Skip to main content

Mae’n amser dod nôl i’r gêm!

Wrth i Gymru barhau i ddod allan o'r cyfyngiadau symud, mae'r genedl yn cael ei hannog i ddod 'nôl i’r gêm' drwy fanteisio i'r eithaf ar bob cyfle i fod yn actif.

Mae'r sefyllfa iechyd cyhoeddus sy'n gwella yn golygu y gall oedolion ddychwelyd i weithgareddau awyr agored trefnus, a bydd pyllau nofio, canolfannau hamdden a champfeydd i gyd yn ailagor ddydd Llun nesaf. Wrth gwrs, mae plant eisoes yn gallu mwynhau gweithgareddau awyr agored trefnus, a gall dosbarthiadau ffitrwydd grŵp dan do a chwaraeon dan do ar gyfer oedolion a phlant ailddechrau hefyd o ddydd Llun 3ydd Mai ymlaen – bythefnos yn gynt  na’r disgwyl.                 

Yn frwd ynghylch sut bydd llacio’r cyfyngiadau’n agor chwaraeon i fwy o bobl, dywedodd Sarah Powell, Prif Swyddog Gweithredol Chwaraeon Cymru: "Drwy gydol y cyfnod eithriadol heriol yma, mae'r teulu chwaraeon yng Nghymru wedi dangos amynedd mawr, gan weithredu'n gyfrifol ac yn greadigol i helpu i gefnogi ffyrdd iach o fyw yn ystod y pandemig.

"Mae'r ffaith bod y dyddiadau ailagor wedi'u symud yn nes yn dyst i ymroddiad y sector chwaraeon i sicrhau dychwelyd diogel sy'n cydymffurfio â covid. Rydyn ni wrth ein bodd ei bod bron yn amser i bawb ddychwelyd a mwynhau manteision enfawr chwaraeon a gweithgarwch corfforol. 

"Does dim posib tanbrisio’r hwyl a’r mwynhad pur sydd i’w gael mewn chwaraeon. Mae'n gwneud ein bywydau ni'n well, ac mae’n rhaid i ni wneud y gorau o'r cyfleoedd estynedig hyn i fod yn actif, yn ddiogel. Nid yn unig mae ymarfer corff yn hybu ein hiechyd corfforol ond hefyd mae'n gwneud rhyfeddodau i'n hiechyd meddwl. Dim ond ers ychydig wythnosau mae plant wedi bod yn ôl yn cymryd rhan mewn chwaraeon awyr agored ond mae’n glir i bawb faint maen nhw’n mwynhau bod yn ôl yn cymryd rhan mewn chwaraeon gyda’u ffrindiau, yn bod yn actif ac yn cymdeithasu eto."

Merched yn ymarfer corff mewn parc yn gwisgo masg wyneb

#NolYnYGem

Mae ymchwil Chwaraeon Cymru yn awgrymu bod mwy na hanner yr oedolion yng Nghymru yn colli'r mathau o weithgarwch roedden nhw'n gallu eu gwneud cyn i'r pandemig ddechrau, tra bod 60% o’r oedolion yn bwriadu cynyddu faint o weithgarwch corfforol ac ymarfer corff maen nhw'n ei wneud wrth i Gymru ddod allan o'r cyfyngiadau symud.

Ychwanegodd Sarah: "Mae dyhead mawr ymhlith pobl i fod yn fwy actif, ond mae'n naturiol y bydd rhai'n teimlo ychydig yn bryderus am ddychwelyd i weithgareddau ochr yn ochr â phobl eraill, hyd yn oed y gweithgareddau hynny maen nhw wedi'u colli fwyaf. 

"Gallwch fod yn dawel eich meddwl mai diogelwch yw'r brif flaenoriaeth. Efallai y bydd rhai gweithgareddau'n edrych ychydig yn wahanol i'r ffordd roedden nhw’n arfer bod, ond gallwn deimlo'n hyderus y bydd cadw pellter cymdeithasol angenrheidiol, glanhau a llu o fesurau eraill ar waith i sicrhau bod y gweithgareddau'n ddiogel. Mae llawer iawn o waith wedi'i wneud ar hyn ac fe hoffwn i ddiolch i bawb sydd wedi chwarae eu rhan. 

"Bydd Chwaraeon Cymru yn parhau i gefnogi sector chwaraeon Cymru ac yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru i gael yr eglurder sydd ei angen i alluogi pawb i wneud yr holl baratoadau gofynnol i gynnal gweithgareddau o'r eiliad mae hynny'n bosibl.

"Rydyn ni i gyd wedi colli llawer o bethau, ond bydd chwaraeon yn parhau i uno ac ysbrydoli'r genedl ac yn chwarae rhan ganolog yn adferiad Cymru o'r argyfwng difrifol yma." 

Newyddion Diweddaraf

Wythnos Hinsawdd Cymru 2023: Beth mae Chwaraeon Cymru yn ei wneud i fynd i’r afael â’r newid yn yr hinsawdd?

Rydyn ni wedi ymrwymo i helpu’r genedl i gyrraedd sero net erbyn 2030 a chreu Cymru wyrddach, gryfach…

Darllen Mwy

Rhoi mwy o resymau i bobl ifanc ddewis sboncen

Dylai mwy o sylw ar y llwyfan byd-eang helpu i danio diddordeb pobl ifanc.

Darllen Mwy

Gorllewin Cymru yn cymryd cam hanfodol tuag at drawsnewid chwaraeon cymunedol

Mae Dr Sue Barnes wedi cael ei phenodi yn Gadeirydd Partneriaeth Chwaraeon Gorllewin Cymru.

Darllen Mwy