Skip to main content

Degawd o ddatblygu arweinwyr ifanc cyflawn

Arweinyddiaeth, hyder a chyfathrebu - dim ond tair sgil bywyd hanfodol sydd wedi'u tanio ymhlith pobl ifanc ledled Cymru yn ystod y degawd diwethaf diolch i raglen y Llysgenhadon Ifanc.

Yn cael ei chefnogi gan yr Youth Sport Trust a'i chyllido gan Chwaraeon Cymru, cyflwynwyd y rhaglen i ddechrau yng Nghymru yn 2010 fel gwaddol y cais llwyddiannus am gynnal Gemau Olympaidd a Pharalympaidd Llundain 2012.

Ers hynny, mae'r rhaglen wedi grymuso mwy nag 20,000 o Lysgenhadon Ifanc fel modelau rôl sy'n annog eraill i rannu eu hoffter o chwaraeon.

Ond yn ogystal â helpu i gynyddu lefelau gweithgarwch corfforol wrth i'r Llysgenhadon Ifanc arwain sesiynau chwaraeon mewn ysgolion, colegau, prifysgolion a chymunedau, mae'r effaith ar y Llysgenhadon Ifanc eu hunain wedi bod yn nodedig hefyd.

Ddegawd ers ei sefydlu, mae'r rhaglen wedi rhoi llais i fwy o bobl ifanc ac wedi datblygu cenhedlaeth o arweinwyr ifanc cyflawn sydd eisoes yn gwneud eu marc ym mhenodau nesaf eu bywydau.

Ymhlith y cyn Lysgenhadon Ifanc sy'n diolch i'r rhaglen am roi adnoddau iddynt i lwyddo mae Rhys Jones o'r Rhondda.

Dechreuodd ei siwrnai fel llysgennad ag yntau'n fachgen hynod swil a'i ffrind oedd ei playstation. Y canlyniad oedd sefyll ar y llinell gychwyn yng Ngemau Paralympaidd Llundain 2012.

"Doeddwn i ddim yn gallu edrych yn llygaid neb ac roedd yn gas gen i siarad o flaen torf o bobl", meddai Rhys.

"Fe wnaeth cael fy nghyflwyno fel Llysgennad Ifanc newid fy mywyd i'n llwyr. Mae gen i gymaint o ddyled i'r cynllun. Fe wnaeth roi hyder a dewrder i mi i ddangos beth oeddwn i'n gallu ei wneud."

O fewn dwy flynedd i ddod yn Llysgennad Ifanc Aur yn Ysgol Uwchradd St John Baptist yn Aberdâr, roedd Rhys wedi magu llawer iawn o hyder, i'r fath raddau fel bod posib canfod ei dalent chwaraeon, a chystadlodd yn y sbrint 100m a 200m yng Ngemau Llundain.

"Cyn hynny, byddai bod o flaen 80,000 o bobl wedi fy nychryn i'n llwyr! Mae chwaraeon wedi rhoi bywyd i mi ac mae rhaglen y Llysgenhadon Ifanc wedi rhoi'r hyder oeddwn i ei angen. Os yw'n gallu gwneud hynny i mi, fe all wneud i eraill hefyd."

 

Fel mae cyn Lysgennad Ifanc arall yn profi, mae'n werth mentro gyda'r rhai tawelach sydd angen mwy o le i ddatblygu weithiau.

"Roeddwn i bob amser yn hoffi cymryd rhan mewn chwaraeon yn yr ysgol ond yn hapus i orffwys ar fy rhwyfau, heb herio fy hun," meddai Keira Davies, 22, o Sgiwen. "Roeddwn i mor swil a distaw, a byth eisiau tynnu sylw."

Ers dod yn Llysgennad Ifanc yng Ngholeg Castell-nedd Port Talbot, mae Keira wedi ffynnu. Mae ganddi fwy o hyder, mae hi wrth ei bodd yn hyfforddi pêl rwyd a chwaraeon eraill a nawr mae'n Is Lywydd Undeb y Myfyrwyr ym Met Caerdydd.

Ychwanegodd Keira: "Rydw i mor ddiolchgar bod rhywun wedi gweld fy sbarc i. Mae dod yn Llysgennad Ifanc wedi agor cymaint o gyfleoedd i mi ac rydw i wedi bod yn barod iawn i fanteisio arnyn nhw. Mae taid a nain yn dweud 'mod i'n berson cwbl wahanol nawr."

I Natalie Davies o Faesteg, mae rhaglen y Llysgenhadon Ifanc wedi chwarae rhan allweddol mewn perffeithio ei sgiliau arweinyddiaeth. Roedd hi'n un o'r don gyntaf o Lysgenhadon Ifanc yn 2010, a sefydlodd ei hysgol ddawns gyntaf yn ddim ond 16 oed.

"Mae bod yn Llysgennad Ifanc wedi fy helpu i i fod yn fwy trefnus a 'mharatoi i ar gyfer y byd gwaith go iawn," meddai Natalie.

Ers hynny mae wedi teithio'r byd gyda'i dawnswyr i leoliadau cyffrous fel Paris a Las Vegas.

Bydd llawer mwy o straeon am sut mae'r rhaglen wedi bod o fudd i bobl ifanc yng Nghymru yn ystod y degawd diwethaf yn cael eu rhannu yng Nghynhadledd y Llysgenhadon Ifanc sy'n cael ei chynnal yn Stadiwm Dinas Caerdydd ddydd Gwener 8 Tachwedd.

Fel rhan o'r dathliadau pen blwydd yn ddeg oed, bydd gwobrau, 'Ysbrydoliaeth', 'Creadigrwydd' a 'Swyddog Tawel' yn cael eu cyflwyno i'r Llysgenhadon Ifanc presennol a bydd un cyn lysgennad yn derbyn gwobr 'Gwaddol' newydd i gydnabod ei ymdrechion eithriadol yn annog llais pobl ifanc ac yn hybu ffyrdd iach o fyw.

Dilynwch @sportwales ac @YACymru am fanylion am yr holl enillwyr yng Nghynhadledd y Llysgenhadon Ifanc eleni.

Pennawd ar gyfer y llun: Cyn Lysgenhadon Ifanc Rhys Jones (cefn chwith), Natalie Davies (cefn dde) a Keira Davies (blaen chwith) gydag Aled Davies, (blaen dde), y Cydlynydd Datblygu ar gyfer y rhaglen yng Nghymru.