Mae chwaraewyr rhyngwladol Cymru, Lily Woodham a Cerys Hale, ill dwy yn mynnu eu bod wedi cael profiadau cadarnhaol yn eu chwaraeon ers dod mas - ond yn dweud bod angen gwneud mwy eto.
Mae’r bêl droedwraig gyda Reading, Woodham, a’r chwaraewraig rygbi gyda Chaerloyw-Hartpury, Hale, ill dwy yn athletwyr proffesiynol llawn amser sy'n gwisgo’r crys coch dros eu gwlad ac yn ei wisgo gyda balchder.
Ond maen nhw hefyd yn falch o rywbeth arall - yn falch o bwy ydyn nhw, eu natur agored o ran eu cyfeiriadedd rhywiol a'r rôl y gallant ei chwarae wrth wneud i'w chwaraeon deimlo'n gwbl groesawgar i bawb.
Mae Woodham, 22 oed, wedi bod yng ngharfan Cymru ers tair blynedd ond roedd hi wedi dod mas ddwy flynedd cyn hynny – gyda’i mam i ddechrau ac wedyn ei chyd-chwaraewyr ar y pryd.
“Roeddwn i’n 17 oed a fy mhrofiad i oedd bod pawb oedd yn agos ataf i mor gefnogol,” meddai.
“Rydw i’n credu bod gêm y merched yn dal yn wahanol i gêm y dynion. Ym mhêl droed y dynion, dydych chi ddim yn cael cymaint o chwaraewyr yn dod mas ac mae'n dal i hawlio’r penawdau pan maen nhw'n gwneud hynny.
“Efallai bod ofn o hyd oherwydd mae rhai cefnogwyr yn barod i fod yn gas eu geiriau gyda siantiau.
“Mae ein gêm ni’n wahanol. Fe alla’ i ddweud nad oes neb erioed wedi dweud dim byd sarhaus wrthyf i mewn gêm, nac ar gyfryngau cymdeithasol, nac yn unman arall.
“Dydw i erioed wedi cael fy ngwneud i deimlo’n anghyfforddus. Yn ein cymuned bêl droed ni fel merched, diolch byth, mae’n teimlo’n normal ac mae’n cael ei dderbyn a gobeithio y daw felly ym mhêl droed y dynion hefyd.”
I Hale, sydd bellach yn chwaraewraig 29 oed hynod brofiadol sydd wedi ennill mwy na 40 o gapiau dros Gymru, dechreuodd ei siwrnai hi hefyd fel chwaraewraig yn ei harddegau pan oedd yn 15 oed.
“Fe wnes i ddechrau cael perthynas gyda merch arall ac roedd pobl yn fy nhîm i’n ymwybodol o hynny, oherwydd roedd y ferch yn y tîm hefyd,” meddai.
“Dydw i ddim wir yn meddwl ei fod yn fwy anghyfforddus na phe bawn i wedi bod mewn perthynas â bachgen. Roedd fy nghyd-chwaraewyr i’n gefnogol iawn ac felly hefyd fy rhieni i.
“Roeddwn i’n teimlo’n fwy anghyfforddus yn dweud wrth fy ffrindiau yn yr ysgol. Roeddwn i ar drip ysgol i Barcelona a dweud y gwir, ac mewn dorm yn hwyr yn y nos. Pan aeth y goleuadau allan, fe wnes i ddweud, “ferched, chi'n gwybod y boi chi’n meddwl sy’n gariad i mi. Wel, merch ydi hi a dweud y gwir!’
“O fewn rygbi merched, mae llawer o chwaraewyr mewn perthnasoedd o’r un rhyw, ond dydi hynny ddim yn wir am y rhan fwyaf o fy ffrindiau ysgol i.
“Ond maen nhw’n gofyn cwestiynau i mi ac rydw i’n hoffi hynny. Rydw i’n croesawu cwestiynau oherwydd mae’n dangos parch a bod pobl eisiau dysgu.”
I Hale, mae'r materion y dylai'r rhan fwyaf o chwaraeon eu hystyried yr un fath ag i unrhyw sefydliad arall.
Mae hi'n credu bod angen iddyn nhw ofyn cwestiwn syml iddyn nhw eu hunain: Ydi fy nghamp i’n gwneud popeth o fewn ei gallu i wneud i bawb deimlo'n gyfforddus?
“Rydw i’n cofio pan wnes i symud i’r brifysgol, roedd llawer o ferched yn fy mloc i ac un o’r cwestiynau cyntaf oedd yn cael ei ofyn, ‘sgen ti ddyn yn dy fywyd?’
“Felly, mae ateb y cwestiwn hwnnw’n llawer mwy anghyfforddus na gofyn, ‘oes gen ti bartner? Neu, wyt ti efo unrhyw un?’
“Mae’r un fath ar gyfer chwaraeon ag ydi o i sefydliadau eraill. Rydw i’n priodi fy mhartner yn fuan ac rydyn ni’n cynllunio ein priodas ni.
“Rydyn ni'n mynd i weld lleoliadau posib ac maen nhw'n dal i ofyn pwy ydi'r briodferch? Wel, y ddwy ohonon ni!”