Skip to main content

Gemau Trawsblaniadau Prydain – Casnewydd 2019

Mae Cymru wedi chwarae ei rhan mewn cynnal achlysuron chwaraeon mawr – Gemau Cymanwlad 1958, Cwpan Rygbi’r Byd 1999, Cwpan Ryder 2010, Gemau Olympaidd 2012, Cwpan Criced y Byd 2019 – a’r wythnos yma bydd enw Casnewydd yn cael ei ychwanegu at y rhestr nodedig yma.

Tra mae’r digwyddiadau byd-enwog sydd wedi’u crybwyll eisoes yn ddathliadau enfawr o gyflawniadau chwaraeon, mae Gemau Trawsblaniadau Prydain Westfield Health yn dathlu mwy ar fywyd. Mae Caerdydd wedi croesawu’r digwyddiad deirgwaith yn y gorffennol, ond gyda disgwyl i fwy na 2,000 o athletwyr gymryd rhan mewn 24 o wahanol gampau, bydd y digwyddiad yng Nghasnewydd yn fwy nag erioed o’r blaen wrth iddo ddychwelyd i Gymru wedi bwlch o 23 o flynyddoedd.

Mae’r bwrlwm yn dechrau gyda’r Seremoni Agoriadol ar Rodney Parade ddydd Iau, 25 Gorffennaf, ac yn ystod y tridiau canlynol bydd yn cynnwys golff yn y Celtic Manor a nofio, tennis, tennis bwrdd, badminton ac athletau ym Mhentref Chwaraeon Rhyngwladol Casnewydd. Hefyd bydd dartiau, snwcer, bowlio deg a phêl droed.

Dylai tîm Cymru fod â mantais o ran y pêl droed chwech bob ochr i oedolion ar ôl cael hyfforddiant arbenigol gan Ddinas Casnewydd. Un aelod o’r tîm yw Shaun Ruck, sydd wedi cael dau drawsblaniad aren ac sy’n ôl yn cael dialysis ar hyn o bryd. Ef hefyd yw rheolwr y tîm ac mae’n edrych ymlaen yn fawr at y cystadlu.

"Os ydych chi wedi bod ar ddialysis, rhywbeth rhwng tair a phum mlynedd, rydych chi wedi colli cysylltiad 'da'r byd real, a'r cyfan rydych chi'n gyfarwydd ag ef yw bwyta, cysgu, dialysis, ailadrodd. Yn fy sefyllfa i, gwthio fy hunan i'r eithaf yw'r peth - gwneud yn siŵr nad ydych chi'n colli unrhyw gyfle oherwydd y cyflwr sydd gennych chi," meddai Shaun.

Mae aelod arall o'r tîm, Darren Brown, wedi cael trawsblaniad aren deirgwaith. Mae'n cyfaddef ei fod yn dechrau teimlo'n nerfus, ond mae'n barod am berfformiad mawr ar dir cartref.

"Rydych chi eisiau gwneud yn siŵr eich bod chi'n gwneud eich gorau i aelodau eraill y tîm. Rydyn ni i gyd wedi bod drwy'r un cyflwr ac rydyn ni o gefndir tebyg," meddai Darren.

"Rydyn ni'n cefnogi ein gilydd ac yn rhannu ein straeon. Maen nhw bob amser yno i chi pan rydych chi'n teimlo'n isel."

Sylfaenwyd y digwyddiad fel y 'Gemau Olympaidd Trawsblaniadau Rhyngwladol' gan y llawfeddyg trawsblaniadau o Brydain, Maurice Slapak, yn 1978. Cynhaliwyd y digwyddiad cyntaf yn Portsmouth. Dychwelodd yr athletwyr ar gyfer yr ail ddigwyddiad y flwyddyn ganlynol cyn lansio Gemau Trawsblaniadau Prydain yn Birmingham yn 1980.

Roedd yn cael ei weld fel cyfle i athletwyr sydd wedi cael trawsblaniad - mae'n rhaid iddynt fod wedi cael organ i achub eu bywyd neu drawsblaniad bôn-gelloedd er mwyn cymryd rhan - gystadlu am hwyl. Y syniad i ddechrau gan y sylfaenydd oedd darparu cyfrwng i gleifion trawsblaniadau gadw'n heini a gwella eu siawns o oroesi.

Ond, yn fwy na hynny, mae'r Gemau wedi dod yn arddangosfa enfawr o'r agweddau positif ar drawsblaniadau a rhoi organau. Yn y cyswllt hwnnw, mae gan Gymru le arbennig o ran arwain y DU, ar ôl cymeradwyo'r rheol "Optio Allan" yn 2015. Bydd hyn yn cael ei weithredu yn Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon yn fuan.

Er hynny, mae llawer o waith i'w wneud o hyd o ran y "Sgwrs Am Roi Organau", fel bod teuluoedd ac anwyliaid yn gwybod yn iawn eich bod chi'n rhoddwr sydd wedi "rhoi caniatâd" os bydd y cyfle'n codi. Ar hyn o bryd mae 6,229 o bobl yn aros am drawsblaniad yn y DU ac mae 1,107 o bobl wedi cael trawsblaniad ers mis Ebrill, 2019.

"I lawer o'r athletwyr yma, sy'n cynnwys tua 300 o blant, mae mynd i mewn i stadiwm a chynrychioli eu Huned Trawsblaniadau yn un o uchafbwyntiau eu bywydau chwaraeon," meddai David Nix, Llywydd yr UK Donor Network.

Bydd tîm anhygoel o 20 o bobl ifanc, pob un wedi cael trawsblaniad iau, yn cynrychioli Ysbyty King's College, a phedwar rhoddwr byw. Yn eu plith mae plentyn wyth oed a gafodd ddau drawsblaniad iau ym mis Mai, 2017, a bydd yn cymryd rhan yn y ras rwystrau, taflu pêl, badminton a 50 metr.

"Y rheswm rydyn ni'n gwneud hyn yw i ddiolch i'n rhoddwyr ni. Rydyn ni eisiau eu gwneud nhw'n falch a dangos cymaint o fanteision sydd i roi organau," cyfaddefodd un cyfranogwr ifanc, Millie Stobie Platts.

Bydd y cystadleuydd lleol, Sophie Washington, yr ifancaf i gael trawsblaniad pancreas ym Mhrydain yn 2013, yn cymryd rhan yn ei hail Gemau ac mae'n edrych ymlaen at y cyfle i chwarae a chadw'n heini.

"Mae cymryd rhan yn y Gemau'n rhywbeth arbennig iawn. Rydyn ni i gyd wedi'n cysylltu gyda'n gilydd gan ein profiad ac rydyn ni i gyd yn dathlu'r ffaith ein bod ni'n fyw, ond 'fydden ni ddim oni bai fod pobl wedi rhoi eu horganau," meddai Sophie.

Bydd Millie Nicoll yn teithio o Aberlour yn yr Alban i gymryd rhan mewn tennis bwrdd a thaflu maen. Cafodd y ferch 17 oed ei geni gydag atresia'r bustl - cyflwr prin ac angheuol ar yr iau sy'n golygu bod tocsinau niweidiol yn gaeth yn ei chorff. Roedd rhaid iddi gael llawdriniaeth i achub ei bywyd pan oedd yn ddim ond chwe wythnos oed.

Ers hynny mae wedi gorfod cael sawl llawdriniaeth ac, yn y diwedd, yn 2017, cafodd drawsblaniad iau. Fe newidiodd hynny ei bywyd ac mae wedi gallu ailddechrau cymryd rhan yn rhai o'i hoff chwaraeon erbyn hyn, fel marchogaeth ceffylau, tennis a phêl rwyd.

Rydw i braidd yn nerfus am fynd i'r Gemau, ond yn gyffrous iawn hefyd oherwydd rydw i wedi bod yn edrych ymlaen ers peth amser. Rydw i wedi bod yn ymarfer cystal ag y galla' i ar gyfer y ddwy gystadleuaeth, ond rydw i wedi canolbwyntio mwy ar y tennis bwrdd gan fy mod i'n teimlo 'mod i'n well yn y gamp honno na thaflu maen," cyfaddefodd Millie.

"Mae'n gyfle gwych i mi a'r holl gleifion trawsblaniadau eraill ym mhob rhan o'r DU. Gobeithio y bydd yn rhoi gobaith ar gyfer y dyfodol i bobl ifanc eraill sy'n aros am drawsblaniad ac yn creu mwy o ymwybyddiaeth o bwysigrwydd rhoi organau.

"Nawr mae gen i fywyd i edrych ymlaen ato, heb orfod brwydro a wynebu anawsterau bob dydd, a dyna pam rydw i mor ddiolchgar o gryfder a dewrder y teulu am adael i'r rhodd gael ei wneud yn ystod cyfnod o golled."

Am unwaith yr wythnos yma fe welwn ni gystadleuaeth chwaraeon lle na fydd angen cynnal profion cyffuriau gan mai dod yn ail i gymryd rhan fydd ennill o ran pwysigrwydd.

Mae Gemau Trawsblaniadau Prydain wedi cael eu cynnal bob blwyddyn ers 1980 ar ôl i Portsmouth gynnal y Gemau Olympaidd Trawsblaniadau Rhyngwladol cyntaf yn 1978 a 1979. Y dinasoedd sydd wedi croesawu'r Gemau yw:
Birmingham (1980), Manceinion (1981), Caerdydd (1982), Newcastle (1983), Birmingham (1984), Caeredin (1985), Lerpwl (1986), Caerwysg (1987), Caerdydd (1988), Caerlŷr (1989), Crystal Palace (1990), Glasgow (1991), Caerwysg (1992), Newcastle (1993), Portsmouth (1994), Sheffield (1995), Caerdydd (1996), Lerpwl (1997), Belfast (1998), Birmingham (1999), Newcastle (2000), Leeds (2001), Loughborough (2002), Stoke (2003), Norwich (2004), Loughborough / Caerlŷr (2005), Caerfaddon (2006), Caeredin (2007), Sheffield (2008), Coventry (2009), Caerfaddon (2010), Belfast (2011), Medway (2012), Sheffield (2013), Bolton (2014), Newcastle Gateshead (2015), Lerpwl (2016), Gogledd Sir Lanark (2017), Birmingham (2018)

Mae Gemau Trawsblaniadau Prydain yn cael eu cynnal yng Nghasnewydd rhwng 25 a 28 Gorffennaf. Am fwy o wybodaeth mewngofnodwch i www.britishtransplantgames.co.uk