Skip to main content

Gwybodaeth ac adnoddiau atal-dopio

  1. Hafan
  2. Cynnwys
  3. Gwybodaeth ac adnoddiau atal-dopio

Cyfrifoldebau atal-dopio

Mae Chwaraeon Cymru wedi ymrwymo i wneud popeth o fewn ei allu i sicrhau bod athletwyr Cymru yn gwybod eu cyfrifoldebau fel y gallant gystadlu'n lân.

Beth mae Chwaraeon Cymru yn ei wneud?

Rydyn ni’n gweithio ar raglenni addysg priodol gyda chyrff rheoli chwaraeon ac UKAD, y corff statudol sy'n gyfrifol am atal-dopio, fel bod athletwyr yn gwybod yn union beth yw eu cyfrifoldebau. Mae gan Chwaraeon Cymru a chyrff rheoli chwaraeon gyfrifoldebau hefyd o dan Bolisi Cenedlaethol Atal-Dopio'r DU.

Mae holl ymarferwyr Athrofa Chwaraeon Cymru yn ymgymryd ag addysg atal-dopio achrededig fel rhan o'u gwaith gydag athletwyr perfformio.

Atal-dopio’r DU

Rydyn ni'n gweithio gyda'r corff statudol sy'n gyfrifol am atal-dopio yn y DU, (UKAD). Mae cylch gwaith UKAD yn cynnwys rhaglen atal drwy addysg a rhaglen brofi ar sail deallusrwydd. Gellir profi athletwyr ar unrhyw adeg, unrhyw le heb rybudd ymlaen llaw.

Mae UKAD yn gyfrifol am sicrhau bod cyrff chwaraeon yn y DU yn cydymffurfio â Chod Atal-Dopio'r Byd (y Cod). Mae'n gwneud hyn drwy weithredu Polisi Atal-Dopio Cenedlaethol y DU. 

Mae UKAD yn darparu gwybodaeth a chanllawiau clir ar dopio mewn chwaraeon yn y DU, felly dilynwch y dolenni hyn i gael rhagor o wybodaeth.

Diogelu eich chwaraeon

Mae diogelu chwaraeon glân yn dibynnu ar bawb yn chwarae eu rhan - athletwyr, hyfforddwyr neu rieni - boed hynny yng nghanol y llwyfan neu y tu ôl i'r llenni. Siaradwch os ydych chi'n teimlo bod rhywbeth o'i le - waeth pa mor fach yw eich problem. Mae UKAD yn sicrhau y bydd eich hunaniaeth bob amser yn cael ei chadw'n gyfrinachol 100%. 

Mae gwahanol ffyrdd o siarad:

  • E-bost - Pan fyddwch chi'n teimlo bod rhywbeth o'i le, anfonwch e-bost. Mae UKAD yn eich sicrhau y bydd eich enw a'ch cyfeiriad e-bost yn cael eu cadw'n gyfrinachol. E-bostiwch Protect Your Sport
  • Ffurflen ar-lein - Dywedwch wrthym beth rydych chi'n ei wybod drwy ein ffurflen ar-lein. Byddwch yn aros yn ddienw fel arfer, ond os byddwch yn dewis rhannu eich manylion yn gyfrinachol, gallai ein helpu i ddal y rhai sy'n ceisio twyllo mewn chwaraeon
  • Llinell Gymorth 24/7 - Ffoniwch ar 08000 32 23 32. Rydyn ni yma i wrando. Os yw'n well gennych aros yn ddienw 100%, gallwch wneud hynny. Neu os byddwch chi’n rhannu eich manylion, byddant yn cael eu cadw'n gyfrinachol, a gallant helpu i gadw chwaraeon yn lân

Dysgwch fwy am siarad a Diogelu Eich Chwaraeon yma.

Beth yw'r rhestr waharddedig ddiweddaraf?

Mae'r holl sylweddau a dulliau gwaharddedig mewn chwaraeon yn cael eu hamlinellu yn y Rhestr Waharddedig. 

Mae'r Rhestr Waharddedig yn cael ei rheoli a'i chydlynu gan Asiantaeth Atal-Dopio'r Byd (WADA), sydd i’w gweld ar wefan WADA yma. Mae'r Rhestr yn cael ei diweddaru bob blwyddyn, ac yn dod i rym ar 1 Ionawr. Mae'n bosibl i WADA wneud newidiadau i'r Rhestr fwy nag unwaith y flwyddyn, ond mae'n rhaid iddynt gyfleu newidiadau o'r fath dri mis cyn iddynt ddod i rym.  Gan fod y rhestr hon yn cael ei diweddaru bob blwyddyn, dylai athletwyr a staff cymorth athletwyr sicrhau eu bod yn ei gwirio cyn iddi ddod i rym.

Mae mwy o wybodaeth ar gael ar wefan UKAD yma.

Ap chwaraeon 100% me clean 

Mae modd llwytho Ap Chwaraeon 100% Me Clean UKAD i lawr o iTunesGoogle Play neu Windows Live Store, i gael gwybodaeth hanfodol am atal-dopio.