Mae’r Weledigaeth ar gyfer Chwaraeon yng Nghymru yn arwain y gwaith rydyn ni'n ei wneud, gan greu cenedl lle gall pawb fwynhau chwaraeon am oes. Rydyn ni am i chwaraeon fod yn lle y gall pawb fod yn nhw eu hunain, lle gall pawb gymryd rhan a lle mae pawb yn cael eu trin â charedigrwydd, urddas a pharch.
Ym mis Medi 2021, cafodd y Canllawiau ar Gynhwysiant Trawsryweddol mewn Chwaraeon Domestig eu rhyddhau gan Chwaraeon Cymru ar y cyd â Chyngor Chwaraeon y gwledydd cartref eraill. Mae’r Canllawiau’n defnyddio canfyddiadau ymgynghoriad a 10 Egwyddor Arweiniol i lunio argymhellion i bartneriaid eu hystyried wrth ddatblygu eu polisïau eu hunain yn y maes hwn.
Nod y Canllawiau yw helpu cyrff anllywodraethol a phartneriaid i bennu’r opsiynau gorau ar gyfer eu gweithgareddau. Mae’r Canllawiau’n annog sefydliadau i ystyried cynnig opsiwn Chwaraeon Cynhwysol, gan greu cyfleoedd chwaraeon i bawb. Maen nhw’n cefnogi cynnwys pobl drawsryweddol mewn chwaraeon domestig, gan gydnabod bod y canllawiau blaenorol o 2013 wedi dyddio ac nad oeddent bellach yn addas i’r diben.
Nod y gwaith hwn yn y pen draw yw helpu ein partneriaid i ddeall yr anghenion a’r heriau yn y maes hwn ar hyn o bryd, a sicrhau bod chwaraeon yn gallu gwneud penderfyniadau ar sail gwybodaeth er mwyn bod mor gynhwysol â phosib. Mae ein hargymhellion yn annog Cyrff Llywodraeth Chwaraeon Cenedlaethol i feddwl yn arloesol ac yn greadigol i sicrhau na chaiff unrhyw un ei eithrio. Rydyn ni am i’r canllawiau hyn greu cyfleoedd i bawb gymryd rhan mewn chwaraeon a’u mwynhau, yn hytrach na’u dileu.