Pan fydd Geraint Thomas yn gosod ei olwynion ar y llinell gychwyn ym Mrwsel ar gyfer y Tour de France eleni, bydd yn ychwanegu at hanes pwysig Cymru yn y byd beicio sy'n ymestyn yn ôl ymhell tu hwnt i'w fuddugoliaeth ef yn 2018.
Mae Cymru wedi bod â threftadaeth gyfoethog yn y byd chwaraeon erioed - yn ymestyn yn ôl i ddyddiau cynnar iawn y 1890au gyda'r brodyr Linton - Arthur, Tom a Samuel - a Jimmy Michael, pob un yn dod o bentref glofaol bychan Aberaman yng Nghwm Cynon a phob un wedi ennill rasys mawr ym Mhrydain ac Ewrop.
Wedyn, yn ystod y ganrif ddiwethaf, cafwyd sêr fel Reg Braddick, y beiciwr cyntaf i gynrychioli Cymru yng Ngemau'r Ymerodraeth Brydeinig a'r Gymanwlad yn Sydney yn 1938, a Don Skene, gyda'r ddau wedi mynd ymlaen i agor siopau beicio yng Nghaerdydd, a Colin Lewis a feiciodd yn y Tour de France yn y 1960au.
Cafodd Sally Hodge a Clare Greenwood yrfaoedd llwyddiannus ar lwyfan y byd, a hefyd Louise Jones, a enillodd y fedal aur gyntaf i ferched mewn beicio yng Ngemau'r Gymanwlad yn Auckland 1990. Ond mae'r ganrif yma wedi gweld beicwyr Cymru'n cyrraedd uchelfannau anhygoel.
Mae Cymru wedi ennill o leiaf un fedal aur yn ystod y tri tro diwethaf i'r Gemau Olympaidd gael eu cynnal, gan ddechrau yn Beijing yn 2008 pan oedd Thomas yn rhan o bedwarawd buddugoliaethus y gweithgaredd tîm a Nicole Cooke yn herio storm law fawr Tsieineaidd i ennill teitl y ras ffordd.
Ac yn goron ar y cyfan, Thomas oedd y trydydd Prydeiniwr yn unig, a'r Cymro cyntaf, i ennill ras feicio fwyaf y byd, y Tour de France. Mae'n dechrau amddiffyn ei Siwmper Felen ym Mrwsel ddydd Sadwrn, Gorffennaf 6ed.