Skip to main content

Hanes y Ffatri Medalau Codi Pwysau

EFALLAI nad yw'n edrych felly o'r tu allan, ond mae wedi dod yn Dŷ Pencampwyr Cymru.

Adeilad concrid un llawr ar gyrion y caeau chwarae - y safle lle cafodd medal aur gyntaf Gemau Cymanwlad 2016 ei sicrhau.

Mae Canolfan Ffitrwydd Codi Pwysau Caergybi ac Ynys Môn (HAWFC) wedi creu llif cyfoethog o fedalau i'r wlad ac wedi dathlu 50 mlynedd o fodolaeth yn 2018 gyda Gareth Evans yn cipio'r aur cyntaf yn Awstralia.

Ddim yn ddrwg i gampfa wnaeth y cyn athro Bob Wrench - sy'n dal i godi pwysau yn y ganolfan - ei sefydlu mewn hen sied canŵs ar yr ynys cyn mynd ymlaen i ennill medal efydd yn Christchurch yn 1974.

"Mae codi pwysau wedi creu medalau i Gymru erioed," meddai Ray Williams, a enillodd fedal aur yng Ngemau Caeredin yn 1986 cyn dod yn Hyfforddwr Cenedlaethol ac yn sbardun i ddatblygu'r ganolfan sy'n cael ei defnyddio gan athletwyr elitaidd a phobl leol fel ei gilydd.

"Mae Cymru wedi ennill medal codi pwysau ym mhob un o'r Gemau ers y 1950au. Ni yw un o'r darparwyr mwyaf ar fedalau - mwy na'r rhan fwyaf o chwaraeon eraill. Mae'n anodd credu a dweud y gwir. Ar ynys fechan yng ngogledd Cymru.

"Fe wnes i ennill, wedyn Karl Jones a enillodd fedal arian yn 1990. Fe welais i Gareth yn ifanc, yn 17 oed, ac rydyn ni wedi mwynhau'r siwrnai at ei aur gwych wrth i'r clwb ddathlu bod yn 50 oed.

"Fe fyddwn ni'n cael medalau yn y Gemau nesaf yn Birmingham yn 2022 hefyd.

"HAWFC ydi'r ganolfan sydd wedi cynhyrchu'r nifer mwyaf o fedalau ar Ynys Môn. Rhwng y medalau mawr, rydyn ni wedi creu llawer o bencampwyr Prydain a Chymru. A'r cyfan oherwydd un dyn."

Roedd Wrench yn athro pan sefydlodd y gampfa yng nghanol y 1960au - a'r codwyr pwysau mewn peryg o gael fflawiau o'r pren wrth symud y canŵs i wneud lle i ymarfer.

Enillodd efydd cyfun yn Seland Newydd gan osod y sylfeini ar gyfer y llwyddiant cyson a barhawyd gan Williams pan oedd dal yn y fyddin.

"Roedd Bob wrth ei fodd gyda'r gamp," meddai Williams. "Fo oedd fy mentor i ac fe es i i'r Gemau yn 1986 ac ennill yr aur.

"Mae'n dal i ymarfer yma, yn dod i mewn unwaith neu ddwy, ac yn codi 80kg yn glir. Mae'n ŵr ffenomenal ac mae gan lawer o bobl ddyled fawr i Bob Wrench.

"Mae mor hoff o'r gamp ac mae wedi meithrin codi pwysau. Roedd yn mynd â llond dau neu dri bws i lawr i bencampwriaethau Cymru yn gynnar yn y 1970au.

"Mae'r plant wrth eu bodd efo fo. Pan mae gennych chi unigolion arbennig, maen nhw'n cael eu canmol a'u parchu fel mai nhw sydd wedi bod yn cymell mewn gwirionedd.

"Pan ddois i o'r fyddin, roeddwn i eisiau gwneud rhywbeth oherwydd roeddwn i'n teimlo bod gen i ddyled i'r gamp oedd wedi rhoi fy ngyrfa i mi.

"Roedden ni'n dal i ymarfer mewn garej wag felly fe wnes i ddechrau herio'r cyngor i roi arian i ni. Mae gennym ni'r ganolfan yma nawr ar ôl cael cymorth grant gwerth £500,000.

"Yn 2007, fe wnes i ddechrau gofyn am arian. Fe gymerodd ryw bedair blynedd ond, yn y diwedd, fe gefais i £230,000 drwy gyllid Ewropeaidd, ymddiriedolaethau elusennol a'r Cyngor Chwaraeon.

"Mae Chwaraeon Cymru wedi bod gyda ni bob cam o'r ffordd. Ddwy flynedd yn ddiweddarach fe gawson ni £160k i newid yr ystafell newid yn stiwdio ffitrwydd. Mae wedi bod yn fabi i mi yn seiliedig ar y campfeydd rydw i wedi gweithio ynddyn nhw yn y fyddin.

"Mae'n gampfa weithredol. Does dim un drych. Pum llwyfan codi pwysau. Mae nid yn unig yn gyfleuster perfformiad elitaidd, ond hefyd yn un at ddefnydd y gymuned. Rydyn ni'n creu balchder ar Ynys Môn.

"Rydyn ni'n cael mwy nag 20,000 o ymweliadau bob blwyddyn gyda phlant ac oedolion yn talu £5 yr wythnos i ymarfer, ac mae pawb yn gallu fforddio hynny. Mae'n ticio pob bocs.

"Pe bai mwy o'r rhain ar gael ledled Cymru, byddai o help i'r GIG ac i iechyd y genedl."

Mae Williams, sy'n ystyried camu o'r neilltu fel Hyfforddwr Cenedlaethol yn 2022, yn cyfaddef bod cefnogaeth Chwaraeon Cymru wedi bod yn hanfodol nid yn unig i godi pwysau ar Ynys Môn, ond ledled Cymru.

Ychwanegodd: "Mae gennym ni 54 o glybiau erbyn hyn. Yn 2007, roedd tua wyth. Mae'n mynd y ffordd iawn ond 'fydd gennym ni byth ddigon o niferoedd i roi ffrwd incwm i ni gefnogi ein hunain fel mae cyllid o'r tu allan yn ei roi i ni.

"Mae Chwaraeon Cymru yn hanfodol i'n bodolaeth ni. Maen nhw'n edrych yn ddeallus ar y gamp ac yn gwybod bod codi pwysau'n gamp Olympaidd graidd.

"Maen nhw'n gwybod nad ydyn ni'n mynd i weld cynnydd mawr mewn aelodaeth, ond yn gwybod, yn hanesyddol, bod gennym ni hanes o berfformiadau gwych. Mae'r codwyr wedi gwneud eu rhan."

Y gystadleuaeth fawr nesaf i bobl fel Evans a'i bartner hyfforddi Hannah Powell fydd Pencampwriaethau Codi Pwysau'r Gymanwlad yn Samoa ym mis Gorffennaf.

Wedyn bydd Cymru'n barod i herio ei gelynion eto, gyda llawer ohonynt yn broffesiynol yn hytrach na gorfod cyfuno hyfforddi gyda gweithio.

"Y pencampwriaethau fydd y prawf mawr cyntaf ers Gemau'r Gymanwlad y llynedd ac mae newid wedi bod yn y categorïau pwysau ers hynny," ychwanegodd Williams. "Fe fyddan nhw'n eithriadol galed.

"Rydw i wastad yn edrych ar rygbi Fiji a chodi pwysau Cymru, maen nhw'n eithaf tebyg. Mae Fiji a Samoa yn llefydd bach iawn ond eto mae ganddyn nhw linach hanesyddol o chwaraewyr gwych.

"Mae gwledydd fel Samoa, India, Sri Lanka, Nigeria yn llawn amser. Gyda thimau codi pwysau proffesiynol, mae fel cynghrair Vauxhall Conference mewn pêl droed yn cystadlu yn erbyn y Bencampwriaeth.

"Ond mae gennym ni berlau eithriadol dalentog sy'n llawn brwdfrydedd ac mae hynny weithiau'n gallu rhagori ar y systemau proffesiynol mae eraill yn eu mwynhau."