Mae’r Arolwg Chwaraeon Ysgol yn dychwelyd ar gyfer 2026 – gan gynnig y fersiwn fwyaf hygyrch, cynhwysol a difyr erioed o’r arolwg sydd wedi’i ddatblygu i blant ysgol ledled Cymru.
Mae’r arolwg eleni wedi’i ddiweddaru gan ddefnyddio adborth uniongyrchol gan blant a phobl ifanc, gyda’r newidiadau wedi’u cynllunio i gefnogi disgyblion o bob oedran a gallu.
Mae’r arolwg yn rhedeg o ddydd Llun y 13eg o Ebrill i ddydd Gwener yr 17eg o Orffennaf 2026.
Newydd ar gyfer 2026
Mae llais y disgybl wedi arwain pob cam o’r datblygiad. Cymerodd plant a phobl ifanc ran mewn profion helaeth, gan ddylanwadu ar y dewisiadau dylunio.
Bydd y newidiadau yma’n rhoi gwell dealltwriaeth o arferion plant o amgylch chwaraeon a gweithgarwch corfforol.
Hygyrch i bob disgybl
Mae’r nodweddion hygyrchedd newydd yn cynnwys y canlynol:
- 15 opsiwn iaith ychwanegol y tu hwnt i’r Gymraeg a’r Saesneg
- Naratif sain ar gyfer disgyblion sy’n ddall neu sydd â golwg gwan
- Cyfieithiad Iaith Arwyddion Prydain a Makaton ar gyfer disgyblion sy’n fyddar neu’n drwm eu clyw
Dyluniad mwy deniadol
Bydd y dyluniad newydd yn casglu mwy o ddata nag erioed o’r blaen. Mae’n cynnwys y canlynol:
- Gemau a nodweddion rhyngweithiol i gymell disgyblion a’u helpu i ganolbwyntio.
Gwell mynediad at ddata
Bydd dangosfyrddau rhyngweithiol ar-lein newydd yn rhoi mynediad cyflym at ddata ar gyfer y canlynol:
- Ysgolion
- Awdurdodau lleol
- Partneriaethau chwaraeon
- Cyrff rheoli cenedlaethol
Yn cyd-fynd â’r Cwricwlwm ar gyfer Cymru
Mae’r arolygon i’r disgyblion ac i’r athrawon wedi cael eu llunio yn unol â’r Cwricwlwm ar gyfer Cymru.
Manteision i ysgolion
Gall yr Arolwg Chwaraeon Ysgol fod yn adnodd pwerus ar gyfer gwella profiad disgyblion o chwaraeon mewn ysgolion.
Mae’r wybodaeth yn helpu gyda’r canlynol:
- nodi pa weithgareddau mae disgyblion yn eu mwynhau ac eisiau gwneud mwy ohonyn nhw
- cryfhau chwaraeon ysgol a chynigion allgyrsiol
- cefnogi lles disgyblion
- tynnu sylw at fylchau a lle gellir gwella mynediad at chwaraeon
- dysgu am y cyfleusterau chwaraeon cymunedol lleol sydd ar gael i ysgolion
Mae pob ysgol sy’n cymryd rhan yn derbyn set bwrpasol o ganlyniadau, gan eu helpu i ddeall ac ymateb yn well i anghenion eu disgyblion.
Manteision i chwaraeon yng Nghymru
Bydd yr Arolwg Chwaraeon Ysgol yn helpu sefydliadau chwaraeon ledled Cymru i wella cyfleoedd i blant a phobl ifanc.
Mae’r wybodaeth yn helpu gyda’r canlynol:
- siapio rhaglenni a sesiynau i gwrdd a’r galw
- nodi bylchau ar draws gweithgareddau, lleoliadau a demograffeg
- deall defnydd, galw ac angen am cyfleusterau
- arwain penderfyniadau buddsoddi cenedlaethol a wneir gan Chwaraeon Cymru a Llywodraeth Cymru
Mae Chwaraeon Cymru yn cefnogi dyfodol actif
Tynnodd Brian Davies, Prif Swyddog Gweithredol Chwaraeon Cymru, sylw at bwysigrwydd y newidiadau hyn:
“Mae Arolwg Chwaraeon Ysgol 2026 yn addo bod yr un craffaf eto, gan roi cyfle i ni i gyd wneud gwahaniaeth gwirioneddol wrth gyflawni ein huchelgeisiau o baratoi pob plentyn i fod yn actif ac yn iach am oes.
“Yn hollbwysig, mae data’r arolwg yn galluogi i’n partneriaid ni asesu’r galw a nodi sut gallant wneud cyfleoedd chwaraeon yn fwy hygyrch ac amrywiol ledled y wlad.
“Mae pob ysgol sy’n cefnogi cwblhau’r Arolwg Chwaraeon Ysgol yn rhan o gymuned genedlaethol sy’n helpu’r ymgyrch i bobl ifanc fod yn fwy actif. Diolch i bawb.”
Cefnogir y gwaith gan Gomsiynydd Plant Cymru:
“Mae rhoi llais real i blant ynghylch sut mae gweithgarwch corfforol yn cael ei siapio yn hanfodol. Mae'r Arolwg yn darparu gwybodaeth werthfawr sy'n helpu i greu cyfleoedd sydd wedi’u cynllunio ar gyfer plant a gan blant.
“Mae'n cryfhau gallu ysgolion a phartneriaid cymunedol i greu dyfodol iachach a hapusach i bobl ifanc.”
Bydd canlyniadau’r arolwg ar gael yn yr Hydref.
Mwy o wybodaeth
Dylai pob ysgol yng Nghymru dderbyn gwahoddiad i gymryd rhan drwy e-bost.
Ewch i dudalen yr Arolwg Chwaraeon Ysgol am ganllawiau a chefnogaeth lawn ar gyfer cymryd rhan.
Ar gyfer unrhyw ymholiadau, anfonwch e-bost at [javascript protected email address]