Main Content CTA Title

Eleanor Ower: Dod yn Arweinydd Cynhwysol

Yn Chwaraeon Cymru, rydyn ni wedi buddsoddi mewn rhaglenni arweinyddiaeth ar gyfer ein partneriaid ers blynyddoedd lawer i helpu pobl i fod y gorau y gallant fod ac i gael y gorau gan eraill.

Ond, eleni, rydyn ni wedi penderfynu gwneud pethau'n wahanol. Bydd y rhaglen hon yn canolbwyntio ar arweinyddiaeth gynhwysol.

Fe wnaethom, wrth gwrs, ystyried y dylai sgiliau arwain cynhwysol fod yn rhan o raglen ehangach yn unig ond, yn y diwedd, fe wnaethom benderfynu y gallai newid y ffordd o feddwl a’r ddealltwriaeth o ran cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant newid y gêm yn y byd chwaraeon yng Nghymru. Felly beth am fynd amdani.

Ni fydd yn dasg hawdd i'r 15 ymgeisydd. Yn dod o bartneriaid fel Cyrff Rheoli Cenedlaethol, Awdurdodau Lleol a phartneriaid cenedlaethol ehangach, bydd yr ymgeiswyr yn cael eu herio ynghylch y canlynol:

  • Sut maen nhw'n gweld cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant?
  • Sut maen nhw wedi ymddwyn o'r blaen tuag at eraill?
  • Ydyn nhw wedi gwneud penderfyniadau gyda rhagfarn ymwybodol neu anymwybodol? A fyddent yn gwneud penderfyniadau gwahanol nawr?

Mae'r broses yn debygol o fod yn feichus a bydd gofyn i’r ymgeiswyr fod yn gwbl onest gyda hwy eu hunain ond mewn gofod sy'n ddiogel. Dan arweiniad AKD Solutions, byddwn yn dod ag arbenigwyr i mewn ar gyfer trafodaethau manwl.

 

Rydw i'n teimlo'n angerddol iawn am y rhaglen oherwydd rydw i fy hun yn aml wedi meddwl tybed a allwn i fod wedi gwneud mwy drwy gydol fy ngyrfa i sicrhau bod chwaraeon ar gael i bawb.

Rydw i’n cofio fy swydd gyntaf ar ôl dod o'r brifysgol fel Swyddog Chwaraeon Cymunedol. Roedd ym Maendy, Casnewydd - ardal ddifreintiedig gyda chanran uchel o bobl o gefndir ethnig amrywiol. Roeddwn i'n dod o Drecelyn - ardal y byddech chi'n ei disgrifio fel ardal o bobl wyn yn bennaf, heb fawr o amrywiaeth yn y boblogaeth. Roedd yn wahanol iawn i ble roeddwn i'n gweithio, ac eto yno roeddwn i, yn gwneud penderfyniadau a oedd yn effeithio ar gymuned nad oeddwn i'n gwybod fawr ddim amdani.

Wrth edrych yn ôl, tybed wnes i weithredu yn y ffordd iawn. Wnes i ofyn digon o gwestiynau a rhoi amser i ddysgu? Rydyn ni'n defnyddio'r term “anodd eu cyrraedd” wrth siarad am amrywiaeth o gymunedau nad ydyn nhw'n cymryd rhan yn ein rhaglenni ni. Ond ai ni, y sefydliadau, sy'n anodd eu cyrraedd ac yn anhygyrch?

Yn sicr, nid yw'r rhaglen hon yn ymwneud â chael yr holl atebion. Ond bydd yn annog arweinwyr yn y byd chwaraeon yng Nghymru i bwyso am oedi, stopio a meddwl. Sut mae dysgu mwy? Oes angen i mi newid y ffordd rydw i'n ymddwyn?

Y nod yw dechrau dylanwadu ar arweinwyr yn y sector. Yn ei dro, gobeithiwn y bydd yn cael sgil-effaith o ran recriwtio. Oherwydd i wneud chwaraeon yng Nghymru yn wirioneddol wych, o lawr gwlad i lefel elitaidd, mae angen cyfoeth o wahanol ddiwylliannau, gwahanol gefndiroedd, gwahanol safbwyntiau a syniadau. Ac mae hynny'n golygu bod angen i bobl fod yn cynnal chwaraeon o bob math o wahanol safbwyntiau, gyda phrofiad byw gwahanol.

Rydyn ni hefyd yn gobeithio y bydd arweinwyr yn dechrau meddwl yn wahanol, gan edrych drwy lens amrywiaeth, i'w helpu i wneud penderfyniadau a fydd yn annog mwy o bobl, beth bynnag fo'u cefndir, i gymryd rhan mewn chwaraeon.

Rydw i’n edrych ymlaen yn fawr at gwrdd â'r criw nesaf o arweinwyr a heb os, byddwn yn dysgu llawer oddi wrth ein gilydd. Dim ond 15 lle sydd ar y cwrs ac mae’r ffenestr ymgeisio yn cau ar 12 Tachwedd felly os ydych chi'n meddwl y gallwch chi wynebu’r her, cofiwch wneud cais.

Newyddion Diweddaraf

Tîm Hoci Iâ Deeside Dragons yn ailgynnau’r tân yn eu boliau gyda chyllid y Loteri Genedlaethol

O’r tîm hoci iâ gwanaf i’r tîm sydd werth ei wylio, megis dechrau arni mae’r clwb hwn.

Darllen Mwy

Beth sy’n newydd ar gyfer yr Arolwg Chwaraeon Ysgol 2026?

Yr arolwg 2026 yw'r fersiwn fwyaf hygyrch, cynhwysol a difyr erioed o’r arolwg sydd wedi’i ddatblygu.

Darllen Mwy

Y datblygiad o bartneriaethau chwaraeon yng Nghymru

Mae pob un o’r pum partneriaeth chwaraeon wedi’i sefydlu erbyn hyn, ar gyfer y Gogledd, y Gorllewin,…

Darllen Mwy