Main Content CTA Title

Iori yn cymryd yr awenau yng nghlwb marchogaeth ceffylau Ceredigion diolch i Grant y Loteri Genedlaethol

  1. Hafan
  2. Newyddion, Straeon a Digwyddiadau
  3. Newyddion, Erthyglau ac Ymgyrchoedd
  4. Iori yn cymryd yr awenau yng nghlwb marchogaeth ceffylau Ceredigion diolch i Grant y Loteri Genedlaethol

Mae Canolfan Farchogaeth i’r Anabl Gogledd Sir Benfro ac Aberteifi yn helpu plant fel Iori i farchogaeth gydag offer arbenigol newydd.

Diolch i gyllid y Loteri Genedlaethol drwy Chwaraeon Cymru, mae gan blant anabl o ardaloedd gwledig yng ngorllewin Cymru fynediad gwell bellach at lawenydd a manteision marchogaeth ceffylau.

Cwrdd â Iori

Mae Iori yn saith oed. Mae'n fachgen sy'n hoff o fod yn yr awyr agored ac sydd wrth ei fodd yn cloddio am chwilod, mynd ar ei feic a helpu ar fferm y teulu. Ond ei hoff ddiwrnod o'r wythnos yw dydd Iau - y diwrnod pryd mae'n mynd i Ganolfan Farchogaeth i’r Anabl Gogledd Sir Benfro ac Aberteifi.

Mae gan Iori barlys yr ymennydd ac mae'n defnyddio cadair olwyn i symud o gwmpas. Ond dydi hynny ddim wedi ei stopio rhag tyfu mewn cryfder a hyder drwy ei hoffter o farchogaeth ceffylau. Oherwydd y Loteri Genedlaethol, mae gan yr ysgol farchogaeth offer i helpu plant fel Iori i fwynhau ac elwa o farchogaeth ceffylau.

Rydw i’n mynd i farchogaeth unwaith yr wythnos. Y peth gorau amdano yw Pumpkin. Merlen wen ydi hi. Rydw i hefyd yn hoffi “Horse-riding Jane”. Mae hi’n un o’r gwirfoddolwyr ac mae hi’n dod â bisgedi siocled i mi.
Iori McNamara

Sut helpodd Grant y Loteri Genedlaethol

Heb fod yn bell iawn yn ôl, byddai Mam, Meg, yn cyrraedd yr ysgol farchogaeth, yn cario Iori o'r maes parcio i'r arena ac yn ei godi ar y merlod (yn amlach na pheidio, mae Pumpkin yn barod ac yn aros amdano!).

Ond, gyda'r grant o £4,706 gan y Loteri Genedlaethol a Chwaraeon Cymru, mae'r ysgol farchogaeth wedi gallu gosod y canlynol yn eu lle:

  • Ramp hygyrch
  • Bloc mowntio arbenigol.

Mae hyn yn golygu bod Iori nawr yn gallu rowlio ei hun yn syth o'r maes parcio i'r bloc mowntio. Mae'n pwyso ymlaen a, gyda rhywfaint o help, mae ar gefn Pumpkin yn ddiogel ac yn barod i farchogaeth.

Rydyn ni’n ddiolchgar iawn am gefnogaeth y Loteri Genedlaethol ac i’r tîm gwych o wirfoddolwyr yng Nghanolfan Farchogaeth i’r Anabl Gogledd Sir Benfro ac Aberteifi. Mae’n golygu’r byd i ni fel teulu. Mae Iori wedi tyfu’n gryfach ac yn fwy hyderus ac mae’r cyfan oherwydd yr ysgol farchogaeth a chefnogaeth chwaraewyr y Loteri Genedlaethol.
Meg McNamara

Creu profiad marchogaeth hygyrch

Dros y blynyddoedd, mae'r ysgol farchogaeth wedi derbyn nifer o ddyfarniadau cyllido gan y Loteri Genedlaethol, ac mae wedi gallu buddsoddi yn y canlynol:

  • Ffrwynau Enfys
  • Cyfrwyau a helmedau arbenigol
  • Hyfforddiant i'w thîm o wirfoddolwyr

Oherwydd bod gan Iori nam ar y golwg sy'n effeithio ar sut mae ei ymennydd yn prosesu'r hyn mae'n ei weld, mae'r ysgol farchogaeth wedi defnyddio cyllid i brynu Ffrwynau Enfys - ffrwynau gyda phedwar lliw gwahanol i'w helpu i ddeall safleoedd y dwylo’n haws. Mae gan y ramp hyd yn oed linellau melyn sy'n tywys Iori ar ei ffordd ar hyd y ramp at y bloc mowntio.

Mae Chwaraeon Cymru a’r Loteri Genedlaethol wedi bod yn wych wrth ein cefnogi ni dros y blynyddoedd. ’Fydden ni ddim yn gweithredu heddiw heb y gefnogaeth maen nhw wedi’i rhoi i ni. Rydyn ni wedi gallu prynu ffrwynau, offer gymkhana, cyfrwyau arbenigol, y bloc mowntio, hyfforddiant i’n hyfforddwyr ni – pob math o bethau sy’n golygu ein bod ni’n gallu dal ati i weithredu a helpu plant yn lleol.
Ann Thomas, gwirfoddolwr

Carlamu ymlaen

Ers i Iori fod yn marchogaeth yma, mae ei gryfder corfforol a'i gydbwysedd wedi gwella cymaint - mae bellach yn eistedd yn annibynnol yn y cyfrwy heb fod angen i rywun ei ddal. Mae'r cryfder yma’n ei helpu yn ei fywyd bob dydd hefyd - gartref ac yn yr ysgol.

Ac, wrth gwrs, nid dim ond yn gorfforol mae Iori a'i ffrindiau'n elwa. Pan ddechreuodd gyntaf, roedd yn bryderus iawn ac roedd angen Mam wrth ymyl bob amser. Ond mae'r tîm o wirfoddolwyr wedi meithrin ei hyder, ac mae wrth ei fodd bellach.

Marchogaeth bob dydd Iau

Mae Iori yn byw am ddyddiau Iau. Mae wrth ei fodd hefo'r sesiynau yn yr arena ac, weithiau, efallai y byddan nhw'n marchogaeth y merlod i fyny'r lôn. Mae wir yn mwynhau cribo Pwmpen ac yn glanhau’r offer, ac – ar ddiwedd sesiwn brysur yn y bore – mae'n cael bisged siocled haeddiannol yn wobr cyn dychwelyd i'r ysgol.

I Iori a'i ffrindiau, nid dim ond y marchogaeth sy’n bwysig am eu hamser yma - mae'n ymwneud â darganfod cryfder, annibyniaeth, hunan-barch a byd cyfan o bosibiliadau. Ac mae'r cyfan wedi'i wneud yn bosibl drwy gyllid y Loteri Genedlaethol.

Eisiau gwneud eich clwb yn fwy hygyrch? 

Eisiau gwneud gwahaniaeth i blant anabl yn eich clwb chwaraeon? Fe all y Loteri Genedlaethol helpu eich clwb chi i ddod yn fwy hygyrch. Mwy o wybodaeth am Gronfa Cymru Actif.