Skip to main content

Funmi Oduwaiye: Y seren pêl-fasged ar drywydd newydd wrth daflu maen a disgen yn y Gemau Paralympaidd

  1. Hafan
  2. Newyddion, Straeon a Digwyddiadau
  3. Newyddion, Erthyglau ac Ymgyrchoedd
  4. Funmi Oduwaiye: Y seren pêl-fasged ar drywydd newydd wrth daflu maen a disgen yn y Gemau Paralympaidd

Doedd hi heb fod yn agos at gylch taflu ers ei dyddiau mabolgampau yn yr ysgol. Ond nawr mae Funmi Oduwaiye yn paratoi i gystadlu yng Ngemau Paralympaidd Paris 2024, dim ond dwy flynedd ar ôl dechrau ar y gamp.

Pan aeth rhywbeth o'i le mewn llawdriniaeth gyffredin, gan chwalu ei breuddwydion o ddod yn chwaraewr pêl-fasged proffesiynol, mae'n cyfaddef iddi syrthio'n ddarnau.Ond ar ôl cael ei hysbrydoli gan un o ffigyrau mwyaf chwedlonol para-chwaraeon yng Nghymru, mae'r ferch 21 oed wedi mentro i gyfeiriad newydd wrth daflu maen a disgen.

Fe wnaeth lawer o chwaraeon pan oedd hi'n blentyn

Ar ôl rhoi cynnig ar nifer fawr o chwaraeon yn blentyn - sglefrio ffigyrau, tennis, nofio, rygbi, pêl-droed a phêl-rwyd, camodd Funmi ar y cwrt pêl-fasged o’r diwedd:

“Roedd gen i deimlad o'r cychwyn y byddwn i wrth fy modd â phêl-fasged a dwi’n meddwl mai dyna pam wnes i ei adael tan yr olaf! Ro'n i eisiau bod yn siŵr mai honno oedd y gamp i mi. Roedd fy nhad a fy mrawd hynaf yn chwarae ond Mam wnaeth fy annog i roi cynnig ar unrhyw beth a phopeth.”

Roedd hi’n 11 oed pan ymunodd â Met Archers Caerdydd – clwb dim ond pum munud rownd y gornel o’i thŷ:

“Roedd yr awyrgylch mor groesawgar, ro'n i wrth fy modd yno.”

Wrth chwarae am hwyl, sylweddolodd Funmi pan oedd hi tua 14 oed fod pêl-fasged yn rhywbeth y gallai ei wneud yn broffesiynol:

“Ar ôl ysgol, byddwn i'n mynd yn syth i'r arena. A ro'n i bob amser yn gwneud yn siŵr fy mod yn gweithio'n galed yn yr ysgol oherwydd pe bawn i eisiau ysgoloriaeth i fynd i goleg yn America, byddai angen graddau da arnaf.

“Bob haf, ro'n i'n hyfforddi yn y cyrtiau ym Mharc y Rhath gydag unrhyw un a fyddai yno. Byddwn bron bob amser yn chwarae yn erbyn dynion. Ar y dechrau, roedden nhw'n fy mychanu i, ond fe sylweddolon nhw’n fuan fy mod i’n gryfach nag oeddwn i’n edrych.”

Galwad gan golegau America

Ond daeth ei llwyddiant yn 2019 pan oedd Funmi yn 16 oed ac yn cynrychioli Cymru ym Mhencampwriaethau Ewropeaidd Dan 18 ym Moldova. Cafodd ei chydnabod fel un o'r All-Star Five - mewn geiriau eraill, y pum chwaraewr gorau o'r twrnamaint cyfan.

Buan iawn y gwnaeth timau yn yr Eidal a Serbia sylwi ar y dalent newydd o Gaerdydd ac roeddent yn awyddus iddi ddod i chwarae gyda nhw. Ond breuddwyd Funmi oedd mynd i America. Dechreuodd gysylltu â cholegau yn America a buan iawn y gwelodd fod digon o hyfforddwyr a oedd yn awyddus i'w chroesawu ar ysgoloriaeth. 

Funmi Oduwaiye yn dal pêl-fasged
Funmi Oduwaiye yn rhedeg gyda phêl-fasged yn ystod gêm

Pethau'n mynd o chwith

Ond roedd gan Funmi gyflwr o'r enw coesau cam yr oedd angen iddi ei drwsio er mwyn symud ymlaen.

Felly, chwe mis ar ôl serennu ym Moldova, cafodd lawdriniaeth gyffredin i sythu ei choesau. Ond yn ystod y llawdriniaeth, cafodd ei rhydweli ei difrodi ac fe drodd yr hyn a oedd fod yn noson yn yr ysbyty ar y mwyaf yn arhosiad am fis:

“Hwn oedd cyfnod gwaethaf fy mywyd. Dyma fi, yn gobeithio trwsio fy nghoesau a mynd yn ôl ar y cwrt cyn gynted â phosibl. Ond ro'n i bellach yn blentyn ar ward oedolion, mewn poen difrifol ac ar y meddyginiaethau cryfaf. Doeddwn i ddim yn gallu siarad. Cefais bum llawdriniaeth yn y pythefnos nesaf i geisio trwsio’r difrod.”

Cafodd Funmi dair llawdriniaeth arall dros yr ychydig flynyddoedd nesaf ac roedd i mewn ac allan o’r ysbyty bron bob dydd gydag apwyntiadau amrywiol:

“Doeddwn i ddim yn gallu teimlo na symud fy nghoes. Ond ro'n i'n dal eisiau ceisio mynd yn ôl i chwarae pêl-fasged. Ceisiais orffen fy lefel A y flwyddyn honno ond roedd yn rhy anodd. Roedd gen i larymau i'm hatgoffa i gymryd meddyginiaeth a pheiriant oedd yn draenio hylif o fy nghoes a oedd yn gwneud sŵn drwy'r amser. Felly, penderfynais roi’r gorau iddi a dechreuais eto y mis Medi canlynol.”

Dod o hyd i ffordd ymlaen

Gan deimlo ar goll ac yn unig, mae dyled Funmi am bron popeth i un dyn: Anthony Hughes MBE, Rheolwr Perfformiad Chwaraeon Anabledd Cymru.

Mae gan Anthony - a fu farw yn anffodus yn 2022 - waddol heb ei ail. Mae gan y rhan fwyaf o sêr Paralympaidd gobeithiol Cymru ym Mharis eu hanesion eu hunain am sut mae Anthony wedi newid eu bywydau. I Funmi, rhoddodd arweiniad iddi:

“Ro'n i wastad wedi bod yn ffodus iawn fy mod yn gwybod beth ro'n i eisiau ei wneud. Ac yn sydyn, roedd y dyfodol hwnnw wedi’i chwalu'n llwyr. Fe wnes i syrthio'n ddarnau a do'n i ddim yn gwybod sut i symud ymlaen. Ond rhoddodd Anthony gyfle i mi ddod i adnabod fy hun eto.

“Does dim geiriau a all wneud cyfiawnder ag ef a bod yn onest. Does dim ffordd, hebddo fe, y byddwn i yma, yn gobeithio mynd i Baris, dim ond cwpl o flynyddoedd ar ôl dechrau ar y gamp. Mae fy nyled i’r dyn yna'n enfawr.”

Yn wir, Anthony a brynodd ei phâr cyntaf o esgidiau taflu i Funmi a'i chyflwyno i'w hyfforddwr, Josh Clark.

Mae Funmi hefyd yn Gristion selog ac mae ei ffydd hefyd wedi ei helpu i beidio â theimlo’n chwerw neu’n ddig:

“Rwyf bob amser wedi ceisio maddau a symud ymlaen yn gadarnhaol. Ac rydw i mor ffodus, er bod un drws wedi cau, mae un mwy fyth wedi agor.”

Ac mae hynny bendant yn wir. Mae Gemau Paralympaidd Paris ar y gorwel ar ôl iddi orffen yn bedwerydd yng nghystadleuaeth taflu maen F44 ac yn chweched yng nghystadleuaeth y ddisgen F44 ym Mhencampwriaethau Para-athletau’r Byd 2023 ym Mharis. 

Funmi Oduwaiye yn taflu disgen

Helpu eraill

Ond efallai oherwydd ei natur hael a’i hagwedd bositif, mae hi bellach yn jyglo hyfforddi a chystadlu ochr yn ochr â hyfforddi pêl-fasged gydag Archers Caerdydd.

Yn hytrach nag addo na fyddai’n mynd yn agos at y cwrt eto, mae hi’n ôl lle y dechreuodd hi wythnos ar ôl wythnos:

“Rwy'n hyfforddi dri diwrnod yr wythnos. I ddechrau, roedd yn ffordd i mi barhau i gymryd rhan mewn pêl-fasged ond rydw i wrth fy modd yn gallu rhoi'r profiadau a gefais i'n blentyn i blant eraill. Rwy’n hoffi gwneud yn siŵr eu bod yn cael hwyl pan fyddan nhw ar y cwrt.

“Rwy’n meddwl ei bod mor bwysig ein bod ni i gyd yn gwneud yr hyn a allwn i wneud ymarfer corff a chael ein cyrff mor actif â phosibl. Ond mae chwaraeon hefyd mor bwysig ar gyfer meithrin cyfeillgarwch, bod yn gymdeithasol, cyfathrebu ag eraill. Ac mae mor dda i’n hiechyd meddwl hefyd.”

“Mae chwaraeon wedi newid fy mywyd. Felly, os gallaf helpu hyd yn oed un plentyn i ddod o hyd i’r hapusrwydd y mae wedi’i roi i mi, mae wedi bod yn werth chweil.”

Fel Anthony Hughes o’i blaen, mae hi wedi ymrwymo i estyn ei chefnogaeth i dalentau Cymru yn y dyfodol.

Newyddion Diweddaraf

Y clybiau chwaraeon yng Nghymru sy’n dod yn fwy amgylcheddol gyfeillgar

Mae llawer o bethau y gall clybiau chwaraeon eu gwneud i fod yn fwy amgylcheddol gyfeillgar.

Darllen Mwy

Sut mae pêl fasged cadair olwyn yn dod â'r gorau allan yn Phil Pratt

Bydd Phil Pratt yn y Gemau Paralympaidd, ond fe allai fod wedi bod yn chwarae yn Wimbledon yn lle hynny.

Darllen Mwy

80 o glybiau chwaraeon cymunedol yn cael cefnogaeth gan y Grant Arbed Ynni

Bydd pob clwb neu brosiect yn defnyddio eu grant i wneud gwelliannau ecogyfeillgar i'w heiddo.

Darllen Mwy