Skip to main content

DIOLCH I CHI: SUT MAE MWY NA £1 BILIWN O ARIAN Y LOTERI GENEDLAETHOL WEDI HELPU CEFNOGI POBL A PHROSIECTAU TRWY GYDOL Y PANDEMIG

  1. Hafan
  2. Newyddion, Straeon a Digwyddiadau
  3. Newyddion, Erthyglau ac Ymgyrchoedd
  4. DIOLCH I CHI: SUT MAE MWY NA £1 BILIWN O ARIAN Y LOTERI GENEDLAETHOL WEDI HELPU CEFNOGI POBL A PHROSIECTAU TRWY GYDOL Y PANDEMIG

Mae arian Y Loteri Genedlaethol i gefnogi ymateb y DU gyfan i’r pandemig coronafeirws wedi mynd y tu hwnt i £1 biliwn, yn ôl ffigyrau newydd a ryddheir heddiw. 

Gyda phenllanw’r flwyddyn gyntaf a aeth heibio ers dechrau’r cyfnod clo yn agosáu, mae’r pecyn ariannu wedi rhoi hwb i’r celfyddydau, treftadaeth, chwaraeon a’r sector cymunedol/elusennol, ac wedi helpu diogelu dyfodol miloedd o sefydliadau ym mhob cwr o Gymru yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. 

Mae’r £1.2 biliwn a wobrwywyd wedi mynd tuag at filoedd o fentrau a rhaglenni Cymreig a ddyluniwyd i fynd i’r afael ag unigrwydd ac ynysu, gan gyflwyno cefnogaeth i’r henoed a phobl ifanc sy’n agored i niwed, a’r sawl sy’n hyrwyddo iechyd corfforol a meddyliol yn y gymuned. 

Un prosiect o’r fath sydd wedi elwa o’r £30 miliwn a godir gan chwaraewyr y Loteri Genedlaethol pob wythnos yw’r elusen Really Amazing (TRAC2) a leolir yn Nhorfaen, sy’n cyflwyno pecynnau dechreuol o ddodrefn a deunyddiau gwyn a ailgylchwyd i gartrefi ar gyfer teuluoedd mewn angen ac oedolion sy’n agored i niwed. 

 

Derbyniodd yr elusen grant o £498,428 oddi wrth Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol ac mae’n defnyddio’r arian nodedig hwn i ehangu ei waith allanol a darpariaeth i grwpiau megis y digartref a phobl ifanc sy’n gadael gofal. Mae TRAC2 yn cynnal gwaith allweddol i’r fynd i’r afael â digartrefedd ac i eirioli dros iechyd meddwl a dywed Sue Malson na fyddai hyn yn bosibl heb chwaraewyr y Loteri Genedlaethol.  


Dywedodd Sue, 56: “Dydyn ni ddim yn troi pobl ymaith, rydym yn rhoi help llaw iddynt a chlust i wrando arnynt. Rydym yn eu cynghori, rydym yn cael eu caniatâd i gysylltu â hwy a’r bobl y maent angen siarad gyda hwy. Rydym yn cysuro’r unigolyn nad ydynt ar ben eu hunain, y gallant oroesi a’n bod yno iddynt”.


Yng Nghaerdydd, mae Theatr Taking Flight wedi derbyn grant y Loteri Genedlaethol o £146,837 oddi wrth Gyngor Celfyddydau Cymru i barhau gyda’i waith o wneud y theatr yn hygyrch ac o fewn cyrraedd i bobl o gefndiroedd amrywiol. Mae’r grant hwn yn rhan o ffrwd ariannu sy’n anelu tuag at annog syniadau newydd i ddod i’r amlwg trwy gydol y pandemig. 

Mae Theatr Taking Flight wedi darparu llwybr creadigol i bobl fyddar ac anabl yn ystod y cyfnod clo ac mae Beth House, y Cyd-sylfaenydd a Chyfarwyddwr Datblygu, yn dweud fod chwaraewyr y Loteri Genedlaethol wedi eu helpu i eirioli a bod yn bencampwyr dros amrywiaeth. 

Dywedodd Beth, 44, sydd â’r unig brosiect theatr ieuenctid i bobl fyddar ac anabl yng Nghymru ac sy’n gweithredu’n genedlaethol: “Dydw i ddim yn meddwl fod pobl yn sylweddoli pan fyddant yn prynu tocyn y Loteri Genedlaethol am yr effaith y byddant yn ei gael. Dydw i ddim yn meddwl fod pobl yn ystyried hynny ac yn meddwl fod cwmni theatr yng Nghymru sy’n meithrin pobl ifanc fyddar ac anabl. Mae arian y Loteri Genedlaethol wedi bod yn chwyldroadol ac yn drawsnewidiol i ni – felly diolch yn fawr!” 

Un clwb chwaraeon a gefnogwyd gan y Loteri Genedlaethol yn ystod y pandemig yw Clwb Cynghrair Rygbi Cadair Olwyn a Chlwb Chwaraeon Anabledd Croesgadwyr Gogledd Cymru (North Wales Crusaders). Mae eu grant Loteri Genedlaethol oddi wrth Chwaraeon Cymru wedi eu galluogi i ddod o hyd i fan storio cadeiriau olwyn newydd wedi trawsnewid eu canolfan yng Nglannau Dyfrdwy yn ysbyty.  

Roedd ffrydiau refeniw Croesgadwyr Gogledd Cymru wedi crebachu dros nos pan ddechreuodd y cyfnod clo ond diolch i gefnogaeth y Loteri Genedlaethol, cafodd eu costau storio ychwanegol eu talu ac roeddynt yn gallu fforddio cyfarpar diogelu personol (PPE) hanfodol fel y gellid parhau i chwarae. 

Mae’r clwb yn darparu canolfan chwaraeon allweddol i bobl anabl led led Gogledd Cymru ac mae Stephen Jones, y Prif Hyfforddwr ac Ymddiriedolwr, yn credu fod chwaraewyr y Loteri Genedlaethol wedi bod yn allweddol ar gyfer y cyfnod trawsnewid. 

Dywedodd Stephen, 54, sy’n byw yn Wrecsam: “Nid y ni yw’r unig glwb sydd wedi dioddef trwy Covid, ond oherwydd y Loteri Genedlaethol, mae golau ar ddiwedd y twnnel o leiaf gyda’r arian ar ein cyfer. Heb yr arian cychwynnol a gawsom, fe fyddem wedi cael trafferth ddifrifol i allu fforddio storio ein cyfarpar.” 

Dywedodd Ros Kerslake, Cadeirydd Fforwm y Loteri Genedlaethol: “Diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol, rydym wedi gallu cynnig pecynnau cynhwysfawr o gefnogaeth i filoedd o brosiectau ym mhob cwr o’r DU dros y flwyddyn ddiwethaf. 

"Mae’r arian wedi helpu i liniaru rhai o’r heriau arwyddocaol a digynsail a wynebir gan y sectorau cymunedol, celfyddydol, treftadaeth a chwaraeon o ganlyniad i’r pandemig. Ni fyddai dim o hyn wedi bod yn bosibl heb waith pwysig y bobl anhygoel ac ymroddedig led led y DU sy’n cadw’r prosiectau hyn i fynd.” 

I wybod rhagor am sut mae’r Loteri Genedlaethol yn cefnogi achosion da led led y DU, edrychwch ar 

www.lotterygoodcauses.org.uk

Newyddion Diweddaraf

Y clybiau chwaraeon yng Nghymru sy’n dod yn fwy amgylcheddol gyfeillgar

Mae llawer o bethau y gall clybiau chwaraeon eu gwneud i fod yn fwy amgylcheddol gyfeillgar.

Darllen Mwy

Sut mae pêl fasged cadair olwyn yn dod â'r gorau allan yn Phil Pratt

Bydd Phil Pratt yn y Gemau Paralympaidd, ond fe allai fod wedi bod yn chwarae yn Wimbledon yn lle hynny.

Darllen Mwy

80 o glybiau chwaraeon cymunedol yn cael cefnogaeth gan y Grant Arbed Ynni

Bydd pob clwb neu brosiect yn defnyddio eu grant i wneud gwelliannau ecogyfeillgar i'w heiddo.

Darllen Mwy