cymryd rhan mewn Chwaraeon a Gemau, a dangosir bod 1 y cant o oedolion yn cymryd rhan mewn Gweithgareddau Awyr Agored mor aml â hyn bob wythnos.  Ar gyfer cyfranogiad ddwywaith yr wythnos, dangosir bod 8 y cant o oedolion yn cymryd rhan mewn Gweithgareddau Ffitrwydd, ac wedyn 3 y cant o oedolion y dangosir eu bod yn cymryd rhan mewn Chwaraeon a Gemau, ac 1 y cant o oedolion yn cymryd rhan mewn Gweithgareddau Awyr Agored mor aml â hyn bob wythnos.  Yn yr un modd, ar gyfer cyfranogiad unwaith yr wythnos, dangosir bod 8 y cant o oedolion yn cymryd rhan mewn Gweithgareddau Ffitrwydd, ac wedyn 5 y cant o oedolion y dangosir eu bod yn cymryd rhan mewn Chwaraeon a Gemau, ac 1 y cant o oedolion yn cymryd rhan mewn Gweithgareddau Awyr Agored mor aml â hyn bob wythnos.  Ar gyfer cyfranogiad o lai nag unwaith yr wythnos, mae'r bar talaf yn cynrychioli cyfranogiad mewn Gweithgareddau Awyr Agored, gyda 98 y cant o oedolion yn cymryd rhan yn y math hwn o weithgarwch mor aml â hyn.   Yn ogystal, ar gyfer cyfranogiad o lai nag unwaith yr wythnos, roedd 89 y cant o oedolion yn cymryd rhan mewn Chwaraeon a Gemau mor aml â hyn, a 48 y cant o oedolion yn cymryd rhan mewn Gweithgareddau Ffitrwydd mor aml â hyn.   Wrth gyfuno categorïau cyfranogiad o unwaith, dwywaith a theirgwaith neu fwy yr wythnos i gynhyrchu categori newydd o gyfranogiad unwaith yr wythnos neu fwy, dangosir bod 52 y cant o oedolion yn cymryd rhan mewn Gweithgareddau Ffitrwydd unwaith yr wythnos o leiaf, ac wedyn 11 y cant o oedolion yn cymryd rhan mewn Chwaraeon a Gemau, a 2 y cant o oedolion yn cymryd rhan mewn Gweithgareddau Awyr Agored, yn wythnosol.

Mae Graff 2 yn dangos amledd cyfranogiad yr oedolion mewn pob math o weithgareddau yn eang⁴.

Roedd cyfran uwch o oedolion yn cymryd rhan mewn ‘Gweithgareddau Ffitrwydd’ deirgwaith neu fwy yr wythnos o gymharu â ‘Chwaraeon a Gemau’ neu

‘Gweithgareddau Awyr Agored’. At hynny, roedd oedolion yn fwy tebygol o gymryd rhan mewn ‘Gweithgareddau Ffitrwydd’ unwaith yr wythnos o leiaf (52%), o gymharu â ‘Chwaraeon a Gemau’ (11%) a ‘Gweithgareddau Awyr Agored’ (2%)

I’r gwrthwyneb, roedd oedolion a gymerodd ran mewn ‘Chwaraeon a Gemau’ neu ‘Gweithgareddau Awyr Agored’ yn fwy tebygol o gymryd rhan yn y mathau hyn o weithgareddau lai nag unwaith yr wythnos.

Mae'r canfyddiadau hyn yn dangos y rhan y mae ‘Gweithgareddau Ffitrwydd’ yn ei chwarae wrth gadw oedolion yn actif yn rheolaidd.

 

4 Mae Atodiad 7.I yn darparu manylion am y mathau o weithgareddau sydd wedi’u dosbarthu yn y grwpiau eang.