Skip to main content

Hoci dynion yng Nghymru’n parhau i ragori ar ddisgwyliadau

  1. Hafan
  2. Newyddion, Straeon a Digwyddiadau
  3. Newyddion, Erthyglau ac Ymgyrchoedd
  4. Hoci dynion yng Nghymru’n parhau i ragori ar ddisgwyliadau

Mae tîm hoci dynion Cymru wedi bod yn dathlu dwbl ym mis Hydref i adeiladu ar eu cyflawniadau hanesyddol dros yr haf eleni.

I ddechrau, maent wedi cyrraedd eu safle uchaf erioed yn Safleoedd Hoci'r Byd diweddaraf yr FIH.

Wedyn, cafodd Jacob Draper ddechrau hynod lwyddiannus i'w yrfa ym Mhrydain Fawr pan oedd y chwaraewr rhyngwladol dros Gymru'n rhan o dîm Prydain Fawr a drechodd Sbaen yn Valencia.

Ar ôl disgleirio wrth chwarae dros Gymru yn ystod yr ymgyrch EuroHockey ddiweddar, ac yn aelod o garfan D21 Prydain Fawr a enillodd Gwpan Swltan Johor y llynedd, cafodd Draper chwarae am y tro cyntaf ar lefel hŷn i Brydain Fawr pan ddaeth oddi ar y fainc yn y chweched munud.

Wedi'r garreg filltir honno, daeth y newyddion yn dilyn eu perfformiad rhagorol wrth ddychwelyd i haen elitaidd hoci Ewrop y llynedd, mai Cymru sydd wedi dringo fwyaf yn y safleoedd diweddaraf gan eu bod wedi symud i'w safle uchaf erioed, sef 18fed yn y byd, o'u safle blaenorol o 25.

Bedair blynedd yn ôl yn unig, roedd Cymru yn EuroHockey III ac yn safle 36 yn y byd, ond eleni, yn dilyn dyrchafiadau cefn wrth gefn yn 2015 a 2017, maent yn cystadlu yn y Bencampwriaeth EuroHockey.

Hwn yw'r tro cyntaf ers 20 mlynedd i Gymru gystadlu ar y lefel uchaf mewn hoci Ewropeaidd ac yn dilyn y perfformiadau yn Antwerp, maent wedi llwyddo i gadw eu statws haen elitaidd ar gyfer 2021.

Roedd Cymru wedi mynd i'r twrnamaint fel y tîm isaf ei safle yn y gystadleuaeth, ond cafwyd canlyniadau rhagorol, gan gynnwys buddugoliaeth wych o 4-0 yn erbyn Iwerddon - a oedd yn safle 11 yn y byd bryd hynny - yn eu gêm derfynol.

"Er ein bod ni i gyd yn falch gyda pha mor bell rydyn ni wedi dod, mae gwir ddyhead yn y sgwad i wella ansawdd y chwarae ymhellach, a'n safle yn y byd."
ZAK JONES

O ganlyniad, mae gan Gymru safle balch fel y 18fed tîm gorau ar y blaned erbyn hyn yn safleoedd byd yr FIH, ar ôl symud i fyny saith lle, yn uwch na gwledydd fel yr Alban, yr Aifft, Rwsia, UDA a Tsieina.

Mae prif hyfforddwr tîm dynion Cymru, Zak Jones, a oedd yn y tîm y tro diwethaf i Gymru chwarae yn yr haen uchaf, yn hynod falch o gyflawniad diweddaraf y tîm.

Dywedodd Jones: "Rydw i'n hapus iawn dros y chwaraewyr a'r staff wrth gwrs, ac yn eithriadol falch ohonyn nhw a'u hymdrechion.

"Mae llawer iawn o waith caled ac ymrwymiad wedi cael ei wneud gan bawb cysylltiedig yn ystod y pedair blynedd ddiwethaf, sydd wedi cyfrannu at siwrnai anhygoel o adran C i'r chwech uchaf yn Ewrop.

"Mae'r safle uchaf yn ein hanes ni erioed yn dangos yr holl ddatblygu a dysgu sydd wedi digwydd, yn ogystal â'r aberth enfawr mae ein hathletwyr ni'n ei wneud."

Mae Cymru wedi bod yn rhagori ar ddisgwyliadau a'r gobaith yw y bydd eu llwyddiannau diweddaraf yn denu cyllid a nawdd newydd i'w helpu i wella eu safle byd-eang ymhellach eto.

Dywedodd Jones: "Er ein bod ni i gyd yn falch gyda pha mor bell rydyn ni wedi dod, mae gwir ddyhead yn y sgwad i wella ansawdd y chwarae ymhellach, a'n safle yn y byd.

"Ar ôl sefydlu perthynas dda gyda llawer o wledydd uwch eu safle yn ystod y 18 mis diwethaf, rydyn ni'n edrych ymlaen at yr her o chwarae yn eu herbyn yn amlach, ac at y cyfle mae hynny'n ei gynnig i ni wella eto.

"Hefyd, gan fod ein hadnoddau ni'n eithriadol brin, rydyn ni'n gobeithio y bydd y sylw a'r llwyddiant diweddar rydyn ni wedi'u cael yn arwain at gynnydd mewn nawdd a chyllid a fydd yn galluogi i hyn fynd i'r lefel nesaf."