Skip to main content

Mae Sarah Abrams wedi rhoi ei bagiau siopa i lawr ac wedi dechrau codi pwysau eto

  1. Hafan
  2. Newyddion, Straeon a Digwyddiadau
  3. Newyddion, Erthyglau ac Ymgyrchoedd
  4. Mae Sarah Abrams wedi rhoi ei bagiau siopa i lawr ac wedi dechrau codi pwysau eto

Mae seren ryngwladol y naid hir o Gymru, Sarah Abrams, wedi rhoi ei bagiau siopa i lawr ac wedi dechrau codi pwysau eto, diolch i Athletau Cymru.

Yn ystod cyfyngiadau symud yr haf, roedd sesiwn campfa'r ferch 27 oed yn cynnwys llenwi cwpl o fagiau archfarchnad gyda llyfrau meddygol trwchus a'u hongian oddi ar far roedd yn ei godi dros ei hysgwyddau. 

Roedd rhaid i Sarah – myfyrwraig meddygaeth yn ei blwyddyn olaf yng Ngholeg Imperial, Llundain – hyfforddi yn ei hystafell wely gyda bagiau melyn llachar Sainsbury's fel dymbelau.

Dyfeisgar, ie, ond dim cystal â'r garej wedi'i haddasu mae hi’n gallu gweithio ynddi bellach.

"Fe symudais i fflat ym mis Medi i arbed ychydig o arian, felly does gen i ddim lle mewn gwirionedd i godi bagiau Sainsbury's mwyach!" meddai Sarah.

"Felly'r hyn rydw i wedi'i wneud yn lle hynny i ymdopi â’r cyfyngiadau symud yma ydi llogi garej rownd y gornel. 

"Rydw i wedi bod yn ffodus iawn, iawn bod Athletau Cymru yn mynd i 'nghefnogi i gydag offer. 

"Mae Sport Imperial yn mynd i 'nghefnogi i gydag ychydig o offer hefyd, felly rydw i'n ceisio adeiladu fy nghampfa fy hun yn y bôn."

Yn ystod anterth cyfyngiadau symud cyntaf y DU, cyflwynodd Athletau Cymru recordiad fideo o ddiwrnod ym mywyd Abrams wrth iddi gyfuno ei hastudiaethau meddygol â gwirfoddoli ar ward famolaeth a sesiynau cryfder a chyflyru byrfyfyr yn ei iard gefn a'i hystafell wely.

"Yn ystod y cyfnod clo cyntaf roeddwn i’n ffodus bod trac gweddol agos i mi ar agor. Felly, o ran rhedeg, roeddwn i’n gallu ffitio llawer i mewn, ond yr hyn oedd yn anodd ei gynnwys oedd gwaith cryfder. 

"Roedd y bagiau Sainsbury's yn dda iawn ac fe wnaethon nhw weithio'n dda, ond roedd ganddyn nhw eu cyfyngiadau o ran pa mor ddefnyddiol oedden nhw ac, wrth gwrs, roedden nhw'n eithaf beichus.

"Roeddwn i'n awyddus iawn i beidio â cholli'r hyn roeddwn i wedi'i ennill yn ystod yr ychydig fisoedd diwethaf yn ôl yn y gampfa, felly rydw i'n dod o hyd i ffordd o gwmpas hynny drwy geisio cyfuno cymaint o adnoddau ag y galla’ i. 

"Rydw i'n credu ei fod yn dda mewn ffordd oherwydd y broses ei hun. Fe wnes i benderfynu ’mod i'n mynd i wneud hyn ddydd Llun a nawr mae gen i gampfa’n barod i fynd heddiw. 

"Felly, mewn tridiau, rydw i wedi trefnu’r cyfan ac rydw i'n credu ei fod yn rhoi llawer o gymhelliant i mi ar ôl gwneud hynny, gan ei fod yn her ac ychydig yn anturus. 

"Mae'n rhoi ychydig o ysgogiad i mi gan ei bod yn hawdd eistedd yn ôl a meddwl bod y sefyllfa'n ddiflas a difrifol, pawb yn ddiflas, felly mae cael hyn fel tipyn o ffocws wedi rhoi ychydig o hwb i mi rwy’n credu."

Mae'r bencampwraig naid hir dan do genedlaethol wedi canmol y gefnogaeth gyffredinol sydd wedi’i rhoi i athletwyr eraill o Gymru gan gorff rheoli’r gamp yn ystod y pandemig.

Fe wnaeth Abrams hefyd enwi cydlynydd datblygu talent cenedlaethol Athletau Cymru ar gyfer neidiau a digwyddiadau cyfunol, Fyn Corcoran, i’w ganmol yn benodol.       

"Dydw i ddim yn gallu rhoi mewn geiriau pa mor ddiolchgar ydw i," meddai. "Mae'n rhaid i mi roi pob clod i bawb yn Athletau Cymru.

"Ond yn arbennig i Fyn Corcoran. Mae ganddo fe lawer o athletwyr i ofalu amdanyn nhw, mae ganddo ei deulu ei hun i ofalu amdano, ac mae'n fy nghefnogi i’n ddi-baid, a'r cyfan o bell. 

"Does dim ffiniau i’w help e ac rydw i'n credu bod hynny'n anhygoel. Rydw i'n teimlo ’mod i’n cael cefnogaeth wych, hyd yn oed pobl yn cysylltu jyst i wneud yn siŵr eich bod chi’n iawn. 

"Ond maen nhw hyd yn oed yn mynd mor bell â chynnig help i ddod o hyd i offer. Dydw i ddim yn credu bod llawer o gyrff rheoli ac unigolion fyddai'n darparu'r math yma o gefnogaeth. 

"Felly mae'n gwneud byd o wahaniaeth ac rydw i'n teimlo'n ffodus iawn gan fy mod i’n sylweddoli nad ydw i yn y lleoliad gorau i gael fy nghefnogi gan Athletau Cymru, ond dydw i ddim yn teimlo fy mod i’n cael fy ngadael allan, sy'n dda iawn.

"Alla i ddim pwysleisio digon pa mor ddiolchgar ydw i i Athletau Cymru. Dydw i ddim yn meddwl y byddwn i'n gallu dal ati heb y gefnogaeth honno, felly mae wir yn bwysig.

"Mae Fyn yn gwneud sesiynau zoom dair neu bedair gwaith yr wythnos efallai. Mae wedi bod yn eu gwneud nhw’n ddeddfol ers mis Mawrth.

"Mae'n awyrgylch mor dda, yn gymhelliant mor dda a dydw i ddim yn meddwl fy mod i erioed wedi ei weld yn edrych fel nad ydi o eisiau bod yno. 

"Rydw i'n siŵr bod adegau pan fyddai'n well ganddo gael paned o de ac eistedd o flaen y teledu neu wneud ei hyfforddiant ei hun, neu dreulio amser gyda'i deulu. 

"Mae bob amser yno, mor frwdfrydig ac rydw i bob amser yn meddwl "sôn am ased". Rydw i'n credu ei fod yn anhygoel.”

Newyddion Diweddaraf

Sut mae pêl fasged cadair olwyn yn dod â'r gorau allan yn Phil Pratt

Bydd Phil Pratt yn y Gemau Paralympaidd, ond fe allai fod wedi bod yn chwarae yn Wimbledon yn lle hynny.

Darllen Mwy

80 o glybiau chwaraeon cymunedol yn cael cefnogaeth gan y Grant Arbed Ynni

Bydd pob clwb neu brosiect yn defnyddio eu grant i wneud gwelliannau ecogyfeillgar i'w heiddo.

Darllen Mwy

Paneli solar yn rhoi ynni i glybiau chwaraeon ledled Cymru

Mae chwyldro ynni gwyrdd ar droed mewn chwaraeon cymunedol yng Nghymru, gyda phaneli solar yn dod yn…

Darllen Mwy