Skip to main content

Kieran Jones: Yr athletwr arddegol anhygoel yn ôl ar y siwrnai i’r brig

  1. Hafan
  2. Newyddion, Straeon a Digwyddiadau
  3. Newyddion, Erthyglau ac Ymgyrchoedd
  4. Kieran Jones: Yr athletwr arddegol anhygoel yn ôl ar y siwrnai i’r brig

Mae Kieran Jones yn cyfaddef ei fod ar ben ei ddigon yn cael bod yn ôl yn cystadlu fel taflwr maen elitaidd – ac mae ei gymdogion wrth eu bodd hefyd. 

Mae gan y para athletwr 19 oed haf o gystadlaethau athletaidd i edrych ymlaen atynt eto, ac nid oes rhaid i’r bobl sy’n byw wrth ei gartref ar Ynys Môn boeni mwyach am gyflwr ffens ei ardd.                         

Treuliodd Kieran – sydd wedi cynrychioli Cymru mewn pêl fasged cadair olwyn hefyd – lawer o’r cyfyngiadau symud yn hyfforddi yn ei ardd gefn, gan daflu pêl haearn i bwll tywod o fath a adeiladwyd ger y ffens. 

“Roedd yn iawn, ond roedd ambell broblem hefyd,” meddai’r myfyriwr hyfforddiant chwaraeon yng Ngholeg Menai ym Mangor.

“Fe ddechreuodd y slabiau concrid gracio wrth i’r maen lanio, hyd yn oed ar ôl i ni osod matiau gymnasteg yn eu lle i’w gwarchod nhw. 

“Wedyn, roedd y tywod wnaethon ni ei osod yn gweithio’n well, ond yn y diwedd, pan oeddwn i’n taro’r marcwyr, roedd y tywod yn dechrau gwthio yn erbyn y ffens a dechreuodd wthio allan i’r lôn y tu ôl.”

Roedd yn rhyddhad i’r gwylwyr pryderus pan oedd posib i Kieran ailddechrau hyfforddi eto yn ôl yn y gampfa ac ar y trac wrth i’r cyfyngiadau ar athletwyr ddechrau cael eu codi.          

Roedd yr athletwr dosbarth F34 yn mwynhau cynnydd hynod gyflym fel un o bara athletwyr mwyaf addawol ac amldalentog y wlad pan darodd y cyfyngiadau symud yng ngwanwyn y llynedd.        

Roedd Keiran wedi’i goroni’n bencampwr Prydain eisoes ym Mhencampwriaethau Athletau Iau Cenedlaethol yr Activity Alliance yn 2019 ac roedd i fod i fynychu gwersyll hyfforddi tywydd cynnes ym Mhortiwgal gyda Chwaraeon Anabledd Cymru. 

“Roeddwn i wedi cyffroi cymaint am fynd ac felly roedd y cyfyngiadau symud yn anodd. Roedd yn gyfle gwych i mi fel person ac fel athletwr ac felly fe wnaeth fy nharo i’n galed. 

“Roedd ceisio cynnal ffocws yn anodd iawn, ond wedyn fe ddaeth y byd i gyd i stop ac fe wnaeth fy nharo’n galetach fyth. Mae cael blwyddyn o fethu gwneud dim wedi bod yn anodd iawn, iawn. 

“Mae’n debyg mai hwn ydi’r cyfnod gwaethaf i mi ers i mi fynd o allu cerdded i fod mewn cadair olwyn.

“Roedd methu gwneud y pethau roeddwn i’n eu caru’n ddifrifol. Mae fy ffrindiau agosaf i yn y byd chwaraeon hefyd, ac felly roedd methu eu gweld nhw’n anodd hefyd. 

“Ond rydw i’n lwcus o’r teulu sydd gen i o fy nghwmpas. Fe welson nhw fi’n mynd yn isel, ond roedden nhw bob amser yn codi fy nghalon i.’ 

Kieran Jones yn dathlu gyda'r Ddraig Goch
Kieran Jones yn dathlu dod yn becampwr Prydain ym Mhencampwriaethau Athletau Iau Cenedlaethol yr Activity Alliance yn 2019

 

Ar ôl ymarfer yn yr ardd gefn i allu dal ati rhywfaint, roedd posib i Kieran ddychwelyd i’r gampfa yn y diwedd, dri mis yn ôl.          

Ei hyfforddwr cryfder a chyflyru yw Ray Williams, yr arweinydd codi pwysau enwog a hyfforddwr cenedlaethol Cymru sy’n mowldio pencampwyr fel Gareth Evans yn y gampfa enwog yng Nghaergybi. 

Nathan Stephens ac Anthony Hughes yw hyfforddwyr athletau Kieran, yng Nghaerdydd – mae teithio wedi bod yn rhwystr arall yn ystod y cyfyngiadau symud – a’i ysbrydoliaeth yw seren Paralympaidd Cymru, Aled Davies.

Roedd lluniau o bencampwr Paralympaidd Rio a Llundain ar wal y clinig pan oedd Kieran yn dechrau defnyddio cadair olwyn.            

“Fe gefais i fy nharo gan ba mor wych roedd yn edrych yn yr hyn roedd yn ei wneud,” meddai Kieran. “Mae Aled wedi bod yn ysbrydoliaeth fawr. 

“Mae’n seren fawr ond pan wnes i ei gyfarfod am y tro cyntaf, roedd yn wych hefo fi.”

Dechreuodd siwrnai Kieran i fyd chwaraeon anabledd pan oedd yn 13 oed a phan ddechreuodd ei fywyd newid. 

Mae ei gyflwr - paraplegia sbastig etifeddol (HSP) – yn anhwylder niwrolegol prin ac etifeddol sy’n creu gwendid cynyddol yng nghyhyrau’r cluniau a’r coesau. Mae’n rhan o wead rhai aelodau o’i deulu, sy’n golygu bod ei frawd iau, Ryan, hefyd mewn cadair, yn ogystal â’i dad. 

“Mae gan tua 60 y cant o fy nheulu i e ar ochr fy nhad,” meddai Kieran. “Mae fy mrawd iau i wedi bod mewn cadair ers iddo gael ei eni, ond roeddwn i’n chwarae pêl droed a rygbi pan oeddwn i’n fach. 

“Wedyn fe ddechreuais i gael poenau yn fy nghoesau a doeddwn i ddim mor gyflym ag oeddwn i. Roeddwn i’n arafach na phawb arall a doeddwn i ddim wir yn teimlo ’mod i’n gallu ymuno.

“Roeddwn i’n tua 10 oed pan wnes i ddechrau chwarae pêl fasged cadair olwyn. Doeddwn i ddim angen cadair drwy’r amser adeg hynny, felly roeddwn i’n arfer cerdded i mewn i’r sesiynau, neidio i mewn i’r gadair, ac wedyn neidio allan ohoni.

“Ond doeddwn i ddim yn ei hoffi, felly fe wnes i stopio. Dim ond am fod Dad a ’mrawd yn chwarae wnes i ddechrau.” 

Kieran yn hyfforddi yn ei ardd gefn.
Kieran yn hyfforddi yn ei ardd gefn yn ystod cyfyngiadau symud

 

Ond dair blynedd yn ddiweddarach, cynyddodd amser Kieran yn y gadair a dychwelodd at bêl fasged cadair olwyn gyda ffocws o’r newydd. Yn fuan, roedd ei dalent yn amlwg ac, o fewn blwyddyn neu ddwy, roedd yn gapten carfan D15 Cymru.               

Mae’n dal i chwarae i glwb blaenllaw North Wales Knights, ond mae cyfuno gyrfa chwaraeon ddeuol yn anodd pan rydych chi’n 19 oed ac mewn cadair olwyn yn ystod pandemig byd-eang. 

Ond mae â’i olygon ar nod pêl fasged cadair olwyn arall, un mae’n credu y gall ei gyfuno â’i gynnydd fel athletwr.  

Bydd y Gemau Cymanwlad y flwyddyn nesaf yn Birmingham yn cynnwys pêl fasged cadair olwyn am y tro cyntaf, gan ddefnyddio’r fformat 3 v 3 – ac mae Kieran yn bwriadu bod yno gyda Chymru.

“Rydw i’n hoffi ysbryd tîm, mae pobl yn codi eich calon chi pan mae pethau’n mynd o chwith. 

“Y nod yw bod yn y garfan ar gyfer Birmingham. Bydd yr amserlen hyfforddi’n anodd ymdopi â hi gydag athletau, ond rydw i’n hoffi mynd yr ail filltir i brofi bod pobl yn anghywir.”

O 12 mis yn ôl, pan oedd yn teimlo fel pe bai ei fyd yn cau amdano wrth i Covid ledu, yn sydyn mae posibiliadau i’w harchwilio – breuddwydion i’w gwireddu a heriau i’w goresgyn.                   

“Rydw i’n 19 oed nawr ond rydw i wedi tyfu i fyny a sylweddoli nad ydi bod mewn cadair olwyn mor ddrwg ag y mae’n ymddangos. 

“Mae fy ffrindiau i’n dweud, ‘waw, dyna fyddai’r peth gwaethaf fyddai’n gallu digwydd i mi’, ond oherwydd y gefnogaeth rydw i’n ei chael gan fy nheulu, beth yw’r ots?

“Dydw i ddim yn wahanol iddyn nhw. Pe bai rhywun yn dweud, fyddet ti’n cael gwared ar y gadair nawr a cherdded eto, fe fyddwn i’n dweud na. Mae’r bobl rydw i wedi’u cyfarfod a’r cyfleoedd rydw i wedi’u cael wedi bod yn anhygoel. 

“Dydw i ddim eisiau newid hynny.”

Newyddion Diweddaraf

Meghan Willis: “Mae chwaraeon wedi fy ngwneud i’n fwy hyderus am fy anabledd.”

Mae Meghan Willis yn dweud bod nofio wedi rhoi cymaint mwy na medalau a goreuon personol iddi.

Darllen Mwy

Arian y loteri yn gwneud beicio yn hygyrch i bawb

Ar ôl dioddef gwaedlif ar yr ymennydd ac yntau ond yn naw oed, mae Tomas Evans wedi byw bywyd yn llawn…

Darllen Mwy

Y clybiau chwaraeon yng Nghymru sy’n dod yn fwy amgylcheddol gyfeillgar

Mae llawer o bethau y gall clybiau chwaraeon eu gwneud i fod yn fwy amgylcheddol gyfeillgar.

Darllen Mwy