Skip to main content

Rhowch gynnig ar nofio dŵr oer mewn digwyddiad nofio Nadoligaidd yng Nghymru

  1. Hafan
  2. Newyddion, Straeon a Digwyddiadau
  3. Newyddion, Erthyglau ac Ymgyrchoedd
  4. Rhowch gynnig ar nofio dŵr oer mewn digwyddiad nofio Nadoligaidd yng Nghymru

Ydych chi’n meddwl rhoi cynnig ar nofio dŵr oer mewn digwyddiadau nofio Nadoligaidd yng Nghymru? Os ydych chi’n barod i fentro i ddyfroedd rhewllyd Cymru, gallwch ddewis rhwng sesiynau nofio ar Ddydd Nadolig, Gŵyl San Steffan a Dydd Calan.

Ers blynyddoedd lawer mae miloedd o bobl o bob rhan o’r wlad wedi bod yn trochi yn nyfroedd rhewllyd Cymru yn y traddodiad Nadoligaidd anarferol hwn. Mae rhai yn gwisgo eu hoff wisg ffansi ac yn codi arian at elusen. Ond i eraill, mae nofio mewn dŵr oer yn arferiad oes – nid dim ond yn ystod yr ŵyl. 

Mae nofwyr Dawnstalkers a'r Bluetits Chill Swimmers yn neidio i ddŵr oer bob dydd! Ac nid yn unig am y buddion y gall eu cynnig o ran adferiad, lleihau llid a dolur cyhyrau. Maen nhw'n ei wneud i roi hwb i'w hiechyd meddwl ac am yr ymdeimlad cryf o gymuned a ddaw yn ei sgil.

Felly, a oes amser gwell i fentro i ddŵr oer na gyda thyrfa llawn cyffro yn un o sesiynau nofio Nadoligaidd Cymru? Dysgwch am fanteision therapi dŵr oer a'i wneud yn fwy na thraddodiad unwaith y flwyddyn.

Dyma restr o ddigwyddiadau nofio Nadoligaidd yng Nghymru y gallwch chi roi cynnig arnynt.

Ble alla i fynd am sesiwn nofio Nadoligaidd yng Nghymru?

Sesiwn Nofio Dydd Nadolig Porthcawl

Pryd? 25 Rhagfyr Mae'r digwyddiad yn dechrau am 10:30am a'r nofio yn dechrau am 11:15am
Ble? Traeth Coney, Porthcawl

Mae sesiwn Nofio Nadolig Porthcawl wedi bod yn digwydd ers 1965 ac mae’r un mor boblogaidd ag erioed. Mae mwy na mil o bobl yn rhuthro i’r dŵr ar draeth Coney bob blwyddyn.

Mwy o wybodaeth am sesiwn Nofio Dydd Nadolig Porthcawl.

Sesiwn Nofio Gŵyl San Steffan Dinbych-y-pysgod

Pryd? 26 Rhagfyr o 11am ymlaen
Ble? Traeth y Gogledd, Dinbych-y-pysgod

Sesiwn nofio Nadoligaidd arall sy’n llawn traddodiad – mae pobl Sir Benfro wedi bod yn tyrru i’r tonnau ar Draeth y Gogledd ar Ŵyl San Steffan ers dros 50 mlynedd.

Mwy o wybodaeth am sesiwn Nofio Gŵyl San Steffan Dinbych-y-pysgod.

Dwy ferch mewn gwisg nofio â tinsel, rhywun yn gwisgo gwisg ffansi The Grinch a dyn wedi'i wisgo fel môr-leidr yn y môr ar Ŵyl San Steffan
Credyd: Gareth Davies Photography

Trochfa Gŵyl San Steffan Clwb Llewod Llandudno

Pryd? 26 Rhagfyr Cofrestru am 10am ac mae'r drochfa yn dechrau am 11.30am
Ble? Traeth y Gogledd, Llandudno

Mae’n ddigon posib mai’r drochfa ar Ŵyl San Steffan yn Llandudno yw’r sesiwn nofio Nadoligaidd oeraf yng Nghymru gyda thymheredd y môr yn ddim ond 9°C. Bydd cawl poeth yng Ngwesty’r St George yn barod i’ch cynhesu ar ôl mentro i ddyfroedd Môr Iwerddon

Mwy o wybodaeth am Drochfa Gŵyl San Steffan Clwb Llewod Llandudno.

Trochfa’r Tymor Blynyddol Parc Gwledig Pen-bre

Pryd? 26 Rhagfyr Cyrraedd erbyn 10:30am i fynd i’r môr am 10:45am
Ble? Traeth Cefn Sidan, Parc Gwledig Pen-bre

Efallai y gwelwch wynebau cyfarwydd yn y drochfa hon! Mae’n draddodiad teuluol i chwaraewr rygbi Cymru, Ffion Lewis a’i brawd, Flex Lewis, sydd wedi ennill Mr Olympia 7 gwaith, i fentro i’r tonnau yng Nghefn Sidan. Gwnewch yn siŵr eich bod chi’n cyrraedd yno mewn da bryd gan fod dipyn o waith cerdded o’r maes parcio i’r traeth!

Mwy o wybodaeth am Drochfa’r Tymor Blynyddol Parc Gwledig Pen-bre.

Sesiwn Nofio Dydd Calan Saundersfoot

Pryd? 1 Ionawr, 11:30am i gychwyn nofio am 2pm
Ble? Traeth Saundersfoot

Un o’r sesiynau nofio Nadoligaidd mwyaf poblogaidd yng Nghymru, mae miloedd yn pentyrru ar draeth Saundersfoot i ddechrau'r Flwyddyn Newydd drwy nofio mewn dŵr oer. Ond mae un rheol - rhaid i chi fynd o dan y dŵr yn llwyr. Byddwch yn barod i rynnu! 

Mwy o wybodaeth am sesiwn Nofio Dydd Calan Saundersfoot.

Sesiwn Nofio Dydd Calan RNLI Abersoch

Pryd? 1 Ionawr, cofrestru am 12pm a chychwyn nofio am 1pm
Ble? Prif Draeth, Abersoch

Mae’r traddodiad Nadoligaidd o sblasio a chwarae yn y môr yn Abersoch yn un mwy diweddar na llawer o’r rhai eraill ar y rhestr hon. Wedi'i sefydlu yn 2008, mae'r RNLI lleol yn dod â'r gymuned ynghyd i ddechrau'r Flwyddyn Newydd.

Mwy o wybodaeth am sesiwn Nofio Dydd Calan RNLI Abersoch.

Grŵp o ferched wedi gwisgo fel Wonder Woman yn y môr ar Ŵyl San Steffan
Credyd: Gareth Davies Photography

Sesiwn Nofio Dydd Calan Porth Mawr

Pryd? 1 Ionawr, cofrestru am 11am a chychwyn nofio am hanner dydd
Ble? Porth Mawr, Tyddewi

Croesawu'r Flwyddyn Newydd gyda rhai o donnau Gorllewin Cymru yn y Porth Mawr. Ac yntau fel arfer yn lle poblogaidd i syrffio ar arfordir Sir Benfro, gallwch adael eich siwtiau gwlyb gartref a gall y cawl ar ôl i chi fod yn y dŵr eich cynhesu wedyn.

Mwy o wybodaeth am sesiwn Nofio Dydd Calan Porth Mawr.

Sesiwn Nofio Dydd Calan RNLI Porthdinllaen

Pryd? 1 Ionawr, 11am
Ble? Traeth Porthdinllaen

Mwy o wybodaeth am sesiwn Nofio Dydd Calan RNLI Porthdinllaen.

Trochfa Dydd Calan y Maer, Parrog

Pryd? 1 Ionawr
Ble? Parrog, Trefdraeth, Sir Benfro

Pa ffordd well o ddechrau’r Flwyddyn Newydd na thrwy ddilyn eich maer lleol i ddŵr oer aber Afon Nyfer? Bydd Clwb Cychod Trefdraeth yn sicrhau eich bod wedi cynhesu ar ôl i chi sblasio a neidio.

Mwy o wybodaeth am Drochfa Dydd Calan y Maer.

Dawnstalkers Penarth 

Pryd? Bob dydd. Cyfarfod cyn iddi wawrio.
Ble? Traeth Penarth

Mae'n draddodiad dyddiol i’r Dawnstalkers drochi wrth i’r haul godi. Mae hynny’n golygu y byddan nhw’n mynd i’r môr oer ar Ddydd Nadolig, Gŵyl San Steffan, Dydd Calan a’r holl ddyddiau rhyngddynt. Ymunwch â nhw ym Mhenarth dros gyfnod yr ŵyl i roi cynnig arni.

Mwy o wybodaeth am Dawnstalkers Penarth.

Aelod o Dawnstalkers yn y môr, yn gwisgo het elf a gwenu gyda llawenydd
Mae'r Dawnstalkers yn nofio drwy'r flwyddyn.

Nofwyr Bluetits Chill Swimmers

Pryd? Bob man
Ble? Amrywiol leoliadau ledled Cymru a'r DU

Wedi’i sefydlu yn Sir Benfro, mae’r Bluetits Chill Swimmers wedi creu cymuned o fwy na 100,000 o gyfranogwyr ar draws y byd.

Mae 23 o’r 150 o grwpiau (neu heidiau, fel y maen nhw’n hoffi galw eu hunain) o’r titwod tomos las wedi’u lleoli yma yng Nghymru sydd, fel y Dawnstalkers, yn trochi mewn dŵr oer bob dydd. Os nad ydych yn byw ger yr arfordir, peidiwch â phoeni gan fod ychydig o heidiau mewndirol yn manteisio ar rai o afonydd, llynnoedd a phyllau Cymru i brofi eu therapi dŵr oer.

Dod o hyd i grŵp Bluetits yn eich ardal chi.

Therapi Dŵr Oer

Mae nofio mewn dŵr oer yn arferiad oes – nid dim ond yn ystod yr ŵyl. Gofynnwch i'r Dawnstalkers a'r Bluetits, dim ond dau o'r grwpiau nofio dŵr oer yng Nghymru sy'n mentro i ddyfroedd rhewllyd bob dydd!

Syniadau da ar gyfer mynd i nofio mewn dŵr oer

Er bod manteision i nofio dŵr oer, cofiwch fod angen i chi sicrhau eich bod yn cymryd rhan yn ddiogel. Mae risgiau’n cynnwys sioc dŵr oer a hypothermia tra gall crychdonnau a cherhyntau mewn dŵr agored hefyd achosi peryglon. Cymerwch eich amser, byddwch yn gall ac fe wnewch fwynhau bod yn rhan o'r gymuned dŵr oer.

Dyma rai awgrymiadau da i'ch helpu i ddechrau arni:

Felly, rhowch gynnig ar nofio dŵr oer gyda sesiwn nofio Nadoligaidd, neu dewch o hyd i grŵp lleol yn eich ardal chi, a dysgu am ryfeddodau therapi dŵr oer.

Ewch i Nofio Cymru am fwy o wybodaeth am nofio dŵr agored

Newyddion Diweddaraf

Tri pheth y gall eich clwb criced eu cyllido drwy Lle i Chwaraeon

Darganfyddwch sut mae cymunedau lleol wedi dod at ei gilydd i gefnogi tri chlwb criced i godi arian…

Darllen Mwy

Gadael i Fyd Natur Ffynnu yng Nghlwb Pêl Droed Clarbeston Road

Mae Clwb Pêl Droed Clarbeston Road yn gwneud cyfraniad pwysig at fioamrywiaeth leol ar ôl plannu dôl…

Darllen Mwy

Chwaeroliaeth beicio yn barod i ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf

Mae chwech allan o’r deg menyw sydd wedi cael eu dewis i rasio dros garfan beicio trac Tîm Prydain Fawr…

Darllen Mwy