Skip to main content

Mae'r nofiwr gwyllt, Laura Owen, yn cyfuno ei chariad at nofio dŵr agored gydag ymchwil amgylcheddol

  1. Hafan
  2. Newyddion, Straeon a Digwyddiadau
  3. Newyddion, Erthyglau ac Ymgyrchoedd
  4. Mae'r nofiwr gwyllt, Laura Owen, yn cyfuno ei chariad at nofio dŵr agored gydag ymchwil amgylcheddol

Mae Laura Owen Sanderson yn galw ei hun yn "gofnodwr dŵr", nofiwr gwyllt, anturiaethwr, amgylcheddwr, artist, cyfarwyddwr cwmni a mam.

Mae hi hefyd yn digwydd bod y fenyw mae Prifysgol Bangor wedi gofyn iddi helpu i gasglu samplau dŵr o barciau cenedlaethol y DU er mwyn profi am bresenoldeb micro-blastigau.

Mae cyfuno nofio dŵr agored gydag ymchwil amgylcheddol ac ymgyrchu’n teimlo fel rhywbeth naturiol iawn i rywun a fentrodd i'r dŵr fel math o therapi yn dilyn ei thrychineb biolegol personol ei hun.

Roedd Laura – sy'n siaradwr yng ngŵyl Mynydd Kendal eleni (Tach 19-29) - mewn swydd uwch ym maes hyfforddiant athrawon yn Llandudno cyn mynd yn sâl a throi at nofio.

Delwedd: David Stevens

"Yn y bôn, fe losgais i fy hun allan a mynd yn sâl iawn," meddai. "Fe gefais i ddiagnosis o ffibromyalgia ac roedd rhaid i mi gael trallwysiad gwaed llawn.

"Fe aeth fy nghyhyrau i'n hynod stiff ac awgrymodd un meddyg ’mod i’n cael bath oer. Doeddwn i ddim eisiau gwneud hynny, felly yn hytrach fe ddechreuais i fynd i'r môr wrth fy nhŷ i, i nofio, ac yn fuan iawn fe welais i ei fod yn lleddfu’r symptomau.

"Fe es i’n gaeth i’r peth a dweud y gwir, a dechrau nofio'r afonydd a'r llynnoedd yn y mynyddoedd a dyna ni, roeddwn i wedi gwirioni.

"Mae'n gyfuniad o'r rhyddid rydych chi'n ei deimlo, harddwch yr amgylchedd o’ch cwmpas chi a'r pleser naturiol o fod mewn dŵr agored."

Fe ddaeth yr hyn a ddechreuodd fel rhywbeth i atal straen yn obsesiwn ac wedyn yn fusnes oherwydd fe sefydlodd Laura We Swim Wild, cwmni nid-er-elw sy'n hyrwyddo nofio dŵr agored ac amgylcheddaeth.

Mae ei dwf wedi cyd-daro â'r cynnydd yn y diddordeb mewn mynd i’r arfordir ac i afonydd a llynnoedd Cymru fel math o hamdden ac ymarfer - cynnydd mewn gweithgarwch sydd wedi tyfu yn ôl pob tebyg ers y cyfyngiadau symud cyntaf a'r cyfyngiadau ar fathau mwy ffurfiol a threfnus o chwaraeon.

Fel cerdded, neu redeg, nid yw nofio dŵr agored yn golygu dim mwy na mynd i'r byd naturiol, er bod y rhai sy’n frwdfrydig am ddŵr agored yn pwysleisio'r angen am gynllunio, paratoi a diogelwch.

Delwedd: David Stevens

"Mae angen i chi addysgu eich hun am y gwahanol fathau o ddŵr," meddai Laura.

"Os ydych chi'n nofiwr môr, mae angen i chi wybod am y llanw a'r cerrynt lleol a gwybod yr amseroedd gorau a dylech bob amser geisio cael partner nofio.

"Mae angen i chi wybod am y cerrynt mewn afonydd hefyd, sut i nofio'n gyfochrog â glan afon neu'r traeth, gwirio'r tymheredd a rhagolygon y tywydd a'r offer cywir i fynd gyda chi. Felly. 

"Mae llawer i'w ystyried. Ond jysd bod yn synhwyrol a lleihau'r risg sydd ei angen."

Daeth cysylltiad Laura â Phrifysgol Bangor a phrosiect y parciau cenedlaethol ar ôl darn blaenorol o ymchwil yr oedd yn ymwneud ag ef, yn edrych ar ddŵr Glaslyn, ger copa'r Wyddfa.

Roedd academyddion eisiau gweld pa mor bell ar hyd ei daith i'r arfordir oedd y dŵr yn llygredig gyda micro-blastigau, felly gofynnwyd i Laura nofio'r llwybr a chymryd samplau wrth fynd.

Er mawr siom iddynt, darganfu’r ymchwilwyr bod hyd yn oed y dŵr ffynhonnell ei hun wedi'i lygru â gronynnau bach o blastig.

Mae'r ymchwil presennol yn edrych ar burdeb dŵr ar draws yr 14 parc cenedlaethol yn y DU, gan gynnwys y tri yng Nghymru – Eryri, Arfordir Sir Benfro a Bannau Brycheiniog.

"Rydw i'n nofio gydag un person arall sydd ar rafft, ac rydw i'n rhoi'r samplau iddo fo wrth i mi lenwi'r pedair potel ar y tro," meddai Laura.

"Mae'n rhaid i chi fod yng nghanol llif y dŵr a chymryd y sampl tua 10cm o dan yr wyneb. Maen nhw'n boteli mawr ac ar ôl iddyn nhw lenwi maen nhw'n eithaf trwm."

Pan nofiodd 47km ar hyd Afon Cleddau, yn Sir Benfro, nid plastigau oedd yr unig bryder. Aeth yn sâl ac mae'n credu bod y slyri amaethyddol oedd yn rhedeg oddi ar y glannau i mewn i'r dŵr wedi achosi salwch stumog wnaeth ei gorfodi i roi'r gorau i nofio am wythnos.

"Ar un adeg, roeddwn i'n nofio, ac roedd tail gwartheg yn arnofio heibio, felly doedd hynny ddim yn bleserus iawn. 

"Mae byffer 10 metr i fod rhwng y tir amaethyddol a'r afon, ond nid yw hynny'n llawer o gwbl pan mae llawer o law wedi bod."

Heblaw am y tail gwartheg, mae Laura – y mae ei bywyd fel nofiwr ac amgylcheddwr yn cael ei gofnodi yn y ffilm "Hydrotherapy" sy'n cael sylw yn yr ŵyl – yn hoff iawn o’r dŵr agored o hyd.

Efallai bod y pandemig presennol wedi arafu cwblhau ymchwil y parciau cenedlaethol, ond nid yw wedi arafu’r diddordeb yn ei nofio ar draws y byd chwaraeon.

"Rydw i wedi mynd â llawer o driathletwyr allan eleni ar gyfer dosbarthiadau hyfforddi," ychwanegodd Laura, sy'n gweithio ochr yn ochr â Dr Christian Dunn, uwch ddarlithydd ym Mhrifysgol Bangor.

"Maen nhw fel arfer yn hynod ffit ond weithiau maen nhw'n cael tipyn o ofn mewn dŵr oer iawn. Efallai mai'r rheswm am hynny yw am eu bod nhw ychydig yn iau a does ganddyn nhw ddim llawer o fraster i’w cynnal nhw, ond maen nhw’n mwynhau unwaith maen nhw’n dod i arfer ag o. 

"Dyna'r peth am nofio mewn llynnoedd, afonydd a'r môr. Rydych chi'n gwirioni arno.” 

Newyddion Diweddaraf

Y clybiau chwaraeon yng Nghymru sy’n dod yn fwy amgylcheddol gyfeillgar

Mae llawer o bethau y gall clybiau chwaraeon eu gwneud i fod yn fwy amgylcheddol gyfeillgar.

Darllen Mwy

Sut mae pêl fasged cadair olwyn yn dod â'r gorau allan yn Phil Pratt

Bydd Phil Pratt yn y Gemau Paralympaidd, ond fe allai fod wedi bod yn chwarae yn Wimbledon yn lle hynny.

Darllen Mwy

80 o glybiau chwaraeon cymunedol yn cael cefnogaeth gan y Grant Arbed Ynni

Bydd pob clwb neu brosiect yn defnyddio eu grant i wneud gwelliannau ecogyfeillgar i'w heiddo.

Darllen Mwy