Skip to main content

Hwb Dadansoddi Perfformiad Tîm Prydain Fawr yn dychwelyd i Gaerdydd

  1. Hafan
  2. Newyddion, Straeon a Digwyddiadau
  3. Newyddion, Erthyglau ac Ymgyrchoedd
  4. Hwb Dadansoddi Perfformiad Tîm Prydain Fawr yn dychwelyd i Gaerdydd

Mae Ystafell Taf yng Nghanolfan Genedlaethol Chwaraeon Cymru yn barod i drawsnewid unwaith eto yn gartref i Hwb Dadansoddi Perfformiad Tîm Prydain Fawr yn ystod y Gemau Olympaidd ym Mharis eleni.

O 26 Gorffennaf ymlaen, bydd chwe dadansoddwr perfformiad o Gaerdydd yn astudio pob eiliad o’r Gemau, gan gynnwys dau o’n cydweithwyr ni yn yr Athrofa, Carys Jones a Jen Roach.

Fe fyddant yn treulio'r tair wythnos yn cynnig cefnogaeth i'r hyfforddwyr a'r athletwyr ym Mharis gydag adborth fideo byw a dadansoddiad technegol. Mae'r gefnogaeth hon yn rhan hanfodol o sicrhau bod ein hathletwyr ni’n perfformio ar eu gorau pan mae hynny bwysicaf iddyn nhw.  

Hwn fydd yr eildro i Chwaraeon Cymru groesawu Hwb Dadansoddi Perfformiad Tîm Prydain Fawr, gydag Ystafell Taf yn gartref i’r hwb yn ystod Gemau Olympaidd Tokyo 2021 hefyd – ac er y bydd y trefniant yn eithaf tebyg eto, fe fydd yr awyrgylch yn wahanol iawn!

Dywedodd Carys: “Fe gynhaliwyd y Gemau diwethaf yn ystod cyfnod pan oedd cyfyngiadau COVID mewn grym o hyd. Cyfunwch hynny gyda'r gwahaniaeth amser ac roedd yn gallu bod yn dawel iawn ar adegau!

“Fe fydd yn wych gallu cael mwy o bobl i gymryd rhan eleni – fe fyddwn ni’n gallu gweithio’n agosach gyda’n gilydd ac yn agosach gyda chynrychiolwyr y chwaraeon hefyd. Rydw i'n edrych ymlaen yn fawr at amgylchedd mwy cymdeithasol. Os oes unrhyw un eisiau dod draw i weld beth rydyn ni’n ei wneud, dewch i’n gweld ni yn Ystafell Taf!”

Ac nid dyma'r unig ddadansoddi perfformiad fydd Jen yn cymryd rhan ynddo yn ystod y Gemau.

“Rydw i’n gyffrous iawn am fod yn cefnogi gyda dadansoddi’r perfformiadau yn ystod y Gemau Paralympaidd eleni, hefyd.” Ychwanegodd, “Fe fyddaf yn mynd i Lundain i gefnogi ein para-athletwyr ni ym Mharis yn ddiweddarach ym mis Awst.”

Fel gyda Tokyo, mae llawer iawn o drefniadau technegol a gweithredol i sicrhau bod y tîm yng Nghaerdydd yn gallu gweithio'n agos gyda'u cydweithwyr ym Mharis a rhoi adborth yn gyflym.

Ychwanegwch at hynny lety a phrydau bwyd y tîm, ac mae’n amlwg na fyddai’r Hwb Dadansoddi Perfformiad yn weithredol heb gefnogaeth nifer o gydweithwyr yn Chwaraeon Cymru.

“Rhaid i mi ddweud diolch yn fawr iawn i fy nghydweithwyr i yn y tîm arlwyo, pawb yn yr adran Datrysiadau Technoleg a’r tîm yn y Ganolfan Genedlaethol,” ychwanegodd Carys. “Heb eu gwaith caled nhw, ’fydden ni ddim yn gallu cynnal yr Hwb Dadansoddi yma, ac mae cael eu cefnogaeth nhw’n golygu llawer i bawb yn y tîm.”

Newyddion Diweddaraf

Rhowch gynnig ar nofio dŵr oer mewn digwyddiad nofio Nadoligaidd yng Nghymru

Ydych chi’n meddwl rhoi cynnig ar nofio dŵr oer mewn sesiwn nofio Nadoligaidd yng Nghymru?

Darllen Mwy

Pethau am ddim i’w gwneud yng Nghymru i gadw’n actif dros yr ŵyl

Dyma rai gweithgareddau i gael eich corff i symud a rhoi hwb i’ch lles dros y Nadolig.

Darllen Mwy

Grantiau ar gyfer clybiau chwaraeon sydd wedi cael eu heffeithio gan ddifrod storm

Mae Chwaraeon Cymru wedi lansio Cronfa Difrod Storm ar ôl i nifer o gyfleusterau chwaraeon ddioddef…

Darllen Mwy