Skip to main content

Naw ffordd i fod yn actif am ddim yr hanner tymor yma

Mae’r ysgol ar gau ac mae’n hanner tymor cyntaf 2023 o'r diwedd! Felly mae hynny'n golygu ein bod ni i gyd yn chwilio am resymau i godi allan o'r tŷ gyda'r plant.

A pha ffordd well o wneud hynny na gyda gweithgareddau hanner tymor am ddim a all eich ysgogi chi i symud? O’r arfordir i’r mynyddoedd, mae gan Gymru ddigon i’ch annog chi i ryddhau endorffinau heb orfod rhoi eich dwylo yn eich pocedi.

Gadewch i’r plant losgi rhywfaint o egni, ac mae’n gyfle i godi eich hwyliau chi hefyd, gyda’n naw ffordd ni o fod yn actif AM DDIM yng Nghymru yn ystod yr hanner tymor yma.

Llwybr concrit ar hyd clogwyni ac wrth ymyl y môr ger Bae Langland

1. Cerdded Llwybr Arfordir Cymru – neu rywfaint ohono!

Mae cerdded yn ffordd wych o fod yn actif – mae’n ein helpu ni i adeiladu stamina ac yn gwneud ein calonnau ni’n iachach. Ac os oes arnoch chi angen rhywfaint o gymhelliant ychwanegol, beth am fynd am dro ar hyd Llwybr Arfordir Cymru sy’n ymestyn ar hyd ein harfordir ni i gyd. Gwnewch yn siŵr eich bod chi'n gwisgo dillad cynnes sy'n dal dŵr ac esgidiau cerdded da.

Mae rhai rhannau o Lwybr Arfordir Cymru yn gynhwysol ac yn addas ar gyfer defnyddwyr cadeiriau olwyn, ymwelwyr â symudedd cyfyngedig a theuluoedd gyda phramiau a chadeiriau gwthio. Ewch i wefan Llwybr Arfordir Cymru i gael rhagor o wybodaeth am lwybrau cerdded hygyrch.

Dau fachgen yn nofio

2. Mynd draw i’ch pwll nofio lleol – am ddim

Oeddech chi'n gwybod y gall eich plant fynd i nofio am ddim yng Nghymru? Mae pyllau nofio lleol yn cynnig nofio am ddim i blant dan 16 oed a phobl dros 60 oed. Hwyl i’r teulu cyfan, mae’n weithgaredd rhad ac am ddim gwych. Cysylltwch â'ch pwll cyhoeddus lleol am ragor o wybodaeth ac amserlenni.

Mae nofio yn ymarfer gwych i’r corff cyfan a gall hefyd leihau lefelau straen a lleihau gorbryder.

Ewch lawr i'ch pwll nofio lleol dydd Gwener yma (24ain Chwefror) ar gyfer y Diwrnod Nofio Mawr

 

Beic ar ffordd yn y mynyddoedd

3. Nid dim ond yn yr haf mae beicio’n bleser

Lapiwch yn gynnes a mwynhau siwrnai gyffrous i gael y gwaed i bwmpio. Os nad ydych chi’n feiciwr hyderus, cadwch at lwybrau beicio hawdd. Edrychwch ar wefan Croeso Cymru i ddod o hyd i'ch llwybr beicio agosaf heb lawer o draffig sy'n addas i deuluoedd. Os ydych chi'n hoffi mynd â'ch beic oddi ar y ffordd, ewch i'ch llwybr MTB am ddim agosaf neu drac pwmpio BMX.

Dim beic? Mae rhai cynlluniau ailgylchu beiciau am ddim ar gael yng Nghymru fel Free Bikes 4 Kids yng Nghasnewydd a Chynllun Beic Am Ddim Grŵp Ynni Trefaldwyn ger y Trallwng, sy’n atal beiciau rhag mynd i safleoedd tirlenwi ac i gartref da yn lle hynny. Gallwch hefyd ddod o hyd i feiciau am ddim ar Facebook Marketplace a Gumtree – cofiwch wneud yn siŵr ei fod yn gweithio’n iawn neu ewch i’ch caffi atgyweirio agosaf os oes arnoch chi angen rhywfaint o gyngor.

Mae Sustrans hefyd yn treialu cynllun lle gall pobl fenthyca beic trydan am ddim. Mae ar waith yn Aberystwyth, y Rhyl, y Barri, Abertawe, y Drenewydd a’r ardaloedd cyfagos.

Gwnewch yn siŵr eich bod chi’n dilyn yr awgrymiadau hanfodol yma ar gyfer beicio dros y gaeaf.

Mynyddoedd garw Cymreig Parc Cenedlaethol Eryri gydag afon yn llifo ar y gwaelod ar y chwith a wal gerrig ar y dde.

4. Gwneud Cymru yn gae chwarae naturiol i chi           

Mae gennym ni ddigonedd o ddewis yng Nghymru o ran bryniau, mynyddoedd a rhai o draethau gorau’r byd. Felly, cyn i chi estyn am declyn rheoli’r teledu eto, meddyliwch am estyn am eich haenau gaeafol a gwneud Cymru yn gae chwarae naturiol i chi.

Does dim rhaid i chi fynd yn bell yng Nghymru i gerdded bryniau – beth am fynd am dro i ben bryn lle mae castell efallai (fe welwch chi’r rhai y gallwch chi ymweld â nhw am ddim ar wefan cadw)? Neu i gerddwyr mwy medrus, beth am fentro i Eryri neu Fannau Brycheiniog?

Gwiriwch y tywydd yn gyntaf bob amser a byddwch yn barod. Mae cyngor gwych ar gael ar wefan y Ramblers.

Llwybr rhwng rhes o goed gyda dail yr hydref ar y ddaear.

5. Llwybrau rhedeg a beicio yng nghoetiroedd Cymru

Os ydych chi’n hoffi mynd oddi ar y grid heb orfod wynebu traffig, gwisgwch eich gêr gaeaf ac anelu am goetiroedd Cymru. Mae llefydd a llwybrau Cyfoeth Naturiol Cymru ar agor drwy gydol y flwyddyn ac am ddim.

Mae ei lwybrau rhedeg a beicio wedi'u harwyddo ac mae'r olygfa'n sicr yn curo'r gampfa. Mae ei lwybrau cerdded hygyrch, wedi’u graddio, yn dilyn llwybrau gwastad neu lwybrau pren sy'n addas ar gyfer cadeiriau gwthio a chadeiriau olwyn.

Cofiwch wisgo cit sy'n addas i'r amodau a gwiriwch ddwywaith ymlaen llaw ar wefan y coetir neu’r ganolfan ymwelwyr berthnasol am unrhyw gau neu ddargyfeirio.

6. Disgo cegin unrhyw un?

Trowch y gerddoriaeth i fyny, trowch y goleuadau i lawr a gadewch i ni ddechrau ein disgo cegin. Mae dawnsio yn ymarfer corff gwych - mae'n helpu i gael yr holl grwpiau o gyhyrau i symud ac mae digon o ymarferion dawns am ddim ar gael ar-lein.

Mae troi eich ystafell fyw yn llawr dawnsio - neu hyd yn oed chwarae charades - yn ffordd wych hefyd o gynnwys perthnasau hŷn. Ar gyfer y rhai sydd â phroblemau symudedd, edrychwch ar yr ymarfer corff yma i’w wneud yn eich cadair.

Troed ar bêl-droed felen

7. Cael cic o gwmpas neu daflu o gwmpas gyda'r teulu

Pam na fedr oedolion gicio pêl o gwmpas y parc? Ewch â'r plant i lawr i’r cae lleol ar gyfer gêm bêl droed deuluol. Wedi'r cyfan, roedden ni i gyd yn blant unwaith!               

Os yw’n well gennych chi saethu cylchoedd, mae cyfleusterau pêl fasged awyr agored am ddim ar gael ledled Cymru hefyd.

8. Ticio rhestr yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol 

Efallai nad yw’r tywydd ar ei orau ym mis Chwefror ond peidiwch â gadael i’r tywydd eich cadw chi dan do. Felly, gwisgwch eich welingtons, stompio ar hyd llwybrau mwdlyd a sblashio mewn pyllau.

Angen rhywfaint o ysbrydoliaeth? Mae llawer o syniadau gwych ar restr yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol o 50 o bethau i’w gwneud cyn i chi fod yn 11¾ .

Coesau person yn gorffwys ar ben mynydd yn edrych dros olygfa mynyddig

9. Geogelcio 

Wedi clywed y cwyno “Na, mae'n ddiflas” erioed pan fyddwch chi'n awgrymu taith gerdded deuluol? Do, ni hefyd. Dyna pam rydyn ni wedi dechrau geogelcio – helfa drysor cyfeiriannu i’r teulu cyfan. Mae Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog wedi cuddio 180 o gelciau i ni eu darganfod. Yn y cyfamser, mae gan Gyfoeth Naturiol Cymru ddau lwybr geogelcio ym Mharc Coedwig Coed y Brenin ger Dolgellau. Ond gallwch chi fynd i geogelcio yn unrhyw le bron ac, ydi, mae am ddim – edrychwch ar-lein i ddechrau arni.

Cofiwch wisgo dillad ac esgidiau priodol os yw eich llwybr yn cynnwys dringo dros greigiau neu ddringo bryniau.

Gobeithio y bydd ein rhestr ni o ffyrdd i fod yn actif am ddim dros yr hanner tymor yma  yn eich helpu chi i symud dros gyfnod.

Ac os byddwch chi’n penderfynu dilyn unrhyw un o’n hawgrymiadau, byddem wrth ein bodd yn clywed am hynny. Cysylltwch â ni ar Facebook neu Twitter.

Newyddion Diweddaraf

Wythnos Hinsawdd Cymru 2023: Beth mae Chwaraeon Cymru yn ei wneud i fynd i’r afael â’r newid yn yr hinsawdd?

Rydyn ni wedi ymrwymo i helpu’r genedl i gyrraedd sero net erbyn 2030 a chreu Cymru wyrddach, gryfach…

Darllen Mwy

Rhoi mwy o resymau i bobl ifanc ddewis sboncen

Dylai mwy o sylw ar y llwyfan byd-eang helpu i danio diddordeb pobl ifanc.

Darllen Mwy

Gorllewin Cymru yn cymryd cam hanfodol tuag at drawsnewid chwaraeon cymunedol

Mae Dr Sue Barnes wedi cael ei phenodi yn Gadeirydd Partneriaeth Chwaraeon Gorllewin Cymru.

Darllen Mwy