Beth yw chwaraeon?
Nid yw'r Cynghorau Chwaraeon yn penderfynu beth sy'n cyfrif fel chwaraeon a beth nad yw’n cyfrif fel chwaraeon.
Mae llawer o wahanol safbwyntiau ynghylch beth sy'n cael ei ystyried yn weithgaredd chwaraeon ac nid oes gan y cynghorau chwaraeon eu diffiniad eu hunain o chwaraeon. Fodd bynnag, mae gennym broses gydnabod ar waith i sefydlu pa chwaraeon y gallem ystyried gweithio gyda nhw.
Wrth benderfynu cydnabod chwaraeon ai peidio, bydd y cynghorau chwaraeon yn edrych i weld a yw'n cwrdd â diffiniad Siarter Chwaraeon Ewropeaidd 1993 Cyngor Ewrop o chwaraeon, ac a yw'r chwaraeon wedi hen ennill ei blwyf ac yn cael ei drefnu'n dda o fewn ein hawdurdodaeth.
Beth yw corff llywodraethu cenedlaethol?
Nid rôl y Cynghorau Chwaraeon yw sefydlu na phenodi cyrff llywodraethu cenedlaethol. Mae cyrff llywodraethu cenedlaethol fel arfer yn sefydliadau annibynnol, sydd wedi penodi eu hunain ac sy'n rheoli eu chwaraeon drwy gydsyniad cyffredin eu camp.
Nod y broses gydnabod yw nodi un strwythur corff llywodraethu cenedlaethol arweiniol sy'n rheoli chwaraeon ar lefel y DU, Prydain neu un o’r gwledydd cartref. Mae ein meini prawf cydnabod yn canolbwyntio ar sefydlu p’un ai yw corff llywodraethu cenedlaethol wedi cyrraedd y safle uchaf yn ei gamp ac a oes ganddo lefel resymol o drefniadaeth a dulliau llywodraethu.
Nid yw cydnabyddiaeth i gorff llywodraethu cenedlaethol gan gyngor chwaraeon yn sicrhau cyllid ac nid yw chwaith yn golygu ein bod wedi cymeradwyo nac achredu ansawdd ei raglenni.
Nid yw cydnabyddiaeth yn rhoi unrhyw bwerau swyddogol i gorff llywodraethu cenedlaethol reoli ei gamp nac yn sicrhau cyllid uniongyrchol i’r corff llywodraethu sydd wedi’i sefydlu.
Proses ymgeisio am gydnabyddiaeth cynghorau chwaraeon
Mae polisi cydnabyddiaeth y DU a’r broses gwneud cais wrthi’n cael eu hadolygu a bydd rhagor o wybodaeth yn cael ei rhannu ar y dudalen hon pan fydd yr adolygiad hwnnw wedi dod i ben.
- Cyn ymgeisio: asesu gweithgarwch chwaraeon a dulliau llywodraethu
- Cais llawn: asesu materion ehangach fel strwythur cystadlaethau, datblygiad chwaraeon a’r corff llywodraethu cenedlaethol, a rheoli’r risg o anafiadau chwaraeon
Canllaw i ymgeiswyr:
Os ydych chi'n ystyried gwneud cais, dylech sicrhau eich bod yn gwneud y canlynol:
O ran cyrff sydd wedi'u lleoli yn Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon, dylech gyfeirio at yr adrannau Cydnabyddiaeth ar wefannau Cyngor Chwaraeon perthnasol y wlad dan sylw.
- Bydd Panel Cydnabyddiaeth y DU yn ystyried eich cais cyn ymgeisio a byddwn yn ceisio cysylltu â chi gyda'r canlyniad o fewn 12 wythnos ar ôl ei gael.
- Os byddwch yn llwyddiannus yn y cam cyn ymgeisio, byddwch yn symud ymlaen i'r cam ymgeisio llawn. Cyn cyflwyno eich cais llawn, bydd gofyn i chi gwrdd â chynrychiolydd o Banel Cydnabyddiaeth y DU i drafod eich cais ac, ar ôl y cyfarfod byddwch yn cael y ffurflen gais lawn i'w llenwi a'i dychwelyd o fewn 12 mis.
Pa chwaraeon a chyrff llywodraethu rydyn ni'n eu cydnabod ar hyn o bryd?
Mae'r chwaraeon a'r cyrff llywodraethu y mae Cynghorau Chwaraeon y DU yn eu cydnabod ar hyn o bryd i'w gweld yma.
Hefyd, er diogelwch, rhaid i grwpiau sy’n cymryd rhan mewn chwaraeon uchel eu risg fod yn gysylltiedig â chorff llywodraethu’r gamp er mwyn cael eu hystyried ar gyfer cymorth grant.