Main Content CTA Title

£2.1m mewn Grantiau Arbed Ynni wedi'u dyfarnu i 120 o glybiau chwaraeon yng Nghymru

  1. Hafan
  2. Newyddion, Straeon a Digwyddiadau
  3. Newyddion, Erthyglau ac Ymgyrchoedd
  4. £2.1m mewn Grantiau Arbed Ynni wedi'u dyfarnu i 120 o glybiau chwaraeon yng Nghymru

Mae Chwaraeon Cymru wedi dyfarnu £2.1 miliwn mewn Grantiau Arbed Ynni i 120 o glybiau chwaraeon cymunedol ledled Cymru.

Mae'r Grant Arbed Ynni, sy’n cael ei gyllido gan Lywodraeth Cymru, yn helpu clybiau i dorri costau ynni, lleihau allyriadau carbon ac ailfuddsoddi arbedion yn ôl mewn chwaraeon lleol.

Mae'r holl gyllid wedi cael ei ddyfarnu gan ddisgwyl bodloni rhai amodau - mae angen i glybiau fod â pherchnogaeth lwyr o’u hadeiladau eu hunain neu fod â phrydles gydag isafswm o 7 mlynedd ar ôl i fod yn gymwys i wneud cais. 

Diddordeb mewn gwneud cais am Grant Arbed Ynni? Darganfyddwch a yw eich clwb chi'n gymwys a sut i wneud cais.

Y mathau o brosiectau sy’n cael eu cyllido 

Mae clybiau'n defnyddio'r grant i wneud gwelliannau arbed ynni. Bydd y prosiectau'n amrywio yn dibynnu ar ba uwchraddio fydd yn gwneud y gwahaniaeth mwyaf i'r clwb neu'r cyfleuster.

  • Bydd 76 o glybiau'n defnyddio eu grant i osod paneli solar yn eu cyfleusterau, a bydd 22 o glybiau'n defnyddio'r arian i brynu batris storio ar gyfer ynni gormodol.
  • Bydd 19 o glybiau'n uwchraddio i oleuadau LED i leihau'r defnydd o ynni.
  • Bydd 12 o glybiau'n buddsoddi mewn ffenestri a drysau newydd sy'n effeithlon o ran ynni.
  • Mae 15 o glybiau'n gosod neu'n newid yr inswleiddiad yn eu hadeiladau i leihau colli gwres.
  • Bydd 14 o glybiau'n cyllido datrysiadau dŵr cynaliadwy fel tyllau turio a systemau cynaeafu dŵr glaw.
  • Bydd 23 o glybiau'n uwchraddio eu systemau gwresogi neu ddŵr poeth.

Chwaraeon sydd wedi derbyn cyllid  

Roedd nifer fawr o glybiau’n bodloni’r gofynion, a dyfarnwyd grantiau i’r chwaraeon canlynol:

  • Achub Bywyd Syrffio
  • Beicio
  • Bocsio
  • Bowls
  • Criced
  • Golff
  • Gymnasteg
  • Hwylio
  • Pêl Droed
  • Rygbi
  • Sboncen
  • Sglefrfyrddio
  • Tennis

Mae rhai cyfleusterau aml-chwaraeon wedi cael Grantiau Arbed Ynni hefyd i gefnogi amrywiaeth eang o weithgareddau. 

Y 120 o glybiau a dderbyniodd Grantiau Arbed Ynni: 

Mae'r clybiau wedi'u rhestru isod yn ôl awdurdod lleol.

Abertawe 

  • Dyfarnwyd £22,800 i Glwb Chwaraeon De Gŵyr, sy'n buddsoddi mewn dyfodol gwyrddach gyda phaneli solar.
  • Mae Clwb Chwaraeon a Chymdeithasol Garden Village AFC yn defnyddio ei grant o £2,880 i uwchraddio ei ffitiadau paneli solar presennol gyda batris storio newydd.
  • Dyfarnwyd grant o £25,000 i Glwb Gymnasteg West Street a fydd yn darparu inswleiddiad newydd ar gyfer ei ganolfan gymnasteg sy’n cael ei heffeithio’n ddifrifol gan anwedd.
  • Mae Tennis Swansea 365 yn awyddus i ddod yn garbon niwtral, gan ddefnyddio ei grant o £25,000 i wella ei baneli solar a'i fatris presennol, ac ychwanegu inswleiddiad effeithiol yn y dderbynfa, y gampfa a'r ystafell ffisiotherapi.
  • Dyfarnwyd £15,832 i Glwb Achubwyr Bywyd Bae Langland, sy'n newid ei system wresogi a dŵr poeth 20+ oed am system fodern ac effeithlon, yn ogystal â gosod paneli solar yn eu lle i helpu gyda chostau ac effeithlonrwydd ynni.
  • Mae’r Prosiect Sgiliau Trefol Cymunedol yn defnyddio ei grant o £21,075 i osod paneli solar yn eu lle er mwyn dod yn fwy hunangynhaliol, gwella cynaliadwyedd a lleihau costau.
  • Dyfarnwyd £12,040 i Glwb Rygbi Faerdre i osod paneli solar a batris storio ynni yn eu lle. Wedi'i leoli yn un o'r ardaloedd yng Nghymru sydd wedi’i heffeithio fwyaf gan ffurfiau niferus o amddifadedd, gan gynnwys tlodi plant, mae'r clwb yn darparu cyfleoedd chwaraeon am ddim, prydau cynnes ar ôl gemau ac ystafell esgidiau wedi'i stocio i'r chwaraewyr a'r gymuned.
  • Dyfarnwyd £21,170 i Glwb Rygbi Pontarddulais i fuddsoddi mewn paneli solar. Mae wedi ymrwymo i gynaliadwyedd a gwasanaethu ieuenctid ac oedolion ei gymuned.
  • Ar gam nesaf ei siwrnai o gynaliadwyedd, dyfarnwyd £19,968 i Glwb Golff Dyffryn Mond i greu twll turio a diweddaru ei danc storio 50,000 litr. Bydd yr arbedion fydd yn cael eu sicrhau o fudd i fwy na 500 o aelodau drwy gadw’r ffioedd aelodaeth i lawr ac ailfuddsoddi yn ôl yn y clwb.
  • Dyfarnwyd £25,000 i Glwb Rygbi Bonymaen sy'n buddsoddi mewn twll turio, paneli solar a batris storio ynni. Mae'r clwb wedi rhagweld arbedion blynyddol o £2,500 ar ddefnydd o ddŵr a £3,000 ar ddefnydd o drydan.
  • Mae Clwb Criced Ynystawe yn uwchraddio ei system casglu dŵr glaw bresennol gyda'i grant o £25,000. Bydd hyn yn helpu i osgoi difrod i adeilad y clwb, yn galluogi casglu dŵr glaw yn effeithiol, ac yn lleihau colled ariannol oherwydd cyflenwad dŵr wedi'i fesur.

Blaenau Gwent

  • Bydd Clwb Pêl Droed Bluebirds Abertileri yn defnyddio eu grant o £20,555 i osod paneli solar a goleuadau LED yn eu lle, gan drawsnewid adeilad eu clwb yn gyfleuster carbon isel, cost-effeithiol a chynaliadwy.
  • Gan ganolbwyntio ar ddiogelu ar gyfer y dyfodol, mae Clwb Bowls Blaina yn defnyddio £19,200 i wneud ei gyfleusterau'n effeithlon o ran ynni gyda phaneli solar a system wresogi wedi'i moderneiddio.
  • Bydd Clwb Rygbi Brynmawr yn uwchraddio i system wresogi effeithlon o ran ynni ac yn newid ffenestri a drysau’r clwb gyda'i grant o £20,400, gan helpu i gadw’r cyfleusterau'n fforddiadwy ac yn gynnes ar gyfer y gymuned leol.

Bro Morgannwg 

  • Cafodd Clwb Bowlio Penarth, sydd wedi cael ei effeithio gan gostau ynni cynyddol, £15,335 i fuddsoddi mewn paneli solar a gwella’r inswleiddio dros yr ardal bar / bwyta. Ei nod yw newid i ynni adnewyddadwy lle mae hynny’n bosibl, er budd y clwb a'r gymuned.
  • Dyfarnwyd £23,554 i Windsor LTC Penarth ar gyfer paneli solar, fel rhan o'i waith o ail-doi a gwelliannau.
  • Yn cynnal digwyddiadau aml-chwaraeon drwy gydol y flwyddyn, mae Clwb Athletau Penarth yn defnyddio ei grant o £20,589 ar gyfer paneli solar, batris storio a newid yr holl oleuadau am opsiynau LED mwy cynaliadwy.
  • Dyfarnwyd grant o £25,000 i Glwb Golff Sir Forgannwg, sydd wedi cael ei effeithio gan sychder. Mae’n newid ei uned sy'n gollwng ar hyn o bryd am danc storio mwy a mwy effeithlon a phwmp.
  • Dyfarnwyd £20,000 i Glwb Golff Brynhill sy'n gosod system wresogi a dŵr poeth sy'n effeithlon o ran ynni yn ei lle, yn gwella'r inswleiddiad yn yr adeilad i gyd ac yn gosod paneli solar gyda storfa batri yn eu lle.
  • Dyfarnwyd £25,000 i Glwb Hwylio’r Barri i osod paneli solar yn eu lle a newid y goleuadau allanol am ddewisiadau LED.
  • Dyfarnwyd grant o £25,000 i Gadetiaid Môr Penarth sy’n uwchraddio cladin ac inswleiddiad yr adeilad am opsiynau mwy effeithiol a chynaliadwy.
  • Mae Clwb Golff Southerndown yn defnyddio ei grant o £25,000 i leihau ei ôl troed carbon a’i ddibyniaeth ar danwyddau ffosil drwy osod paneli solar yn y clwb.

Caerdydd 

  • Bydd Clwb Tennis yr Eglwys Newydd yn torri ei filiau ynni unwaith y bydd yn newid i oleuadau LED gyda grant o £3,582.
  • Yng Nghlwb Rasio BMX Caerdydd, bydd paneli solar yn cael eu gosod yn eu lle diolch i grant o £21,515. Bydd hyn yn helpu gyda chostau gweithredu is wrth i'r clwb dyfu ac ehangu.
  • Bydd paneli solar yn cael eu gosod yng Nghlwb Tennis Lawnt Caerdydd gan ddefnyddio grant o £18,788 i helpu i leihau'r defnydd o ynni.
  • Mae biliau cynyddol wedi cyflwyno her sylweddol i Friends of Pedal Power LTD. Bydd grant o £21,019 ar gyfer paneli solar yn lleihau eu costau gweithredu.
  • Mae Skate Cardiff Limited yn buddsoddi mewn paneli solar ac uPVC gyda'u grant o £21,678. Byddant yn defnyddio'r arbedion i gynnal mwy o brosiectau sglefrio ac i gadw’r costau mynediad i lawr.
  • Bydd grant o £20,000 ar gyfer paneli solar a storfa batris yn helpu Clwb Rygbi St Albans i leihau ei ôl troed carbon a’i filiau ynni a sicrhau cynaliadwyedd hirdymor i'r clwb.
  • Mae Clwb Hwylio Bae Caerdydd yn defnyddio llawer o drydan i gefnogi ei weithgareddau. Bydd yn buddsoddi ei grant o £25,000 mewn paneli solar a storfa batri. Bydd mwy nag £8,000 yn cael ei arbed yn flynyddol.
  • Mae Clwb Rygbi St Peters yn lleihau ei ddefnydd o ynni anadnewyddadwy a'i gostau gweithredu, diolch i grant o £17,385 ar gyfer paneli solar. Bydd yn gallu buddsoddi mwy mewn rygbi a mentrau cymunedol, gan sicrhau sefydlogrwydd hirdymor ar yr un pryd.

Caerffili 

  • Ar ôl derbyn Grant Arbed Ynni ar gyfer paneli solar a boeler yn flaenorol, bydd Clwb Rygbi Bargoed yn diogelu ei ddyfodol ymhellach nawr gyda grant o £12,220 ar gyfer storfa batris ac uned adfer gwres / awyru.
  • Dyfarnwyd £15,585 i Glwb Criced Pontymister a Crosskeys sy'n gosod paneli solar yn eu lle, gan ei helpu i ddod yn fwy cynaliadwy ac effeithlon. Bydd yr arbedion yn cael eu hailfuddsoddi mewn criced ieuenctid, gan helpu i gadw’r hyfforddiant yn fforddiadwy i bobl ifanc.
  • Bydd grant o £23,306 i Glwb Rygbi Machen yn cael ei ddefnyddio ar gyfer paneli solar a storfa batris ar gyfer y clwb. Bydd hyn yn ei alluogi i fuddsoddi mwy mewn addysg hyfforddwyr, offer, ac oriau gweithredu hirach.

Casnewydd

  • Mae Clwb Criced Malpas yn anelu at ynni sero net. Gan ddefnyddio ei grant o £14,164 i osod paneli solar yn eu lle, bydd yr arbedion sydd yn cael eu gwneud yn cael eu buddsoddi yn y timau ieuenctid a merched.
  • Gyda chyflenwad gwael yn gadael holl gyfleusterau’r adeilad a’r cawodydd heb ddŵr, mae Clwb Criced Casnewydd yn defnyddio ei grant o £25,000 i fuddsoddi mewn twll turio, gan ddarparu mynediad cyson at ddŵr sy'n rhatach ac yn fwy ecogyfeillgar.
  • Derbyniodd Clwb Racedi Sboncen Casnewydd £15,748 i newid unedau gwresogi sydd wedi torri ar gyfer ei gyrtiau. Mae hyn yn golygu y bydd yn gallu targedu cyrtiau penodol sy'n cael eu defnyddio ac arbed ar gostau.
  • Mae Clwb Tennis Lawnt Stow Park yn gosod system solar ac uned storio batri yn eu lle gyda'i grant o £17,502, gan alluogi'r clwb i gynhyrchu a storio ynni adnewyddadwy ar y safle, gan ostwng biliau a gwella cynaliadwyedd.

Castell-nedd Port Talbot

  • Bydd grant o £25,000 ar gyfer paneli solar yn arwain at lai o gostau ynni ac ôl troed carbon yng Nghlwb Pêl Droed Llansawel. Mae’n bwriadu hyrwyddo addysg amgylcheddol a chynaliadwyedd ymhlith ei aelodau.
  • Bydd ClwbCriced Gwaith Dur Llansawel yn defnyddio ei £20,922 i osod paneli solar a goleuadau LED yn eu lle. Gyda chostau gweithredu uwch, bydd yr ychwanegiadau newydd yma’n helpu i bweru gweithgareddau cymunedol.
  • Bydd paneli solar yn cael eu gosod yng Nghlwb Golff Castell-nedd diolch i grant o £25,000, a fydd yn arwain at filiau a chostau rhedeg is. Bydd yr ynni yma hefyd yn galluogi i fygis golff gael eu gwefru'n barhaus, gan olygu bod mwy o olffwyr yn gallu cael mynediad i'r cwrs mynyddig.
  • Bydd Clwb Rygbi Llansawel yn defnyddio ei grant o £20,536 ar gyfer inswleiddio, goleuadau LED ac uPVC i helpu i leihau costau rhedeg. Bydd yr arbedion yn cael eu buddsoddi yn ôl yn y gymuned.
  • Mae costau Clwb Criced Sgiwen wedi codi dros y tair blynedd diwethaf. Bydd gosod paneli solar yn eu lle gan ddefnyddio ei grant o £24,565 yn lleihau costau ac effaith amgylcheddol, gan alluogi’r clwb i ddod yn hwb ar gyfer chwaraeon yn y gymuned leol.
  • Mae Ystafell Ffitrwydd Cymuned Afan yn hybu iechyd a lles yn y gymuned leol. Drwy osod paneli solar yn eu lle, bydd yn gallu aros ar agor yn hirach a lleihau ei biliau gyda'i grant o £20,784.
  • Gan ddefnyddio £18,140 o gyllid, bydd paneli solar, boeler cyfunol a goleuadau LED dan do yn cael eu gosod yng Nghlwb Rygbi Baglan i helpu i leihau’r biliau nwy a thrydan blynyddol.
  • Mae mwy o bobl yn defnyddio cyfleusterau Clwb Pêl Droed Resolfen. Bydd ei grant o £25,000 ar gyfer paneli solar yn helpu'r clwb i arbed arian a dod yn hunanddibynnol. Bydd yr arbedion yn cael eu hailfuddsoddi yn y tîm pêl droed ac i gefnogi'r gymuned ehangach.
  • Bydd Clwb Pêl Droed Goetre Unedig yn defnyddio grant o £15,704 i newid ei hen foeler sydd wedi dyddio, gan fod y defnydd o'r cae yn cynyddu. Bydd y clwb yn defnyddio’r arbedion i ddod yn hwb i’r timau presennol a’r rhai sy’n ehangu.
  • Yng Nghlwb Pêl Droed Crimla, bydd grant o £11,809 yn cael ei ddefnyddio ar gyfer paneli solar ac inswleiddio, a fydd yn arwain at filiau is a buddsoddiad hirdymor. Bydd yr arbedion yn cael eu hailfuddsoddi i wella cyfleusterau’r clwb.
  • Fel llawer o glybiau a chymunedau sy’n cael eu heffeithio gan yr argyfwng costau byw, mae Clwb Rygbi Tonmawr yn hyrwyddo cynaliadwyedd gyda'i grant o £23,902. Mae gosod paneli solar ac uned storio batri yn eu lle yn golygu y bydd y clwb yn gallu parhau i gyflwyno chwaraeon cymunedol ac ehangu ei dimau dynion feteran, merched, mini ac iau.
  • Dyfarnwyd grant o £22,396 i Glwb Criced Tref Port Talbot. Mae’n cael gwared ar y system solar thermal bresennol ac yn ei hadleoli, yn gosod paneli solar newydd yn eu lle gyda thri batri storio ynni, ac yn gwneud gwelliannau trydanol.

Ceredigion

  • Mae Clwb Golff Borth ac Ynyslas eisiau lleihau ei filiau a dod yn llai dibynnol ar y Grid Cenedlaethol. Mae’n gosod paneli solar a boeler / tanc dŵr poeth newydd yn eu lle gyda grant o £25,000.
  • Bydd Clwb Golff Aberteifi yn sefydlogi ei gostau gyda help grant o £21,415 ar gyfer paneli solar.
  • Bydd paneli solar yn cael eu gosod yn eu lle yng Nghlwb Rygbi Llambed gyda'i grant o £25,000. Bydd yr arian sy’n cael ei arbed yn cael ei ailfuddsoddi yn ôl yn y clwb.
  • Mae Clwb Rygbi Aberystwyth eisiau lleihau ei ddibyniaeth ar drydan y grid. Gan ddefnyddio grant o £12,582, bydd yn prynu batris i storio’r ynni dros ben o'i baneli solar.
  • Mae Clwb Golff Aberystwyth wedi derbyn £25,000 i leinio'r pwll presennol, gan wella ei allu i ddal dŵr glaw a dileu colli dŵr drwy ddiferu.
  • Mae gan Glwb Bowlio Aberteifi gyfranogwyr rhwng 7 a 93 oed. Gan ddefnyddio grant o £23,678, bydd yn gosod paneli solar yn eu lle i gynhyrchu ei bŵer ei hun wrth i gostau cynyddol fygwth ei oroesiad yn yr hirdymor.

Conwy

  • Fel llawer o glybiau eraill, mae Clwb Rygbi Bae Colwyn yn gweld costau ynni cynyddol. Diolch i grant o £24,007 ar gyfer paneli solar, bydd y clwb yn gweld y biliau hynny'n gostwng yn fawr.
  • Gyda chefnogaeth grant o £22,620, bydd Clwb Hwylio Llanfairfechan yn gosod paneli solar, storfa batris ac inswleiddiad gwell yn eu lle. Bydd yr arbedion fydd yn cael eu gwneud yn galluogi'r clwb i ehangu ei waith yn y gymuned a darparu mwy o weithgareddau fel gwyntffoilio, padlfyrddio ac achub bywyd syrffio.
  • Mae Clwb Golff Hen Golwyn yn gobeithio dod yn hunangynhaliol o ran ei ddefnydd o ddŵr a bydd yn defnyddio ei grant o £24,984 i fuddsoddi mewn system dal dŵr bae golchi. Bydd hyn yn arbed tua 112,500 o litrau o ddŵr yn flynyddol.

Gwynedd

  • Bydd gwresogi is-goch yn cymryd lle’r system bresennol yng Nghlwb Golff Aberdyfi. Bydd ei grant o £1,837 yn ei helpu i ddod yn fwy cynaliadwy yn amgylcheddol ac yn ariannol.
  • Mae Clwb Golff Caernarfon yn buddsoddi ei grant o £10,710 mewn twll turio, a fydd yn pwmpio dŵr yn syth i'r lawntiau heb fawr ddim cost. Hefyd bydd ailgylchu dŵr daear yn lleihau ei alw ar y prif gyflenwad dŵr cyhoeddus.
  • Bydd Clwb Rygbi Caernarfon yn lleihau ei filiau ynni i ddarparu hwb cymunedol i'w holl ddefnyddwyr. Diolch i grant o £25,000, bydd yn gosod paneli solar, goleuadau LED ac inswleiddiad yn eu lle.
  • Bydd grant o £12,576 i osod batri ar gyfer ei baneli solar presennol yn helpu Clwb Rygbi Dolgellau i reoli ei filiau cynyddol, gan alluogi iddo ddal ati i gefnogi ei aelodau a'i grwpiau cymunedol.
  • Yng Nghlwb Golff St Davids yn Harlech, bydd paneli solar a storfa batris yn cael eu gosod yn eu lle gan ddefnyddio ei grant o £25,000. Gyda biliau misol o £3,000 ar gyfartaledd, bydd y paneli solar yn helpu i leihau costau, gan warchod yr amgylchedd a dyfodol y clwb.

Merthyr Tudful

  • Yn glwb sy'n gwasanaethu cymuned economaidd-gymdeithasol is ac yn cynnal pencampwriaethau a digwyddiadau proffil uchel, dyfarnwyd £22,440 i Glwb Golff Castell Morlais i fuddsoddi mewn twll turio – gan helpu i frwydro yn erbyn costau cynyddol a pharatoi ar gyfer prinder dŵr.
  • Dyfarnwyd £4,920 i Glwb Rygbi Dowlais i newid yr inswleiddiad 35 oed yn yr atig a gafodd ei dynnu yn dilyn gwaith adnewyddu i wella cynaliadwyedd.

Pen-y-bont ar Ogwr 

  • Bydd grant o £25,000 yn cael ei ddefnyddio yng Nghlwb Golff Brenhinol Porthcawl i dorri ei filiau ynni a lleihau ei effaith ar yr amgylchedd.
  • Mae CIC Bowls, Tennis a Sboncen Pen-y-bont ar Ogwr yn gosod paneli solar yn eu lle gyda'i grant o £19,939. Bydd hyn yn helpu i leihau costau ynni a bydd posib defnyddio arbedion i uwchraddio cyfleusterau'r clwb.
  • Bydd ffenestri a drysau newydd yn cael eu gosod yng Nghlwb Bocsio Dreigiau Cwm Ogwr gyda'i grant o £18,400, gan helpu i leihau colli gwres.
  • Bydd paneli solar yn cael eu gosod yng Nghlwb Bocsio Amatur Cwm Llynfi gan ddefnyddio ei grant o £24,100. Bydd hyn yn lleihau costau cyfleustodau wrth iddo sefydlu ei ganolfan newydd.

Powys

  • Mae Clwb Rygbi Llanidloes yn buddsoddi mewn paneli solar a batris storio ynni gyda'i grant o £20,159, gan helpu i wella effeithlonrwydd ynni a chostau.
  • Dyfarnwyd £11,342 i Glwb Bowlio Cymunedol Cegidfa i osod paneli solar a batris storio yn eu lle.
  • Nod Clwb Rygbi Abercraf yw gosod esiampl mewn cynaliadwyedd ynni drwy uwchraddio systemau gwresogi a dŵr hen ffasiwn ei ystafelloedd newid gyda dewisiadau amgen effeithlon o ran ynni, a thrwy newid yr holl oleuadau i LED gyda'i grant o £19,675.
  • Mae Clwb Rygbi Aberhonddu yn rhoi ei grant o £18,706 tuag at ei strategaeth gynaliadwyedd hirdymor drwy osod paneli solar yn eu lle. Drwy leihau costau gweithredu, gall y clwb barhau i gefnogi gweithgareddau iau, cymunedol a chynhwysol.
  • Dyfarnwyd £25,000 i Glwb Golff Glyn-nedd sy'n newid paneli ffenestri dwbl sydd wedi'u difrodi ac yn gosod boeler newydd effeithlon o ran ynni, paneli solar a batris storio yn eu lle. Wedi'i leoli mewn cymuned sy’n cael ei thanwasanaethu, nod y clwb yw buddsoddi yn ôl yn yr ardal leol.

Rhondda Cynon Taf

  • Bydd Clwb Pêl Droed Llwydcoed yn defnyddio ei grant o £25,000 i osod paneli solar a batris storio yn eu lle.
  • Ar hyn o bryd, mae mynediad Clwb Golff Aberdâr i ddŵr yn gyfyngedig ac yn dod o gronfa ddŵr leol fechan. Ar ôl ymgynghori ag arbenigwr echdynnu dŵr, mae’n rhoi ei grant o £13,898 tuag at dwll turio.
  • Dyfarnwyd £15,518 i Glwb Rygbi Treorci i osod paneli solar yn eu lle. Bydd y buddsoddiad yn helpu i leihau costau ynni cynyddol, cefnogi nodau datgarboneiddio a chreu gofod cymunedol gwyrddach wedi’i ddiogelu ar gyfer y dyfodol.
  • Gan leihau allyriadau carbon, mae Clwb Rygbi a Phêl Droed Penygraig yn defnyddio ei grant o £25,000 i osod paneli solar yn eu lle ac i uwchraddio ei systemau inswleiddio a gwresogi – mae'r ffitiadau presennol yn dyddio'n ôl i'r 70au.
  • Mae Clwb Golff Y Rhondda Cyf. wedi bod yn colli effeithlonrwydd gwres a dŵr gyda'i ffenestri dwbl a'i dwll turio o'r 80au. Dyfarnwyd £17,108 i’r clwb i osod ffenestri a drysau gwydr dwbl newydd o ansawdd uchel yn eu lle, a thwll turio newydd ar gyfer ffynhonnell ddŵr gryfach a mwy dibynadwy a chynaliadwy.
  • Dyfarnwyd £23,499 i Glwb Golff Llantrisant a Phontyclun ar gyfer paneli solar a storio ynni. Mae'r clwb yn benderfynol o leihau ei allyriadau carbon ac ailfuddsoddi mewn gwella cyfleusterau, ehangu rhaglenni cymunedol, a chynyddu cyfleoedd i bobl ifanc a phobl ag anableddau.
  • Fel rhan o'i gynllun strategol 5 mlynedd, mae Clwb Golff Aberpennar yn brwydro yn erbyn ei ôl troed carbon ac yn buddsoddi mewn paneli solar gyda grant o £16,141.

Sir Benfro   

  • Gan fuddsoddi yn ei gymuned, mae Clwb Bowls Hwlffordd yn buddsoddi ei grant o £25,000 mewn paneli solar ac inswleiddio, gan uwchraddio ei foeler a'i reiddiaduron a gosod gwydr dwbl ar ei ffenestri. Mae hyn yn galluogi iddo ddal ati i gynnal digwyddiadau a gweithgareddau yn ystod y gaeaf.
  • Mae Clwb Criced Cresselly yn gwrthsefyll llawer o stormydd, gwyntoedd cryfion a glaw trwm. Bydd ei grant o £18,529 yn galluogi gosod ffenestri a drysau uPVC yn eu lle, gan warchod rhag lleithder a llwydni a gwella costau ynni ac ôl troed carbon.
  • Dyfarnwyd grant o £6,891 i Glwb Bowls Abergwaun ac Wdig sy'n buddsoddi mewn paneli solar ac inswleiddio i wella effeithlonrwydd ynni.
  • Mae Clwb Hwylio Dinbych-y-pysgod yn buddsoddi mewn dyfodol mwy cynaliadwy ac ecogyfeillgar. Bydd y grant o £23,316 yn mynd tuag at newid fframiau pren ei ffenestri sydd wedi pydru ac uwchraddio i wydr dwbl.
  • Mae Clwb Bowlio Aberdaugleddau yn gosod paneli solar yn eu lle gyda'i grant o £8,580 – gan helpu gyda chostau cyfleustodau a gwella cynaliadwyedd.
  • Dyfarnwyd £9,728 i Glwb Rygbi Dinbych-y-pysgod Unedig i newid ei system wresogi sydd wedi dod i ddiwedd ei hoes am uned newydd effeithlon o ran ynni ac uwchraddio'r holl oleuadau mewn dwy ystafell newid i ddewisiadau LED amgen. Bydd synwyryddion a amseryddion goleuo’n cael eu gosod yn eu lle hefyd.
  • Dyfarnwyd £10,970 i Glwb Bowlio Doc Penfro ar gyfer paneli solar, uwchraddio goleuadau LED ynghyd â synwyryddion, a gwella inswleiddiad y groglofft i ddiogelu’r clwb ar gyfer y dyfodol.
  • Bydd grant Clwb Pêl Droed Treletert o £11,907 yn cael ei fuddsoddi mewn paneli solar, gan helpu i arbed ar gostau ynni i alluogi iddo barhau i gefnogi'r gymuned leol.
  • Dyfarnwyd £6,178 i Glwb Rygbi Abergwaun ac Wdig sy'n ychwanegu at ei fatris storio ynni. Yn cynhyrchu mwy o ynni solar nag yr oedd yn gallu ei storio ar hyn o bryd, bydd y storfa ychwanegol nid yn unig yn helpu i gyllido ei wasanaethau, gan gynnwys darparu prydau poeth am ddim i’r timau, ond hefyd yn atal gwastraff ynni.
  • Mae Clwb Criced Llechryd yn lleihau ei ddibyniaeth ar ddŵr o’r prif gyflenwad drwy fuddsoddi mewn twll turio gyda'i grant o £23,311. Mae'r clwb eisiau gwella cynaliadwyedd a lleihau costau wrth iddo dyfu.

Sir Ddinbych 

  • Bydd paneli solar, gwresogi, inswleiddio ac uPVC yn cael eu gosod yng Nghanolfan Gymunedol Llanfwrog gan ddefnyddio £18,000 o gyllid.
  • Bydd grant o £25,000 i Glwb Pêl Droed y Rhyl yn lleihau ei filiau a'i ôl troed carbon drwy osod paneli solar yn eu lle.
  • Bydd Clwb Golff Prestatyn yn dod yn llai dibynnol ar ddŵr o’r prif gyflenwad, gan ddefnyddio ei grant o £24,960 ar gyfer system ailgylchu dŵr.
  • Bydd paneli solar a batri storio’n cael eu gosod yn eu lle yng Nghlwb Rygbi Rhuthun, diolch i grant o £25,000, i alluogi'r clwb i gadw’r ynni gormodol sy’n cael ei gynhyrchu o'r paneli solar ar ddyddiau heulog.
  • Mae Clwb Bowlio Rhuthun yn tyfu ac yn darparu amrywiaeth o fentrau, gan gynnwys cefnogi aelodau sydd â dementia a gwersi Cymraeg. Mae’n gosod paneli solar, batri storio a goleuadau LED yn eu lle ac yn uwchraddio’r system wresogi gyda'i grant o £17,430.

Sir Fynwy         

  • Mae Clwb Rygbi’r Fenni yn defnyddio ei grant o £11,040 i osod batris storio ynni eu lle. Gan fod y rhan fwyaf o’i drydan yn cael ei ddefnyddio gyda’r nos, bydd storio ynni o’i baneli solar presennol yn help ariannol a bydd o fudd i sefydliadau lleol eraill sy’n defnyddio’r clwb gyda’r nos.
  • Dyfarnwyd £17,458 i Glwb Rygbi Cas-gwent ar gyfer gosod paneli solar yn eu lle. Yn glwb diogel, cynhwysol ac ysbrydoledig i chwaraewyr o bob oedran a chefndir, mae’n awyddus i arbed ar gostau mewn ffordd gynaliadwy er mwyn tyfu a rhoi yn ôl i’w dimau.

Sir y Fflint 

  • Dyfarnwyd £18,845 i Glwb Golff Llaneurgain ar gyfer ailgylchu dŵr. Bydd system rheoli dŵr gynaliadwy newydd yn helpu i gasglu dŵr glaw.
  • Mae Clwb Criced Carmel a'r Cylch yn buddsoddi ei grant o £3,008 mewn tanc propan newydd i gymryd lle’r un a osodwyd yno yn 1995. Bydd y tanc newydd wedi'i inswleiddio ac wedi’i greu ar gyfer eu hanghenion.

Sir Gaerfyrddin 

  • Mae’r costau ynni wedi codi’n sydyn yng Nghlwb Rygbi Hendy, ond bydd grant o £13,930 ar gyfer paneli solar yn helpu i leihau ei filiau.
  • Bydd Ysgol Gymnasteg Sir Gaerfyrddin yn defnyddio ei grant o £10,790 ar gyfer batris i gefnogi’r paneli solar presennol. Bydd y batri’n helpu’r clwb i storio mwy o ynni solar i helpu i gynhesu’r cyfleuster, yn enwedig yn ystod misoedd y gaeaf.
  • Bydd Clwb Criced Bronwydd yn defnyddio ei grant o £14,856 ar gyfer paneli solar, gan ei helpu i arbed tua £6,000 y flwyddyn mewn biliau ynni.
  • Bydd Clwb Pêl Droed Seaside yn ailfuddsoddi’r arian a arbedwyd o grant paneli solar o £20,671 yn ôl mewn chwaraeon cymunedol, gwirfoddoli, cyfleoedd cymdeithasol a darparu chwaraeon am ddim.
  • Dyfarnwyd £5,271 i Glwb Pêl Droed Rhydaman, sy’n newid ei hen ddrysau sydd wedi’u difrodi, a fydd yn cadw’r gwres i mewn.
  • Mae Clwb Golff Caerfyrddin wedi cael £13,901 ar gyfer storfa batris a goleuadau LED. Mae hyn yn golygu y bydd yn gallu storio ynni ychwanegol sy’n cael ei gynhyrchu yn fewnol a gwario llai o arian ar oleuadau.
  • Mae Clwb Criced Lles Dafen yn lleihau costau ynni ac yn dod yn fwy annibynnol o ran ynni, diolch i grant o £7,254 ar gyfer storfa batris a goleuadau LED.
  • Mae Clwb Rygbi Rhydaman wedi derbyn £25,000 i newid hen ffenestri a gosod batris newydd i storio trydan o'i baneli solar. Ei nod yw moderneiddio a gwella’r cyfleusterau ar gyfer y gymuned gyfan.
  • Mae Clwb Rygbi ac Athletau Nantgaredig yn ehangu i gefnogi tîm merched newydd, sesiynau rygbi cyffwrdd teuluol a charfannau presennol y dynion a’r plant. Bydd grant o £25,000 yn cyllido uwchraddio paneli solar, storfa batris estynedig, system wresogi dŵr drydanol a goleuadau LED awyr agored, gan wella cynaliadwyedd a lleihau costau.
  • Bydd Clwb Rygbi Llanelli Wanderers yn diweddaru ei hen system gawodydd sydd wedi dyddio gyda grant o £8,962. Bydd y system dŵr poeth wedi'i moderneiddio yn helpu i leihau costau a defnydd ynni.

Torfaen 

  • Mae Clwb Pêl Droed Celtaidd Cwmbrân yn gwneud newidiadau i ddefnyddio ynni gwyrddach drwy roi ei grant o £18,944 tuag at osod paneli solar a batris ynni yn eu lle, yn ogystal â newid holl oleuadau'r ystafell newid am unedau LED.
  • Wedi derbyn £9,782, mae Clwb Pêl Droed Iau a Mini Fairfield United yn gosod paneli solar yn eu lle, gan helpu i ostwng biliau ynni i ryddhau arian ar gyfer datblygu chwaraewyr a mentrau clwb a lleihau ôl troed carbon.
  • Yn hanfodol i'r gymuned leol, mae Clwb Rygbi a Phêl Droed Garndiffaith yn darparu prydau poeth i’r chwaraewyr ar ddyddiau hyfforddi a gemau, ac mae hefyd yn hwb ar gyfer nosweithiau bingo lleol, pen-blwyddi a mwy. Dyfarnwyd £12,418 i'r clwb i osod paneli solar a batris yn eu lle i helpu gyda chost-effeithlonrwydd.
  • Dyfarnwyd £8,273 i Glwb Rygbi Blaenafon sy'n gosod paneli solar a batris yn eu lle, gan alluogi iddo ailfuddsoddi a gwella’r cyfleusterau a chefnogi datblygiad rygbi ar lawr gwlad gan barhau i fod yn gynaliadwy.
  • Mae Clwb Bowls Garndiffaith yn buddsoddi ei grant o £11,599 i osod paneli solar yn eu lle ac uwchraddio'r holl oleuadau presennol i oleuadau LED fel rhan o'i ymrwymiad i gynaliadwyedd.
  • Dyfarnwyd £15,476 i Glwb Criced Pontnewydd, sy'n gosod system dŵr poeth newydd a boeler sy'n effeithlon o ran ynni yn eu lle. Mae hefyd yn uwchraddio’r ffenestri gwydr sengl ac yn gwella ardal o inswleiddiad yn y to.

Wrecsam 

  • Yn dibynnu ar wresogyddion darfudol a roddwyd i’r clwb ar gyfer ei bafiliwn ar hyn o bryd, mae Clwb Bowlio Garden Village yn defnyddio ei grant o £1,584 i osod system wresogi barhaol ac effeithlon o ran ynni yn ei lle.

Ynys Môn

  • Yn glwb sy'n tyfu'n eithriadol gyflym, mae CPD Aberffraw wedi gweld mwy o alw am ei gyfleusterau. Mae am osod paneli solar yn y clwb gyda'i £6,420, gan gyfrannu at y nodau hinsawdd cenedlaethol.
  • Ychydig iawn o foderneiddio sydd wedi bod ar system wresogi Clwb Golff Ynys Môn dros y blynyddoedd. Bydd grant o £24,000 yn galluogi'r clwb i uwchraddio i foeler newydd. Gallai hyn ei helpu i arbed £12,000 y flwyddyn a gostwng ei gostau rhedeg.
  • Dyfarnwyd £7,894 i Glwb Criced Porthaethwy. Fel rhan o welliannau helaeth y clwb tuag at gynaliadwyedd a chyrraedd amcanion amgylcheddol, mae am osod batris storio ynni yn eu lle i gefnogi ei baneli solar.

Newyddion Diweddaraf

Plant sydd ag anghenion ychwanegol yn mwynhau cyffro sgïo, gyda chefnogaeth y Loteri Genedlaethol

Diolch i gyllid drwy Chwaraeon Cymru, mae Ice Cool Kids wedi gallu adnewyddu ei offer oedd wedi mynd…

Darllen Mwy

Lle i Chwaraeon: Helpu clybiau i wella eu cyfleusterau drwy gydol y flwyddyn

Gall clybiau chwaraeon yng Nghymru gael cyllid i wella eu cyfleusterau drwy gydol y flwyddyn drwy Le…

Darllen Mwy

Troi gwybodaeth yn weithredu: Sut mae Hoci Cymru yn mynd i’r afael â galw heb ei fodloni yng Ngorllewin Cymru

Drwy ddefnyddio data Arolwg Chwaraeon Ysgol, mae Hoci Cymru wedi creu cyfleoedd i blant sydd ag anghenion…

Darllen Mwy