Nid Jake Heyward a Joe Brier oedd yr unig Gymry a oedd yn gobeithio cael effaith pan ddechreuodd y rhaglen athletau yng Ngemau Olympaidd Tokyo heddiw (dydd Gwener 30ain Gorffennaf).
Mae Brier, un o Harriers Abertawe, yn rhan o garfan 4x400 Prydain Fawr yn Japan, a bydd Heyward o Gaerdydd ar linell gychwyn y 1500m.
Ond mae criw mwy fyth o Gymru yn chwarae eu rhan oddi ar y trac yn y Dwyrain Pell drwy ffurfio hanner y 12 o hyfforddwyr arweiniol sy’n cefnogi tîm athletau Prydain Fawr.
Dywed Prif Swyddog Gweithredol Athletau Cymru, James Williams, ei fod yn destun balchder gweld talent hyfforddi Cymru ar bob lefel yn cael ei chynrychioli ar y llwyfan mwyaf un gan rai fel Christian Malcolm - prif hyfforddwr rhaglen Olympaidd Prydain Fawr.
"O safbwynt Athletau Cymru, os gwnaethon ni gyfrannu'n uniongyrchol at sicrhau eu lle yno ai peidio, rydyn ni'n hynod falch ohonyn nhw," meddai Williams.
"Rydw i'n credu mai cyrraedd y Gemau yw pinacl gyrfa pob athletwr Olympaidd, ond mae'n rhaid iddo fod yn binacl gyrfa pob hyfforddwr hefyd - cael eich dewis i arwain eich priod faes yn y Gemau Olympaidd.
"Felly ydi, mae'n wych i ni gael y cyswllt hwnnw. Ac rydyn ni'n dathlu hynny yn union fel gyda'r athletwyr sydd wedi cael eu dewis."
Mae Malcolm, cyn seren sbrintio rhyngwladol Cymru a Phrydain Fawr, yn arwain carfan hyfforddi Cymru yn Tokyo, ac mae prif hyfforddwr Athletau Cymru, Chris Jones, ar secondiad gydag Athletau Prydain ar hyn o bryd a bydd yn arwain y tîm hyfforddi sy’n helpu'r athletwyr dygnedd.
Yn ymuno ag ef bydd cyn athletwr rhyngwladol arall dros Gymru a Phrydain Fawr ac uwch ddarlithydd ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd ar hyn o bryd, James Thie, a fydd yn rhoi sylw arbennig i gynnydd ei gyn-athletwr Heyward yn y 1500m.
Mae cyn-hyfforddwr cenedlaethol a neidiwr â pholyn rhyngwladol Cymru, Scott Simpson, yn rhan o’r tîm sy’n gweithio gyda’r athletwyr neidiau hefyd, tra bydd taflwyr Prydain yn elwa o flynyddoedd lawer o brofiad Shaun Pickering, aelod o Oriel Anfarwolion Athletau Cymru, a’r unigolyn sy’n dal record Cymru yn y taflu maen o hyd.
A bydd y sgwadiau sbrintio a ras gyfnewid, gan gynnwys Brier, o dan oruchwyliaeth cyn-seren un lap Cymru a Phrydain Fawr, Tim Benjamin, sydd wedi dychwelyd i’r byd athletau ar ôl sefydlu ei gadwyn ei hun o gampfeydd yn dilyn ei ymddeoliad o gystadlu.