Mae pob un o’r pum partneriaeth chwaraeon wedi’i sefydlu erbyn hyn, ar gyfer y Gogledd, y Gorllewin, y Canolbarth, Canolbarth y De, a Gwent. Er eu bod ar wahanol rannau o’u taith, gawson ni sgwrs gyda nhw am eu hanes hyd yma ac am beth gallwn ni edrych ymlaen ato.
Dyma ragor o wybodaeth am Bartneriaethau Chwaraeon.
Gogledd Cymru Actif
Yr hanes hyd yma
Gogledd Cymru Actif oedd y bartneriaeth gyntaf i gael ei sefydlu.
- Dechreuodd Manon Rees-O’Brien yn ei swydd fel y Cyfarwyddwr Rhanbarthol ddiwedd 2021.
- Ymunodd Mike Parry, Rheolwr Rhaglenni a Chysylltiadau, 12 mis yn ddiweddarach i arwain y gwaith o ddatblygu partneriaethau a chefnogi partneriaid comisiynu ar draws y rhanbarth.
- Ymunodd Einir Davies y flwyddyn ganlynol fel Swyddog Cefnogi Partneriaethau, gan chwarae rôl hollbwysig yn cydlynu gwaith, yn cysylltu partneriaid ac yn cynnal momentwm y dull gweithredu rhanbarthol.
Mae’r tîm yn cael cymorth Marcus Politis hefyd, sef Uwch Swyddog Partneriaethau Rhanbarthol (Gogledd Cymru) yn Chwaraeon Anabledd Cymru. Mae’n rhan o dîm craidd Actif heb os, gan helpu i wneud yn siŵr bod cynhwysiant yn cael ei wreiddio ar draws pob maes gwaith.
Datblygu strategaeth bartneriaeth
Ar ôl treulio amser yn dod i adnabod partneriaid a deall go iawn beth sy’n bwysig i bobl leol, roedd datblygu strategaeth partneriaeth 10 mlynedd ar y cyd yn garreg filltir bwysig.
Yn ôl Manon, y llwyddiant mwyaf hyd yma yw gweld y sector yn newid ei ffordd o weithio:
“Mae staff timau datblygu chwaraeon yn gweithio ar sail lleoedd i raddau mwy o lawer erbyn hyn. Hynny yw, maen nhw’n treulio amser mewn cymunedau, yn dod i ddeall sut beth ydy byw yno, beth sy’n gweithio’n dda yn barod, beth ydy cryfderau pobl, a pha gymorth sydd ei angen arnyn nhw. Eu gwaith nhw ydy deall pob ardal a dod â’r bobl a’r syniadau iawn at ei gilydd.”
Adeiladu cynlluniau lleol ar gyfer cymunedau
Mae gan bob un o'r chwe ardal leol ei Chynllun Actif Ardal Leol ei hun erbyn hyn. O’r blaen, roedd y gwaith cynllunio’n cael ei wneud ar sail awdurdod lleol a’i arwain gan y tîm datblygu chwaraeon ar ei ben ei hun. Heddiw, mae’r cynlluniau hyn yn cael eu dylunio ar y cyd a’u cyflawni gan amrywiaeth o bartneriaid. Mae'r rhain yn cynnwys:
- gwasanaethau ieuenctid
- addysg
- timau chwarae
- swyddogion datblygu cymunedol
- timau tai
- y Bwrdd Iechyd
- cyrff llywodraethu cenedlaethol,
- clybiau lleol ar lawr gwlad
- sefydliadau yn y trydydd sector.
Ond mae mwy i’r gwaith na dim ond cynllunio. Gyda’i gilydd, mae’r unigolion a’r sefydliadau hyn – y system gyfan – yn dod ynghyd i roi syniadau ar waith.