Skip to main content

Gwerth £15 miliwn o geisiadau i’r Gronfa Lle i Chwaraeon

  1. Hafan
  2. Newyddion, Straeon a Digwyddiadau
  3. Newyddion, Erthyglau ac Ymgyrchoedd
  4. Gwerth £15 miliwn o geisiadau i’r Gronfa Lle i Chwaraeon

Mae cyfanswm o 319 o geisiadau wedi'u cyflwyno i'r gronfa Lle i Chwaraeon sy'n werth £1 miliwn.

Roedd cyfanswm y ceisiadau am gyllid ar gyfer mwy na £15 miliwn gyda chyfanswm costau'r prosiectau'n werth mwy nag £20 miliwn.

Cyflwynwyd ceisiadau ar gyfer prosiectau yn ardal pob awdurdod lleol yng Nghymru ac ar gyfer 38 o wahanol gampau.

Bydd panel penderfynu'n cael ei gynnal ganol mis Gorffennaf, ac mae Chwaraeon Cymru'n gobeithio bod mewn sefyllfa i roi gwybod i ymgeiswyr am y penderfyniadau erbyn dechrau mis Awst.

Am fwy o wybodaeth am y gefnogaeth sydd ar gael i wirfoddolwyr a chlybiau yng Nghymru, a'r grantiau cyllido eraill sydd ar gael, ewch i www.atebionclwb.cymru