Skip to main content

Gwirfoddolwyr Conwy yn newid bywydau pobl ag anableddau drwy feicio wedi’i addasu

  1. Hafan
  2. Newyddion, Straeon a Digwyddiadau
  3. Newyddion, Erthyglau ac Ymgyrchoedd
  4. Gwirfoddolwyr Conwy yn newid bywydau pobl ag anableddau drwy feicio wedi’i addasu

Mae clwb beicio wedi'i addasu yng Nghonwy ar gyfer pobl ag anableddau sy'n cael ei redeg yn gyfan gwbl gan wirfoddolwyr yn annog eraill i ystyried gwirfoddoli mewn chwaraeon.

Clwb Beicio Wedi'i Addasu Freewheelers Conwy, sydd wedi'i leoli yn Eirias, yw'r unig glwb beicio wedi'i addasu sydd â'r nod o roi cyfle i bobl ag anableddau feicio a dysgu beicio, ac mae'n cael ei redeg gan wirfoddolwyr yn unig.

Wrth i gyfyngiadau Covid-19 godi, mae unigolion sy’n mwynhau beicio wedi'i addasu, fel Lennon o Fae Colwyn, wedi gallu bod nôl yn y gêm diolch i grŵp o 10 gwirfoddolwr.

Mae ymchwil a gynhaliwyd gan Chwaraeon Cymru yn dangos yr hoffai 28% o oedolion yng Nghymru wirfoddoli mewn chwaraeon yn ystod y flwyddyn nesaf, o gymharu â dim ond 5% o bobl a wirfoddolodd mewn chwaraeon y llynedd. Mae mwy o bobl yn gwirfoddoli yn hanfodol er mwyn cynnal sefydliadau fel Conwy Freewheelers.

 

Conwy Freewheelers at Colwyn Bay Leisure Centre with volunteer coach Ben.
Conwy Freewheelers at Colwyn Bay Leisure Centre.

 

Mae Lennon Hatton yn un o 30 o aelodau sy'n mynychu'r clwb ar hyn o bryd. Wrth ddisgrifio faint mae’r clwb wedi ei helpu, dywedodd mam Lennon, Kerry Hatton Jones: “Pan aeth Lennon i’r clwb beicio am y tro cyntaf roedd yn ddibynnol ar ddefnyddio ei gadair olwyn drwy’r amser ac yn ei chael yn anodd iawn gadael y tŷ i gymdeithasu. Roedd diffyg cyfleoedd iddo’n golygu ei fod yn teimlo'n ynysig iawn ac yn methu gwneud unrhyw beth, ac fe wnaeth y cyfnod clo waethygu hynny. 

“Mae’r Freewheelers wedi gwella hyder, hunan-werth a symudedd Lennon yn aruthrol, mae reidio beic wedi’i addasu a dod allan o’i gadair olwyn wedi newid ei fywyd ac wedi rhoi teimlad o ryddid iddo nad oedd ganddo o’r blaen. Y gwirfoddolwyr yma sy'n gyfrifol am y cyfleoedd sydd gan Lennon nawr, ac ni fyddai wedi bod yn bosib hebddyn nhw. Mae'r gwirfoddolwyr yma wir wedi gwella ei fywyd. " 

Mae’r clwb cynhwysol, a ffurfiwyd drwy bartneriaeth rhwng Chwaraeon Anabledd Cymru, Tîm Datblygu Hamdden Conwy a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, yn cynnig cyfleoedd beicio i bobl o bob gallu, yn enwedig y rhai â namau dysgu, synhwyraidd a chorfforol. Mae'r sefydliad hwn yn dibynnu ar y grŵp o 10 o wirfoddolwyr sy'n rhoi o’u hamser a'u gwybodaeth i helpu i gefnogi'r aelodau. 

Cyclist using an adapted bike.
A cyclist using one of the adapted bikes which has two rear wheels with a flat platform between the two.

 

Dywedodd Ben Lightowler, ffisiotherapydd a chadeirydd Clwb Beicio Wedi’i Addasu Freewheelers Conwy: “Roedd gwir angen datblygu cyfleoedd mwy cynhwysol i bobl yn yr ardal leol. Roedd plant ac oedolion ag anableddau yn ei chael yn anodd iawn mynd allan ac ymuno mewn unrhyw fath o weithgareddau oherwydd nad oedd unrhyw beth ar gael. Roeddwn i'n arfer gwirfoddoli i glwb pêl fasged cadair olwyn, felly fe wnes i gytuno i ymuno â rhywbeth ddechreuodd fel cynllun peilot. 

“Drwy gyllid gan Chwaraeon Cymru, Cronfa Gofal Canolraddol Conwy, Cronfa Gwynt y Môr a Chronfa Gwastadeddau’r Rhyl, mae gennym ni bellach fflyd o fwy nag 20 o feiciau wedi’u haddasu ar gyfer pobl o bob gallu. Nid yw'r rhan fwyaf o bobl sy'n dod yma erioed wedi bod ar feic o'r blaen, ac mae rhai ohonyn nhw’n ein gadael ni ar ôl prynu eu beic wedi'i addasu eu hunain ac yn gallu ymuno â'u teulu ar daith feicio egnïol. Dylai pawb gael y cyfle i ddatblygu sgiliau fel beicio, y cyfan sydd ei angen yw rhoi'r gefnogaeth iawn i bobl wneud hyn. "

Yma yn Chwaraeon Cymru, rydyn ni wedi lansio ymgyrch newydd i helpu pobl ledled Cymru i gysylltu â chwaraeon ac ymarfer corff. 

Dywedodd Sarah Powell, Prif Swyddog Gweithredol Chwaraeon Cymru: “Rydyn ni wrth ein bodd ei bod hi’n amser i bawb fod nôl yn y gêm a mwynhau manteision enfawr chwaraeon a gweithgarwch corfforol. Rydyn ni’n falch o fod yn cefnogi clybiau fel Clwb Beicio Wedi’i Addasu Freewheelers Conwy ac eisiau diolch i wirfoddolwyr ledled Cymru am ddarparu'r cyfleoedd cynhwysol yma. 

“Mae ein hymchwil diweddar yn dangos bod mwy nag 1 o bob 4 o bobl yng Nghymru eisiau gwirfoddoli yn y byd chwaraeon. Os oes gennych chi ddiddordeb mewn cymryd rhan, cysylltwch â chlwb chwaraeon lleol neu siaradwch â Chorff Rheoli Cenedlaethol camp benodol. Drwy waith gwych gwirfoddolwyr y gallwn ni sicrhau bod cyfleoedd amrywiol ar gael i bawb.” 

Newyddion Diweddaraf - Chwaraeon Cymunedol ac ar Lawr Gwlad

Mae pobl ifanc yn gwirioni ar dennis bwrdd, diolch i dechnoleg fodern

Mae Clwb Tenis Bwrdd Cynffig yn defnyddio technoleg laser modern i helpu i wneud eu camp yn fwy deniadol…

Darllen Mwy

5 ffordd y gall eich clwb chwaraeon elwa o fod yn fwy cynaliadwy

Beth yw manteision dod yn glwb mwy cynaliadwy? Dyma ein pump uchaf ni.

Darllen Mwy

Chwaraeon ac ymarfer corff yn ystod Ramadan

Dyma gyngor y Sefydliad Chwaraeon Mwslimaidd ar gyfer cyflwyno a chymryd rhan mewn chwaraeon ac ymarfer…

Darllen Mwy