Gan y Sector ar gyfer y Sector
Rydyn ni eisiau i’r sector chwaraeon yng Nghymru fod yn gadarn ac yn gynaliadwy. Dyma pam ein bod ni, ochr yn ochr â’r sector, wedi datblygu’r Fframwaith Llywodraethu ac Arwain.
Ei nod yw helpu sefydliadau o bob math a maint i ddatblygu strwythurau cadarn ac ymddygiad arweinyddiaeth o ansawdd uchel fel eu bod yn y sefyllfa orau i fod y gorau y gallant fod.
Cyflwynwyd y Fframwaith am y tro cyntaf yn 2015 ond cafodd ei adolygu yn 2019 i sicrhau ei fod wedi’i ddiweddaru i gyd-fynd â newidiadau gwleidyddol a pholisi.