Skip to main content

Diwrnod Ffitrwydd Cenedlaethol – Chwaraeon yn hanfodol i iechyd a hapusrwydd yng Nghymru

  1. Hafan
  2. Newyddion, Straeon a Digwyddiadau
  3. Newyddion, Erthyglau ac Ymgyrchoedd
  4. Diwrnod Ffitrwydd Cenedlaethol – Chwaraeon yn hanfodol i iechyd a hapusrwydd yng Nghymru

Nod y Diwrnod Ffitrwydd Cenedlaethol yw tynnu sylw at rôl gweithgarwch corfforol i'n helpu ni i fyw bywydau iachach a hapusach.

Bydd y digwyddiad eleni, ar Fedi 25, yn cynnwys miloedd o ddigwyddiadau ar hyd a lled Prydain i annog y boblogaeth i gadw'n heini.

Ond mae llawer o bobl yng Nghymru'n gweithredu ynghylch y neges ffitrwydd eisoes, drwy godi allan a bod yn actif.

Mae lefelau cymryd rhan wedi bod yn cynyddu ledled y wlad yn ystod y blynyddoedd diwethaf ac mae'r arwyddion yn glir i bawb.

O deithio unrhyw bellter ar hyd ffyrdd Cymru, fe welwch chi ddwsinau o feicwyr mewn lycra lliwgar yn pedlo ar wib.

Nid dim ond llefydd i fynd am sblash gyda'r teulu am ryw awr neu ddwy yw pyllau nofio y dyddiau hyn - er bod hwnnw'n weithgaredd iach a hwyliog hefyd.

Sesiynau nofio lonydd yw'r amseroedd prysuraf yn aml mewn pyllau, wrth i bobl fanteisio ar yr ymarfer cyffredinol mae nofio'n ei gynnig, neu baratoi ar gyfer un o sawl triathlon sy'n hynod boblogaidd erbyn hyn ledled Cymru.

Ac mae datblygiad parkrun yn golygu nad ydych chi byth yn bell iawn o ddewis o gyfleoedd cyfeillgar, croesawus ac am ddim i fynd allan i redeg am hwyl yn rhai o leoliadau harddaf y wlad yma ar fore Sadwrn.

Mae rhedeg wedi dod yn hynod boblogaidd i bobl gadw'n heini a hefyd ehangu eu cylch o ffrindiau.

Mae clybiau rhedeg cymdeithasol ar gynnydd diolch i sefydliadau fel Rhedeg Cymru, sydd wedi'i sefydlu i gynyddu a chefnogi cyfranogiad ledled y wlad.

Wrth siarad yn Rasys Cyfnewid cyntaf Rhedeg Cymru ym Mharc Gwledig Pembre ger Llanelli yn gynharch y mis yma, dywedodd gweithredwr rhedeg De Ddwyrain Cymru, Hannah Phillips: "Mae cynnydd enfawr yn nifer y bobl sy'n rhedeg.

"Rhedeg, yn enwedig rhedeg cymdeithasol, yw'r gamp gyda'r cyfranogiad torfol mwyaf yng Nghymru ar hyn o bryd.

"Mae mwy o redwyr nag o chwaraewyr pêl droed neu rygbi. Mae'n enfawr, cwbl enfawr. Mae nifer y grwpiau sydd gennym ni ar hyn o bryd yn anhygoel. Mae'n wych, ond yn anhygoel."

Y neges gan y ffyrdd cynhwysol a chroesawus yma o fagu ffitrwydd yw bod yr help a'r gefnogaeth ar gael i unrhyw un sydd eisiau gwella ei lefelau egni a chadw'n iach.

Meddai Phillips wedyn: "Mae'r nifer sy'n dod i mewn ar hyn o bryd yn enfawr gan fod y gamp ar gyfer pawb.

"Rydyn ni yn Rhedeg Cymru yn hyrwyddo rhedwyr cymdeithasol. 'Dyw hynny ddim yn golygu nad ydyn ni'n hyrwyddo pob rhedwr. Rydyn ni'n gweiddi dros y lle bod posib i unrhyw un redeg!

"Rydyn ni'n cefnogi pawb sydd eisiau rhedeg - milltir mewn pum munud neu filltir mewn 15 munud a phawb arall. Cael pobl allan i'r awyr agored a theimlo manteision rhedeg, yn enwedig rhedeg cymdeithasol, yw'r nod."

Ac nid dim ond manteision corfforol sydd i'w cael.

 "Mae manteision i iechyd meddwl ac iechyd corfforol. Y prif un rydyn ni'n ei weld yn ein grwpiau ni yw ochr iechyd meddwl pethau.

"Rydyn ni'n newid bywydau pobl. Dydw i ddim yn meddwl bod digon o sôn am hynny. Mae rhai o'r straeon rydyn ni wedi'u clywed yn ystod yr ychydig flynyddoedd yma - oherwydd rydyn ni'n rhaglen gymharol newydd o hyd - yn anhygoel.

"Mae rhai o'r pethau mae pobl wedi mynd drwyddyn nhw'n anodd iawn ac maen nhw'n estyn am eu hesgidiau ymarfer ac yn codi allan i redeg.

"Mae gennym ni wobrau ar y gorwel ac mae rhai o'r enwebiadau sydd wedi dod i mewn yn straeon cwbl anhygoel ac ysbrydoledig."

Cynhaliwyd Rasys Cyfnewid Rhedeg Cymru fel rhan o Rasys Cyfnewid Ffordd Cymru, sy'n denu timau clybiau athletau fel Athletau Caerdydd a Harriers Abertawe o bob cwr o Gymru.

Roedd y gystadleuaeth boblogaidd rhwng clybiau sefydledig Cymru'n cynnwys pobl fel seren Gemau'r Gymanwlad Cymru, Jenny Nesbitt, a Dan Nash o Gaerdydd, a enillodd fedal efydd yn ddiweddar ym Mhencampwriaethau Byd y 50km yn Romania.

Roedd Rasys Cyfnewid Rhedeg Cymru, sy'n cael eu rhedeg ar ddolen fyrrach ar yr un cwrs, ar gyfer grwpiau rhedeg cymdeithasol, fel "The Green Flashes" a "The Fast and the Curious".

Dywed Phillips bod y digwyddiad yn gyfle i bobl allu mwynhau cystadleuaeth mewn awyrgylch hamddenol a hwyliog.

"Roedd 18 tîm wedi cofrestru ar gyfer heddiw ond rydyn ni'n barod nawr i'w farchnata ar gyfer y flwyddyn nesaf i'w wneud yn enfawr.

"Mae'n gynhwysol, oherwydd mae pobl o bob maint, siâp ac oedran fel rydych chi'n gallu gweld. Mae wedi bod yn ddiwrnod rhagorol ac mae hynny mor braf."

Dywed Phillips bod mwy a mwy o bobl yn ymuno â'r chwyldro rhedeg.

"O ran grwpiau, yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, rydyn ni wedi mynd o rywbeth fel 63 i 155. Rydw i'n teimlo ein bod ni'n gwneud gwahaniaeth i bobl.

"Rydyn ni'n cefnogi llawer o redwyr Soffa i 5k hefyd, oherwydd mae hyn yn rhan hanfodol o redeg y dyddiau yma.

"Ac mae llawer o bobl allan yna'n rhedeg nad ydyn ni'n gwybod amdanyn nhw eto."

I rywun sydd eisiau sefydlu neu ymuno â chlwb, dyma gyngor Phillips: "Edrychwch ar ein gwefan ni, neu gysylltu ag un o'n gweithredwyr. Maen nhw ym mhob rhan o Gymru ac fe wnawn ni eich cefnogi chi i sefydlu eich grŵp neu ddangos ble mae eich grŵp agosaf i chi.

"Fe allwn ni eich cefnogi chi gyda chyllido eich grŵp, gwella sgiliau a phopeth felly."

Ymhlith y rhai'n cystadlu ym mhrif rasys cyfnewid ffordd Cymru roedd cerddwr rasys ym Mhencampwriaethau Athletau'r Byd a Gemau Cymanwlad yr Arfordir Aur, Bethan Davies.

Dywedodd yr aelod o glwb Athletau Caerdydd mai newid disgyblaeth o gerdded i redeg oedd un o'r gweithgareddau oedd wedi ei helpu i oresgyn y siom yn gynharach y mis yma o beidio â chael ei henwi yn nhîm Prydain Fawr ar gyfer Pencampwriaethau Athletau'r Byd sydd i'w cynnal yn Doha.

Mae Davies yn credu bod cadw'n actif, beth bynnag yw'r gamp, yn hanfodol i bawb.

Meddai: "Bod yn actif yw'r peth pwysicaf. Rydw i'n cael fy nghymell gan gadw'n iach yn sicr, a dyna beth rydw i'n ei hoffi.

"Dyna pam 'mod i wedi gwneud llawer o bethau gwahanol yn ystod y pythefnos diwethaf, yn lle gwneud dim byd, a byddai hynny wedi bod yn bosib ar ôl y siom. Rydw i wedi bod yn rhedeg ac fe es i i ddosbarth ballet ... Rydw i wedi gwneud yr holl bethau difyr yma.

"Mae chwaraeon mor bwysig i bawb ac mae rhywbeth y gallwch chi gymryd rhan ynddo bob amser. Mae Athletau Cymru'n cynnal cystadlaethau gwych sy'n agored i unrhyw un, o ddechreuwyr llwyr i athletwyr elitaidd.

"Ac yn y cystadlaethau fel y rasys cyfnewid ffordd, fe fydd pobl sy'n athletwyr Gemau'r Gymanwlad a hefyd pobl sydd ond wedi rhedeg rhyw ddwywaith o'r blaen mae'n bur debyg. Ac mae rasys i blant hefyd.

"Rydw i'n meddwl bod y rhain yn ddigwyddiadau allweddol oherwydd mae'n dangos bod athletau a chwaraeon yn gyffredinol ar gael i bob un aelod o'r gymuned."

Felly, os am her "plank off", mynd i ddosbarth HIIT ar y Stryd Fawr, neu her bocsio am funud . . . rhowch gynnig ar y gweithgareddau sy'n cael eu hybu gan y Diwrnod Ffitrwydd Cenedlaethol.

Os ydych chi'n chwilio am syniadau, ewch i wefan y Diwrnod Ffitrwydd Cenedlaethol, sydd â phob math o weithgareddau ar gael ar hyd a lled y wlad.

https://www.nationalfitnessday.com/