Cefnogi Amrywiaeth ar Fyrddau
Rydyn ni’n credu ei bod yn bwysig bod y bobl sy’n gwneud penderfyniadau yn ein sefydliad ni’n dod o wahanol gefndiroedd gyda gwahanol brofiadau, gan adlewyrchu’r cymunedau rydyn ni’n eu gwasanaethu.
Ac rydyn ni wedi ymrwymo i gefnogi sector chwaraeon Cymru i gyflawni amrywiaeth ar eu byrddau.
Pam ddylai ein byrddau ni fod yn amrywiol?
Rydyn ni’n ceisio creu sector chwaraeon amrywiol a chynhwysol yng Nghymru sy’n darparu cyfleoedd cyfartal mewn chwaraeon. Rydyn ni eisiau gweld amrywiaeth yn ein seilwaith ac rydyn ni’n angerddol am fynd i’r afael ag anghydraddoldeb.
Ceir tystiolaeth glir i awgrymu bod sefydliadau amrywiol yn gallu ymateb i amrywiaeth eang o ffactorau, ac yn gallu rhoi mwy o ystyriaeth i ofynion rhanddeiliaid ac, yn y pen draw, gwneud penderfyniadau gwell.
Mae sefydliadau amrywiol yn llesol i fusnes – ym mhob sector, nid dim ond ar gyfer chwaraeon.
Byrddau gyda chydbwysedd rhwng y rhywiau
Yn 2018, cytunodd Bwrdd Chwaraeon Cymru i amcan polisi ar gyfer pob Corff Rheoli Chwaraeon Cenedlaethol a Phartner Cenedlaethol, i sicrhau cydraddoldeb y rhywiau ar eu Byrddau.
Yn ôl diffiniad Comisiwn yr UE, cydraddoldeb y rhywiau yw o leiaf 40% o ferched neu ddynion.
Rydyn ni’n cydnabod nad rhywedd yw’r unig nodwedd amrywiol sydd raid ei hystyried ond mae’n faes lle mae’n rhaid i ni fel sector gyflymu cynnydd.