Skip to main content

3. Pawb

Mae'r weledigaeth ar gyfer pawb. O bobl nad ydynt yn gweld eu hunain fel rhai medrus mewn chwaraeon i'r rhai sy'n ennill medalau.

Mae’r adran hon yn edrych ar gyfranogiad ac amledd y cyfranogiad mewn chwaraeon a gweithgarwch corfforol, yn ôl daearyddiaeth a grwpiau demograffig yng Nghymru.

Mae’r ffigurau hyn yn helpu i edrych ar y tebygrwydd neu’r gwahaniaethau rhwng y grwpiau hyn i sicrhau bod manteision chwaraeon a gweithgarwch corfforol yn cyrraedd pawb ledled Cymru.

3.1 Daearyddiaeth

Tabl 1: Cyfranogiad mewn o leiaf un gamp neu weithgaredd corfforol yn ystod y pedair wythnos flaenorol, yn ôl Ardal Partneriaeth Chwaraeon Ranbarthol, a Dwysedd Poblogaeth.

 

Partneriaeth Chwaraeon Ranbarthol 5Canran o oedolionNifer yr Oedolion
Gogledd Cymru62%349,000
Canolbarth Cymru54%92,000
Gorllewin Cymru60%340,000
Canolbarth y De64%477,000
Gwent57%269,000
Dwysedd Poblogaeth 6  
'Trefol'60%1,007,000
'Gwledig'61%521,000
Cyfanswm Cymru 760%1,528,000

 

Mae Tabl 1 yn dangos nifer a chanran yr oedolion a gymerodd ran mewn o leiaf un gamp neu weithgaredd corfforol yn ystod y pedair wythnos flaenorol, yn ôl ardal y

Partneriaethau Chwaraeon Rhanbarthol (PChRh), ac yn ôl ardaloedd ‘Gwledig’ a ‘Threfol’.

Yn 2022-23, Canolbarth y De oedd â’r gyfran uchaf o oedolion yn cymryd rhan mewn o leiaf un gamp / gweithgaredd corfforol yn ystod y pedair wythnos flaenorol (64%) yn cynrychioli 477,000 o oedolion.

 

5Mae gwybodaeth am y Partneriaethau Chwaraeon Rhanbarthol ar gael yma. Mae Atodiad 7.2 yn darparu manylion yr Awdurdodau Lleol ym mhob Partneriaeth Chwaraeon Ranbarthol.

6 Mae diffiniad o Ddwysedd Poblogaeth ar gael yma

7 Mae gwybodaeth am ddehongli’r cyfansymiau ar gael yn y cyflwyniad

 

Tabl 2: Cyfranogiad mewn o leiaf un gamp neu weithgaredd corfforol yn ystod y pedair wythnos flaenorol, yn ôl Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru (MALlC):

Mynegai Amddifadedd Lluosog CymruCanran o oedolionNifer yr Oedolion
Cwintel 1 (20% mwyaf difreintiedig)53%223,000
Cwintel 256%267,000
Cwintel 361%318,000
Cwintel 462%342,000
Cwintel 5 (20% lleiaf difreintiedig)68%378,000
Cyfanswm Cymru 860%1,528,000

Mae Tabl 2 yn dangos cyfran a nifer yr oedolion a gymerodd ran mewn unrhyw chwaraeon a / neu weithgarwch corfforol yn ystod y pedair wythnos flaenorol, yn ôl cwintelau Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru (MALlC). Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru (MALIC) yw mesur swyddogol Llywodraeth Cymru o amddifadedd cymharol ar gyfer ardaloedd bychain yng Nghymru. Mae gan bob cwintel boblogaeth debyg o ran maint, ac felly gellir cymharu cyfran a nifer yr oedolion a gymerodd ran mewn chwaraeon a / neu weithgarwch corfforol o leiaf unwaith yn ystod y pedair wythnos flaenorol yn erbyn ei gilydd.

Roedd cyfran yr oedolion a gymerodd ran mewn chwaraeon a / neu weithgarwch corfforol unwaith o leiaf yn ystod y pedair wythnos flaenorol ar ei isaf ymhlith y rhai a oedd yn byw yn yr 20% o’r ardaloedd mwyaf difreintiedig (Cwintel 1) yng Nghymru. Roedd gwahaniaeth o 15 pwynt canran rhwng y rhai sy’n byw yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig o gymharu â’r rhai sy’n byw yn yr ardaloedd lleiaf difreintiedig yng Nghymru. Mae’r gwahaniaeth hwn yn cyfateb i tua 154,000 o oedolion.

 

⁸Mae gwybodaeth am ddehongli’r cyfansymiau yn y cyflwyniad

 

O gymharu â 2021-22, cynyddodd cyfran yr oedolion a gymerodd ran mewn chwaraeon a / neu weithgarwch corfforol unwaith o leiaf yn ystod y pedair wythnos flaenorol ymhlith y rhai a oedd yn byw yn 20% uchaf yr ardaloedd mwyaf difreintiedig (Cwintel 1) o 10 pwynt canran. O ganlyniad, mae'r bwlch cyfranogiad rhwng y cymunedau mwyaf a lleiaf difreintiedig wedi lleihau.

Tabl 3: Cyfranogiad deirgwaith neu fwy yr wythnos yn ôl Ardal Partneriaeth Chwaraeon Ranbarthol, a Dwysedd Poblogaeth.

Partneriaeth Chwaraeon Ranbarthol 9Canran o OedolionNifer yr Oedolion
Gogledd Cymru41%230,000
Canolbarth Cymru33%56,000
Gorllewin Cymru38%219,000
Canolbarth y De43%325,000
Gwent33%156,000
Dwysedd Poblogaeth 10  
'Trefol'40%659,000
'Gwledig'38%327,000
Cyfanswm Cymru 1139%986,000

Mae Tabl 3 yn edrych ar nifer a chanran yr oedolion a gymerodd ran mewn chwaraeon a / neu weithgarwch corfforol deirgwaith neu fwy yr wythnos, yn ôl Partneriaeth Chwaraeon Ranbarthol, ac yn ôl ardaloedd ‘Gwledig’ a ‘Threfol’.

Yn 2022-23, Canolbarth y De oedd â’r gyfran uchaf o oedolion yn cymryd rhan mewn chwaraeon / gweithgarwch corfforol deirgwaith neu fwy yr wythnos (43%), sy’n cyfateb i 325,000 o oedolion.

O gymharu â’r ffigurau a adroddwyd yn 2021-22, dangosodd Canolbarth y De, Gogledd Cymru, a Gorllewin Cymru gyfrannau uwch o oedolion yn cymryd rhan deirgwaith neu fwy yr wythnos, tra bo’r ffigurau ar gyfer Gwent a Chanolbarth Cymru yn parhau i fod yn debyg i’r rhai a adroddwyd yn 2021-22, ac yn parhau i ostwng yn is na'r cyfartaledd cenedlaethol.

Yn ogystal, er bod nifer yr oedolion a gymerodd ran deirgwaith neu fwy yr wythnos mewn ardaloedd ‘Trefol’ tua dwbl yr hyn a geir mewn ardaloedd ‘Gwledig’, roedd cyfran yr oedolion a gymerodd ran mewn Ardaloedd ‘Trefol’ a ‘Gwledig’ deirgwaith neu fwy yr wythnos yn debyg.

 

9 Mae gwybodaeth am y Partneriaethau Chwaraeon Rhanbarthol ar gael yma. Mae Atodiad 7.2 yn darparu manylion yr Awdurdodau Lleol ym mhob Partneriaeth Chwaraeon Ranbarthol.

10 Mae diffiniad o Ddwysedd Poblogaeth ar gael yma

11 Mae gwybodaeth am ddehongli’r cyfansymiau ar gael yn y cyflwyniad.

 

Tabl 4: Cyfranogiad deirgwaith neu fwy yr wythnos, yn ôl Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru (MALlC):

Mynegai Amddifadedd Lluosog CymruCanran o oedolionNifer yr oedolion
Cwintel 1 (20% mwyaf difreintiedig)34%141,000
Cwintel 236%171,000
Cwintel 340%208,000
Cwintel 440%220,000
Cwintel 5 (20% lleiaf difreintiedig)44%246,000
Cyfanswm Cymru 1239%986,000

 

Mae Tabl 4 yn dangos cyfran a nifer yr oedolion a gymerodd ran mewn chwaraeon a / neu weithgarwch corfforol deirgwaith neu fwy yr wythnos, yn ôl cwintelau Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru (MALlC). Fel y disgrifir uchod, Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru (MALIC) yw mesur swyddogol Llywodraeth Cymru o amddifadedd ar gyfer ardaloedd bychain yng Nghymru. Mae gan bob cwintel boblogaeth debyg o ran maint, ac felly gellir cymharu cyfran a nifer yr oedolion a gymerodd ran mewn chwaraeon a / neu weithgarwch corfforol deirgwaith neu fwy yr wythnos yn erbyn ei gilydd.

Roedd cyfran yr oedolion a oedd yn cymryd rhan mewn chwaraeon a / neu weithgarwch corfforol deirgwaith neu fwy yr wythnos yn debyg ymhlith y rhai a oedd yn byw yn yr 20% a’r 40% o’r ardaloedd mwyaf difreintiedig yng Nghymru (h.y., Cwintel 1 a Chwintel 2).

Fodd bynnag, roedd y rhai a oedd yn byw yn yr 20% a’r 40% o’r ardaloedd mwyaf difreintiedig yng Nghymru yn llai tebygol o gymryd rhan mewn chwaraeon a / neu weithgarwch corfforol deirgwaith neu fwy yr wythnos o gymharu â’r rhai a oedd yn byw yng Nghwintel 3, Cwintel 4 a Chwintel 5 (llai difreintiedig i leiaf difreintiedig ).

Roedd gwahaniaeth o 11 pwynt canran yng nghyfran yr oedolion a oedd yn cymryd rhan mewn chwaraeon a / neu weithgarwch corfforol deirgwaith neu fwy yr wythnos rhwng y rhai sy’n byw yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig o gymharu â’r rhai sy’n byw yn yr ardaloedd lleiaf difreintiedig yng Nghymru. Mae hwn yn wahaniaeth o 40,000 o oedolion.

Mae cyfran yr oedolion sy’n cymryd rhan mewn chwaraeon a / neu weithgarwch corfforol deirgwaith neu fwy yr wythnos wedi cynyddu yn y cymunedau mwyaf difreintiedig (Cwintel 1) o 25% yn 2021-22 i 34% yn 2022-23. Roedd y newid hwn yn fwy na’r newid a welwyd ar gyfer Cwintel 2, Cwintel 3, Cwintel 4, a C5 ers 2021-22.

3.2  Demograffeg

Tabl 5: Cyfranogiad mewn o leiaf un Gamp neu Weithgaredd Corfforol yn ystod y pedair wythnos flaenorol yn ôl (1) Rhyw, (2) Ethnigrwydd, (3) Salwch, Anabledd neu Lesgedd, (4) Amddifadedd Materol, a (5) Defnydd o’r Iaith Gymraeg.

RhywCanran o oedolionNifer yr oedolion
Benywod57%728,000
Gwrywod64%797,000
Ethnigrwydd  

Gwyn

(Cymreig, Seisnig, Albanaidd, Gwyddelig o Ogledd Iwerddon a Phrydeinig)

 

60%

 

1,401,000

Gwyn Arall

(Gwyddelig, Sipsi neu Deithiwr Gwyddelig, neu unrhyw gefndir Gwyn arall)

 

64%

 

41,000

Unrhyw Grŵp Ethnig Arall

(Du, Du Cymreig, Du Prydeinig, Caribïaidd, neu Affricanaidd, Asiaidd, Asiaidd Cymreig, Asiaidd Prydeinig, grwpiau ethnig Cymysg neu Luosog)

 

68%

 

86,000

Salwch, Anabledd neu Lesgedd  
 salwch, anabledd neu lesgedd hirsefydlog49%585,000
Dim salwch, anabledd neu lesgedd hirsefydlog72%928,000
Amddifadedd  
Byw mewn amddifadedd materol49%192,000
Ddim yn byw mewn amddifadedd materol63%1,336,000
Yr Iaith Gymraeg  
Pobl sy’n defnyddio’r Gymraeg yn eu bywyd bob dydd (FG36)67%180,000
Pobl nad ydynt yn defnyddio’r Gymraeg yn eu bywyd bob dydd60%1,348,000
Cyfanswm Cymru1360%1,528,000

Mae Tabl 5 yn cyflwyno data cyfranogiad yn ôl gwahanol grwpiau demograffig yng Nghymru.

Roedd benywod yn llai tebygol o adrodd eu bod wedi cymryd rhan mewn chwaraeon a / neu weithgarwch corfforol yn ystod y pedair wythnos flaenorol o gymharu â gwrywod, gyda gwahaniaeth o 8 pwynt canran.

Rhwng grwpiau ethnigrwydd eang, y rhai a nododd eu hethnigrwydd fel ‘Gwyn’ oedd â’r lefelau cyfranogiad isaf. Y rhai o ‘Unrhyw Grŵp Ethnig Arall’ oedd fwyaf tebygol o adrodd eu bod wedi cymryd rhan yn ystod y 4 wythnos flaenorol. O archwilio ymhellach, roedd tueddiadau ychwanegol o fewn y grŵp eang ‘Unrhyw Grŵp Ethnig Arall’, gan mai’r rhai a nododd eu hethnigrwydd fel ‘Grwpiau Ethnig Cymysg neu Luosog’ oedd â’r lefel cyfranogiad uchaf (82%); 22 pwynt canran yn uwch na'r cyfartaledd cenedlaethol.

Roedd oedolion a ddywedodd bod ganddynt salwch, anabledd neu lesgedd hirsefydlog yn llai tebygol o fod wedi cymryd rhan yn ystod y pedair wythnos flaenorol o gymharu â’r rhai heb unrhyw salwch, anabledd neu lesgedd, gyda gwahaniaeth o 23 pwynt canran. Ymhellach, roedd y rhai a ddywedodd eu bod wedi’u cyfyngu gan eu salwch, eu hanabledd neu eu llesgedd yn llai tebygol hyd yn oed o fod wedi cymryd rhan o leiaf unwaith yn ystod y pedair wythnos flaenorol, gyda 42% (385,000) o oedolion wedi cymryd rhan.

Roedd oedolion a oedd yn byw mewn amddifadedd materol yn llai tebygol hefyd o adrodd eu bod wedi cymryd rhan yn ystod y pedair wythnos flaenorol o gymharu â’r rhai nad oeddent yn byw mewn amddifadedd materol, gyda gwahaniaeth o 14 pwynt canran. Fodd bynnag, cymerodd 86,000 yn fwy o oedolion sy’n byw mewn amddifadedd materol ran yn 2022-23 o gymharu â 2021-22, sy’n awgrymu bod y bwlch cyfranogiad rhwng y rhai mewn amddifadedd materol, a’r rhai nad ydynt, wedi lleihau.

Yn olaf, ymhlith y rhai sy’n defnyddio’r Gymraeg bob dydd, dywedodd cyfran uwch eu bod wedi cymryd rhan yn ystod y pedair wythnos flaenorol o gymharu â’r rhai nad ydynt yn defnyddio’r Gymraeg bob dydd, gyda gwahaniaeth o 7 pwynt canran.

 

Tabl 6: Cyfranogiad mewn chwaraeon a / neu weithgarwch corfforol deirgwaith neu fwy yr wythnos yn ôl (1) Rhyw, (2) Ethnigrwydd, (3) Salwch, Anabledd neu Lesgedd, (4) Amddifadedd Materol, a (5) Defnydd o’r Iaith Gymraeg.

RhywCanran  o oedolionNifer yr oedolion
Benywod35%451,000
Gwrywod43%533,000
Ethnigrwydd  

Gwyn

(Cymreig, Seisnig, Albanaidd, Gwyddelig o Ogledd Iwerddon a Phrydeinig)

 

39%

 

899,000

Gwyn Arall

(Gwyddelig, Sipsi neu Deithiwr Gwyddelig, neu unrhyw gefndir Gwyn arall)

 

42%

 

26,000

Unrhyw Grŵp Ethnig Arall

(Du, Du Cymreig, Du Prydeinig, Caribïaidd, neu Affricanaidd, Asiaidd, Asiaidd Cymreig, Asiaidd Prydeinig, grwpiau ethnig Cymysg neu Luosog)

 

47%

 

60,000

Salwch, Anabledd neu Lesgedd  
 salwch, anabledd neu lesgedd hirsefydlog30%362,000
Dim salwch, anabledd neu lesgedd hirsefydlog48%614,000
Amddifadedd  
Byw mewn amddifadedd materol31%120,000
Ddim yn byw mewn amddifadedd materol41%866,000
Yr Iaith Gymraeg  
Pobl sy’n defnyddio’r Gymraeg yn eu bywyd bob dydd (FG36)46%122,000
Pobl nad ydynt yn defnyddio’r Gymraeg yn eu bywyd bob dydd38%864,000
Cyfanswm Cymru¹⁴39%986,000

14 Mae gwybodaeth am ddehongli’r cyfansymiau ar gael yn y cyflwyniad

 

Mae Tabl 6 yn dangos bod Benywod, yn 2022-23, yn llai tebygol o adrodd eu bod wedi cymryd rhan mewn chwaraeon a / neu weithgarwch corfforol deirgwaith neu fwy yr wythnos o gymharu â Gwrywod, gyda gwahaniaeth o 8 pwynt canran.

Oedolion a nododd eu hethnigrwydd fel ‘Gwyn’ oedd â’r cyfraddau cyfranogiad isaf. Rhwng y grwpiau ethnigrwydd eang, y rhai a ddosbarthwyd fel ‘Unrhyw Grŵp Ethnig Arall’ oedd fwyaf tebygol o adrodd eu bod wedi cymryd rhan deirgwaith neu fwy yr wythnos.

Roedd oedolion a oedd yn adrodd am salwch, anabledd neu lesgedd hirsefydlog yn llai tebygol o fod wedi cymryd rhan deirgwaith neu fwy yr wythnos o gymharu â’r rhai heb salwch, anabledd neu lesgedd, gyda gwahaniaeth o 18 pwynt canran. Ymhellach, roedd y rhai a ddywedodd eu bod wedi’u cyfyngu gan eu salwch, eu hanabledd neu eu llesgedd yn llai tebygol hyd yn oed o fod wedi cymryd rhan deirgwaith neu fwy yr wythnos, gyda 26% (238,000) yn cymryd rhan yn aml.

Roedd oedolion a oedd yn byw mewn amddifadedd materol yn llai tebygol hefyd o adrodd eu bod wedi cymryd rhan deirgwaith neu fwy yr wythnos o gymharu â’r rhai nad oeddent yn byw mewn amddifadedd materol, gyda gwahaniaeth o 10 pwynt canran.

Er gwaethaf hyn, cymerodd 66,000 yn fwy o bobl a oedd yn byw mewn amddifadedd materol ran mewn chwaraeon a / neu weithgarwch corfforol deirgwaith neu fwy yr wythnos yn 2022-23 o gymharu â 2021-22.

Yn olaf, ymhlith y rhai sy’n defnyddio’r Gymraeg bob dydd, dywedodd cyfran uwch o oedolion eu bod yn cymryd rhan deirgwaith neu fwy yr wythnos o gymharu â’r rhai nad ydynt yn defnyddio’r Gymraeg bob dydd, gyda gwahaniaeth o 7 pwynt canran.

 

Mae’r canlyniadau yn yr adran hon yn dangos, er bod y cyfraddau cymryd rhan wedi cynyddu ledled Cymru rhwng 2021-22 a 2022-23, bod gwahaniaethau o hyd yn y cyfraddau hyn o’u harchwilio yn ôl nodweddion poblogaeth penodol.

Er bod tystiolaeth bod y bylchau’n lleihau ar draws blynyddoedd yr arolwg, mae gwahaniaethau sylweddol a dwfn o hyd mewn lefelau cyfranogiad yn ôl rhyw, anabledd, amddifadedd, ethnigrwydd, a’r iaith Gymraeg. Adlewyrchir y ffactorau hyn mewn patrymau cyfranogiad lleol a rhanbarthol, ochr yn ochr â ffactorau ychwanegol fel oedran ac iechyd cyffredinol, sy’n cael sylw yn yr adran nesaf, 4. Gydol Oes.