Y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd
Mae’r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn wasanaeth gan y llywodraeth. Mae wedi cymryd lle’r Swyddfa Cofnodion Troseddol (CRB).
Mae’n helpu i atal pobl anaddas rhag gweithio gyda phlant a grwpiau eraill agored i niwed. Mae’n cynnal archwiliadau’r DBS (a elwid gynt yn archwiliadau CRB), sef archwiliadau ar gofnodion troseddol. Mae’n helpu sefydliadau fel clybiau chwaraeon i wneud penderfyniadau recriwtio gwirfoddolwyr diogelach.
Mae mwy o wybodaeth am archwiliadau’r DBS ar gael ar wefan Vibrant Nation.
Neu ewch i wefan Atebion Clwb.
Diogelu mewn Clybiau
Mae gan glybiau ar lawr gwlad, sefydliadau chwaraeon eraill a darparwyr gweithgareddau ddyletswydd i amddiffyn plant a’u cadw’n ddiogel rhag niwed. Mae’r ddyletswydd hon yn golygu llunio polisi amddiffyn plant a phenodi swyddog lles clwb.
I gael gwybod mwy am beth ddylai clybiau ei wneud i helpu i ddiogelu plant ac i gael gwybodaeth am yr hyfforddiant sydd ar gael, ewch i wefan Atebion Clwb.
Hwb Diogelu Chwaraeon Cymru
Mae CPSU Cymru wedi uno gydag Ymddiriedolaeth Ann Craft er mwyn creu Hwb Diogelu Chwaraeon Cymru.
Mae’r Hwb yn ceisio sicrhau cynnydd mewn rhannu arferion gorau a dull mwy unedig o ddiogelu plant ac oedolion mewn chwaraeon. Bydd swyddogion yr hwb yn cydweithio’n agos i godi proffil diogelu yn y sector chwaraeon a gydag asiantaethau statudol, gan ddarparu dysgu, hyfforddiant a chefnogaeth a rennir. Gallwch gysylltu â’r Hwb ar 029 2033 4975.
Rhoi gwybod am bryder
Os oes gennych chi unrhyw bryderon am ddiogelwch a lles plentyn, mae sawl opsiwn ar gael i chi:
-Os ydych chi’n meddwl bod plentyn neu oedolyn mewn perygl brys a mawr o gam-drin, cysylltwch â’r heddlu ar 999.
-Os nad oes unrhyw berygl brys ac os ydych chi’n ansicr ynghylch gyda phwy ddylech chi siarad, ewch am sgwrs gyda swyddog lles/diogelu plant eich clwb neu eich sefydliad, neu ffoniwch yr NSPCC ar 0808 800 5000 am gyngor ar unwaith.
Am fwy o wybodaeth am roi gwybod am bryder neu ddigwyddiad, ewch i wefan Atebion Clwb.