Skip to main content

Feteran 70 oed yn y byd pêl droed yn cael help i chwarae eto

  1. Hafan
  2. Newyddion, Straeon a Digwyddiadau
  3. Newyddion, Erthyglau ac Ymgyrchoedd
  4. Feteran 70 oed yn y byd pêl droed yn cael help i chwarae eto

Mae Phil Bollom yn gobeithio bod yn rhedeg allan i chwarae dros Glwb Pêl Droed Waunarlwydd yn fuan iawn unwaith eto – gan brofi bod bywyd ar y cae eto i chwaraewyr yn eu 70au.           

Yn un o gonglfeini’r clwb yn Abertawe – sy’n parhau i ddod o hyd i amser o dro i dro ar gyfer jiwdo – ef yw’r chwaraewr hynaf yn nhîm y feterans ar hyn o bryd, a dydyn nhw ddim wedi gadael i oedran na phandemig byd-eang ddod rhyngddyn nhw â’u hoffter o’r gêm.

Phil Bollom
Phil Bollom

Diolch i grant o fwy na £900 o Gronfa Cymru Actif Chwaraeon Cymru, mae Phil a chydaelodau ei dîm yn ôl yn hyfforddi eto ac yn edrych ymlaen at weld gemau’n dychwelyd.             

Mae’r clwb yn darparu pêl droed ar gyfer tri thîm hŷn, a hefyd y feterans, ac mae ganddo gysylltiadau ag academi pêl droed leol sy’n galluogi gweithgarwch rheolaidd i tua 70 o blant yn y pentref.             

Gyda’r incwm yn dod yn bennaf o danysgrifiadau aelodaeth – rhywbeth nad oeddent wedi bod yn ei dderbyn ers y cyfyngiadau symud yn ôl ym mis Mawrth – roedd Waunarlwydd yn wynebu anhawster difrifol gyda thaliadau newydd yn hanfodol er mwyn i’r chwaraewyr allu dychwelyd i sesiynau ymarfer.

Mae arian grant Cronfa Cymru Actif wedi bod yn bosib diolch i Lywodraeth Cymru ac arian sydd wedi cael diben newydd gan y Loteri Genedlaethol, sy’n parhau i fod yn un o gefnogwyr mwyaf chwaraeon yng Nghymru.     

Dywedodd Cadeirydd y clwb, Dean Thomas-Welch: “Y peth mawr i ni oedd sicrhau bod gennym ni’r cyfleusterau a’r amgylchedd yn eu lle i annog aelodau hŷn i ddod yn ôl i’r clwb.                 

“Mae gennym ni chwaraewyr o bob oedran yn y tîm feterans. Er ei fod yn dîm agored i chwaraewyr dros 35 oed, mae gennym ni Phil, sy’n ddyn heini iawn yn ei 70au, a hefyd eraill yn eu 60au a’u 50au, a mwy yn eu 40au.   

“Am resymau amrywiol, roedd rhai ohonyn nhw wedi bod yn gwarchod eu hunain yn ystod y misoedd diwethaf, felly roedd rhaid i ni geisio gwneud yn siŵr bod gan bobl hyder i ddod yn ôl at bêl droed.”

Glwb Pêl Droed Waunarlwydd
Glwb Pêl Droed Waunarlwydd

Mae wedi golygu buddsoddi mewn diheintyddion dwylo, chwistrellau gwrth-facteria, masgiau wyneb, ffedogau a ffurfiau eraill ar offer gwarchodol, a hefyd bibiau hyfforddi unigol, peli a photeli dŵr ar gyfer pob chwaraewr. 

Gyda’r mesurau hynny yn eu lle, mae’r clwb wedi llwyddo i ddarbwyllo’r feterans i ddod yn ôl i Barc Waunarlwydd ar gyfer sesiynau i griwiau bychain, yn barod ar gyfer cynnal gemau yn fuan gobeithio – gemau cyfeillgar i’r feterans ac, ryw dro, gemau Cynghrair Hŷn Abertawe ar gyfer y tîm cyntaf a’r ail a’r trydydd tîm.                 

“Byddai croeso mawr i unrhyw fath o gêm i bawb yn y clwb. Rydyn ni wedi colli hynny yn fawr,” ychwanegodd Dean.

“’Fydd pethau ddim yr un fath ag o’r blaen gyda phobl yn llenwi’r ystafell wisgo a’r rhyngweithio mae hynny’n ei gynnwys, ond gyda’r math priodol o gadw pellter cymdeithasol yn ei le, rydw i’n meddwl bod pawb mewn pêl droed ar lawr gwlad yn dyheu am gael ailddechrau chwarae.” 

Mae Waunarlwydd wedi dangos dyfalbarhad yn y gorffennol a chadernid i oresgyn anawsterau. 

Dim ond pum mlynedd sydd ers i’r clwb wynebu bygythiad o golli eu cae yn y parc – eu cartref hapus am y 40 mlynedd ddiwethaf – wrth i doriadau i gyllideb yr awdurdod lleol olygu bod cyflwr y cae wedi mynd yn wael.

Ond mae trosglwyddo ased cymunedol wedi galluogi’r clwb i reoli ei gartref drwy gytundeb prydles, gan warchod ei bresenoldeb yn y pentref a hefyd trosglwyddo’r cyfrifoldeb am y cynnal a chadw i’r clwb.

“Roedd Cronfa Cymru Actif yn amserol iawn i ni,” ychwanegodd Dean. “Mae’n rhaid i ni gyllidebu nawr ar gyfer atgyweiriadau a chynnal a chadw’r cae, ond dydyn ni ddim wedi cael unrhyw incwm o danysgrifiad y chwaraewyr ers dechrau mis Mawrth.           

“Gyda bil o tua £2,000 ar gyfer gwaith hanfodol ar y cae, roedd arnom ni wir angen cymorth ariannol.”

Ac nid dim ond angen am chwaraeon mae’r clwb yn ei fodloni chwaith. Mae cysylltiadau cymdeithasol yn cael eu cynnal drwy’r clwb, sy’n cael ei weithredu o ystafell y bar yn y dafarn leol, y Farmer’s Arms.

“I lawer o’r bobl leol, mae eu rhwydwaith cymdeithasol yn troi o amgylch y clwb pêl droed. Dyna sut maen nhw’n cadw mewn cysylltiad ac rydyn ni’n gallu sicrhau ein bod ni’n eu diogelu nhw rhag ynysu cymdeithasol. 

“Dyma reswm arall pam mae pêl droed lleol mor bwysig.”

Newyddion Diweddaraf

Y clybiau chwaraeon yng Nghymru sy’n dod yn fwy amgylcheddol gyfeillgar

Mae llawer o bethau y gall clybiau chwaraeon eu gwneud i fod yn fwy amgylcheddol gyfeillgar.

Darllen Mwy

Sut mae pêl fasged cadair olwyn yn dod â'r gorau allan yn Phil Pratt

Bydd Phil Pratt yn y Gemau Paralympaidd, ond fe allai fod wedi bod yn chwarae yn Wimbledon yn lle hynny.

Darllen Mwy

80 o glybiau chwaraeon cymunedol yn cael cefnogaeth gan y Grant Arbed Ynni

Bydd pob clwb neu brosiect yn defnyddio eu grant i wneud gwelliannau ecogyfeillgar i'w heiddo.

Darllen Mwy