Skip to main content

Eleanor Ower: Galw ar arweinwyr y dyfodol

Heddiw, mae Chwaraeon Cymru yn lansio rhaglen arweinyddiaeth newydd sbon ar gyfer y sector – Arwain ar gyfer y Dyfodol. Fe wnaethom ni eistedd i lawr gyda'r Arweinydd Datblygu Pobl, Eleanor Ower, i ddarganfod popeth am y rhaglen a sut gallwch chi wneud cais.

Eleanor, mae rhaglen arweinyddiaeth eleni ychydig yn wahanol dydi?

Ydi wir, mae hi. Mae'r ychydig flynyddoedd diwethaf wedi dangos i ni efallai nad ydyn ni bob amser yn gwybod beth sydd rownd y gornel. Chwe mis cyn cyfnod clo cenedlaethol Covid-19, doedd pandemig byd-eang ddim ar ein radar ni yn sicr, ond fe effeithiodd yn arw ar y sector chwaraeon. Mae’r byd wedi newid mewn sawl ffordd o ganlyniad i Covid ac rydyn ni’n dal i ymateb ac esblygu yn dilyn hynny.

Rydyn ni hefyd nawr wrth gwrs yn wynebu argyfwng Costau Byw sydd eisoes â goblygiadau i’r sector.

Dyna pam wnaethon ni benderfynu y dylai ein rhaglen arweinyddiaeth ni eleni fod yn Arwain ar gyfer y Dyfodol. Rydyn ni wir yn mynd i ganolbwyntio ar yr heriau allweddol sy'n wynebu arweinwyr yn y sector chwaraeon heddiw.

Beth all y cyfranogwyr ei ddisgwyl o'r rhaglen?

Fe fyddwn ni’n rhoi sylw i themâu allweddol sy'n cynnwys arweinyddiaeth unigol, arweinyddiaeth gynhwysol a chynaliadwyedd yn ogystal â chydweithio, tarfu ac arloesi. Fe fyddwn ni hefyd yn edrych ar arweinyddiaeth gweithle hybrid a sut i sicrhau y gall eich tîm chi ffynnu wrth weithio o bell.

Rydyn ni’n byw mewn cyfnod heriol iawn felly fe fydd y ffocws ar ddatblygu arweinwyr sy’n rhagweithiol, yn gydweithredol, yn arloesol, yn hyblyg ac yn wydn. Dydyn ni ddim yn gwybod pa fath o heriau all ein hwynebu ni yn y dyfodol ond fe fydd y rhaglen yn rhoi’r sgiliau i arweinwyr y dyfodol allu arwain yn effeithiol.

Sut bydd y cyfranogwyr yn elwa o Arwain ar gyfer y Dyfodol?

Rydyn ni’n gwybod oddi wrth y rhai sydd wedi cymryd rhan mewn rhaglenni blaenorol bod y math yma o ddatblygiad hirdymor yn wirioneddol ddylanwadol o ran cynnydd mewn gyrfa.

Ond fe fydd y cyfranogwyr hefyd yn elwa ar unwaith, gan dderbyn cefnogaeth i ddatrys heriau arweinyddiaeth real yn eu sefydliadau eu hunain.

Bydd y rhai sy'n sicrhau lle ar y rhaglen hefyd yn cael mynediad at gefnogaeth fentora gydol oes gan ein partner darparu, First Ascent, yn ogystal â chyfleoedd DPP parhaus. Felly hyd yn oed pan ddaw’r rhaglen i ben, mae cefnogaeth i barhau â’ch siwrnai arweinyddiaeth ar gael o hyd.

Ac mae'n debyg mai un o elfennau pwysicaf y rhaglen, yn fy meddwl i, yw cefnogi cyfranogwyr eraill. Gyda dim ond 15 o lefydd ar gael, fe fydd y cyfranogwyr yn dod o hyd i rwydwaith diogel, clos y gallant alw arno i helpu i fynd i’r afael â heriau, ymhell ar ôl i’r cwrs ddod i ben. Ac mae’r math yma o gydweithio’n hanfodol os ydyn ni am alluogi chwaraeon yng Nghymru i ffynnu go iawn.

Er mwyn adeiladu ar y rhwydwaith o gyfranogwyr, ein huchelgais ni yw creu rhwydwaith o gyn-gyfranogwyr arweinyddiaeth, fel ein bod ni’n gallu cefnogi ein gilydd wrth i ni ymdrechu i gyflawni’r Weledigaeth ar gyfer Chwaraeon yng Nghymru.

Faint o amser fydd yn ei gymryd i'w gwblhau?

Mae pum modiwl dros 10 mis ac mae presenoldeb yn orfodol:

Modiwl 1 (preswyl): 7fed ac 8fed Chwefror 2023

Modiwl 2 (ar-lein): 28ain Mawrth 2023 (bore yn unig)

Modiwl 3 (preswyl): 6ed a 7fed Mehefin 2023

Modiwl 4 (ar-lein): 12fed Medi 2023 (bore yn unig)

Modiwl 5 (wyneb yn wyneb): 26ain Hydref

A fydd y cyfranogwyr yn cael y cyfle i ddysgu am eu harddull arwain eu hunain?

Byddant! Bydd proffilio seicometrig emergeneteg ar gael i unrhyw un nad yw wedi gwneud hyn yn ddiweddar. Mae’n helpu i ddatgelu patrymau meddwl ac ymddygiad yn ogystal â chryfderau a heriau. Efallai bod rhai cyfranogwyr eisoes wedi cwblhau proffilio felly fe fyddwn ni’n gofyn iddyn nhw ddod â’u hadroddiad i’r sesiynau.

Bydd adroddiad 360 hefyd yn helpu’r arweinwyr i fod yn hunanymwybodol a bydd yn helpu fel sail i flaenoriaethu datblygiad.

Oes hyfforddiant a mentora ar gael?

Byddwn yn paru hyfforddwyr gweithredol – sydd â phrofiad helaeth ar draws nifer o sectorau – â’r cyfranogwyr. Bydd yr hyfforddwyr wrth law ar gyfer tri sesiwn hyfforddi yn ystod y rhaglen, sy’n rhan wirioneddol bwysig o Arwain ar gyfer y Dyfodol. A hyd yn oed pan fydd y rhaglen wedi'i chwblhau, bydd mentora gydol oes am ddim ar gael gan First Ascent. Os byddwch chi’n wynebu heriau gwaith anodd yn y dyfodol neu os oes arnoch chi angen sesiwn gloywi ar gyfer rhai materion, bydd mentora wrth law bob amser.

Hefyd bydd yr holl gyfranogwyr yn cael mynediad gydol oes i ddigwyddiadau rheolaidd First Ascent Foundation. Mae’r digwyddiadau hyn yn cynnwys cyfleoedd DPP parhaus ac yn darparu cyfleoedd i rannu profiadau a dysgu gydag arweinwyr eraill.

Sut mae gwneud cais?

Dim ond hyd at 15 o lefydd sydd ar gael ar y rhaglen. Rydyn ni’n ei chadw’n fach yn bwrpasol ac rydyn ni’n chwilio am y rhai sydd wedi ymrwymo 100% i’r rhaglen ac i wneud gwahaniaeth cadarnhaol i chwaraeon yng Nghymru.

Os oes gennych chi syniadau mawr a’ch bod chi’n credu bod gennych chi’r hyn sydd ei angen i newid y gêm yn y byd chwaraeon yng Nghymru, cyflwynwch eich atebion i gwestiynau’r cais (yn ogystal â’r ddalen glawr). Gellir ysgrifennu’r atebion (dim mwy na 1000 o eiriau i gyd) neu anfon fideo (5 munud ar y mwyaf) erbyn hanner dydd ar ddydd Gwener 25ain Tachwedd 2022.

Efallai y bydd gofyn i’r ymgeiswyr ar y rhestr fer fynychu cyfweliad awr o hyd ar-lein ddydd Mawrth 6 neu ddydd Mercher 7 Rhagfyr.

Os oes gennych chi unrhyw ymholiadau am y rhaglen neu'r broses ymgeisio, cysylltwch ag Eleanor Ower, Arweinydd Datblygu Pobl, Chwaraeon Cymru ar eleanor.ower@sport.wales