Skip to main content

Academi Llywodraethu Chwaraeon

  1. Hafan
  2. Partneriaid
  3. Llywodraethu
  4. Academi Llywodraethu Chwaraeon

Yr Academi Llywodraethu Chwaraeon yw’r hwb cefnogi llywodraethu ar gyfer y sector chwaraeon a gweithgarwch corfforol yn y DU. Maent yn helpu pawb sy’n arwain, yn gweithio ac yn gwirfoddoli mewn sefydliadau chwaraeon i ddatblygu llywodraethu da er mwyn cyflawni eu nodau.

Eu cenhadaeth

Eu hamcan yw gwella safon llywodraethu mewn sefydliadau chwaraeon a gweithgarwch corfforol yn y DU drwy gefnogi, datblygu a chysylltu’r bobl sy’n gweithio gyda, ac sydd â diddordeb mewn llywodraethu mewn chwaraeon.

Nod yr SGA yw esbonio llywodraethu a helpu sefydliadau i ymateb yn effeithiol i’r heriau a’r cyfleoedd llywodraethu cynyddol y mae’r sector yn eu hwynebu. Maent eisiau i bobl ar bob lefel mewn sefydliadau chwaraeon a gweithgarwch corfforol ddeall manteision llywodraethu da.

Mae eu platfform unigryw ar gyfer cefnogaeth llywodraethu yn cael ei ddarparu gan The Chartered Governance Institute UK & Ireland mewn partneriaeth â holl Gynghorau Chwaraeon y DU, gan gynnwys Chwaraeon Cymru. Mae’r bartneriaeth hon wedi’i hadeiladu ar y canlynol:

  • ymrwymiad ar y cyd i hyrwyddo llywodraethu da er mwyn galluogi sefydliadau i fod yn llwyddiannus
  • nod cyffredin i ddatblygu’r sgiliau, y profiad, yr adnoddau a’r rhwydweithiau sydd eu hangen ar bobl sy’n ymwneud â’r sector chwaraeon a gweithgarwch corfforol

Beth maent yn ei gynnig: 

Mae gwasanaethau ac adnoddau’r SGA yn cael eu darparu gan Dîm yr SGA, gyda chefnogaeth Chwaraeon Cymru a chynghorau chwaraeon eraill y DU.

Adnoddau

Mae’r SGA yn darparu cyfres ddibynadwy o adnoddau am ddim sy’n cefnogi pob maes o weithgarwch llywodraethu. Mae eu harweiniad, eu templedi, eu rhestrau gwirio, eu gweminarau, eu traethodau a’u blogiau wedi'u cynllunio i'ch helpu i fynd i'r afael â llywodraethu a sbarduno llwyddiant yn eich sefydliad

Cymuned

Mae eu cymuned yn rhwydwaith gweithredol o bobl sy'n wynebu heriau llywodraethu tebyg yn y sector chwaraeon. Mae bod yn rhan ohono yn rhoi cefnogaeth a phrofiad pobl eraill i chi ac yn creu cyfleoedd newydd ar gyfer cydweithio a dysgu cyfoedion. Mae’n dod â phobl at ei gilydd o bob rhan o’r sector ar-lein, mewn digwyddiadau rhwydweithio rheolaidd a’n cynhadledd flynyddol flaenllaw

Dysgu

Mae eu cyrsiau hyfforddi ymarferol yn meithrin gallu yn eich sefydliad drwy roi'r wybodaeth, y sgiliau a'r hyder i chi fynd i'r afael â'ch cyfrifoldebau llywodraethu. Mae cyrsiau hyfforddi’n cael eu darparu i'r rhai sy'n gweithio yn y sector chwaraeon a gweithgarwch corfforol yn y DU.

  • Llywodraethu Chwaraeon Hanfodol
  • Arwain Llywodraethu Chwaraeon
  • Sgiliau Cadeirio Effeithiol
  • Dosbarth Meistr Cadeirio a Digwyddiad Rhwydweithio
  • Cymryd Cofnodion yn Effeithiol
  • Hyfforddiant datblygu bwrdd pwrpasol 

I ddod yn 2024

  • Mynediad i Dystysgrif The Chartered Governance Institute mewn Llywodraethu Chwaraeon
  • Cyfle i ymuno â chynllun mentora SGA 

Mae hyfforddiant, digwyddiadau ac adnoddau’r SGA ar gael am ddim i bawb sydd â diddordeb mewn llywodraethu yn y sector chwaraeon yn y DU a gellir eu cael drwy gofrestru ar wefan yr SGA

Cofiwch ddilyn yr SGA ar TwitterLinkedIn