Skip to main content

Gŵyl Chwaraeon Anabledd Cymru yn rhoi miloedd o gyfleoedd i roi cynnig ar chwaraeon para

  1. Hafan
  2. Newyddion, Straeon a Digwyddiadau
  3. Newyddion, Erthyglau ac Ymgyrchoedd
  4. Gŵyl Chwaraeon Anabledd Cymru yn rhoi miloedd o gyfleoedd i roi cynnig ar chwaraeon para

Mae seren y byd para chwaraeon, Harrison Walsh, yn gwybod mwy na’r mwyafrif am ba mor bwerus y gall chwaraeon fod o ran helpu rhywun i ddod i delerau ag anaf sy’n newid bywyd.

Nawr, mae'n annog pobl anabl eraill i gymryd rhan yng Ngŵyl Para Chwaraeon Abertawe yr haf yma.

Gan ddechrau gyda digwyddiad insport Chwaraeon Anabledd Cymru ym Mhrifysgol Abertawe ar 1 Awst 2022, bydd yr ŵyl yn cynnig 5,000 o gyfleoedd i gymryd rhan yn ystod yr haf, gan gynnwys pum digwyddiad cystadleuol mewn gwahanol leoliadau.

Hefyd bydd yr Ŵyl Para Chwaraeon yn ychwanegu at yr awyrgylch o amgylch Abertawe dros benwythnos 6/7 Awst, ochr yn ochr â Thriathlon Cyfres Para y Byd ac Ironman 70.3 Abertawe.

Un o brif amcanion yr ŵyl yw cynnig cyfleoedd i athletwyr elitaidd ac ar lawr gwlad o bob oedran.

Yn 2015, wythnos yn unig cyn bod Harrison i fod i chwarae rygbi i dîm Dan 20 Cymru yn erbyn Lloegr, cafodd anaf erchyll i'w goes mewn damwain wrth chwarae mewn gêm glwb dros Abertawe.

O ganlyniad, nid yn unig y daeth â’i uchelgais rygbi i ben ond hefyd gadawodd Harrison gyda dim ond symudiad rhannol a dim teimlad yn ei droed dde oherwydd maint y niwed i'r nerfau. 

“Roedd yn bwysig iawn i mi ddod o hyd i gamp arall gan fod chwaraeon yn rhan mor enfawr o fy mywyd i a bywyd fy nheulu,” meddai Harrison, a oedd hefyd ar lyfrau’r Gweilch.

“Roeddwn i’n ysu am i fy angerdd i dros chwaraeon barhau ac roedd yn wych darganfod hynny o fewn chwaraeon anabledd.

“Roeddwn i wir yn hoffi’r cymhelliant o wella a gwella ac roedd yn bwysig parhau â hynny mewn camp arall.”

Mae Harrison yn llawn canmoliaeth i Chwaraeon Anabledd Cymru ac mae'n hynod ddiolchgar iddynt am ei helpu i addasu i'w ffordd newydd o fyw. 

“Mae’n anodd meddwl am y geiriau i ddisgrifio pa mor dda yw Chwaraeon Anabledd Cymru,” meddai.

“Maen nhw’n gwneud cymaint o waith i hybu chwaraeon ar bob lefel. Maen nhw wir wedi fy helpu i setlo mewn amgylchedd newydd.

“Mae pobl yn cael nam mewn gwahanol gyfnodau yn eu bywydau ac maen nhw'n sensitif iawn ynglŷn â sut maen nhw'n eich helpu chi.

“Roeddwn i’n dod o chwaraeon lefel uchel ac roedd ChAC yn dda iawn yn fy helpu i addasu i ffordd newydd o fyw.

“Alla’ i ddim diolch digon i bobl fel Nathan (Stevens), Anthony (Hughes) a’r holl athletwyr eraill.”

Rhoddwyd penderfyniad meddyliol Harrison ar brawf unwaith eto yn y Gemau Paralympaidd y llynedd pan gafodd ei anafu ar yr eiliad olaf un.

“Fe gefais i anaf allan yn Tokyo ond dyna sut mae chwaraeon, yn anffodus.

“Roeddwn i wir yn dyheu am wneud yn dda allan yna, ond roedd yn syndod pleserus cael fy newis yn y lle cyntaf oherwydd doeddwn i ddim yn disgwyl hynny ar ddechrau’r flwyddyn.

“Roeddwn i’n chwarae’n llawer gwell na’r disgwyl y llynedd ac roeddwn i’n ddiolchgar iawn o gael y cyfle.

“Fe wnes i ddysgu llawer o Tokyo yr un fath a gobeithio y bydd hynny’n fy helpu i ennill aur ym Mharis, Brisbane ac LA, gobeithio.”

Harrison Walsh yn taflu'r disgen
Harrison Walsh yn taflu'r disgen. Llun: Owen Morgan
Mae’n anodd meddwl am y geiriau i ddisgrifio pa mor dda yw Chwaraeon Anabledd Cymru
Harrison Walsh

Un o’r pethau a ddysgodd oedd pwysigrwydd delio ag ochr feddyliol chwaraeon ac mae Walsh yn cyfaddef bod rhai o’r atgofion o’i anaf rygbi wedi dod yn ôl, yn anffodus.   

“Pan ydych chi ar frig camp, rydw i'n meddwl bod pawb mewn cyflwr da, yn gorfforol, a'r meddwl wedyn sy'n eich gwneud chi’n unigryw.       

“Ymwybyddiaeth ofalgar a bod yn bresennol yn y foment yw rhai o’r pethau mwyaf rydw i wedi’u dysgu o Tokyo.

“Fe wnes i sylweddoli nad oeddwn i wedi delio â rhai o’r pethau o fy anaf rygbi ac fe wnaeth yr holl atgofion lifo’n ôl gan ei bod yn sefyllfa debyg.

“Mae wir wedi fy ngorfodi i ddeall fy hun a deall pam rydw i'n gwneud y gamp a beth mae'n ei olygu i mi yn gyffredinol.

“Rydw i’n meddwl bod yr anawsterau yma wedi chwarae eu rhan yn fy ngwneud i’n berson gwell. Rydw i'n meddwl ei fod yn bwysig iawn ymdrechu i fod y gorau.

“Does dim angen targedau penodol bob amser, fel ennill aur er enghraifft, y cyfan sydd angen i chi ei wneud yw anelu at fod mewn sefyllfa lle rydych chi’n perfformio ar eich gorau.”

Roedd Walsh yn siarad mewn digwyddiad lansio i ysgolion ar gyfer yr Ŵyl Para Chwaraeon ac roedd yn falch iawn o weld cymaint o bobl ifanc yn mwynhau eu hunain.

“Mae’n wych gweld pobl ifanc yn cymryd rhan mewn chwaraeon ac yn cael hwyl.

“Mae’n wych gweld pawb yn cymryd rhan mewn amrywiaeth o chwaraeon fel digwyddiadau taflu, rhwyfo a thennis bwrdd.

“Mae’n bwysig bod pawb yn deall bod chwaraeon yn ymwneud â hwyl a mwynhad.

“Pan wnes i ddechrau taflu maen a disgen am y tro cyntaf, roeddwn i'n wael iawn ond roeddwn i’n mwynhau'n fawr. 

“Yr hyn roeddwn i’n ei hoffi oedd ei bod y math o gamp y gallech chi symud ymlaen â hi, ac roeddwn i’n benderfynol o wella a gwella.

“Fy nghyngor i unrhyw un fyddai dod o hyd i rywbeth maen nhw’n ei fwynhau ac wedyn dal ati, parhau i wella.”

Mae Tom Rogers, Rheolwr Partneriaethau yn Chwaraeon Anabledd Cymru, yn credu y bydd y digwyddiad hwn yn dangos i bobl anabl bod ystod eang o gyfleoedd chwaraeon ar gael iddynt.

“Rydyn ni’n falch y bydd rhaglen digwyddiadau’r Ŵyl Para Chwaraeon yn cynnwys cyfleoedd ar draws nifer o chwaraeon Paralympaidd a chwaraeon heb fod yn rhai rhai Paralympaidd,” meddai Tom.

“Mae hefyd yn wych gweithio ochr yn ochr â Thriathlon Cymru, Ffederasiwn Saethu Targedau Cymru, Rygbi Cadair Olwyn Prydain Fawr, Undeb Rygbi Cymru, Undeb Rygbi Byddar Cymru, a Phêl Fasged Cymru i ddod â gŵyl para chwaraeon gystadleuol i Abertawe.

Newyddion Diweddaraf

Sut mae pêl fasged cadair olwyn yn dod â'r gorau allan yn Phil Pratt

Bydd Phil Pratt yn y Gemau Paralympaidd, ond fe allai fod wedi bod yn chwarae yn Wimbledon yn lle hynny.

Darllen Mwy

80 o glybiau chwaraeon cymunedol yn cael cefnogaeth gan y Grant Arbed Ynni

Bydd pob clwb neu brosiect yn defnyddio eu grant i wneud gwelliannau ecogyfeillgar i'w heiddo.

Darllen Mwy

Paneli solar yn rhoi ynni i glybiau chwaraeon ledled Cymru

Mae chwyldro ynni gwyrdd ar droed mewn chwaraeon cymunedol yng Nghymru, gyda phaneli solar yn dod yn…

Darllen Mwy