Main Content CTA Title

Cadw pawb yn y gêm yn ddiogel: Y tu mewn i ymdrechion diogelu’r byd chwaraeon yng Nghymru

  1. Hafan
  2. Newyddion, Straeon a Digwyddiadau
  3. Newyddion, Erthyglau ac Ymgyrchoedd
  4. Cadw pawb yn y gêm yn ddiogel: Y tu mewn i ymdrechion diogelu’r byd chwaraeon yng Nghymru

Mae gwneud yn siŵr bod pobl yn gallu cymryd rhan mewn chwaraeon yn ddiogel yn flaenoriaeth fawr i gyrff chwaraeon yng Nghymru. Ledled y wlad, mae sefydliadau'n meddwl am ffyrdd creadigol ac ymarferol o warchod cyfranogwyr ac ymgorffori diogelu mewn chwaraeon.

Rydyn ni’n rhannu pum enghraifft o arfer da sy'n dangos sut mae sefydliadau ledled Cymru yn rhoi diogelwch yn gyntaf.

Badminton Cymru – rhoi llais i bobl ifanc am eu diogelwch eu hunain

Wedi'i greu gan bobl ifanc, ar gyfer pobl ifanc, mae Badminton Cymru wedi lansio Oes Rhywbeth yn Teimlo'n Anghywir?– canllaw maint poced sydd wedi’i gynllunio gan Gyngor Ieuenctid Badminton Cymru. Mae'r canllaw yn rhoi cyngor syml a chlir i chwaraewyr iau ar beth i'w wneud os ydyn nhw’n teimlo'n anniogel neu angen cefnogaeth.

Mae'r Cyngor Ieuenctid yn cynnwys pobl ifanc ac yn cael ei gadeirio gan Ieuan Phillips, a oedd yn 22 oed pan ddechreuodd y gwaith hwn. Gweithiodd ochr yn ochr â phedwar o bobl ifanc yn eu harddegau – gan gynnwys enillydd medal aur yn y Gemau Olympaidd Arbennig – i droi polisïau diogelu cymhleth yn adnodd ymarferol sy'n hawdd ei ddeall ac yn ffitio'n daclus i fag raced.

Merch yn cymryd serfiad mewn badminton
Mae'r adnodd ei hun a'n fframwaith ymgysylltu ieuenctid ni yn sefyll fel astudiaethau achos effeithiol i eraill. Rydw i’n edrych ymlaen at drafod ei ddatblygiad a'i waddol ehangach o fewn a’r tu hwnt i’r byd badminton.
Ieuan Phillips, Cadeirydd Cyngor Ieuenctid Badminton Cymru

Codi Pwysau Cymru – canolbwyntio ar fwynhad pobl ifanc heb eu gorfodi i gyrraedd pwysau

Gan roi pobl ifanc a'u lles wrth galon cystadlaethau, mae Codi Pwysau Cymru wedi gwneud y canlynol:

  • dileu pwyso i mewn i unrhyw un o dan 12 oed.
  • cyflwyno dull mwy hyblyg o weithredu gyda phwyso i mewn i ieuenctid 13 i 17 oed. Bydd y codwyr yn y grŵp oedran hwn yn cystadlu yn y categori cywir ar gyfer pwysau eu corff.

Dywedodd Simon Roach, Prif Swyddog Gweithredu Codi Pwysau Cymru:

“Ni ddylai unrhyw blentyn deimlo dan bwysau byth i gyrraedd pwysau gan ein bod ni’n gwybod y gall hyn arwain at iechyd meddwl negyddol yn y tymor hir. Dyma pam ein bod ni’n canolbwyntio ar fwynhau'r gamp a chystadlu yn erbyn eraill mewn amgylchedd cyfeillgar a diogel – heb unrhyw bwysau.”

Grŵp o blant clwb codi pwysau yn eistedd ar gadeiriau
Ni ddylai unrhyw blentyn deimlo dan bwysau byth i gyrraedd pwysau gan ein bod ni’n gwybod y gall hyn arwain at iechyd meddwl negyddol yn y tymor hir. Dyma pam ein bod ni’n canolbwyntio ar fwynhau'r gamp a chystadlu yn erbyn eraill mewn amgylchedd cyfeillgar a diogel – heb unrhyw bwysau.
Simon Roach, Prif Swyddog Gweithredu Codi Pwysau Cymru

Cymdeithas Bêl-droed Cymru – gwneud diogelu oedolion yn rhan o’r diwylliant

Mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru yn sicrhau bod gan glybiau ledled y wlad yr adnoddau a’r hyder i gadw oedolion yn ddiogel mewn pêl-droed. Dros y chwe mis diwethaf, mae wedi gwneud y canlynol:

  • sefydlu hyfforddiant a chanllawiau fel bod clybiau, cynghreiriau ac ardaloedd yn deall eu cyfrifoldebau.
  • sefydlu rheol mai dim ond os oes ganddynt swyddogion diogelu plant ac oedolion ar wahân y caniateir i glybiau sydd ag aelodau sy’n oedolion ymaelodi.

Ar ôl cwblhau Fframwaith Diogelu Oedolion mewn Chwaraeon Ymddiriedolaeth Ann Craft, mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru wedi lansio ei pholisi a’i chynllun gweithredu diogelu oedolion cyntaf.

Natalie Chamberlain yw Uwch Reolwr Diogelu a Lles Chwaraewyr Cymdeithas Bêl-droed Cymru. Dywedodd:

“Yn aml, mae diogelu’n cael ei weld fel ymarfer cydymffurfio ond yng Nghymdeithas Bêl-droed Cymru rydyn ni’n ei ail-lunio fel mudiad sy’n cael ei arwain gan werthoedd. Mae’n ymwneud â diogelwch, ymddiriedaeth, cynhwysiant a lles pawb mewn pêl-droed. Drwy ymgorffori diogelu oedolion nawr, rydyn ni’n diogelu pêl-droed Cymru ar gyfer y dyfodol ac yn creu diwylliant lle mae pobl yn teimlo’n ddiogel, yn cael eu parchu, ac yn gallu ffynnu.”

Mae diogelu yn ymwneud â gosod safonau clir a chreu amgylcheddau lle mae pobl yn teimlo'n ddiogel, yn cael eu cefnogi ac yn cael eu deall
Natalie Chamberlain, Uwch Reolwr Diogelu a Lles Chwaraewyr Cymdeithas Bêl-droed Cymru

Athletau Cymru - creu cyrsiau ar gyfer clybiau athletau ar ddiogelu oedolion

Gan sylwi ar fwlch mewn hyfforddiant diogelu oedolion, gofynnodd Athletau Cymru i Gymdeithas Chwaraeon Cymru (WSA) ddylunio a lansio cwrs Diogelu Oedolion mewn Perygl ar gyfer clybiau.

Bydd yn barod i'w gyflwyno o ddechrau 2026 a bydd holl staff Athletau Cymru yn cael eu hyfforddi, a bydd ar gael i glybiau ledled y wlad. Cymerwyd y cam hwn ar ôl i Athletau Cymru gwblhau Fframwaith Diogelu Oedolion mewn ChwaraeonYmddiriedolaeth Ann Craft yn gynharach eleni.

Dywedodd Carl Williams, Arweinydd Diogelu a Chydymffurfiaeth Athletau Cymru:

“Gall unrhyw un ddod yn oedolyn mewn perygl ar unrhyw adeg. Yn Athletau Cymru, rydyn ni’n cydnabod pwysigrwydd gweithio'n agos gydag Ymddiriedolaeth Ann Craft i wneud yn siŵr bod arferion diogelu cadarn ar waith i warchod a chefnogi oedolion mewn perygl yn ein camp.”

Mae gan Athletau Cymru gynllun gweithredu clir bellach sy'n cael ei adolygu gan Ymddiriedolaeth Ann Craft. 

Rydyn ni’n cydnabod pwysigrwydd gweithio'n agos gydag Ymddiriedolaeth Ann Craft i wneud yn siŵr bod arferion diogelu cadarn ar waith i warchod a chefnogi oedolion mewn perygl yn ein camp.

Golff Cymru - creu adnoddau i gadw pobl agored i niwed a chwaraewyr sydd â chyflyrau iechyd yn ddiogel

Mae Golff Cymru hefyd yn symud ymlaen. Mae wedi datblygu adnoddau i helpu clybiau i gefnogi aelodau sy’n byw gyda neu sy'n cael eu heffeithio gan Ddementia, Awtistiaeth, Niwroamrywiaeth neu Epilepsi.

Dywedodd Sian Simmons, y Prif Swyddog Diogelu: “Mae'r adnoddau hyn i helpu i godi ymwybyddiaeth, hyrwyddo dealltwriaeth, ac annog arferion cynhwysol drwy gydol bywyd y clwb.”

Mae hefyd yn paratoi sesiynau diogelu oedolion cyflwyniadol, dan arweiniad Ymddiriedolaeth Ann Craft, i helpu clybiau i gadw oedolion yn ddiogel. Cymerodd Golff Cymru gamau ar ôl cwblhau'r Fframwaith Diogelu Oedolion mewn Chwaraeon.

Dywedodd Sian: “Roedden ni eisiau rhoi mwy o bwyslais ar ddiogelu oedolion ac yn gweld y Fframwaith Diogelu fel cyfle gwerthfawr i asesu ein sefyllfa bresennol. Roedd yn hynod ddefnyddiol, gan roi cyfeiriad clir i ni a'n helpu ni i nodi ein blaenoriaethau allweddol ar gyfer y 18 mis nesaf.”

Dau ddyn yn cerdded ar lwybr ar gwrs golff. Mae un yn cario ei glybiau tra bod y llall yn gwthio ei rai mewn bygi
Roedden ni eisiau rhoi mwy o bwyslais ar ddiogelu oedolion ac yn gweld y Fframwaith Diogelu fel cyfle gwerthfawr i asesu ein sefyllfa bresennol.
Sian Simmons, Prif Swyddog Diogelu Golff Cymru

Ymdrechion diogelu ar draws y byd chwaraeon yng Nghymru

Mae llawer mwy yn digwydd ar draws y byd chwaraeon yng Nghymru i wneud yn siŵr bod pobl sy'n cymryd rhan mewn chwaraeon yn gallu cadw’n ddiogel.

  • Mae'r WSA yn parhau i gefnogi cyrff chwaraeon Cymru a'u clybiau, gan gynnal mwy o archwiliadau DBS nag erioed o'r blaen.
  • Mae Nofio Cymru a Thennis Bwrdd Cymru hefyd yn cynyddu eu hymdrechion diogelu oedolion, ar ôl cwblhau'r Fframwaith Diogelu Oedolion mewn Chwaraeon hefyd.

Jodi Evans yw’r Rheolwr Diogelu Oedolion mewn Chwaraeon yn Ymddiriedolaeth Ann Craft. Dywedodd:

“Mae'r chwaraeon hynny sydd wedi cwblhau'r Fframwaith Diogelu Oedolion mewn Chwaraeon wedi dangos ymrwymiad gwirioneddol i ddiogelu oedolion, gan ymdrin â'r broses gyda diwydrwydd a gofal.

“Mae yr un mor galonogol gweld llawer mwy o chwaraeon yn dangos yr un lefel o ymroddiad.Mae'r egni ar y cyd yng Nghymru o amgylch diogelu oedolion mewn chwaraeon yn meithrin momentwm yn amlwg.

“Drwy weithio mewn partneriaeth, rydyn ni’n gwneud gwahaniaeth ystyrlon wrth sicrhau bod chwaraeon yng Nghymru yn amgylchedd diogel a chroesawgar i bawb.”

Mae'r egni ar y cyd yng Nghymru o amgylch diogelu oedolion mewn chwaraeon yn meithrin momentwm yn amlwg. Drwy weithio mewn partneriaeth, rydyn ni’n gwneud gwahaniaeth ystyrlon wrth sicrhau bod chwaraeon yng Nghymru yn amgylchedd diogel a chroesawgar i bawb.”
Jodi Evans, Rheolwr Diogelu Oedolion mewn Chwaraeon yn Ymddiriedolaeth Ann Craft

Beth all eich sefydliad chi ei wneud i greu amgylcheddau chwaraeon diogelach?