Skip to main content

Hwylio I’r dyfodol

O ran hwylio, dydi pawb ddim yn yr un cwch, felly mae'r gamp yn newid i gwrdd â gofynion a diddordebau cenhedlaeth newydd.

Y ddelwedd draddodiadol o hwylio oedd dingis neu gychod hwylio, trefi arfordirol, regatas, a chlybiau aelodau yn unig gydag arfbais ar y wal y tu allan a chabinetau tlysau llychlyd ar y wal y tu mewn.

Ond y dyddiau yma, fe all rhywun sy'n mwynhau bod ar y dŵr fod yn sefyll ar fwrdd padlo, ar ôl ei logi am 60 munud, neu wedi ei chwythu ei hun hyd yn oed, allan o sach gefn.

Datblygiadau technolegol newydd, yr ymgyrch am hygyrchedd ehangach, y dyhead am gynaliadwyedd, a newid chwaeth o ran sut i gymryd rhan mewn chwaraeon – mae’r dyfroedd yn cael eu cynhyrfu gyda chyfleoedd a heriau.

I RYA (Royal Yachting Association) Cymru, mae cadw eu pen uwch ben wyneb y dŵr yn y cerrynt cynhyrfus yma’n golygu addasu, arloesi a chwilfrydedd iach ynghylch i ba ffordd mae’r gwynt yn chwythu.

“Mae llawer o newid wedi bod yn ein camp ni ac mae mwy o newid i ddod,” meddai prif weithredwr RYA Cymru, James Stuart.

“Y cwestiwn i ni ydi sut ydyn ni’n archwilio ac yn deall y newidiadau yma.”

Camu ar y bwrdd

Mae hygyrchedd a chyfleoedd hwylio wedi bod yn broblem erioed, yn enwedig mewn ardaloedd heb fod mewn rhanbarthau arfordirol, neu ganolfannau chwaraeon dŵr mewndirol.

Wedyn mae rhwystrau o ran mynediad yn gysylltiedig â chostau teithio i'r mannau gweithgarwch, a hefyd costau prynu neu logi cwch.

Dangosodd Arolwg Chwaraeon Ysgol diweddar 2022 ledled Cymru bod tua 1,000 o bobl ifanc ledled Cymru yn cymryd rhan mewn hwylio yn rheolaidd.

Ond datgelodd yr arolwg hefyd bod tua 37,000 o blant wedi mynegi dyhead i roi cynnig ar hwylio fel gweithgaredd corfforol - galw cudd y mae RYA Cymru yn awyddus iawn i geisio ei fodloni.

Dywed James Stuart: “Mae galw ar raddfa eithaf mawr. Os gallwn ni ddod o hyd i ffordd o droi’r diddordeb hwnnw’n weithgarwch, fe fydden ni’n rhoi cyfle i’r bobl ifanc hynny roi cynnig ar rywbeth rydyn ni’n gwybod sy’n anhygoel.”

Yn hanesyddol, mae ysgolion wedi helpu i ddarparu rhywfaint o gyfleoedd drwy dripiau i ganolfannau antur awyr agored ledled Cymru. Ond gyda thoriadau cyllidebol yn effeithio ar y math hwnnw o fynediad, mae clybiau hwylio yn ymdrechu i gadw costau aelodaeth mor isel â phosib i bobl ifanc.

“Gall ffi aelodaeth fechan – mewn degau o bunnoedd – roi’r allweddi i berson ifanc i’r adeilad cyfan, o ran mynediad am ddim i git ac offer ac efallai rhywfaint o hyfforddiant hefyd,” ychwanegodd James. 

“Os ydych chi’n chwarae pêl droed 5 bob ochr bob wythnos, fe allech chi wario mwy ar hynny nag ar hwylio.”

Er enghraifft, mae Clwb Hwylio Llandegfedd - sydd wyth milltir i'r gogledd o Gasnewydd ar Lyn Llandegfedd - yn cynnig aelodaeth am £40 y flwyddyn i bawb dan 18 oed a myfyrwyr.

Mae hefyd sesiynau blasu am ffioedd is yn cael eu cynnal ledled Cymru ar wahanol adegau o'r flwyddyn.

Credyd llun: Owen Canton

Talu a chwarae

Un o’r tueddiadau a nodwyd mewn llawer o chwaraeon yw symud i ffwrdd oddi wrth aelodaeth draddodiadol o glybiau i fodloni’r galw am opsiynau talu a chwarae – a dydi hwylio ddim yn eithriad.

Gall y ddau fodel gydfodoli, ond mae pob math o chwaraeon dŵr yn darganfod hoffter cynyddol o opsiynau galw heibio, talu a mynd yn lle perchnogi offer neu dalu ffioedd blynyddol i glwb.

Mae’r ymchwil hefyd yn cyfeirio at genhedlaeth y Mileniwm fel pobl ifanc sydd eisiau rhoi cynnig ar wahanol brofiadau a’u harchebu ar unwaith bron, yn hytrach na mynd drwy hyfforddiant ffurfiol.

Drwy fodloni’r galw yma, gall hwylio ddod yn weithgaredd sy’n haws i bobl ei ffitio i mewn yn eu bywydau prysur.

Technoleg newydd yn creu gweithgareddau newydd

Mae technoleg newydd wedi agor chwaraeon dŵr i ystod oedran llawer ehangach - yn enwedig y gwelliant mewn technoleg chwythadwy ar gyfer gweithgareddau mwy newydd fel padlfyrddio a'r gamp ddiweddaraf, wingio.

Fel padlfyrddio, mae wingio’n cynnwys sefyll ar fwrdd, ond mae'n cynnig yr antur ychwanegol o gydio mewn hwyl o’r enw adain (wingsyrffio) neu hedfan ar ffoil (wingffoilio).

Mae offer chwythadwy yn haws ei gludo a'i storio, mae posib ei lansio o unrhyw le bron, ac yn aml mae posib ei logi yn ogystal â'i brynu.

Mae hyn yn golygu y gall y sesiynau weddu i anghenion pobl sydd eisiau rhywbeth sydyn sy’n rhoi llawer o foddhad, yn hytrach na diwrnod llawn o weithgarwch.

Chwaraeon dŵr i bawb

Mae rhywfaint o'r arloesi technolegol hwnnw wedi'i anelu at wella hygyrchedd, fel bod pawb yn gallu mynd ar y dŵr.

Mae rhaglen Sailability yr RYA wedi’i chynllunio i helpu pobl anabl i hwylio, yn aml gan ddefnyddio cychod wedi’u haddasu, neu gyda rhywfaint o hyfforddiant ychwanegol.

“Mae arloesi anhygoel yn digwydd i wneud ein cit ni’n fwy hygyrch,” meddai James.

“Mae hwylio ei hun yn gamp ddeinamig. Mae’n ymwneud ag ymateb i amgylchiadau ac addasu, felly fe ddylen ni fod yn addas iawn ar gyfer ymateb i wahanol anghenion gwahanol bobl.

“Ac mae’r wobr i bobl sy’n rhoi cynnig ar y gamp yn wych. Mae ein camp ni’n cynnig mynediad i 70 y cant o’r blaned nad ydi pobl eraill yn gallu ei gyrraedd.

“Yng Nghymru mae hynny'n golygu mynd i mewn i holl gilfachau a chorneli anhygoel a rhyfeddol ein harfordir trawiadol ni yng Nghymru.

“Beth allai fod yn well na hynny?”