Skip to main content

Y Paralympiad penderfynol sydd wedi’i siapio ym Mwyty ei dad yn y Mwmbwls

  1. Hafan
  2. Newyddion, Straeon a Digwyddiadau
  3. Newyddion, Erthyglau ac Ymgyrchoedd
  4. Y Paralympiad penderfynol sydd wedi’i siapio ym Mwyty ei dad yn y Mwmbwls

Pan wnaeth Harrison Walsh, a fydd yn cystadlu am y tro cyntaf eleni fel Paralympiad, ddechrau ar ei siwrnai athletau, roedd yn amlwg i’w hyfforddwr bod ganddo seren y dyfodol ar ei ddwylo. 

Bydd Walsh – a oedd yn chwaraewr rygbi hynod addawol gyda’r Gweilch cyn i anaf difrifol gau’r llwybr hwnnw iddo – yn cystadlu yn y Ddisgen F64 yn y Gemau Paralympaidd gan geisio ennill medal yn ei Gemau cyntaf. 

Yn ymuno ag ef yn Tokyo bydd chwe athletwr trac a chae arall o Gymru, gan gynnwys Aled Davies, a fydd yn cystadlu yn y Gemau Paralympaidd am y trydydd tro yn y Taflu Maen F63

Mae Hollie Arnold (Gwaywffon F46), Olivia Breen (Naid Hir a 100m T38), Sabrina Fortune (Taflu Maen F20), Kyron Duke (Taflu Maen F41) a Harri Jenkins (100m T33) wedi’u dewis hefyd. 

Y tu hwnt i athletau, mae Cymru hefyd yn cael ei chynrychioli mewn chwaraeon fel rhwyfo, taekwondo, tennis bwrdd a chanŵio.   

Fe wnaeth brwdfrydedd a dyhead Walsh i fod y gorau yn ei faes argraff ar Anthony Hughes, cyfarwyddwr perfformiad cenedlaethol Chwaraeon Anabledd Cymru, ar unwaith.

“Roedd Harrison eisiau gwybodaeth, roedd mor awyddus,” meddai Hughes, sydd wedi bod ag angerdd gydol ei oes dros chwaraeon anabledd.

“Pan wnes i gwrdd ag ef i ddechrau, roedd yn amlwg yn ddyn ifanc a oedd yn broffesiynol tu hwnt. Fe allech chi ddweud ei fod wedi bod mewn academi rygbi o’r safon uchaf.

“Ar ôl clywed am ei addewid gan hyfforddwyr yn Abertawe, fe wnes i ei wahodd i Gaerdydd er mwyn i mi gael golwg arno fy hun. Fe wnaeth yr hyn welais i argraff fawr arna’ i.”

Cystadlodd Hughes yn y Gemau Paralympaidd ei hun yn 1992 ac mae wedi gosod safonau uchel drwy gydol ei yrfa.           

Sylwodd hefyd ar Harrison yn gosod y bar yn uchel iddo'i hun ac roedd gallu'r llanc ifanc i fod yn ddisgybledig a chadarnhaol yn creu argraff arno, nodweddion y credai oedd wedi deillio o'i fywyd y tu hwnt i chwaraeon.

“Rydw i’n credu bod ei broffesiynoldeb yn dod o weithio ym mwyty ei dad - Patrick’s - yn y Mwmbwls.

“Fe es i am bryd o fwyd yno ar ôl cwrdd ag ef gyntaf ac roedd Harrison yn gweithio tra roeddwn i yno ac fe allech chi weld bod ganddo safonau uchel iawn.

“Rydw i bob amser yn ei glywed yn dweud wrth rai o athletwyr ifanc yr academi, ‘pa bynnag amser y mae angen i chi gyrraedd, gwnewch yn siŵr eich bod chi yno o leiaf 10 munud yn gynnar’. 

“A dyna grynhoi Harrison i mi.”

Mae’r safonau uchel hynny yn amlwg i’w gweld yng nghyflawniadau Walsh hyd yn hyn.

Enillodd efydd wrth gystadlu am y tro cyntaf ym Mhencampwriaethau Para Ewrop yn ogystal â chymhwyso ar gyfer y Gemau Paralympaidd sydd i ddod.

“Cyn gynted ag y cafodd ddosbarth, fe drodd ata’ i a dweud, ‘Rydw i eisiau mynd i’r Gemau Paralympaidd’,” meddai Hughes, a dderbyniodd MBE yn 2013 am ei wasanaethau i chwaraeon anabledd yng Nghymru.

“Roedd ei yrfa i gyd wedi’i mapio ganddo. Roedd yn achos o arafu pethau a dweud, ar hyn o bryd, beth am i ni ganolbwyntio ar y dysgu.

“Un peth oedd yn anodd iddo ar y dechrau rwy’n credu oedd addasu i’n hamgylchedd ni oherwydd er ei fod ar ben uchaf ein rhaglen ni, nid yw mor ddwys â bod mewn clwb rygbi proffesiynol.

“Rydw i’n credu ei fod yn teimlo ychydig yn fflat. Dydych chi ddim yn cael yr un faint o sylw o'r tu allan gyda chwaraeon anabledd ag ydych chi gyda rygbi.

“Roedd angen iddo ddeall y byd newydd yr oedd wedi dod i mewn iddo.” 

Harrison Walsh yn taflu'r disgen
Harrison Walsh yn taflu'r disgen

Mae Hughes nid yn unig eisiau helpu ei athletwyr i ragori yn y gamp o’u dewis, ond hefyd mae’n cynnig cyngor i’w athletwyr ar sut i ymdopi â’u namau a’u cofleidio.   

Yn 2015, wythnos yn unig cyn yr oedd i fod i chwarae i dîm dan 20 Cymru yn erbyn Lloegr, cafodd Harrison anaf erchyll i’w goes mewn damwain anffodus yn chwarae mewn gêm glwb i Abertawe.

O ganlyniad, daeth â’i uchelgais yn y byd rygbi i ben a hefyd ei adael gyda dim ond symudiad rhannol a dim teimlad yn ei droed dde oherwydd maint y niwed i’w nerfau.

Dechreuodd gymryd rhan mewn athletau ac mae wedi cystadlu yn y taflu maen a'r ddisgen.

Ond mae Hughes yn esbonio pwysigrwydd sicrhau bod yr athletwyr mewn lle da yn feddyliol. Dim ond ffracsiwn o'r newidiadau maent yn eu hwynebu yw eu haddasiad corfforol.

“I Harrison, roedd e’n gofyn, beth ydw i'n wneud nawr?

“Fe aeth o fod yn chwaraewr addawol iawn gyda’r Gweilch i orfod delio ag anaf a ddaeth â’i yrfa i ben.

“Mae'n bendant yn cymryd amser i ddod i delerau â hyn. Mae'n grefft, siarad ag athletwr am ei nam.

“Rhaid dewis yr amser iawn a thrafod y pwnc mewn ffordd ddidwyll. 

“Mae'n bwysig iawn mewn chwaraeon anabledd i mi ennill ymddiriedaeth yr athletwyr rydw i'n gweithio â nhw. Mae hyn yn fy helpu i gael y gorau ohonyn nhw fel athletwyr ac fel pobl."

Cafodd Hughes ei daro gan ddyhead Harrison i gyrraedd brig ei gamp - rhywbeth y mae’n credu daniodd angerdd y taflwr o’i ychydig ddyddiau cyntaf gyda Chwaraeon Anabledd Cymru. 

“Roedd eisiau gwybod pwy oedd y rhif un ym Mhrydain a phwy oedd y gorau yn y byd.

“Roedd yn gofyn llawer o gwestiynau ynglŷn â pha lefel oeddwn i’n meddwl oedd e arni ar y pryd. Mae Harrison bob amser wedi bod eisiau bod y gorau ac fe fydd hynny’n parhau.

“O’i ddyddiau cynnar gyda mi, roedd bob amser yn gofyn ‘pryd ydyn ni’n mynd i anelu at rif un?’.          

“Rydw i’n cofio mynd i’w wylio y tro cyntaf iddo gystadlu. Roedd i lawr yn Yeovil ac fe wnaeth yn dda iawn.

“Roedd yn gorymdrechu, os rhywbeth. Roeddwn i'n meddwl bod angen iddo ymlacio mwy.

“Rydw i’n ei gofio’n siarad â’i rieni ar y ffôn wedyn.

“Dywedodd ei Fam, ‘da iawn ti’. Ond dywedodd ei Dad, ‘pa mor hir wyt ti’n mynd i fod? Mae gennym ni gant o gyris i’w paratoi yn y bwyty!’

“Rydw i’n credu y bydd agwedd a magwraeth yn helpu Harrison i fynd yr holl ffordd.

“Fe wnaeth fy atgoffa i o’r ffordd y cafodd Tanni Grey-Thompson ei magu.”

Bydd 28 diwrnod y Gemau yn gyfle i Walsh gyrraedd y safonau uchel hynny sydd wedi’u gosod gan Tanni - fel y bydd i’r holl athletwyr eraill o Gymru sy'n cymryd rhan. 

Cyfweliad gyda Harrison Walsh

Harrison Walsh yn taflu'r disgen

Newyddion Diweddaraf

Tri pheth y gall eich clwb criced eu cyllido drwy Lle i Chwaraeon

Darganfyddwch sut mae cymunedau lleol wedi dod at ei gilydd i gefnogi tri chlwb criced i godi arian…

Darllen Mwy

Gadael i Fyd Natur Ffynnu yng Nghlwb Pêl Droed Clarbeston Road

Mae Clwb Pêl Droed Clarbeston Road yn gwneud cyfraniad pwysig at fioamrywiaeth leol ar ôl plannu dôl…

Darllen Mwy

Chwaeroliaeth beicio yn barod i ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf

Mae chwech allan o’r deg menyw sydd wedi cael eu dewis i rasio dros garfan beicio trac Tîm Prydain Fawr…

Darllen Mwy