Skip to main content

Michael Jenkins: Pan fydd un drws yn cau, gall un arall agor i gamp hollol newydd

  1. Hafan
  2. Newyddion, Straeon a Digwyddiadau
  3. Newyddion, Erthyglau ac Ymgyrchoedd
  4. Michael Jenkins: Pan fydd un drws yn cau, gall un arall agor i gamp hollol newydd

Pan ddywedwyd wrth Michael Jenkins am roi'r gorau i chwarae rygbi, mae'n cyfaddef ei fod wedi teimlo bod ei uchelgais mewn chwaraeon ar ben.

Bum mlynedd yn ddiweddarach ac mae'r sylw wedi'i hoelio ar y bachgen 18 oed o Sir Benfro ar ôl ei berfformiadau anhygoel fel para-athletwr.

Roedd Michael yn 13 oed pan ddywedodd meddygon wrtho y byddai'n annoeth parhau i chwarae rygbi oherwydd y risgiau y gallai beri i rywun sydd â pharlys yr ymennydd.

Roedd hynny'n siom fawr i sawl clwb rygbi - yn bennaf oherwydd i'r llanc ifanc fod yn ddigon ffodus i gael priodoleddau corfforol trawiadol, ac erbyn hyn mae'n saith troedfedd. 

Ond roedd yn ergyd drom i'r llanc ei hun yr oedd y gamp yn golygu popeth iddo.

"Roedd hi'n teimlo fel ergyd enfawr cael gwybod na allwn i chwarae rygbi rhagor," meddai Michael.

"Mae'n anodd iawn, iawn pan mae'n rhaid i chi stopio gwneud rhywbeth rydych chi wrth eich bodd yn ei wneud. Ro’n i'n teimlo'n angerddol go iawn am rygbi a ro'n i eisiau cyrraedd y lefel uchaf y gallwn i, beth bynnag y byddai hynny wedi bod.

"Es i am ddau neu dri mis heb wneud unrhyw chwaraeon o gwbl. Ro'n i mor ypset a do'n i ddim eisiau gwneud unrhyw beth arall, sydd ddim yn iach. 

"Fe wnes i drio rhedeg pellter hir i ddechrau - dwi ddim yn gwybod pam yn iawn - a do'n i ddim yn ei fwynhau, chwaith.”

Diolch i'r drefn, cafodd Michael ei wthio tuag at feysydd eraill o athletau y gwnaeth eu mwynhau. Fe wnaeth ffrind ei arwain tuag at glwb Pembrokeshire Harriers ac oddi yno buan y rhoddodd gynnig ar ddisgyblaethau taflu pwysau a disgen.

Gwelodd Ryan Spencer-Jones, hyfforddwr campau taflu Athletau Cymru Michael yn taflu mewn un digwyddiad a datblygodd y sgwrs yn gyflym.

"O’r munud y gwelodd fy mod i'n athletwr anabl a gweld pa mor bell ro'n i’n gallu taflu, daeth ataf a dweud, 'iawn, dwi am dy hyfforddi di.’ A dyna sut y dechreuodd y cyfan.”

Dyna sut y dechreuodd pethau a dyma sut mae'n mynd. Mae sesiynau hyfforddi wythnosol a dwywaith yr wythnos weithiau yng Nghaerdydd wedi datblygu talent Michael ac wedi profi pan fydd un drws chwaraeon yn cau gall un arall agor yn aml.

Mae'n dweud y bydd bob amser yn ddiolchgar i rygbi am roi sylfaen iddo mewn chwaraeon, ac fe wnaeth hefyd fwynhau ychydig o bêl-fasged gardd gefn, ond ym myd para athletau mae ei angerdd a'i dalent bellach.

"Pan o'n i'n iau, do'n i ddim yn gwybod llawer am y cyfleoedd rygbi i bobl anabl. Dwi'n meddwl ei fod yn llawer mwy nawr ac mae llawer o gyfleoedd, ond yn y bôn roedd yn rhaid i mi roi'r gorau i chwarae'r math o rygbi ro'n i'n ei chwarae ac roedd yn teimlo'n anodd.

“Ond dwi wedi ffeindio'r angerdd yna mewn athletau para, 100 y cant. Erbyn hyn dwi wastad yn meddwl am ddisgiau a sut alla i daflu ymhellach.”

Grŵp o athletwyr yn sefyll ar gyfer llun grŵp
Michael Jenkins (canol) gyda chyd-athletwyr. Llun: Huw Evans Agency
Roedd hi'n teimlo fel ergyd enfawr cael gwybod na allwn i chwarae rygbi rhagor. Ond dwi wedi ffeindio'r angerdd yna mewn athletau para, 100 y cant.
Michael Jenkins

Daw hynny â gwên ar wyneb ambell i daflwr arall a'u hyfforddwyr oherwydd bod Michael - sydd eisoes yn cael hyfforddiant ac arweiniad arbenigol gan Aled Davies, pencampwr Paralympaidd enwog o Gymru sydd wedi ennill deirgwaith yn y Gemau Paralympaidd - yn dechrau llorio pobl gyda'r pellteroedd mae'n eu cyflawni.

Yr haf diwethaf ym Mharis ac yntau ond yn 17 oed, fe chwalodd y record Ewropeaidd ar gyfer disgen F38, y dosbarthiad sy'n cynnwys athletwyr gyda pharlys yr ymennydd.

A thrwy chwalu, rydyn ni'n golygu chwalu'n iawn o saith metr.

O fewn ychydig wythnosau fe dorrodd record byd disgen F38 yn ôl yng Nghymru drwy daflu 55.92, pellter a wellodd wedyn yn Rownd Derfynol Genedlaethol Gemau Ysgolion drwy daflu 61.19m.

Mesur o'r cyflawniad hwnnw yw bod 61.19m yn ei roi yn safle 11 ar restr holl bellteroedd athletwyr y DU nad ydynt yn anabl ac y byddai wedi ei roi yn yr wythfed safle yng Ngemau'r Gymanwlad yr haf diwethaf.

Fel gydag Aled, mae cystadlu fel athletwr anabl yn erbyn gwrthwynebwyr heb fod yn anabl yn llwybr y mae'n awyddus i'w archwilio.

"Fel taflwr rwyt ti’n rhyw fath o allu dweud pan wyt ti wedi gwneud tafliad mawr," meddai Michael.

"Ond do'n i ddim yn sylweddoli mod i wedi torri'r record yna ym Mharis tan i fi weld Aled - oedd gyda fi - yn dechrau cynhyrfu. Yna, dechreuais i gynhyrfu, wedyn dechreuodd pawb gynhyrfu.

"Roedd o'n teimlo fel petawn i wedi bwyta llond powlen o siwgr - ac fe wnaeth y teimlad bara am tua mis.

"Mae posibilrwydd yn ddiweddarach eleni o fynd i Bencampwriaethau Athletau Ewrop dan 20 ar gyfer athletwyr heb fod yn anabl a Phencampwriaethau Para Athletau'r Byd hefyd. Gallai hon fod yn flwyddyn brysur.”

I Aled, mae'r cyfle i helpu i fentora a datblygu talent Michael yn bluen arall yn het un o Baralympiaid gorau Cymru.

Mae Aled eisoes wedi helpu i feithrin cyn-chwaraewr rygbi arall a wnaeth droi at daflu disgen, Harrison Walsh, a nawr mae Michael ar fin dilyn y ddau fel uwch athletwr rhyngwladol yr haf hwn.

"Mae gan Michael gymaint o dalent naturiol, gall fod beth bynnag mae’n dymuno ei fod yn y gamp i athletwyr anabl a heb fod yn anabl," meddai Aled.

"Gall fod yn athletwr sy'n pontio rhwng y ddau fath. Mae’n anhygoel.

“Rydw i’n ddyn mawr, a Ryan hefyd. Ond mae'n rhaid i'r ddau ohonom edrych i fyny at Michael sy'n gawr o ddyn. Mae dal yn ddyn ifanc iawn felly mae wedi cymryd amser iddo dyfu i faint ei gorff a dod i arfer â hynny.

"Mae wedi gwneud hynny bellach ac mae ei gynnydd wedi bod yn anhygoel. Mae'r pellteroedd mae'n eu cyrraedd yn syfrdanol ac mae pobl yn mynd i ddechrau clywed llawer mwy amdano cyn bo hir.

"Ond mae ganddo agwedd wych hefyd, mae eisiau dysgu a gweithio'n galed. Mae ei deulu'n cynnig cefnogaeth ac anogaeth iddo, ac mae'n bleser gweithio gyda nhw.”

Mae wedi gwneud yn eithaf da i athletwr oedd yn ofni y byddai gorfod rhoi'r gorau i chwarae rygbi yn ei adael heb angerdd yn y byd chwaraeon! 

Wedi'i ail-gyfeirio, mae'r tanau hynny'n llosgi'n fwy ffyrnig nag erioed.

Lluniau: Huw Evans Agency

Newyddion Diweddaraf

Mae pobl ifanc yn gwirioni ar dennis bwrdd, diolch i dechnoleg fodern

Mae Clwb Tenis Bwrdd Cynffig yn defnyddio technoleg laser modern i helpu i wneud eu camp yn fwy deniadol…

Darllen Mwy

5 ffordd y gall eich clwb chwaraeon elwa o fod yn fwy cynaliadwy

Beth yw manteision dod yn glwb mwy cynaliadwy? Dyma ein pump uchaf ni.

Darllen Mwy

Funmi Oduwaiye: Y seren pêl-fasged ar drywydd newydd wrth daflu maen a disgen yn y Gemau Paralympaidd

Doedd hi heb fod yn agos at gylch taflu ers ei dyddiau mabolgampau yn yr ysgol. Ond nawr mae Funmi Oduwaiye…

Darllen Mwy