Mae Katie Carr yn credu y gall y ffrwydrad o ddiddordeb yn rygbi’r undeb y merched helpu i sbarduno ffyniant tebyg yn rygbi’r gynghrair yr haf yma.
Mae’r chwaraewraig ryngwladol dros Gymru yn brawf byw bod posib mwynhau’r ddwy gamp o lawr gwlad i lefel elitaidd a bod yr hen gystadleuaeth chwerw rhwng y codau yn rhywbeth sy’n perthyn i’r gorffennol.
Fe ddechreuodd Katie ei thymor chwaraeon yn chwarae rygbi’r undeb i Falcons Pontyclun a Met Caerdydd ac roedd hefyd yn rhan o XV Datblygu Cymru. Ond mae’r ferch 21 oed yn troi ei sylw at rygbi’r gynghrair yr haf yma a bydd yn chwarae i Demons Caerdydd a thîm cenedlaethol Cymru dros y misoedd nesaf.
Mae’r Demons yn chwarae yn haen dau Uwch Gynghrair Merched y DU, tra bo Cymru’n dechrau ar eu hymgais i gymhwyso ar gyfer Cwpan y Byd yn yr hydref, sy’n golygu bod digon i fod yn gyffrous amdano i chwaraewyr a gwylwyr ar y lefel uwch, ond mae pethau hefyd yn agor i fyny'n ddramatig yn rygbi’r gynghrair y merched ar lefel clwb cymunedol is hefyd.
Dreigiau, Outlaws a Bulls
Am y tro cyntaf, mae'r strwythur domestig yng Nghymru wedi'i drefnu i sicrhau chwe 'diwrnod darbi' pan fydd tri thîm merched - Dreigiau Gleision Caerdydd, Outlaws y Rhondda a Blue Bulls Pen-y-bont ar Ogwr - yn chwarae eu gemau allweddol ar ffurf dwbl ochr yn ochr â gemau presennol y dynion drwy gydol misoedd Mehefin a Gorffennaf.
Felly, oes posib i rygbi’r gynghrair fwynhau’r don o ddiddordeb sydd wedi cynyddu yn ddiweddar yn rygbi’r undeb y merched, gan ddenu torfeydd mwy nag erioed i gemau Cymru ym Mhencampwriaeth Chwe Gwlad y Merched eleni?
Beth mae'r gêm 13 bob ochr yn ei gynnig i enethod a merched sydd ddim yn rhan o’r fersiwn 15 bob ochr?
A ble mae’r cyfleoedd i chwaraewyr newydd roi cynnig ar rygbi’r gynghrair yn lle rygbi’r undeb, neu fel Katie, yn ogystal â rygbi’r undeb?
“Rydw i’n meddwl mai hwn fydd y tymor pan fydd rygbi’r gynghrair i ferched wir yn cydio ar lawr gwlad,” meddai Katie, myfyrwraig ym Met Caerdydd.
“Mae’r strwythur clybiau wedi gwella gyda’r gemau yma sydd wedi’u trefnu ac mae cael y tri chlwb yn ne Cymru nawr yn golygu bod cyfleoedd yno i ferched sydd eisiau rhoi cynnig arni.
“Mae gwahaniaethau rhwng y ddwy gêm nad ydi llawer o bobl yn eu deall mewn gwirionedd. Mae angen i chi roi cynnig ar rygbi’r gynghrair i werthfawrogi’r gwahaniaethau hynny, ond rydych chi’n cael y bêl yn eich dwylo llawer mwy yn rygbi’r gynghrair ac mae’r holl chwaraewyr yn cymryd rhan yn gyson.”
Fe ddechreuodd Katie ar ei siwrnai rygbi’r gynghrair yn chwarae i Blue Bulls Pen-y-bont ar Ogwr yn ei thref enedigol ac ochr yn ochr â’i hefaill Rosie, a ymunodd â hi i ddod yn chwaraewraig ryngwladol dros Gymru y llynedd.
“Fe wnes i fwynhau chwarae i Ben-y-bont ar Ogwr yn fawr. Fe wnaeth y tîm a’r hyfforddwyr fy ngalluogi i ddatblygu fy nealltwriaeth o’r gêm a fy helpu i dyfu fel chwaraewr. Rydw i’n edrych ymlaen at eu cefnogi nhw y tymor yma.
“Mae’n amgylchedd cyfeillgar iawn ac rydw i’n meddwl bod y tri chlwb yng Nghymru yn groesawgar iawn i bobl sydd eisiau mynd draw i roi cynnig ar y gamp.”
Llifo'n rhydd ac yn egnïol
Prif hyfforddwr rygbi’r gynghrair merched Cymru yw Tom Brindle sydd hefyd yn gweithio i’r Gynghrair Rygbi a Phêl Droed fel rheolwr cyffredinol Uwch Gynghrair y Merched.
Yn gyfrifol am dwf rygbi’r gynghrair y merched ledled y DU, mae’n credu bod y gamp yn cynnig rhywbeth gwahanol i rygbi’r undeb.
“Bydd rhywfaint o groesi bob amser rhwng rygbi’r undeb a rygbi’r gynghrair a dydyn ni ddim yn gweld hynny fel gwrthdaro, ond mae ambell fath o gorff a chyfres o sgiliau’n fwy addas ar gyfer rygbi’r gynghrair,” meddai Tom.
“Mae gan rygbi’r gynghrair ochr egnïol, gyflym iddi ac, yn y pen draw, rydych chi’n symud mwy na mewn rygbi’r undeb.
“Yn rygbi’r gynghrair mae gennych chi gyfres o chwe thacl i ymosod, sy’n golygu y gallwch chi fod yn fwy symudol ac ymosod gyda’r bêl, ond mae’n rhaid i chi hefyd fod yn fwy bwriadol.
“Yr adborth rydyn ni’n ei gael gan y chwaraewyr ydi eich bod chi’n cael mwy o gyfleoedd ar y bêl mewn rygbi’r gynghrair a mwy o achlysuron i ymosod nag ydych chi mewn rygbi’r undeb a dyna pam mae chwaraewyr newydd yn ei hoffi.”