Skip to main content

Llywodraethu

Mae llywodraethu da yn un o brif sylfeini llwyddiant unrhyw sefydliad. Llywodraethu yw’r fframwaith ar gyfer strategaeth, rheoli risg, rheolaethau a phrosesau. Yn bwysig, mae hefyd yn ymwneud ag arweiniad y sefydliad o ran diwylliant, moeseg a didwylledd. Mewn sefydliad wedi’i lywodraethu’n dda, mae’r elfennau hyn yn sail i bopeth y mae’r sefydliad yn ei wneud a sut mae’n ei wneud. Ceir enghreifftiau o lywodraethu da yn sbardun pwerus ar gyfer newid a gwell perfformiad sefydliadol, dim ots beth ei faint neu ei strwythur.

 

Gweledigaeth Chwaraeon yng Nghymru yw bod yn genedl egnïol lle gall pawb fwynhau chwaraeon am oes. Cafodd ein strategaeth, Galluogi Chwaraeon yng Nghymru i Ffynnu, ei datblygu oherwydd ein bod am helpu i wireddu manteision chwaraeon i bawb yng Nghymru. Drwy helpu ein sefydliadau partner i anelu at lywodraethu da, y gobaith yw gweld ein partneriaid yn ffynnu, gan greu cyfleoedd i bawb fwynhau manteision chwaraeon mewn ffordd ddiogel a chynhwysol.