Skip to main content

Dod yn Rhaglen Arweinydd Cynhwysol

  1. Hafan
  2. Partneriaid
  3. Dod yn Rhaglen Arweinydd Cynhwysol

AKD

Mae rôl arweinwyr yn bwysicach nag erioed heddiw, hyd yn oed yn fwy felly yn yr hinsawdd sydd ohoni, lle mae bwriadau ynghylch Cynhwysiant ac Amrywiaeth wedi dod yn ganolog.

Mae arweinwyr yn gyfrifol am bennu diwylliannau gweithleoedd, gwneud y penderfyniadau gorau, a symbylu a grymuso eu timau i greu map ffordd clir tuag at fentrau ac ymyriadau cynaliadwy, ystyrlon, sydd wedi'u llywio gan brofiad byw pobl a dysgu gan eraill, a beth sydd wedi a heb weithio.

Nod rhaglen “Dod yn Arweinydd Cynhwysol” AKD yw meithrin eich sgiliau, rhoi eglurder gweledigaeth i chi, a gwella eich hyder i arwain eich timau. Mae'r rhaglen hefyd yn pwysleisio pwysigrwydd datblygu amgylcheddau gwaith cynhwysol sy'n adlewyrchu'r cymunedau rydych chi'n eu gwasanaethu.

Y gynulleidfa ar gyfer y rhaglen hon

Mae'r rhaglen hon ar gyfer y rhai sydd wedi ymrwymo'n ddidwyll i amrywiaeth a chynhwysiant ac sy'n gallu dylanwadu ar newid yn eich sefydliad.

Rydym yn arbennig o awyddus i ddenu cyfranogwyr o gyrff rheoli chwaraeon cenedlaethol, awdurdodau lleol, Ymddiriedolaethau Chwaraeon a Hamdden, ac unrhyw bartneriaid ehangach sy'n ymwneud â darparu Chwaraeon a Gweithgarwch Corfforol. 

Mae'r rhaglen wedi'i hanelu ar gyfer: 

  • Uwch Reolwyr ac Arweinwyr
  • Darpar Arweinwyr
  • Y rhai sy’n arwain ar amrywiaeth a chynhwysiant
Dau fachgen ifanc yn chwarae badminton

Y Rhaglen      

Yn ystod yr 8 mis nesaf, byddwch yn dechrau ar siwrnai gyda ni a fydd yn rhoi sylw i feysydd o amgylch 4 prif thema:

  • Arwain / herio’r hunan 
  • Arwain Eraill 
  • Strategaeth Arwain 
  • Arwain a galluogi newid positif     

Fel un o 15 cyfranogwr llwyddiannus, byddwch yn rhan o raglen bwrpasol sydd wedi’i chynllunio i ysgogi disgleirdeb drwy ddylanwad dysgu drwy brofiad. Bydd y rhaglen yn gofyn i chi fframio'ch meddyliau a herio'ch hun ymlaen llaw

Sut i wneud cais

Dim ond 15 lle sydd ar gael ar y rhaglen hon. Bydd y broses ymgeisio yn golygu eich bod yn gorfod mynegi diddordeb a all fod yn ysgrifenedig (dim mwy na 700 gair), drwy fideo (5 munud ar y mwyaf) neu drwy nodyn llais (5 munud ar y mwyaf). Mae’r cwestiynau wedi’u cynllunio i'ch galluogi i gyflwyno achos cadarn i ddangos sut byddwch chi'n elwa o'r rhaglen a sut rydych chi'n anelu at ddylanwadu ar newid sylweddol yn eich sefydliad a'r cymunedau rydych chi'n eu gwasanaethu.

Edrychwch ar y ffurflen gais ar wahân i gael mwy o wybodaeth am sut i wneud cais.

Amserlen Arfaethedig y Rhaglen

Dyddiad                                    Gweithgaredd
29 Hyd Dechrau’r broses ymgeisio – ymgeiswyr i fynegi diddordeb.               
12 Tach Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau 
15 TachDewis ymgeiswyr     

22 Tach

22 Tach – 1 Rhag

 

Cyfeiriadedd Rhithwir – 90 munud ar-lein 

1:2:1 Ymgynghoriadau - Bydd y rhain yn gyfarfodydd ymgynghori 45 i 60 munud o hyd gydag un o'n cysylltiadau, i'n galluogi i ddod i'ch adnabod yn well, a dod i wybod beth yw eich rôl a'ch cymhellion dros fod ar y rhaglen.

7-8 Rhag

 

 

 

 

 

 

 

 

Preswyl 1 - Ymhlith gweithgareddau eraill, byddwch chi'n cymryd rhan yn y gweithdai canlynol:

Hil: Beth am Gael Sgwrs - Bydd hyn yn cynnwys cael sgyrsiau diddorol, heriol gyda siaradwyr gwadd a fydd yn adrodd eu straeon heb ymddiheuro, gan ofyn i chi wrando heb ffilter.

Dod yn Arweinydd Mwy Cynhwysol - Bydd y gweithdy hwn yn rhoi sylw i rôl hanfodol egwyddorion moesegol fel tegwch, gonestrwydd, didwylledd a pharch; y sbectrwm o wadu neu fanteisio i’r eithaf ar botensial pobl; diffinio Allyship; deall ac archwilio Braint; a defnyddio eich braint ar ran eraill.

ACE - Bydd y gweithdy hwn yn eich cyflwyno i fodel arweinyddiaeth sy’n tarfu. Mae'r model yn troi o amgylch tair thema ryngddibynnol, Allyship, Her ac Arbrofion ac wedi'i gynllunio i'ch ysgogi i fod yn darfwr sy'n creu newid yn eich gweithle.

27 Ion 

 

Mentora Traws Sefydliadol - Mae Allyship yn biler allweddol yn ACE a bydd hyn yn cael ei adlewyrchu yn ein rhaglen fentora traws sefydliadol. Byddwch yn elwa o fentor o sefydliad arall ac, yn ei dro, bydd gofyn i'r cyfranogwr (mentorai) fentora mentorai o sefydliad arall.

Wythnos yn dechrau ar 14 Chwef 

24 Chwef

Mentora Traws Sefydliadol

 

Cinio a Dysgu – Bydd y rhain yn cynnwys siaradwyr gwadd a fydd yn cyflwyno ar bynciau penodol

Wythnos yn dechrau ar 7 Mawrth

 

17 Mawrth 

 

 

24 Mawrth

Mentora Traws Sefydliadol (cwblhau)

 

Cyfartal i Chi - Byddwn yn eich cyflwyno i ffordd gwbl newydd o edrych ar amrywiaeth a chynhwysiant a chyfuno elfennau chwareus gyda phŵer sgwrsio. Mae timau'n gweithio gyda'i gilydd, yn siapio meddyliau, yn rhannu gwybodaeth, ac yn herio'i gilydd i deithio o amgylch y bwrdd, gan ennill pwyntiau drwy ymateb i ystod o gwestiynau a senarios.


Cinio a Dysgu 

Wythnos yn dechrau ar 25 Ebrill 


28 Ebrill 

Mentora Traws Sefydliadol           

 

 

Cinio a Dysgu 

17-18 Mai

 

 

 

 

 

Preswyl 2 - Ymhlith gweithgareddau eraill, byddwch chi'n cymryd rhan yn y gweithdai canlynol:

Ymwybyddiaeth Sefyllfaol – Mae’r gweithdy hwn wedi’i gynllunio i'ch galluogi i gynyddu ymwybyddiaeth o'r hyn sydd o'ch cwmpas, o ran ble rydych chi, ble rydych chi i fod, ac a yw unrhyw un neu unrhyw beth o'ch cwmpas yn fygythiad.

Penseiri Sefydliadau Amrywiol – Mae’r gweithdy strategol hwn wedi’i gynllunio i'ch cynorthwyo i greu sefydliad amrywiol a chynhwysol drwy fod yn onest am risgiau a heriau, a gyda gosod nodau a thargedau.

16 Mehefin 


23 Mehefin 

Cinio a Dysgu 


Seibiant, Adlewyrchu a Mynd Eto - Byddwch yn defnyddio pŵer adrodd straeon i bortreadu ein siwrnai 9 mis gyda'n gilydd